Wicipedia:Y Caffi

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Y Caffi)

Croeso i'r Caffi

Dyma'r lle i chi drafod sut mae pethau'n gweithio yma, polisïau, a phroblemau technegol
a gofyn cwestiynau ynglŷn â Wicipedia.

  • I ychwanegu cwestiwn, cliciwch yma.
  • I ddechrau pennawd newydd, a theipiwch eich neges.
  • Cofiwch lofnodi'r neges drwy ychwanegu pedair sgwigl (tilde) (~~~~) ar y diwedd.
Coffi



Cwlwm Celtaidd 2022[golygu cod]

Bydd Wikimedia UK a Wikimedia Deutschland yn trefnu Cynhadledd y Cwlwm Celtaidd eleni. I gynorthwyo gyda'r cynllunio, hoffem dderbyn eich adborth ar sut fath o weithdai fyddai'n ddefnyddiol i chi a'r gymuned cywici. Dyma arolwg byr, fydd ar ar agor tan 17 Ionawr. Diolch! Richard Nevell (sgwrs) 09:16, 14 Ionawr 2022 (UTC)Ateb[ateb]

Bendigedig Richard! Llywelyn2000 (sgwrs) 13:27, 14 Ionawr 2022 (UTC)Ateb[ateb]
Hi, dwi newydd weld yr hysbysiad yma. Dwi'n gweithio yn bennaf efo wikipedia Cernyweg. Fedra i ddim cael hyd i unrhyw hysbysiad am y gynhadledd ar dudalenni caffis/tafarndai yn yr un o'r wikipedias Celtaidd eraill. Ga i ofyn faint o gyfranogi rydych yn disgwyl gan golygyddion y cymunedau hynny? Brwynog (sgwrs) 17:56, 7 Mawrth 2022 (UTC)Ateb[ateb]
Haia @Brwynog:. Mi hola i Richard; mi gredais fod yr hysbys yn mynd ar bob wici, gan fod barn y golygyddion Celtaidd hyn yn holl-bwysig mewn arolwg o'r fath. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:45, 19 Mawrth 2022 (UTC)Ateb[ateb]
Diolch Brwynog (sgwrs) 20:22, 26 Mawrth 2022 (UTC)Ateb[ateb]
Hello Brwynog. I think I need to apologise on a couple of counts here. Firstly, sorry for taking so long to reply, I was off last week and this week was rather busy. Secondly, for my inadequate communication with the Cornish Wikipedia community. I had to double check whether I left a message on the Cornish Wikipedia as I thought I had, and was disappointed to find that I hadn't. This was my failure, and does not reflect how the Celtic Knot organising team wants to involve Celtic language communities.
We shared the survey with a few groups the Celtic Knot has engaged with previously: past speakers, previous attendees, a couple of groups on Telegram including the Wikimedia Language Diversity group. While this gives some coverage, it can miss out groups we've not engaged with strongly enough previously or who we'd like to work with more closely. I regret not contacting the Cornish Wikipedia to get the feedback of editors.
We would very much like members of the Cornish Wikipedia and other Celtic language Wikipedias to join the conference when it runs this year and take an active part in the community. We hope that the programme will have a lot to offer for the editing community, and a chance to connect with people. Richard Nevell (WMUK) (sgwrs) 16:19, 1 Ebrill 2022 (UTC)Ateb[ateb]
Thanks for the reply Richard, I received a direct invitation to a meeting in the meanwhile. I appreciate your apology. Brwynog (sgwrs) 19:31, 2 Mai 2022 (UTC)Ateb[ateb]

Diweddaru lluniau[golygu cod]

Un peth dwi'n sylw o bryd i bryd yw'r lluniau a ddefnyddir ar dudalenau. Yn amlwg mae trwydded yn cyfyngu ar be sydd ar gael - e.e. defnyddio llun sydd eisoes ar Wikimedia neu Wikipedia English, neu Geograph. Oes modd yma ac acw awgrymu tudalenau sydd angen llun 'gwell'? Felly gall rhywun sydd awydd mynd am dro gynnwys cymryd llun gwell i dudalen fel rhan ohoni.

