Eisteddfod AmGen 2021

Oddi ar Wicipedia
Eisteddfod AmGen 2021
 ← Blaenorol Nesaf →

-

Lleoliad Cymru
Cynhaliwyd 31 Gorffennaf-8 Awst 2021
Archdderwydd Myrddin ap Dafydd
Enillydd y Goron Dyfan Lewis
Enillydd y Gadair Gwenallt Llwyd Ifan
Gwobr Daniel Owen Lleucu Roberts
Y Fedal Ryddiaith Lleucu Roberts
Y Fedal Ddrama Gareth Evans-Jones
Tlws Dysgwr y Flwyddyn David Thomas
Gwobr Dewis y Bobl Natalia Dias
Gwefan Eisteddfod AmGen 2021 (archif)

Cynhaliwyd Eisteddfod AmGen 2021 rhwng 31 Gorffennaf – 8 Awst yn lle'r Eisteddfod Genedlaethol oedd fod ei chynnal yng Ngheredigion. Roedd yr ŵyl yn bartneriaeth rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol, BBC Cymru ac S4C gyda chystadlaethau a seremonïau yn cael eu darlledu ar S4C a BBC Radio Cymru. Roedd nifer o ddigwyddiadau arferol y Maes yn cael eu cynnal yn rhithiol ac ar gael drwy sianel YouTube yr Eisteddfod.

Gohiriwyd Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2020 oherwydd y pandemig coronafirws a cynhaliwyd Gŵyl AmGen yn ei le.[1] Cafodd Eisteddfod Tregaron ei gohirio unwaith yn rhagor yn Ionawr oherwydd parhad y pandemig.[2] Roedd gŵyl 2021 yn ddatblygiad pellach drwy gynnal nifer fawr o gystadlaethau arferol yr Eisteddfod Genedlaethol.[3]

Ar y penwythnos cyntaf cychwynodd yr ẃyl gydag Eisteddfod Gudd - "gŵyl gerddoriaeth rithiol fwyaf erioed i'w chynnal yn y Gymraeg" gyda bron i 15 awr o gerddoriaeth yn cael ei ffrydio'n fyw.[4]

Roedd bron i 200 o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn cael eu cynnal yn ystod yr wythnos, gyda pob prif seremoni arferol yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal. Darlledwyd rhaglenni'r Eisteddfod a'r prif seremonïau o bencadlys BBC Cymru yn Sgwâr Canolog, Caerdydd. Roedd dirprwyaeth o'r Orsedd, o dan arweiniad yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd, yn cynnal y seremonïau ar y nos Fercher, Iau a Gwener yng nghystadlaethau'r Goron, y Fedal Ryddiaith a'r Gadair.[5]

Prif gystadlaethau[golygu | golygu cod]

Tŷ Darlledu Newydd BBC Cymru - lleoliad y brif seremonïau.

Medal Ddrama[golygu | golygu cod]

Cyflwynwyd y Fedal Ddrama eleni am ddrama fer ar gyfer y llwyfan neu ddigidol, heb unrhyw gyfyngiad o ran hyd. Y beirniad oedd Gwennan Mair Jones, a chafwyd pum ymgais yn y gystadleuaeth eleni.

Yr enillydd oedd Gareth Evans-Jones, o Draeth Bychan ger Marian-glas, Ynys Môn. Ei ddrama oedd Cadi Ffan a Jan, dan y ffugenw 'Mwgwd'.[6]

Gwobr Goffa Daniel Owen[golygu | golygu cod]

Datgelwyd yr enillydd fel Lleucu Roberts am ei nofel Hannah-Jane. Mae Lleucu yn hannu o Lanfihangel Genau'r Glyn yw Lleucu Roberts, ond yn byw yn Rhostryfan ers bron i dri degawd. Roedd y trefnwyr wedi derbyn y beirniadaethau ar gyfer y wobr hwn ar ddechrau 2020, ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion arfaethedig. Penderfynwyd agor yr amlen a gwobrwyo'r enillydd yn yr Eisteddfod AmGen eleni.

