Neidio i'r cynnwys

Elan Grug Muse

Oddi ar Wicipedia
Elan Grug Muse
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethllenor Edit this on Wikidata

Bardd yw Grug Muse.[1]

Enillodd Grug gadair yr ifanc yn Eisteddfod Llanllyfni yn 2010 a medal yr ifanc yn Eisteddfod Dyffryn Ogwen yn 2010.

Cafodd ei magu yn Nyffryn Nantlle a bu'n astudio Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Nottingham ac yn y Weriniaeth Tsiec.

Enillodd Grug gadair yr ifanc yn Eisteddfod Llanllyfni yn 2010, medal yr ifanc yn Eisteddfod Dyffryn Ogwen yn 2010 cyn ennill Gadair yr Urdd y 2013. Mae wedi cyhoeddi sawl papur ac erthygl mewn cyhoeddiadau Cymraeg a Saesneg ac mae'n ysgrifennu blog yn gyson. Mae hi hefyd yn awdur rhyddiaith dawnus ac wedi dod i'r brig gyda'i straeon byrion yn yr Urdd. Mae hefyd yn un o sylfaenwyr y cylchgrawn llenyddol ar-lein Y Stamp.

Cyhoeddwyd y gyfrol Cyfres Tonfedd Heddiw: Ar Ddisberod gan Cyhoeddiadau Barddas yn 2017.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "www.gwales.com - 1911584022". www.gwales.com. Cyrchwyd 2019-11-19.


Gwybodaeth o Gwales

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o fywgraffiad yr awdur Elan Grug Muse ar wefan Gwales, sef gwefan gan Cyngor Llyfrau Cymru. Mae gan yr wybodaeth berthnasol drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.

Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur o Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.