Osian Owen

Oddi ar Wicipedia

Bardd a llenor Cymreig o'r Felinheli yw Osian Wyn Owen.

Barddoniaeth[golygu | golygu cod]

Fis Hydref 2018, cymerodd ran yn Her 100 Cerdd Llenyddiaeth Cymru ar y cyd â Manon Awst, Caryl Bryn a Morgan Owen[1]. Graddiodd â BA o Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor yn 2018, cyn dechrau astudio am radd MA yno.

Derbyniodd nawdd o gronfa Barddas er cof am y Prifardd Gerallt Lloyd Owen ym Mai 2019 i fynychu cwrs ar y gynghanedd yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd.[2]

Cystadlu[golygu | golygu cod]

Enillodd ei gadair gyntaf yn Eisteddfod Aelhaearn yn Nhachwedd 2017. Ef oedd enillydd y Gadair a'r Goron yn Eisteddfod Ryng-golegol Llanbedr Pont Steffan 2018[3]. Yn ystod yr un flwyddyn, aeth yn ei flaen i gipio'r Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Brycheiniog a Maesyfed, am ddilyniant o gerddi serch ar y testun 'Bannau'[4] Daeth yn agos i'r brig eto y flwyddyn ddilynol, wrth iddo ddod yn drydydd am gadair Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Caerdydd a'r Fro 2019, un o dri oedd yn deilwng yn y gystadleuaeth.[5] Enillodd brif wobr farddoniaeth Eisteddfod-T, eisteddfod ddigidol yr Urdd a gynhaliwyd yn 2020 yn ystod y pandemig COVID-19.[6] Daeth yn drydydd yng nghystadleuaeth y Prif Lenor yr yr un eisteddfod.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Her 100 Cerdd". Literature Wales. Cyrchwyd 2019-04-29.
  2. "Dau fardd yn derbyn nawdd gan gronfa er cof am Gerallt". Barddas: Y Gymdeithas Gerdd Dafod. 2019-05-08. Cyrchwyd 2019-05-14.
  3. "Hatric i Fangor yn yr Eisteddfod Ryng-golegol 2018 – Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes, Prifysgol Bangor". www.bangor.ac.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-21. Cyrchwyd 2019-04-29.
  4. "Osian Wyn Owen yn ennill cadair yr Urdd" (yn Saesneg). 2018-05-31. Cyrchwyd 2019-04-29.
  5. "Iestyn Tyne yn ennill Cadair yr Urdd" (yn Saesneg). 2019-05-30. Cyrchwyd 2019-06-05.
  6. "Osian Wyn Owen o'r Felinheli yw Prifardd Eisteddfod T". Golwg360. 2020-05-29. Cyrchwyd 2020-06-17.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]