Hwyl, Huw

Yn sicr. Pob blwyddyn bydd Wici rhyngwladol yn creu cystadlaethau byd eang i geisio cael lluniau amgenach a gwell. Yn ystod y cyfnod clo mae'r Llyfrgell Genedlaethol wedi creu cystadlaethau i greu lluniau lleol amgen yng Nghymru. Un o'r pethau rwy'n gweld ei angen yng Nghymru yw lluniau o gerrig beddau enwogion. Mae'r ffaith bod llun ar gael ddim yn rhwystr i'w cyfnewid am un gwell, ac os wyt yn gweld llun gwael, does dim oll yn bod a gwneud cais am lun gwell, yma neu ar y cyfryngau cymdeithasol ehangach. AlwynapHuw (sgwrs) 06:13, 25 Ionawr 2022 (UTC)Ateb[ateb]
Diolch am ymateb.
Dylwn i fod yn fwy eglur yn fy neges gwreiddiol: oes posib creu restr o luniau a all cael eu diweddaru? Gan gychwyn gyda beddfeini, pa rai sydd eu hangen fel blaenoriaeth?
Hwyl,
Huw Huw Waters (sgwrs) 16:52, 25 Ionawr 2022 (UTC)Ateb[ateb]
Haia Huw! Beth am greu categori Categori:Erthyglau sydd angen delwedd neu ddelweddau gwell? Efallai mai'r flaenoriaeth fyddai erthygl heb lun o gwbwl? Efallai y gellid creu rhestr o'r rhain yn otomatig. Ffordd arall ydy mynd at grwp (ee yr Eglwys yng Nghymru, Cymdeithas Ffynhonnau Cymru) a gofyn iddyn nhw roi eu lluniau ar Comin? Llywelyn2000 (sgwrs) 11:05, 26 Ionawr 2022 (UTC)Ateb[ateb]

Castell / Château[golygu cod]

Heddiw crëwyd dwy erthygl newydd gan JeanGree, sef Castell Chaban a Castell Fenelon. Mae angen ychydig o waith arnyn nhw, ac roeddwn yn paratoi i wneud hynny. Ond mae yna broblem. Yn fy marn i, dylai fod gan yr erthyglau hyn y teitlau "Château de Chaban" a "Château de Fénelon". Mae gan y gair Ffrangeg château ystyr ehangach na'r "castell": mae'n cynnwys adeiladau y byddem ni'n eu galw'n balasau, plastai neu winllannoedd hyd yn oed. Mae gennym ni nifer o erthyglau sydd ag enwau o'r math hwn eisoes, e.g. Château de Castelnaud. Ond mae gennym ni bethau fel Castell Chinon hefyd. Rwy'n awgrymu defnyddio'r fformat " "Château de X" amdanyn nhw i gyd. (Y dewis arall fyddai defnyddio "Castell X" bob tro.) A oes gwrthwynebiadau? --Craigysgafn (sgwrs) 21:14, 25 Ionawr 2022 (UTC)Ateb[ateb]

Cyfieithiadau peirianyddol ydy'r ddwy erthygl o'r rhagarweiniad Ffrangeg i'r erthyglau ar y ddwy Château. Mae 'na arfer (rheol o bosib), ein bod yn defnyddio enwau llefydd yn yr iaith frodorol oni bai bod enw Cymraeg cyffredin i'r lle: Llundain, Efrog Newydd, San Steffan, Côr y Cewri ac ati, felly Château sy'n gywir o ran ein harfer ni. Erthyglau eithaf ber yn y gwreiddiol efo orielau o luniau, digon diddorol i'w cynnwys yma. Mae angen gwybodaeth o'r ddwy iaith, wrth gwrs, i gyfieithu erthyglau. Os nad wyt ti am eu cyfieithu neu'u haddasu, rwy'n ddigon bodlon i grafu pen yn ôl i CSE gradd 2, 1974 i'w gwella. AlwynapHuw (sgwrs) 02:10, 26 Ionawr 2022 (UTC)Ateb[ateb]
Cytuno efo'r Ffrangeg. Mae'n rhaid fod gynnoch chi fynedd Job hogia, eu dileu nhw faswn i, gan nad yw'r 'golygydd' wedi parchu'r hanfodion ee dim categori, dim cyfeiriadaeth, dim gwybodlen, a dim parch at ein harddull arferol! Llywelyn2000 (sgwrs) 11:01, 26 Ionawr 2022 (UTC)Ateb[ateb]
Diolch gyfeillion! Iawn, byddaf i'n mynd ati i gwneud y gwaith caib a rhaw, sef newid y teitlau, cyflenwi gwybodlenni a chategoriau ayyb. Pe baet ti'n bwrw llygad drostyn nhw wedyn, Alwyn, byddai hynny'n wych. --Craigysgafn (sgwrs) 21:57, 26 Ionawr 2022 (UTC)Ateb[ateb]