Y beirniaid oedd Aled Islwyn, Gwen Pritchard Jones a Dafydd Morgan Lewis. Tradoddwyd y feirniadaeth gan Aled Islwyn a dyfarnwyd mai 'Ceridwen' oedd yn deilwng.

Mae'n derbyn Medal Goffa Daniel Owen, sy'n rhoddedig gan Gareth, Cerys a Betsan Lloyd, Talgarreg, a £5,000, yn rhoddedig gan Brifysgol Aberystwyth.[7]

Y Goron[golygu | golygu cod]

Yr enillydd oedd Dyfan Lewis (ffugenw "Mop"), sy'n wreiddiol o Graig-cefn-parc, ond yn byw yng Nghaerdydd. Y dasg oedd cyflwyno casgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd gyflawn heb fod dros 250 o linellau ar y testun Ar Wahân. Cystadlodd 19 eleni a traddodwyd y feirniadaeth gan Aled Lewis Evans, ar ran ei gyd-feirniaid Elan Grug Muse a Elinor Wyn Reynolds.

Yn y feirniadiaeth dywedodd Aled Lewis Evans, "Hoffais gynildeb y bardd hwn: emosiwn wedi ei ddal yn dynn a'i harneisio'n effeithiol. Gwelwn y gallu i grisialu rhin ac addewid a dirgelwch Caerdydd o oes i oes, ond hefyd i ddal ton newydd ei hyder. Mae'r bardd yn gafael ynom efo'r cysyniadau a'r naratif sydd yn y dilyniant hwn".

Dyluniwyd a chrëwyd y Goron gan swyddog technegol yr Eisteddfod, Tony Thomas.

Y Fedal Ryddiaith[golygu | golygu cod]

Enillydd y Fedal oedd Lleucu Roberts o Rhostryfan gyda'i nofel Y Stori Orau dan y ffugenw "Cwmwl". Mae'n ennill y 'dwbl' rhyddiaith unwaith eto, yn dilyn ei buddugoliaeth ar y Daniel Owen deuddydd ynghynt. Hi oedd y cyntaf i ennill y dwbl yn Eisteddfod Genedlaethol 2014.

Y dasg oedd cyfansoddi cyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y thema "Clymau". Yn ogystal â derbyn y Fedal Ryddiaith roedd gwobr ariannol o £750, yn rhoddedig gan Gymdeithas Cyfeillion Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Derbyniwyd 16 o gyfrolau eleni a thraddodwyd y feirniadaeth gan Rhiannon Ifans ar ran ei chyd-feirniaid Elwyn Jones ac Elfyn Pritchard.[8]

Y Gadair[golygu | golygu cod]

Enillydd y Gadair oedd Gwenallt Llwyd Ifan (ffugenw "Gwyliwr"). Enillodd y Gadair am y tro cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol 1999. Traddodwyd y feirniadaeth gan Jim Parc Nest, ar ran ei gyd-feirniaid Guto Dafydd a Caryl Bryn. Y dasg oedd llunio awdl ar fwy nag un o'r mesurau traddodiadol, heb fod yn fwy na 250 o linellau, ar y pwnc Deffro. Dim ond tri ymgeisydd gystadlodd eleni a nid oedd un cynnig yn gymwys am nad oedd yn gynghanedd. Lluniwyd yr awdl buddugol yn y wers rydd gynganeddol a roedd y tri beirniaid yn gytun ei fod yn cyrraedd safon teilyngdod eleni.[9]

Crëwyd y Gadair gan y crefftwr Tony Thomas allan o bren onnen. Noddir y Gadair gan gwmni J&E Woodworks Ltd, Llanbedr Pont Steffan, a chafodd ei chreu o fewn ychydig filltiroedd i le syrthiodd y coed ychydig flynyddoedd yn ôl. Derbyniodd yr enillydd hefyd wobr ariannol o £750.

