Sgwrs:Dewi Emrys

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Howld On, Defi John[golygu cod]

Wedi bod ar drip bws i ymweld â Phwllderi ddoe, ces i fy synnu i ffeindio does dim sôn am Dewi Emrys ar Wicipedia. Dyma fi fynd ati felly. Addasiad bydd hwn o'r erthygl yn Seren Tan Gwmwl [1], sy'n eitha pell o fod yn di-duedd, felly bydda i'n hapus i unrhyw un ad-addasu f'addasiad i.

Byddaf yn gweithio ar hyn trwy'r dydd, ac yn arbed y tudalen bob hyn a hyn, er bod y gwaith ddim wedi cwblhau. Dyn ni'n tueddu cael toriadau pwer yma ar hyn o bryd, a dw i ddim am golli gwaith rhyw awr ;-)Nic Dafis 14:26, 13 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]

Wna i drial ychwanegu lluniau ac ati cyn bo hir. Nic Dafis 14:26, 13 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]
Diolch am yr erthygl ddiddorol. Tybed a fedri di siecio ar y dudalen yma wrth greu erthyglau am awduron Cymraeg - Rhestr awduron Cymraeg (1600-heddiw) - i wneud yn siwr fod dolen yn gweithio a/neu ychwanegu un os rhaid? Y rheswm yw bod y rhan fwyaf o'r beirdd sydd yno yn cael eu rhestru gyda'r enw barddol yn dilyn yr enw go iawn. Anatiomaros 19:26, 13 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]