Alwyn ar Radio Cymru[golygu cod]

Newydd glywed cyfweliad gwych iawn ar raglen Aled Llanbedrog gydag Alwyn ap Huw yn cael ei holi am ei waith ar Wicidestun. Ardderchog iawn! Llywelyn2000 (sgwrs) 10:58, 26 Ionawr 2022 (UTC)Ateb[ateb]

Gwybodleni Data[golygu cod]

Rwyf yn ailgydio yn y WiciBrosiect Gemau'r Gymanwlad wedi amser maith i ffwrdd o Wici am amryw resymau. Oes unrhyw un yn gallu egluro pwrpas y gwybodlenau data cyffredinol sydd wedi ymddangos ar pob tudalen. Mae bron pob un yn restr uniaith Saesneg ac yn edrych i mi fel "cut and paste" o'r ochr Saesneg heb fath o ystyriaeth os byddent yn gweithio yn y Gymraeg. Diolch Blogdroed (sgwrs) 16:15, 30 Ionawr 2022 (UTC)Ateb[ateb]

Gwaith ar y gweill yw'r gwybodlennau. Maen nhw'n casglu gwybodaeth o Wikidata yn hytrach nag Enwiki. Os yw deunydd Saesneg yn ymddangos y rheswm yw nad oes neb eto wedi rhoi'r fersiwn Cymraeg cyfatebol ar Wikidata. Rwy'n ceisio gwneud hyn hyd eithaf fy ngallu pryd bynnag y byddaf yn sylwi arnyn nhw. (Gallwch glicio ar y symbol pensil wrth ymyl y term dan sylw a'i olygu.) Yn sicr, ar hyn o bryd mae crin nifer o wybodlennau sy'n braidd yn denau yn y wybodaeth a gyflwynir ganddyn nhw, ond yn y tymor hir rwy'n gobeithio y byddan nhw'n datblygu i fod yn rhywbeth defnyddiol. --Craigysgafn (sgwrs) 17:50, 30 Ionawr 2022 (UTC)Ateb[ateb]
Yn fy marn i, mae nhw'n anymarferol o hir ac yn cymryd i ffwrdd o'r erthyglau gan nad ydyn nhw yn ychwanegu unrhywbeth. Er engraifft, gyda Gemau'r Gymanwlad 2014 mae'n gwthio'r wybodeln sydd efo gwybodaeth ddefnyddiol (yn Gymraeg) ymhell i lawr y dudalen. Oni fyddai'n well ymestyn yr wybodlen Gymraeg sydd yno yn barod? Blogdroed (sgwrs) 18:14, 30 Ionawr 2022 (UTC)Ateb[ateb]
Yn wir, gallaf i weld pam y byddech yn anhapus ynghylch y dudalen honno. Rwyf wedi gwneud dau beth i wella'r sefyllfa ychydig: cyfnewid y ddwy wybodlen (roedd yr un gwreiddiol yn llawer gwell), a gosod y switsh "suppressfield" yn y wybodlen Wicidata i hepgor y rhestr hir wirion honno. Ond rwy'n cytuno, dyw'r blwch hwn ddim yn ychwanegu llawer iawn at werth y dudalen ar hyn o bryd.--Craigysgafn (sgwrs) 20:21, 30 Ionawr 2022 (UTC)Ateb[ateb]
Haia, a chroeso'n ol! Sgin ti enghraifft o wybodlen WD sy'n 'rhestr uniaith Saesneg'? Mae'r golygyddion sy'n eu hychwanegu (bob yn un ag un, gyda llaw) yn fod i'w gwiro, a chyfieithu unrhyw Saesneg ar Wicidata. Tydy hyn ddim yn cymryd dim mwy o amser na chyfieithu'r gwybodleni hen ffasiwn a fewnforiwyd o en. Mae llawer o erthyglau am wleidyddion a chwaraewyr HEB y gwybodleni WD yma, gan nad oes digon o wybodaeth (ee dillad y tim) ar WD. Felly yr hen wybodlen statig a fewnforiwyd o enwici flynyddoedd yn ol sy'n dal ar yr erthyglau hyn, a'r dillad heb eu diweddaru ers blynyddoedd. Mae hyn yn biti, oherwydd gogoniant gwybodleni WD ydy eu bod yn fyw, yn newid wrth i wybodaeth newid, yn otomatig. Cytuno efo Craigysgafn: mewn ambell faes, does dim angen rhoi'r wybodlen newydd, neu ddefnyddio "suppressfield" i eoli beth sy'n ymddangos. Gweler y ddogfen / cyfarwyddiadau ar y 3 Nodyn WD am y manylion: Nodyn:Pethau, Nodyn:Person a Nodyn:Lle. Llywelyn2000 (sgwrs) 10:09, 31 Ionawr 2022 (UTC)Ateb[ateb]
Mae Gemau Olympaidd yr Haf 1948 yn enghraifft dda o restr hirfaith (a dau lun am ryw reswm!) Blogdroed (sgwrs) 17:48, 5 Chwefror 2022 (UTC)Ateb[ateb]
Fel mae'r cyfawyddiadau'n nodi (gw: Nodyn:Pethau): mae suppressfields= * yn atal rhan o'r wybodlen rhag ymddangos... Yma, yn Gemau Olympaidd yr Haf 1948, dau air oedd angen eu hychwanegu, sef yn_cynnwys; dw i wedi eu hychwanegu. Dylai'r golygydd fod wedi cyfieithu'r enwau ar Wicidata, neu eu hatal rhag ymddangos fel hyn. Llywelyn2000 (sgwrs) 21:01, 5 Chwefror 2022 (UTC)Ateb[ateb]
Dwi ddim yn meddwl mod i di deall y cyfarwyddiadau na sut i'w cysylltu i Wikidata - dwi'n meddwl mod i'n bod yn hollol dwp! Gweler Gemau Olympaidd yr Haf 1924