Canlyniadau cystadlaethau[golygu | golygu cod]

Dydd Llun, 2 Awst[golygu | golygu cod]

66. Llefaru Unigol o dan 12 oed

1. Ela Mablen Griffiths-Jones 2. Begw Elain Roberts 3. Delun Aur Ebenezer

56. Unawd Alaw Werin dan 12 oed

1. Non Alaw Prys 2. Cari Lovelock 3. Trystan Bryn Evans

22. Unawd o dan 12 oed

1. Cari Lovelock 2. Tirion Fflur Stevens 3. Beca Fflur Hagan

26. Unawd Offerynnol o dan 16 oed

1. Erin Fflur Jardine 2. Bryn Richards 3. Macsen Wyn Stevens

12. Unawd Cerdd Dant o dan 12 oed

1. Ela Mablen Griffiths-Jones 2. Cari Lovelock 3. Anest Gwilym Jones

3. Bandiau Pres Dosbarth 4

1. Band Pres Porthaethwy

2. Bandiau Pres Dosbarth 2 a 3

1. Seindorf Beaumaris 2. Band Pres Llansawel 3. Band Awyrlu Sain Tathan

19. Unawd o gân gyfoes

1. Lili Mohammad 2. Glesni Rhys Jones 3. Lois Wyn

41. Dawns Gyfoes Unigol i rai o dan 18 oed mewn unrhyw arddull

1. Gwen Rowley 2. Nel Madrun Williams

37. Dawns Stepio Unigol i rai o dan 18 oed, gan ddefnyddio camau ac alawon Cymreig

1. Gwennan Staziker 2. Morus Caradog Jones 3. Erin Jones

87. Cyfansoddi dwy fonolog gyferbyniol hyd at 10 munud

Buddugol: Y Felin Bupur (Sian Northey, Penrhyndeudraeth, Gwynedd)

88. Trosi drama i’r Gymraeg: Visiting Katt and Freda, Ingeborg von Zadow

Buddugol: O’r ffynnon (Garry Nicholas, Llannon, Llanelli, Sir Gaerfyrddin)

Dydd Mawrth, 3 Awst[golygu | golygu cod]

55. Unawd Alaw Werin 12 a than 16 oed

1. Efan Arthur Williams 2. Branwen Jones 3. Neli Rhys

11. Unawd Cerdd Dant 12 ac o dan 16 oed

1. Branwen Jones 2. Celyn Richards 3. Ela-Mai Williams

21. Unawd 12 ac o dan 16 oed

1. Efan Arthur Williams 2. Ela-Mai Williams 3. Georgia Williams

84. Perfformiad Theatrig Unigol 12 ac o dan 16 oed

1. Lois Gwyn Gwilym 2. Neli Rhys 3. Ela-Mai Williams

65. Llefaru Unigol rhwng 12 ac o dan 16 oed

1. Elin Williams 2. Nel Lovelock 3. Mari Fflur Thomas

8. Deuawd, Triawd neu Bedwarawd Cerdd Dant

1. Triawd Myrddin 2. Gwenan ac Ynyr

15. Ensemble Lleisiol Agored

1. Lili, Betsan a Nansi

20. Unawd 16 ac o dan 19 oed

1. Lili Mohammad 2. Erin Swyn Williams 3. Betsan Lees

64. Llefaru Unigol rhwng 16 ac o dan 21 oed

1. Mali Elwy 2. Mared Haf Vaughan 3. Morgan Sion Owen

62. Gwêd di a D'eud di

1. Morgan Sion Owen 2. Enfys Hatcher Davies 3.= Kelly Hanney 3.= Mared Haf Vaughan

83. Perfformiad Theatrig Unigol 16 ac o dan 19 oed

1. Nansi Rhys Adams 2. Heledd Wynn Newton

29. Emyn Dôn i eiriau Terwyn Tomos

Buddugol: Sara (Kim Lloyd Jones, Glanyfferi, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin)

30. Trefniant i unrhyw Gôr o genre amrywiol hyd at 4 munud

Buddugol: Cariad (Ruth Lloyd Owen, Llanddoged, Llanrwst, Sir Conwy)

31. Cyfansoddi Deuawd a/neu gorws o arddull Sioe Gerdd hyd at 4 munud

Buddugol: 'Clarus (Ynyr Llwyd, Bodelwyddan, Sir Ddinbych)

32. Cyfansoddi darn o waith electroneg hyd at 5 munud o hyd

Buddugol: Ffrwd (Glyn Roberts, Caerdydd)

