Dewi Emrys
| Dewi Emrys | |
|---|---|
Dewi Emrys yn ystod seremoni Cadeirio Eisteddfod 1948. | |
| Ffugenw | Dewi Emrys |
| Ganwyd | 28 Mai 1881 Ceinewydd |
| Bu farw | 20 Medi 1952 Aberystwyth |
| Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | bardd, gweinidog yr Efengyl |
Bardd o Dde-Orllewin Cymru oedd Dewi Emrys (David Emrys James; 28 Mai 1881 – 20 Medi 1952).[1] Ef oedd cystadleuydd mynychaf a mwyaf llwyddiannus yr 20g ar gyfer y Gadair yn ôl nifer y cadeiriau enillodd, sef pedair: enillodd yn 1929, 1930, 1943 a 1948.[1] Yn sgil ei lwyddiant yn y gystadleuaeth newidiwyd rheolau'r Eisteddfod i atal beirdd rhag ennill y Gadair na'r Goron fwy na dwywaith.[2][3][4]
Bywyd cynnar 1881-1903
[golygu | golygu cod]Ganed David Emrys James yn Majorca House, Ceinewydd, Ceredigion ar 28 Mai 1881. Gweinidog Annibynnol oedd ei dad, y Parch Emrys James. Pan oedd Dewi yn wyth oed, symudodd y teulu i Rosycaerau, Sir Benfro, ac yno y treuliodd Dewi flynyddoedd ei ieuenctid cynnar.[5] Aeth i'r ysgol ym Mhencaer ac Ysgol Ramadeg Jenkins Abergwaun cyn mynd fel prentis newyddiadurwr a chysodwr ar y County Echo yn y dre honno. Ar ôl marwolaeth ei dad, symudodd y teulu i Gaerfyrddin ac aeth Dewi i weithio ar y Carmarthen Journal.
Fel bachgen ifanc bu'n llwyddiannus iawn wrth gystadlu mewn Esiteddfodau fel adroddwr; ffaith, mae'n bosib, a'i ysgododd i fynychu'r coleg Presbyteraidd yn 1903 er mwyn dilyn llwybr ei dad i'r weinidogaeth.[5]
Dewi'r pregethwr 1903-1917
[golygu | golygu cod]O'r cychwyn cyntaf roedd galw mawr am wasanaethau Dewi Emrys fel pregethwr Annibynol[5] a bu cryn syndod pan dderbyniodd alwad gydag enwad gwahanol, Eglwys Rydd y Cymry, yn Merton Road yn Bootle yn 1905.[6] Roedd eisoes yn cyhoeddi barddoniaeth ac yn ymgeisio mewn eisteddfodau lleol.[7] Erbyn 1907 roedd yn ôl gyda'r Annibynwyr yn weinidog yn Nowlais, lle sefydlodd Gymdeithas Lenyddol.[8] Y flwyddyn ganlynol fodd bynnag derbyniodd alwad gan Eglwys Saesneg Bwcle, Sir y Fflint, yn 1908, lle arhosodd tan 1911.[9] Yn yr un flwyddyn, priododd â Cissie Jenkins, merch o Gaerfyrddin, a ganwyd dau fab, Alun a Gwyn, ym Mwcle. Awgryma cofiannydd Dewi, Eluned Phillips, mai proiodas lled anhapus fuodd hi o'r dechrau; gydag aelodau o'r gymuned yn ystyried Jenkins yn annheilwng i fod yn wraig i weinidog a'i beirniadu am gyflwr y tŷ.[10]
Ymddengys iddynt orfod gadael Bwcle oherwydd problemau ariannol, neu o bosib rhyw fath o sgandal.[11] Serch hynny pan symudodd y teulu yn 1911 er mwyn i Dewi dderbyn gweinidogaeth eto fyth, y tro hwn ym Mhontypridd. Yno byddai Dewi'n cyrraedd "anterth ei boblogrwydd fel pregethwr,"[12] ac ennill enw iddo'i hun drwy Gymru fel pregethwr a darlithiwr; fodd bynnag ni pheidiodd y problemau ariannol a phersonol a fyddai'n ei ddilyn am weddill ei oes. Parhaodd i gystadlu, gan ennill cadair Eisteddfod Môn yn 1914; fodd bynnag nid oedd yn bresennol i dderbyn y wobr.[13] Symudodd y teulu eto fyth i Llundain yn 1915 pan gynigwyd cyflog uwch gan gapel yno,[5] ond ni pheidiodd problemau ariannol a phersonol y teulu.
