Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 1899
Cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd yn 1899. Yr Archdderwydd oedd Hwfa Mon a lleolwyd Cerrig yr Orsedd ym Mharc Cathay.[1]
Cystadleuaeth | Teitl y Darn | Ffugenw | Enw |
---|---|---|---|
Y Gadair | Gladstone | - | Atal y wobr |
Y Goron | Y Diddanydd Arall | - | R. Gwylfa Roberts |
Y Goron[golygu | golygu cod y dudalen]
Y wobr oedd £21 a Choron gwerth £10. Y beirniaid oedd Dyfed, Elfed, Isaled, Pedrog, a Cheulanydd
Y Gadair[golygu | golygu cod y dudalen]
Gofynwyd am awdl heb fod dros 800 llinell. Y beirniaid oedd Dyfed, Pedrog, Isaled, Elfed a Cheulanydd. Roedd 6 ymgeisydd ond yn anffodus doedd neb yn deilwng o'r wobr ariannol o £21 a chadair dderw gwerth £10.
Y Corau[golygu | golygu cod y dudalen]
Enillwyd y brif gystadleuaeth gorawl gan y Cardiff Choral Society, a'r brif gystaleuaeth corau merched gan Abertawe gyda 7 cor yn cystadlu. Yng nghystadleuaeth y Corau Meibion rhwng 60 ac 80 o leisiau, Barry District Glee Society oedd yr enillwyr.
Y Cyngherddau[golygu | golygu cod y dudalen]
Cyngerdd Nos Fawrth - Y Llywydd oedd Owen Morgan Edwards. Cyngerdd mawreddog o gerddoriaeth Gymraeg amrywiol gyda Gertude Drinkwater, Hannah Jones, Ben Davies, W.Trevor Evans, Daniel Price, band o delynau a'r Royal Welsh Ladies Choir.
Cyngerdd Nos Fercher - Eleias gyda Cor yr Eisteddfod a cherddorfa gyda T.E.Aylward yn arwain ac wyth unawdydd.
Cyngerdd Nos Iau - The Golden Legend gan Syr Arthur Sullivan gyda Cor yr Eisteddfod a 100 aelod.
Cyngerdd Nos Wener: Amrywiol gyda 4 unawdydd ac enillwyr unawdau a chorau'r dydd.
Cynmgerdd Nos Sadwrn: Grand Evening Concert. Cor yr Eisteddfod 0 500 o leisiau gyda'rband pres buddugol. [1]