Dydd Mercher, 4 Awst[golygu | golygu cod]

54. Unawd Alaw Werin 16 a than 21 oed

1. Elin Fflur Jones 2. Gwenan Mars Lloyd 3. Nansi Rhys Adams

44. Dysgwyr: Cân Unigol 16 oed a throsodd

1. Peter Lane 2. Alyson Jayne Crabb 3. Andrew Jones

25. Unawd Offerynnol 16 ac o dan 19 oed

1. Rufus Edwards 2. Catrin Roberts 3. Heledd Wynn Newton

43. Dysgwyr: Cân Unigol 16 oed a throsodd

1. Debra John 2. Tracey Williams 3. Adrian Byrne

63. Llefaru Unigol Agored

1. Ciarán Eynon 2. Seren Hâf MacMillan 3. Daniel O'Callaghan

10. Unawd Cerdd Dant 16 ac o dan 21 oed

1. Sophie Jones 2. Elin Fflur Jones 3. Gwenan Mars Lloyd

17. Unawd Gymraeg/Hen Ganiadau 19 ac o dan 25 oed'

1. Dafydd Allen 2. Llinos Hâf Jones 3. Lisa Dafydd

39. Dawns Gyfoes i bâr neu driawd

1. Elin a Caitlin

34. Dawns Stepio i Grŵp 4-16

1. Enlli, Lleucu, Daniel a Morus 2. Clocswyr Cowin

35. Dawns Stepio i bâr neu driawd

1. Daniel a Morus 2. Enlli a Lleucu 3.= Luned, Erin ac Esther 3.= Sam a Cadi

Cyfansoddi - Adran Dysgwyr

45. Cystadleuaeth Barddoniaeth

Cerdd i godi calon (Lefel Agored)

Buddugol: Ewan (Ewan Smith, Bae Colwyn)

46. Cystadleuaeth Rhyddiaith

Blwyddyn Goll, dim mwy na 500 o eiriau. (Lefel Agored)

Buddugol: Martin (Martin Coleman, Clay Cross, Swydd Derby)

47. Sgwrs ar Zoom dim mwy na 100 o eiriau. (Lefel Mynediad)

Buddugol: Katrine (Catherine O’Keeffe, Llanfairpwyllgwyngyll, Ynys Môn)

48. Taswn i’n gallu troi’r cloc yn ôl dim mwy na 150 o eiriau. (Lefel Sylfaen)

Buddugol: Linda (Linda Masters, Simmondley, Glossop)

49. Llythyr at berson enwog yn ei berswadio/pherswadio i ddysgu Cymraeg, dim mwy na 200 o eiriau. (Lefel Canolradd)

Buddugol: Morgan Corsiva (Amanda King, Bettws, Casnewydd)

Agored i ddysgwyr, tiwtoriaid a siaradwyr Cymraeg rhugl

51. Pennod Gyntaf Nofel i Ddysgwyr ar lefel Canolradd

Fe ddylai’r bennod fod rhwng 1,000-2,000 o eiriau. Gallwch ddewis unrhyw genre. Ystyrir datblygu’r gwaith buddugol gyda chefnogaeth Canolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Buddugol: Merch y Fferm (Shelagh Fishlock, Warmley, Bryste)

Dydd Iau, 5 Awst[golygu | golygu cod]

53. Unawd Alaw Werin Agored

1. Robert John Roberts 2. Hannah Richards 3. Llinos Hâf Jones

61. Parti Llefaru 8-16 mewn nifer

1. Parti Marchan 2. Drudwns Aber 3. Aelwyd Cwm Rhondda

52. Parti Alaw Werin 8-16 mewn nifer

1. Côr Merched Canna 2. Merched Plastaf

24. Unawd Offerynnol 19 oed a throsodd

1. Elias John Ackerley 2. Aisha Palmer 3. Lleucu Parri

9. Unawd Cerdd Dant Agored

1. Lleucu Arfon 2. Owain Rowlands 3. Hannah Richards

23. Grŵp Offerynnol Agored 3-16 mewn nifer

1. Grŵp Offerynnol Ddoe a Heddiw Tryfan 2. Manon, Mared ac Erin 3. Dylan, Ela Haf a Lois

38. Dawns Gyfoes i Grŵp 4-16 mewn nifer

1. Carcharorion Ozz

36. Dawns Stepio Unigol i rai 18 oed a throsodd

1. Daniel Calan Jones 2. Lleucu Parri

77. Stori fer, hyd at 3,000 o eiriau: Silff

Buddugol: Monica (Menna Machreth, Caernarfon, Gwynedd)