Nid yw natur y problemau hyn yn hollol glir ond yn amlwg roedd dyledion; mae cofiannydd Dewi Emrys, Eluned Phillips, yn awgrymu mai "anghymwyster mewn partneriaeth" y briodas oedd wrth fai,[14] ac nid yw'n cynnig dim beirniadaeth o Dewi Emrys ei hun pan adawodd ei deulu a'i eglwys yn 1917 i ymuno â'r fyddin. Ychydig iawn a welodd o'i feibion wedi hynny. Gadawodd ei deulu o'i fodd: oherwydd ei fod yn weinidog nid oedd conscripsiwn yn effeithio arno. Mae dyddiadur Dewi yn tystio ei fod wedi ystyried y rhyfel yn "ymgyrch santaidd"; ond nid oes tystiolaeth iddo weld brwydr.[15] Ymgeisiodd am Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol am y tro cyntaf yn 1917.[16]
Y bardd a'r crwydyn 1917-1941
[golygu | golygu cod]Ni ddychwelodd Dewi i bregethu ar ôl y Rhyfel Mawr, ond ynhytrach dychwelodd i newyddiaduraeth er mwyn ceisio gwneud ei fywoliaeth. Er iddo werthu sawl darn i olygyddion Stryd y Fflyd, aeth pethau o chwith iddo, a threuliodd sawl noson yn ddigartref dan y sêr ar lannau Tafwys. Cefnodd Cymry Llundain arno, y cyn-bregethwr a oedd erbyn hyn i'w weld yn canu am damaid y tu allan i eglwysi'r ddinas, ei gap yn ei ddwylo.[17]
Treuliodd rhan helaeth yr 1920au yn ddigartref. Arestiwyd ef yn 1927 am fethu â thalu ei ddyledion.[17] Serch hynny, daliai i gystadlu'n rheolaidd am wobrau mewn Eisteddfodau mawr a bach, ac fel yn achos Llew Llwyfo yn y ganrif flaenorol ymddengys mai un ysgogaeth ar gyfer ei gystadlu mynydhc oedd er mwyn cynnal ei hun gyda'r arian a roddid fel gwobrau.
Yn 1922, dechreuodd gyhoeddi colofn farddonol yn y Carmarthen Journal dan y teitl "Pabell Awen"; enw fyddai'n defnyddio eto yn 1936 mewn colofn enwocach yn Y Cymro.[18]
Ymgeisiodd am y Goron yn 1924; bu'n aflwyddiannus ond canmolwyd ei bryddest ar Atgof. Camodd i mewn i'r ddadl gyhoeddus ynghylch cerdd fuddugol E. Prosser Rhys, nid (fel y gwnaeth llawer) drwy feirniadu moesau'r gerdd, ond drwy ddadlau na allai'r prif feirniad, W. J. Gruffydd, werthfawrogi barddoniaeth.[19] Dyma ddechrau anghydfod rhwng y ddau fyddai'n parhau am weddill oes Dewi Emrys.
Yngeisiodd yn aflwyddiannus eto yn 1925 ond yn 1926, fodd bynnag, daeth tro ar fyd i Dewi, pan enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe gyda chasgliad o gerddi sef Rhigymau'r Ffordd Fawr, yn dwyn ar ei brofiad uniongyrchol o digartrefedd. Yn yr un Eisteddfod, enillodd gystadleuaeth ar gyfer Darn o Farddoniaeth mewn Tafodiaith gyda'r gerdd fyddai'n dod yn un o'i weithiau mwyaf adnabyddus, Pwllderi. Yn sgil ei lwyddiant, daeth ei wraig i chwilio amdano yn Abertawe, gan fod Dewi heb dalu tuag at gynnal ei deulu ers blynyddoedd. Fel canlyniad bu rhaid i Ddewi roi'r arian a enillwyd yn yr Eisteddfod i Cissie, begio rhagor gan ei ffrindiau, a hyd yn oed rhoi ei goron newydd mewn pawn shop yn Abertawe.[20]
