Yr Eisteddfod Ryng-golegol
Yr Eisteddfod Ryng-Golegol yw un o uchafbwyntiau cymdeithasol calendr myfyrwyr Cymraeg Cymru. Caiff ei chynnal yn flynyddol yn un o brifysgolion Cymru, tua diwedd Chwefror. Mae'r myfyrwyr yn cystadlu ar ran eu prifysgol i ennill y mwyaf o farciau, a chwpan yr Eisteddfod, mewn cystadlaethau llwyfan a gwaith cartref.
Cynhelir yr Eisteddfod ar ddydd Sadwrn, a cheir gig gyda'r nos. Arhosai'r myfyrwyr o'r prifysgolion gwadd sy'n bell i ffwrdd, mewn ystafell gyffredin neu ffreutur ar y nos Wener. Dychwelant adref ar fwsiau hwyr ar ôl y gig nos Sadwrn.
Yn wahanol i Eisteddfodau traddodiadol mae hon yn fwy swnllyd, gyda nifer o gystadlaethau cellweirus megis "Bing Bong". Bydd myfyrwyr pob prifysgol yn cynhyrchu crysau-T yn arbenning i'r digwyddiad, fel arfer gyda phennill ddoniol ar y cefn.
Cyfranogwyr
[golygu | golygu cod]- Prifysgol Abertawe
- Prifysgol Aberystwyth
- Prifysgol Bangor
- Prifysgol Caerdydd
- Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
- Prifysgol Lerpwl (2017-2022)[1]
- Prifysgol Manceinion (2024)
Lleoliadau
[golygu | golygu cod]Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
- 1960 - Prifysgol Bangor[2]
- 1961 - Prifysgol Aberystwyth[3]
- 1964 - Prifysgol Bangor[4]
- 1968 - Prifysgol Bangor[5]
- 1971 - Prifysgol Bangor[6]
- 1985 - Prifysgol Aberystwyth
- 2003 - Prifysgol Bangor
- 2004 - Prifysgol Abertawe
- 2005 - Prifysgol Aberystwyth[7]
- 2006 - Prifysgol Caerdydd
- 2007 - Prifysgol Bangor
- 2008 - Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (yng Nghaerfyrddin)
- 2009 - Prifysgol Abertawe
- 2010 - Prifysgol Aberystwyth
- 2011 - Prifysgol Caerdydd
- 2012 - Prifysgol Bangor
- 2013 - Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (yng Nghaerfyrddin)
- 2014 - Prifysgol Abertawe
- 2015 - Prifysgol Aberystwyth
- 2016 - Prifysgol Caerdydd
- 2017 - Prifysgol Bangor
- 2018 - Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (yn Llanbedr Pont Steffan)
- 2019 - Prifysgol Abertawe
- 2020 - Prifysgol Aberystwyth
- 2021 - Gohiriwyd Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd oherwydd Pandemig COFID-19
- 2022 - Prifysgol Bangor
- 2023 - Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (yn Llanbedr Pont Steffan)
- 2024 - Prifysgol Abertawe
Prifysgol fuddigol
[golygu | golygu cod]- 2014 - Prifysgol Bangor
- 2015 - Prifysgol Aberystwyth
- 2016 - Prifysgol Bangor
- 2017 - Prifysgol Bangor
- 2018 - Prifysgol Bangor
- 2019 - Prifysgol Bangor
- 2020 - Prifysgol Bangor
- 2021 - Prifysgol Bangor
- 2022 - Prifysgol Bangor
- 2023 - Prifysgol Bangor
- 2024 - Prifysgol Aberystwyth
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Bangor ar y brig yn yr Eisteddfod Ryng-gol". Golwg360. 2017-03-06. Cyrchwyd 2019-03-03.
- ↑ "The [Eisteddfod Ryng-golegol Myfyrwyr Prifysgol Cymru 1960 ym Mangor]". search.digido.org.uk. Cyrchwyd 2019-03-03.[dolen farw]
- ↑ "The [Eisteddfod Ryng-golegol Prifysgol Cymru yn Aberystwyth]". search.digido.org.uk. Cyrchwyd 2019-03-03.[dolen farw]
- ↑ "[Eisteddfod Ryng-golegol Bangor]". search.digido.org.uk. Cyrchwyd 2019-03-03.[dolen farw]
- ↑ "Eisteddfod Ryng-Golegol Bangor, 1968". search.digido.org.uk. Cyrchwyd 2019-03-03.[dolen farw]
- ↑ "Eisteddfod ryng-golegol ym Mangor, 1971". search.digido.org.uk. Cyrchwyd 2019-03-03.[dolen farw]
- ↑ "www.gwales.com - 8888047042, Yr Awen". www.gwales.com. Cyrchwyd 2019-03-03.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Casglu'r Cadeiriau: Enillwyr (yn cynnwys lleoliadau.1921-presennol; anghyflawn)