Blogdroed... GOL. Mae 1920 a 1924 wedi eu cloi ar Wikidata! (sgwrs) 22:31, 5 Chwefror 2022 (UTC)Ateb[ateb]

Does dim angen newid Wicidata ei hun. Dim ond i atal y dudalen rhag cydio ym mhob manylyn bach gan Wicidata. Ar hyn o bryd mae tudalen cod Gemau Olympaidd yr Haf 1924 yn dechrau â {{Pethau| suppressfields= | fetchwikidata = ALL }}. Rhaid ichi newid hyn i {{Pethau| fetchwikidata=ALL | suppressfields= gwladwriaeth yn_cynnwys}} a fydd y pethau dydych chi ddim eu heisiau yn diflannu. --Craigysgafn (sgwrs) 11:28, 6 Chwefror 2022 (UTC)Ateb[ateb]
Diolch! Blogdroed (sgwrs) 13:45, 7 Chwefror 2022 (UTC)Ateb[ateb]

Sut i gysylltu tudalen ar WP efo tudalen WD? (Sylw: WD sy'n cysylltu'r holl ieithoedd efo'i gilydd). Ti'n holi am Gemau Olympaidd yr Haf 1924:

  1. Ar ol ei chreu, mae'n rhaid dweud wrth WD am fodolaeth yr erthygl. Rol i ti greu'r erthygl Gemau Olympaidd yr Haf 1924, fe aeth @Dogfennydd: i Wicidata (WD); yno ffeiniodd yr dudalen gyfatebiol yn yr ieithoedd eraill (mi faswn i'n chwilio yn y Saesneg am 1924 Summer Olympics ar Wicidata.
  2. Unwaith ti yn y dudalen honno, mae angen ychwanegu pen a chwnffon. Pen = yr enw Cymraeg. Mi wnes i ei adio yn fama o dan Label. Cwnffon = gwaelod yr erthygl, mae rhestr o gysylltiadau i erthyglau WP (Wicipedia); gelli ychwanegu enw'r erthygl Gymraeg yma fel y gwnaeth Dogfennydd.
  3. Dos nol i'r erthygl Gym ar Wicipedia i wiro fod y wybodlen yn edrych yn iawn. Os ydy - panad! Os nad, gelli ei newid! Os oes rhestr hir, wirion, hyll, yna gelli ei rhwystro rhag ymddangos yn y modd mae Craigysgafn yn ei nodi uchod. Os oes wybodlen well ar y Wicipedia Saesneg, yna defnyddia honno, ond bydd angen cyfieithu pob gair ohoni!

Sorri fod hyn yn gymhleth, mae angen cyfarwyddiadau gwell, a mi ai ati cyn hir i wneud hynny. Be sydd yn dda am gwybodlenni wicidata, Blogdroed, ydy fod pob elfen 'da ni'n wedi'i gyfieithu ar Wicidata, dros y blynyddoedd, yn dal i fod yno, felly mae'r rhan fwyaf o'r gwybodlenni yn Gymraeg yn poblogi ei hunain, yn otomatig! Heb orfod cyfieithu dim! Llywelyn2000 (sgwrs) 13:59, 7 Chwefror 2022 (UTC)Ateb[ateb]

