Aled Lewis Evans

Oddi ar Wicipedia
Aled Lewis Evans
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethbardd, gweinidog yr Efengyl, darlledwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amRhwng Dau Lanw Medi Edit this on Wikidata
Aled Lewis Evans yn siarad â Siân Cothi

Bardd ac awdur yn Gymraeg a Saesneg yw Aled Lewis Evans. Ganwyd ym Machynlleth, a magwyd yn Abermaw. Cafodd ei addysg yn Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam ac ym Mhrifysgol Bangor. Cyhoeddwyd Tonnau, ei gasgliad cyntaf o gerddi, gan Barddas ym 1989.

Bu'n darlledu am ddeng mlynedd ar radio lleol Sain y Gororau yn Saesneg ac yn Gymraeg, ac am bum mlynedd roedd yn gynhyrchydd a chyflwynydd llawn amser. Bu'n athro Saesneg, Cymraeg a Ffrangeg yn Ysgol Morgan Llwyd, ble roedd yn gyfrifol am Astudiaethau'r Cyfryngau, a drama yno. Gwobrwywyd ef dairgwaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol: ym 1991 am ei Gyfrol o Gerddi i Bobl Ifanc, ym 1998 am fonolog ac ym 1999 am flodeugerdd o gerddi addas i'r oedran 12-14. Mae'n ysgrifennydd Cymdeithas Owain Cyfeiliog, yn arwain sawl grŵp trafod, darllen ac ysgrifennu yn Wrecsam ac yng Nghaer ac yn dysgu cwrs am lenyddiaeth Cymru yn Yr Wyddgrug.

Daeth o’n weinidog i Gapel y Groes, Wrecsam a Chapel Heol St John, Caer ar 16 Techwedd 2019.[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Gwefan annibynwyr.org" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2020-10-29. Cyrchwyd 2020-09-17.

Ffynhonnell[golygu | golygu cod]