Cyhoeddiadau'r Stamp

Oddi ar Wicipedia

Menter gyhoeddi annibynnol yw Cyhoeddiadau'r Stamp, a redir ochr-yn-ochr â chylchgrawn creadigol Y Stamp. Mae'r fenter yn cyhoeddi cyfrolau a phamffledi creadigol amrywiol.

Mae pamffledi o'r wasg wedi ennill Gwobr Michael Marks am Farddoniaeth yn yr Ieithoedd Celtaidd ddwywaith: moroedd/dŵr gan Morgan Owen yn 2019, a carthen denau gan Rhys Iorwerth yn 2020.[1][2] Yn 2020, enillodd Hwn ydy'r llais, tybad? gan Caryl Bryn gategori barddoniaeth Gwobr Llyfr y Flwyddyn.[3] Enillodd merch y llyn gan Grug Muse gategori barddoniaeth Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn 2022.[4]

Yn ystod y pandemig COVID-19 yng ngwanwyn 2020, cyhoeddwyd ôl-gatalog cyfan Cyhoeddiadau'r Stamp fel cyfrolau digidol.

Ffosfforws[golygu | golygu cod]

Yn 2021, cyhoeddwyd y byddai Cyhoeddiadau'r Stamp yn dechrau cynhyrchu cyfnodolyn newydd ar gyfer barddoniaeth Gymraeg ei hiaith[5]. Byddai'r cylchgrawn newydd yn rhoi llwyfan i 15 cerdd gan 15 bardd, wedi eu dewis a'u dethol gan olygydd gwahanol ar gyfer pob rhifyn. Cyhoeddwyd mai golygydd gwadd y rhifyn cyntaf fyddai Ciarán Eynon.[6]

Golygyddion gwadd Ffosfforws[golygu | golygu cod]

  • 2021 - Ciarán Eynon
  • Haf 2022 - Mari Elen
  • Gaeaf 2022 - Llinos Anwyl

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod]

2022[golygu | golygu cod]

  • Ffosfforws 3 (Gaeaf 2022) - gol. Llinos Anwyl, Rhagfyr 2022 (arfaethedig)
  • Ystlum - pamffled o gerddi gan Elen Ifan, Tachwedd 2022 (arfaethedig)
  • Ffosfforws 2 (Haf 2022) - gol. Mari Elen, Awst 2022, gyda cherddi gan Buddug Roberts, Dyfan Lewis, Gruffudd Gwynn, Jo Heyde, Katie Gramich, Meleri Davies, Miriam Elin Jones, Morwen Brosschot, Osian Wynn Davies, Sam Robinson, Sian Shakespear, Sion Tomos Owen, Sophie Roberts, Tegwen Bruce-Deans a Vernon Jones.
  • Caniadau'r Ffermwr Gwyllt - pamffled o gerddi gan Sam Robinson, Mai 2022

2021[golygu | golygu cod]

  • Ffosfforws 1 (2021) - gol. Ciarán Eynon, gyda cherddi gan Alaw Tomos, Aled Lewis Evans, Elen Roberts, Gareth Evans-Jones, Gwenno Gwilym, John G. Rowlands, Manon Wynn Davies, Meleri Davies, Morgan Owen, Morwen Brosschot, Rhys Trimble, Sian Shakespear, Sion Tomos Owen, Sophie Roberts a Vernon Jones.
  • merch y llyn - cyfrol o gerddi gan Grug Muse, Hydref 2021 (Enillydd Categori Barddoniaeth Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2022)
  • Stafelloedd Amhenodol - cyfrol o sonedau gan Iestyn Tyne, Hydref 2021 (Rhestr Fer Categori Barddoniaeth Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2022)
  • pendil - cyfrol o haiku, senryu a cherddi byrion eraill gan John G. Rowlands, Medi 2021
  • Triongl - gol. Iestyn Tyne; pamffled o gerddi gan 15 bardd yn ymateb i ffotograffau Lena Jeanne, Gorffennaf 2021
  • Stwff ma hogia 'di ddeud wrtha fi - pamffled o insta-gerddi gan Llio Elain Maddocks, Mai 2021

2020[golygu | golygu cod]

2019[golygu | golygu cod]

2018[golygu | golygu cod]

  • ar adain - cyfrol o gerddi gan Iestyn Tyne, Mehefin 2018

2017[golygu | golygu cod]

  • addunedau - cyfrol o gerddi gan Iestyn Tyne, Mawrth 2017

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Michael Marks Awards Winners 2019". Wordsworth Trust (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-02-12.[dolen marw]
  2. "Paul Muldoon wins £5,000 Michael Marks pamphlet award | Write Out Loud". www.writeoutloud.net (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-12-16.
  3. "Cyhoeddi rhestr fer Llyfr y Flwyddyn eleni". BBC Cymru Fyw. 2020-07-01. Cyrchwyd 2020-07-02.
  4. "Llenyddiaeth Cymru yn cyhoeddi enillwyr categori Ffuglen Cymraeg @PrifysgolBangor a chategori Barddoniaeth Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2022". Literature Wales. Cyrchwyd 2022-07-19.
  5. "Cyhoeddiad: Ffosfforws". Cyhoeddiadau'r Stamp (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-11-23.
  6. "Newyddion: Ciarán Eynon - golygydd gwadd Ffosfforws 1". Cyhoeddiadau'r Stamp (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-11-23.