Cris Dafis
Cris Dafis | |
---|---|
Ganwyd | 1966 ![]() Llanelli ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | cyfieithydd, ysgrifennwr, colofnydd ![]() |
Bardd ac awdur Cymreig a ddaw'n wreiddiol o Lanelli yw Cris Dafis (ganwyd 1966). Mae'n byw ac yn gweithio fel cyfieithydd yng Nghaerdydd. Mae'n golofnydd rheolaidd i gylchgrawn Golwg.
Cyhoeddodd ei gyfrol cyntaf o gerddi, Ac Ystrydebau Eraill, fel rhan o gyfres Beirdd Answyddogol Gwasg Y Lolfa ym 1988.
Wedi cyfnod maith o beidio â chyhoeddi ei farddoniaeth, cyhoeddwyd ei ail gasgliad, Mudo, fel pamffled gan wasg Cyhoeddiadau'r Stamp yn 2019[1]. Mae cerddi'r dilyniant hwn yn ymateb i'r brofedigaeth o golli cymar bron i bymtheg mlynedd ynghynt. Bu farw Alex, cymar Cris, wrth geisio ei achub o'r môr ar ynys Bali yn 2005. Datblygiad yw'r cerddi ar gasgliad a gyflwynwyd yn wreiddiol i gystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Fynwy a'r Cyffiniau 2016. Ar y pryd, fe'u gosodwyd yn y Dosbarth Cyntaf gan Menna Elfyn.
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
- Ac Ystrydebau Eraill (1988) - Y Lolfa
- Mudo (2019) - Cyhoeddiadau'r Stamp
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ "Cris Dafis yn trafod galar mewn dilyniant newydd o gerddi". Golwg360. 2019-05-02. Cyrchwyd 2019-07-12.