Neidio i'r cynnwys

Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 1938

Oddi ar Wicipedia
Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 1938
Enghraifft o'r canlynolun o gyfres reolaidd o wyliau Edit this on Wikidata
Dyddiad1938 Edit this on Wikidata
CyfresEisteddfod Genedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Meini'r Orsedd, Parc Cathay, Caerdydd.

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1938 yng Ngerddi Soffia, Caerdydd. Am y tro cyntaf ers blynyddoedd yr oedd y cystadlaethau llenyddol yn Gymraeg i gyd. Hefyd penderfynodd y Pwyllgor Gwaith nad oedd neb i gael llywyddu yn yr Eisteddfod hon oni byddai naill ai yn gwasanaethu Cymru ar hyn o bryd neu â chysylltiad byw â hi. Yn ôl erthygl yn Atgofion Eisteddfod 1938 yn Rhaglen y Dydd, Eisteddfod 2008, cafwyd o'r diwedd Babell Lên deilwng o'r Eisteddfod, Theatr Tywysog Cymru at wasanaeth y ddrama, a Neuadd y Ddinas i'r Arddangosfa Celf a Chrefft.

Yn ôl yr un erthygl, cynhaliwyd brynhawn Mercher gyfarfod yn Neuadd y Ddinas, dan nawdd Undeb Cenedlaethol y Cymdeithasau Cymraeg i ystyried safle gyfreithiol yr iaith Gymraeg. Penderfynwyd mynd ymlaen â'r Ddeiseb Genedlaethol i hawlio cydnabyddiaeth swyddogol i'r iaith yn llysoedd barn Cymru ac yn ei bywyd cyhoeddus. Ddydd Llun, cynhaliodd Cymdeithas y Cymmrodorion gyfarfod i ystyried cyhoeddi Geiriadur Bywgraffyddol Cenedlaethol o dan olygiaeth R. T. Jenkins a J.E. Lloyd.

Rhoddwyd y gadair gan Gymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd am awdl ar un o ddau destun, sef 'Rwyn edrych dros y bryniau pell' neu 'Trystan ac Esyllt'. Y beirniaid oedd T. Gwynn Jones a Saunders Lewis.

Ymwelodd y John F. Kennedy ifanc â'r Eisteddfod gyda'i dad Joseph P. Kennedy, Sr., Llysgennad yr Unol Daleithiau i'r Deyrnas Unedig ar y pryd.[1]

Prif Gystadlaethau
Cystadleuaeth Teitl y Darn Ffugenw Enw
Y Gadair Rwy'n Edrych Dros y Bryniau Pell - Gwilym R. Jones
Y Goron Peniel - Edgar Thomas
Y Fedal Ryddiaith Y Graith - Elena Puw Morgan

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1.  Croeso Wncwl Sam!. BBC (5 Tachwedd 2013). Adalwyd ar 21 Tachwedd 2013.
Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.