Enillodd y Gadair o'r diwedd yn Lerpwl, 1929 gyda'i awdl ar Dafydd ap Gwilym, gan lwyddo eto'r flwyddyn olynnol yn Llanelli, 1930 gyda Y Galilead.[1] Cafwyd dryswch yn 1930 oherwydd nad oedd awdurdodau'r Eisteddfod wedi rhoi gwybod iddo mai ef oedd wedi ennill, ac er mai penderfyniad bwriadol oedd hyn er mwyn ceisio osgoi rhyddhau enw'r ymgeisydd buddugol o flaen llaw, cymrodd Dewi Emrys mai sarhad personol yn ei erbyn ef oedd y drefn newydd.[4]
Ymddengys y bu gan Dewi Emrys nifer o gariadon drwy'r blynyddoedd, yn eu plith y bardd Dilys Cadwaladr; ganwyd iddi hi a Dewi Emrys ferch o'r enw Dwynwen yn 1930.[21]
Erbyn 1931 roedd ganddo dŷ rhent yn Abertawe, ond daliai i gysgu allan pan yn teithio. Cynhaliai ei hun drwy ei wobrau ac ambell daliad y derbyniai o bryd i'w gilydd am waith newyddiadurol neu ddarlithio, a thrwy garedigrwydd eraill.[22] Roedd 1936 yn flwyddyn bwysig, oherwydd iddi weld dechrau colofn barddonol dan olygyddiaeth Dewi yn Y Cymro dan y teitl Y Babell Awen. Gwahoddai'r golofn gyfraniadau barddonol gan ddarllenwyr a byddai Dewi yn eu beirniadu a'u canmol; roedd yn golofn ddylanwadol iawn ar y pryd a arweiniodd at gyhoeddi cyfrol, Beirdd y Babell, o'r farddoniaeth a gyflwynwyd. Parhaodd i olygu'r golofn hyd ei farwolaeth yn 1952.[1] Erbyn yr 1930au hefyd ymddangosodd nifer o gyfrolau o'i eiddo, gan gynnwys Rhymes of the Road (1930), fersiwn Saesneg o Rhigymau'r Ffordd Fawr, casgliad o farddoniaeth, Y Cwm Unig (1930), casgliad o Ysgrifau (1937), a llyfr dylanwadol, Odl a Chynghanedd (1937), oedd yn ganllaw i ysgrifennu barddoniaeth (caeth a rhydd) yn Gymraeg a fu'n dylanwadol am gyfnod hir.
Blynyddoedd olaf 1941-1952
[golygu | golygu cod]Aeth Dewi Emrys i fyw, gyda'i ferch Dwynwen, yn "Y Bwthyn", Talgarreg, Sir Aberteifi yn 1941 ac yn y fan honno y treuliodd weddill ei oes. Daeth y tŷ yn ganolbwynt i gymuned o feirdd a llenorion.[1] Daliai i olygu Y Babell Awen ac i gystadlu: enillodd ei drydedd Gadair yn Bangor, 1943 gyda'i awdl Cymylau Amser, a'i bedwaredd ac olaf gydag Yr Alltud ym Mhen-y-bont ar Ogwr 1948.[1] Yr olaf o'r rhain oedd ei awdl orau yn ei farn ef.[23] Cystadleuodd hefyd ddwsinau o weithiau am fân wobrwyau mewn eisteddfodau am sonedau, englynion neu gerddi eraill, a thestun un o'r cystadlaethau hyn yn Eisteddfod Genedlaethol 1947 oedd un o'i gerddi enwocaf, yr englyn Y Gorwel.[24] Cafodd ei wahodd i feirniadu csytadleuaeth y Gadair yn 1949, yr unig dro iddo dderbyn yr anrhydedd.[25]
Cyhoeddodd gyfrol arall o farddoniaeth, Cerddi'r Bwthyn, yn 1948.
Bu farw yn Aberystwyth ym mis Medi, 1952, a chafodd ei gladdu ym mynwent Capel Pisgah, yn agos i Dalgarreg. Dywedodd ei gyfaill, y Prifardd T. Llew Jones am yr achlysur:
Bu farw Dewi Emrys yn ysbyty Aberystwyth ar Fedi'r 20fed 1952 a chladdwyd ef ym mynwent Pisgah, Talgarreg. Ychydig iawn o bobl a welodd yn dda i ddod i'r angladd. Yn wir, roedd y capel yn hanner gwag.[3]
Codwyd cofgolofn iddo ym Mhwllderi, Sir Benfro, y man a gysylltwyd ag un o'i gerddi enwocaf.
