Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberystwyth 1865

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberystwyth 1865 yn Aberystwyth ar 12-15 Medi 1865, o ddydd Mawrth i ddydd Gwener.[1]

Cynigiwyd Y Gadair am awdl ar y testun "Hanes Paul". Derbyniwyd saith cyfansoddiad a thraddodwyd y feirniadaeth gan Caledfryn ar ran ei gyd-feirniad Dewi Wyn o Essyllt. Awdl 'Cresence' oedd y gorau ond roedd yn cynnwys "nifer lluosog o feiau cynghaneddol, ac amryw linellau yn bradychu chwaeth". Cyhoeddwyd felly nad oedd neb yn deilwng o'r gadair.[2]

Roedd y babell neu bafiliwn yn ddigon i ddal bump i chwech mil o bobl a wedi ei addurno gyda garlantau o flodau. Cynhaliwyd cyngherddau yn y babell bob nos.

Yn yr Eisteddfod hwn enillodd Cranogwen wobr am gân ar y testun, "Y Fodrwy Briodasol", gan guro Islwyn a Ceiriog yn y gystadleuaeth honno

Yn adroddiad 'Taliesin' o'r Eisteddfod yn Seren Cymru roedd sôn cyson am yr areithiau Saesneg a gwnaed sylwadau gan Glasynys hefyd yn dweud y dylai'r digwyddiad fod yn Eisteddfod Gymreig a defnyddio mwy o Gymraeg.

Flag of Wales (1959–present).svg Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "YR EISTEDDFOD - Seren Cymru". William Morgan Evans. 1865-09-22. http://hdl.handle.net/10107/3196515. Adalwyd 2016-08-16.
  2. "DYDD MERCHERI - Seren Cymru". William Morgan Evans. 1865-09-29. http://hdl.handle.net/10107/3196524. Adalwyd 2016-08-16.