Y Stamp

Oddi ar Wicipedia
Y Stamp
Enghraifft o'r canlynolliterary magazine Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata

Cylchgrawn llenyddol Cymraeg yw Y Stamp sydd yn cyhoeddi'n wythnosol ar-lein yn ogystal â thri rhifyn print y flwyddyn. Sefydlwyd y wefan yn Rhagfyr 2016 gan Elan Grug Muse, Llŷr Titus, Miriam Elin Jones, ac Iestyn Tyne. Ym Mawrth 2017 datganwyd bydd cylchgrawn papur hefyd yn cael ei gyhoeddi.[1][2]

Yn Ionawr 2019, cyhoeddwyd y byddai Esyllt Lewis yn ymuno â thim golygyddol Y Stamp yn dilyn ymadawiad un o'r sylfaenwyr, Miriam Elin Jones.[3]

Fis Tachwedd 2020, cyhoeddodd y golygyddion mai rhifyn nesaf y cylchgrawn, rhifyn Gwanwyn 2020-21, fyddai'r olaf, o leiaf am gyfnod. Cynigiwyd yr arian oedd yn weddill o goffrau'r Stamp i gyhoeddiad newydd tebyg fyddai'n 'fentrus, yn annibynnol o ran ysbryd ac yn gydweithredol ei natur'. Nodwyd y byddai Cyhoeddiadau'r Stamp yn parhau i gyhoeddi llyfrau a phamffledi yn y dyfodol.[4]

Cyhoeddi[golygu | golygu cod]

Maent yn cyhoeddi llyfrau a phamffledi drwy eu gwasg, Cyhoeddiadau'r Stamp.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Lansio cylchgrawn llenyddol newydd", Golwg360 (10 Mawrth 2017). Adalwyd ar 9 Chwefror 2018.
  2. "Lansiad rhifyn cyntaf Y Stamp - cylchgrawn llenyddol newydd", Y Cymro (10 Mawrth 2017). Adalwyd ar 9 Chwefror 2018.
  3. "Blwyddyn Newydd, Golygydd Newydd!". Cylchgrawn y Stamp. (16 Ionawr 2019). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-21. Cyrchwyd 2019-01-17. Check date values in: |date= (help)
  4. "Y Stamp yn cyhoeddi mai rhifyn nesaf y cylchgrawn fydd yr olaf". Golwg360. 2020-11-10. Cyrchwyd 2021-01-08.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]