Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam a'r Fro 2011

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam a'r Fro 2011
 ← Blaenorol Nesaf →
Lleoliad Fferm Bers Isaf, Y Bers, Wrecsam
Cynhaliwyd 30 Gorffennaf - 6 Awst 2011
Archdderwydd T. James Jones
Daliwr y cleddyf Robin o Fôn
Cadeirydd Aled Roberts
Llywydd Mair Carrington Roberts [1]
Nifer yr ymwelwyr 149,692 [2]
Enillydd y Goron Geraint Lloyd Owen
Enillydd y Gadair Rhys Iorwerth
Gwobr Daniel Owen Daniel Davies
Gwobr Goffa David Ellis Gwyn Morris
Gwobr Goffa Llwyd o’r Bryn Esyllt Tudur
Gwobr Goffa Osborne Roberts Meilir Jones
Gwobr Richard Burton Garmon Rhys
Y Fedal Ryddiaith Manon Rhys
Medal T.H. Parry-Williams Sydney Davies
Tlws Dysgwr y Flwyddyn Kay Holder
Tlws y Cerddor Meirion Wynn Jones
Ysgoloriaeth W. Towyn Roberts Trystan Llŷr Griffiths
Medal Aur am Gelfyddyd Gain Bedwyr Williams
Medal Aur am Grefft a Dylunio Peter Bodenham
Gwobr Ivor Davies Bedwyr Williams
Gwobr Dewis y Bobl Bedwyr Williams
Ysgoloriaeth yr Artist Ifanc Osian Rhys Roberts
Medal Aur mewn Pensaernïaeth Penseiri Ellis Williams
Ysgoloriaeth Pensaernïaeth Rhys Nicholas
Medal Gwyddoniaeth a Thechnoleg Neville Evans
Gwefan www.eisteddfod.org.uk

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam a'r Fro 2011 ar dir Fferm Bers Isaf, yn y Bers ger Wrecsam rhwng 30 Gorffennaf a 6 Awst 2011.

Prif gystadlaethau[golygu | golygu cod y dudalen]

Y Coroni[golygu | golygu cod y dudalen]

Enillydd y goron oedd Geraint Lloyd Owen o Bontnewydd, Caernarfon; roedd 36 wedi cystadlu a'r dasg oedd llunio dilyniant o gerddi di-gynghanedd heb fod dros 250 llinell ar y testun 'Gwythiennau'. Y tri beirniad oedd Gwyn Thomas, Alan Llwyd a Nesta Wyn Jones. Roedd Nesta Wyn Jones o blaid coroni Delysg ac roedd Alan Llwyd a Gwyn Thomas o blaid Geraint, tri a oedd yn haeddu'r wobr, O'r Tir Du, Promethews a Fena Cafa.

Y Cadeirio[golygu | golygu cod y dudalen]

Enillwyd y gadair gan Rhys Iorwerth sydd yn dod o Gaerdydd erbyn hyn ond yn hanu o Gaernarfon. Mewn cystadleuaeth gref iawn, dyma'r tro cyntaf iddo gystadlu am y gadair. Rhoddwyd y gadair gan Gwmni Seren Arian a'r wobr ariannol o £750 gan gwmni Buddsoddiadau Pritchard Cymru.

Y tri beirniad oedd Emyr Lewis, Donald Evans a Gruffydd Aled williams.

Y Fedal Ryddiaith[golygu | golygu cod y dudalen]

Enillydd y Fedal Ryddiaith oedd Manon Rhys o Gaerdydd. Y tri beirniaid oedd: Grahame Davies, Hazel Walford Davies a Branwen Jarvis.

Tlws y Cerddor[golygu | golygu cod y dudalen]

Meirion Wynn Jones enillodd y tlws.[1]

Gwobr Goffa Daniel Owen[golygu | golygu cod y dudalen]

Daniel Davies oedd enillydd y wobr, gyda chwech o lenorion yn cystadlu. Ysgrifennu nofel o dros 50,000 o eiriau, gyda llinyn stori cryf yn nadreddu drwyddi oedd y gamp. Roedd y wobr yn £5,000. Tair Rheol Anhrefn, oedd teitl y nofel, sef pedwaredd nofel Daniel Davies.

Cyngherddau[golygu | golygu cod y dudalen]

Y Tri Tenor Cymreig (Rhys Meirion, Aled Hall ac Alun Rhys-Jenkins) oedd yn perfformio yn y Cyngerdd Agoriadol. Rhyddhawyd eu halbwm cyntaf yn yr Eisteddfod hefyd. Ymhlith artistiaid eraill yr Ŵyl yr oedd Caryl Parry Jones, Huw Chiswell, Elin Fflur, Ysgol Glanaethwy ac Al Lewis Band

Maes B[golygu | golygu cod y dudalen]

Campws Prifysgol Glyndŵr, Wrecsam, oedd lleoliad Maes B. Y perfformwyr oedd Dau Cefn, Yucatan, Land of Bingo, Breichiau Hir, Y Niwl, Meic Stevens, Lleuwen a Gildas, Elin Fflur, Al Lewis Band, Yr Angen, Yr Ods, Y Bandana, Y Trydan, Plant Duw, Jen Jeniro, Sensegur, Acid Casuals a’u set DJ, Plyci, Crash.Disco!, Cloud4Mations, DJs Electroneg 1000, Cowbois Rhos Botwnnog, Gai Toms, Catrin Herbert, Sibrydion, Masters in France, Violas, Colorama, Huw M a Trwbador.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]