78. Casgliad o 5 darn o lên micro, hyd at 150 o eiriau yr un: Bwlch neu Bylchau

Buddugol: Mafon (Meleri Davies, Llanllechid, Bethesda, Gwynedd)

79. Ysgrif, hyd at 2,000 o eiriau: Arloesi

Buddugol: Mojave (Morgan Owen, Caerdydd)

80. Erthygl wreiddiol ar gyfer Wicipedia, hyd at 1,000 o eiriau

Buddugol: Ben (Osian Wyn Owen, Twtil, Caernarfon, Gwynedd)

Dydd Gwener, 6 Awst[golygu | golygu cod]

16. Unawd Gymraeg / Hen Ganiadau 25 oed a throsodd

1. Arfon Rhys Griffiths 2. Aurelija Stasiulytė 3. Rhodri Trefor

14. Côr o unrhyw gyfuniad o leisiau i ganu rhaglen adloniadol

1. Côr Merched Canna 2. Côr Cymunedol yr Ynys

27. Perfformiad unigol o gerddoriaeth electroneg

1. Efan Arthur Williams

13. Côr o unrhyw gyfuniad o leisiau i ganu dau ddarn cyferbyniol

1. Côrdydd 2. Bechgyn Bro Taf 3. Côr Meibion Taf

81. Perfformiad Theatrig i 2-4 mewn nifer

1. Betsan Gwawr ac Ela Williams

33. Parti Dawnsio Gwerin

1. Dawnswyr Talog

69. Englyn: Colli

Buddugol: Dai Pendre (Philippa Gibson, Llandysul, Ceredigion)

70. Cerdd gaeth: hyd at 20 o linellau: Aros

Buddugol: Orion (Aron Pritchard, Llanisien, Caerdydd)

71. Telyneg: Cyffwrdd

Buddugol: Yn y gwyll (Terwyn Tomos, Llandudoch, Aberteifi, Sir Benfro)

72. Cerdd rydd, hyd at 20 o linellau: Tonnau

Buddugol: Er cof am A.B. (Osian Wyn Owen, Twtil, Caernarfon, Gwynedd)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Cyhoeddi dwy brif gystadleuaeth Gŵyl AmGen Radio Cymru , BBC, 4 Gorffennaf 2020. Cyrchwyd ar 31 Gorffennaf 2020.
  2. "Gohirio Eisteddfod Genedlaethol Tregaron eto nes 2022". BBC Cymru Fyw. 2021-01-26. Cyrchwyd 2021-08-05.
  3.  Cyhoeddi Rhaglen Eisteddfod AmGen. Eisteddfod Genedlaethol (20 Gorffennaf 2021). Adalwyd ar 2 Awst 2021.
  4. Eisteddfod AmGen 2021 'fel Prifwyl arferol, ond heb gae' , BBC Cymru Fyw, 31 Gorffennaf 2021. Cyrchwyd ar 3 Awst 2021.
  5.  Sgwâr Canolog y BBC yw cartref yr Orsedd. BBC Cymru Fyw (28 Gorffennaf 2021).
  6.  Gareth Evans-Jones yn ennill y Fedal Ddrama. Eisteddfod Genedlaethol (2 Awst 2021).
  7. Lleucu Roberts yw enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen , BBC Cymru Fyw, 3 Awst 2021.
  8. Y dwbl i Lleucu Roberts wrth ennill y Fedal Ryddiaith , BBC Cymru Fyw, 5 Awst 2021.
  9. Gwenallt Llwyd Ifan yw enillydd Cadair Eisteddfod AmGen , BBC Cymru Fyw, 6 Awst 2021.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]