Y Lle Celf

Oddi ar Wicipedia
Y Lle Celf
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Arddangosfa o gelf ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol Cymru ydy'r Lle Celf.[1] Ceir arddangosfa o waith celf wedi'i drefnu mewn partneriaeth rhwng yr eisteddfod a Chyngor Celfyddydau Cymru. Yn ôl Swyddog Celfyddydau Gweledol yr Eisteddfod, Robyn Tomos, “Yn ogystal â chynnig llwyfan genedlaethol i artistiaid ifainc, mae’n hyrwyddo artistiaid sefydledig hefyd. Yn ogystal, mae gan yr Eisteddfod Genedlaethol ymrwymiad i annog gwerthfawrogiad a dealltwriaeth o’r celfyddydau gweledol yng Nghymru.”

Y Lle Celf, Eisteddfod Genedlaethol Cymru Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd 2010.

Yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd 2010, cynhaliwyd Y Lle Celf mewn pydew dwfn hen waith dur.[2]

Gwobrau[golygu | golygu cod]

  • Y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain (sefydlwyd 1951)
  • Y Fedal Aur am Grefft a Dylunio (1985)
  • Y Fedal Aur am Bensaernïaeth
  • Ysgoloriaeth Bensaernïaeth
  • Ysgoloriaeth Artist Ifanc
  • Gwobr Tony Goble (2012) Gwaith gan artist sy’n arddangos yn yr Arddangosfa Celfyddydau Gweledol am y tro cyntaf.
  • Gwobr Ifor Davies Gwaith sy’n cyfleu ysbryd y frwydr dros iaith, diwylliant a gwleidyddiaeth Cymru.
  • Gwobr Josef Herman – Dewis y Bobl

Enillodd Bedwyr Williams y 'trebl' yn 2011, drwy ennill Y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain, Gwobr Ifor Davies a Gwobr Josef Herman.[3]

Gorchuddio lluniau[golygu | golygu cod]

Yn 2012, bu rhaid i’r Eisteddfod Genedlaethol roi gorchudd tros bedwar o luniau yn y Lle Celf am eu bod yn dangos lluniau o ferch a gafodd ei llofruddio a’r dyn ifanc oedd wedi ei lladd. Roedd teulu’r ferch, Rebecca Aylward, wedi cwyno ar ôl clywed am luniau'r artist David Rees Davies.[4] Fe ymddiheurodd yr artist i'r teulu.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Y Lle Celf Archifwyd 2013-01-20 yn y Peiriant Wayback. o wefan swyddogol yr Eisteddfod; adalwyd 17 Ebrill 2013
  2. Y Lle Celf Eisteddfod 2010 Archifwyd 2011-09-20 yn y Peiriant Wayback. o wefan swyddogol yr Eisteddfod; adalwyd 09 Awst 2012
  3.  Artist yn ennill y trebl mewn un Eisteddfod. BBC Cymru (6 Awst 2011).; adalwyd 17 Ebrill 2013
  4. Gorchuddio lluniau o ferch a’i llofrudd o wefan golwg360.com 9.8.12.
  5. Artist y Lle Celf yn ymddiheuro o wefan golwg360.com 11.8.12.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]