Gwaddol
[golygu | golygu cod]
Bardd a gysylltir yn bennaf oll gyda chystadlu mewn Eisteddfodau yw Dewi Emrys. Gwnaeth hynny mwy neu lai'n barhaus am gyfnod o ddeugain mlynedd, o'i ymgeisiadau cyntaf yn yr 1910au hyd at ei farwolaeth. Cystadleuodd mewn Eisteddfodau cenedlaethol a lleol, am gerddi mawr a bach. Roedd "byth a beunydd yn ail-wampio, ac yn cynnwys darnau o gerddi yn blith-draphlith mewn cerddi eraill."[26]
Enillodd y Gadair bedwar gwaith, sef mwy na'r un bardd arall heblaw Dyfed. Mae ei gyfanswm o bump o brif wobrau barddonol yr Eisteddfod yn gydradd gyntaf gydag Alan Llwyd (hyd 2025), ond rhaid ystyried hyn yng nghyd-destun ei gystadlu parhaus. Yn ei chofiant, mae Philips yn cynnig tystiolaeth bod Emrys wedi cystadlu ar gyfer y Gadair am y tro cyntaf yn 1917, ac wedi hynny yn 1919, 1920, 1927, 1929, 1930, 1931, 1932, 1933, 1934, 1935, 1937, 1943, 1946, a 1948. Dangosodd hefyd iddo ymgeisio am y Goron yn 1924, 1925, 1926, 1929, 1931, 1932, 1936, a 1946; mae'n debyg iawn nad yw'r rhestrau yma'n gyflawn. Mae tystiolaeth iddo ail-gyflwyno hen gerddi aflwyddiannus mewn cystadleuthau newydd ac iddo ailgylchu rhannau o'i gerddi aflwyddiannus mewn cerddi diweddarach. Nid oedd y rhain yn groes i'r rheolau; fodd bynnag mae tystiolaeth iddo dorri'r rheolau hefyd drwy ymgeisio ddwywaith yn yr un gystadleuaeth ar o leiaf un achlysur, a cheir awgrym iddo o bosib cyfansoddi cerddi ar ran unigolyn arall i'w cyflwyno i gystadleuaeth eisteddfodol dan ei enw ef.[27]
Roedd yn anochel bod y cystadlu di-ddiwedd yn effeithio ar ansawdd ei gynnyrch:
Gwendid, neu anffawd Dewi Emrys oedd iddo gystadlu bron heb ball... Cynhyrchion eistedddfodol sydd ymron pob cyfrol, ac y mae'r ail-wampio, a'r pentwr llinellau llanw (er bodloni gofynion cystadleuaeth) yn ei gwneud hi'n anodd gweld rhagoriaethau ambell awdl neu bryddest.[28]
Bardd ceidwadol oedd Dewi Emrys; dangosodd Phillips y tueddai wneud yn well mewn cystadleuaethau canu caeth na rhydd, o bosib oherwydd bod cyfyngiadau'r mesurau caeth yn caniatau iddo gyfansoddi'n geidwadol tra bod y bryddest yn gofyn am fod yn fwy mentrus nag yr oedd arno eisiau.[29] Mae'n arwyddocaol y daeth ei unig fuddugoliaeth wrth gystadlu am y Goron mewn blwyddyn pan ofynnwyd am gyfrol o gerddi byr ynlle pryddest. "Bardd wedi aros ym myd y cyfnod 1910-1930" oedd Dewi Emrys ym marn Tecwyn Lloyd.[30]
O ran y cerddi enillodd iddo'r Goron a'r Gadair, roedd Rhigymau'r Ffordd Fawr yn "gasgliad barddonllyd a di-wefr"ym marn Alan Llwyd.[31] "Ceir rhai darnau telynegol derbyniol" meddai am awdl Dewi o 1929 ar Dafydd ap Gwilym, "ond mae'r eirfa awdlaidd a mynegiant afrwydd yn ei handwyo, ac mae diffyg unoliaeth yn yr awdl yn ogystal".[32] Roedd Y Galilead, ei ymdrech lwyddiannus y flwyddyn ganlynol, yn "awdl hen-ffaswn ei dull hyd yn oed yn 1930".[33] Yr Alltud 1948 oedd ffefryn Dewi Emrys ei hun o blith ei awdlau, ond ym marn Llwyd "difethir yr awdl gan gynganeddu cras, geirfa hynaflyd, ar brydiau, a mynegiant afrwydd."[34]
