John Owen Williams

Oddi ar Wicipedia
John Owen Williams
FfugenwPedrog Edit this on Wikidata
Ganwyd21 Mai 1853 Edit this on Wikidata
Bu farw9 Gorffennaf 1932 Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Bardd Cymraeg a Gweinidog yr Efengyl oedd John Owen Williams; enw barddol Pedrog (20 Mai 18539 Gorffennaf 1932).

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganed ef yn y Gatws, Madryn, yn yr hen Sir Gaernarfon. Collodd ei rieni pan oedd yn ieuanc, a magwyd ef gan ei fodryb yn Llanbedrog. Gadawodd yr ysgol yn 12 oed, a bu'n brentis garddwr, cyn symud i Lerpwl yn 1876 i weithio mewn masnachdy. Ordeiniwyd ef yn weinidog gyda'r Annibynwyr yn 1884, a bu'n weinidog eglwys Kensington, Lerpwl, ahyd 1930. Bu'n gadeirydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, ac yn olygydd Y Dysgedydd o 1922 hyd 1925.

Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 1891, Llanelli 1895 a Lerpwl 1900. Bu'n Archdderwydd o 1928 hyd 1932.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]