Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe 1926
Gwedd
| Enghraifft o: | un o gyfres reolaidd o wyliau |
|---|---|
| Dyddiad | 1926 |
| Cyfres | Eisteddfod Genedlaethol Cymru |
| Lleoliad | Abertawe |
| Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
| Dynodwyr | |
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe 1926 yn Abertawe, Sir Forgannwg (Sir Abertawe bellach).
| Cystadleuaeth | Teitl y Darn | Ffugenw | Enw |
|---|---|---|---|
| Y Gadair | Y Mynach | - | David James Jones (Gwenallt) |
| Y Goron | Rhigymau'r Ffordd Fawr | - | Dewi Emrys |
| Y Ddrama Hir | Y Ffon Dafl | "Nemo" | John Ellis Williams |
Cystadlaethau Perfformio Dramâu
[golygu | golygu cod]O ran y Ddrama Hir, rhoddwyd y dewis i'r cwmnïau eleni i gyflwyno un o ddwy ddrama a ddewiswyd gan yr Eisteddfod sef Pelenni Pitar neu Gwyntoedd Croesion. O'r 13 cwmni oedd am gystadlu, roedd 10 wedi dewis Pelenni Pitar a 3 Gwyntoedd Croesion.[1]
Drama
[golygu | golygu cod]Dewiswyd y Ddrama Hir fuddugol mewn digon o amser fel bod Cymdeithas Ddrama Gymraeg Abertawe yn gallu trefnu i'w llwyfannu yn Theatr y Grand, yn ystod yr Ŵyl.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Eisteddfod Genedlaethol Cymru – hanes yr Eisteddfod Genedlaethol
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe – achlysuron eraill pan gynhaliwyd yr Eisteddfod yn Abertawe
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Welsh Drama". Herald of Wales. 6 Chwefror 1926.