Serch hynny, mae ambell gerdd fyrrach o'i eiddo wedi parhau'n rhan o ganon Barddoniaeth y Gymraeg, yn enwedig y gerdd dafodieithol Pwllderi[17] a'r englyn Y Gorwel,[35][36] cerdd yr oedd Alan Llwyd yn fodlon ei galw'n gampwaith.[24] Cyfansoddwyd y ddwy gerdd ar gyfer cystadlaethau. Cynhwyswyd Pwllderi yn yr Oxford Book of Welsh Verse, a'r ddwy gerdd yn Blodeugerdd o Farddoniaeth Gymraeg yr Ugeinfed Ganrif. Mae rhai beirniaid wedi bod yn fwy cadarhanol eu hasesiad o allbwn Dewi Emrys yn ei gyfanrwydd. Roedd yn "un o feistri cerdd dafod" yn ôl R. Gerallt Jones;[1] ac meddai Aneirin Talfan Davies amdano:
Y mae rhyw gryfder hoyw yn y gynghanedd yn nwylo Dewi Emrys. Efallai i hyn ddirywio yn ddiweddarach dan ddylanwad yr ysfa gystadlu. Er hynny y mae her i rywun eistedd i lawr i astudio'r cyfan o'i farddoniaeth a'i gosod yn y fantol. Bryd hynny, 'rwy'n meddwl, fe geir bod ynddi fwy nag a freuddwydiwyd, efallai, o ffrwyth yr awen wir.[37]
Roedd ei waith fel athro barddonol drwy gyfrwng Y Babell Awen a'i lyfr Odl a Chynghanedd yn dra phwysig a dylanwadol ac awgryma Eluned Philips mai "Fel athro beirdd y cofir Dewi yn bennaf", a bod o leiaf pymtheg o'r cyfranwyr i Y Babell Awen rhwng 1936-52 wedi ennill y Goron neu'r Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol erbyn 1971.[38]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]
Barddoniaeth
- Rhigymau'r ffordd fawr (1926)[39]
- Rhymes of the road (1928) (fersiwn Saesneg o Rhigymau'r Ffordd Fawr)
- Y Cwm Unig (1930)
- Cerddi'r Bwthyn (1948)[40]
- Wedi'r Storom (1965) (detholiad o'i farddoniaeth a luniwyd fel cyfrol deyrnged iddo)
Eraill
Oriel
[golygu | golygu cod]Ffynonellau
[golygu | golygu cod]- Phillips, Eluned (1971). Dewi Emrys. Gasg Gomer.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 "JAMES, DAVID EMRYS ('Dewi Emrys '; 1881 - 1952), gweinidog (A), llenor a bardd". Y Bywgraffiadur Cymreig. Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
- ↑ Phillips 1971t. 246
- ↑ 3.0 3.1 ""DEWI EMRYS JAMES (1881-1952)", Seren Tan Gwmwl (dim dyddiad)" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2005-05-01. Cyrchwyd 2005-05-01.
- ↑ 4.0 4.1 BBC: Dewi Emrys: Rhan 3 - (1929-1948) Yr Atgyfodiad
- ↑ 5.0 5.1 5.2 5.3 BBC: Dewi Emrys: Rhan 1 - (1881-1908) O'r Cei i Lundain
- ↑ Phillips 1971, t. 45.
- ↑ Phillips 1971, t. 57.
- ↑ Phillips 1971, t. 59-60.
- ↑ Phillips 1971, t. 62.
- ↑ Phillips 1971, t. 67.
- ↑ Phillips 1971, t. 67-8.
- ↑ Phillips 1971, t. 69.
- ↑ Phillips 1971, t. 69-70.
- ↑ Phillips 1971, t. 70.
- ↑ Phillips 1971, t. 81-88.
- ↑ Phillips 1971, t. 85.
- ↑ 17.0 17.1 17.2 BBC: Dewi Emrys: Rhan 2 - (1908-1929) Mas a Lawr
- ↑ Phillips 1971, t. 96.
- ↑ Phillips 1971, t. 106-115.
- ↑ Phillips 1971, t. 134-5.
- ↑ Phillips 1971, t. 164.
- ↑ Phillips 1971, t. 165.
- ↑ Phillips 1971t. 247
- ↑ 24.0 24.1 Llwyd, Alan (2006) Y Gaer Fechan Olaf: Hanes Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1937-1950, Cyhoeddiadau Barddas. t.220
- ↑ Phillips 1971 t.255.
- ↑ Phillips 1971, t. 56.
- ↑ Ceir tystiolaeth ynghylch yr holl weithgarwch uchod yn Eluned Phillips, Dewi Emrys, (1971) Gomer. Gweler tt.175-182 am helynt "G. Dawkins."
- ↑ Phillips 1971 t.273
- ↑ Phillips 1971 t.242
- ↑ Phillips 1971 t.276
- ↑ Canrif o Brifwyl 1926
- ↑ Canrif o Brifwyl 1929
- ↑ Canrif o Brifwyl 1930
- ↑ Canrif o Brifwyl 1948
- ↑ https://www.hanesabergwaun.org.uk/places/education/henner-school/dewi-emrys
- ↑ Phillips 1971 t.275.
- ↑ Phillips 1971 t.279.
- ↑ Phillips 1971 t.271.
- ↑ Rhigymau'r Ffordd Fawr ar Wicidestun
- ↑ Cerddi'r Bwthyn ar Wicidestun
- ↑ Ysgrifau (Dewi Emrys) ar Wicidestun