Ia, nes i fynd i Wikidata ac nes i ychwanegu y dudalen Gymraeg i Gemau Olympaidd yr Hasf 1916 ond am ryw reswm mae tudalenau Gemau 1920 a 1924 wedi eu cloi. GOL - yn anffodus mae hyn yn wir am Gemau 1904 hefyd! Blogdroed (sgwrs) 14:34, 7 Chwefror 2022 (UTC)Ateb[ateb]

Testunau cyfansawdd ar Wicidestun[golygu cod]

Mae Wicidestun Ffrangeg, yn cyhoeddi nifer o'i lyfrau dwywaith. Unwaith yn y ffordd draddodiadol efo tudalen trawsgrifio ar gyfer pob pennod / cerdd / erthygl etc ac wedyn eilwaith efo'r llyfr cyfan wedi ei drawsgrifio ar un tudalen. Eu rheswm dros wneud hyn yw er mwyn galluogi chwiliad o fewn llyfr yn fwy hylaw. Er enghraifft os ydwyf yn cofio bod cerdd am "bronfraith" yn Nhelynegion Maes a Môr, heb gofio teitl y gerdd, gallwn fynd at y testun cyfansawdd un tudalen a chwilio am y gair bronfraith trwy ddefnyddio Ctrl/F i gael hyd i'r gerdd yn haws na defnyddio'r chwiliad o bopeth sydd ar safle Wicidestun. Rwyf wedi gwneud arbrawf o'r ymarfer Ffrangeg ar Wicidestun Cymraeg efo testunau cyfansawdd o bedwar llyfr s:Categori:Testunau cyfansawdd. Hoffwn wybod barn eraill am werth y fath ymarfer cyn bwrw ymlaen i wneud tudalennau tebyg ar gyfer gweddill y llyfrau rwyf wedi trawsgrifio. AlwynapHuw (sgwrs) 17:39, 9 Chwefror 2022 (UTC)Ateb[ateb]

Cytuno'n llwyr! Mae dewis o ddwy drefn / dau fformat yn llawer gwell! Llywelyn2000 (sgwrs) 12:58, 10 Chwefror 2022 (UTC)Ateb[ateb]

Colli gwaith[golygu cod]

Dwi newydd dreulio dwy awr yn golygu tudalen Gemau Olympaidd yr Haf 1936 ac wrth pwyso "cyhoeddi newidiadau" fe ges i'r neges yma: Request from - via cp3058.esams.wmnet, ATS/8.0.8 Error: 502, Next Hop Connection Failed at 2022-02-12 20:32:01 GMT Dwi'n ama'n gryf fod modd canfod yr holl waith eto ... ond dim ond dweud yma rhag ofn! Blogdroed (sgwrs) 20:38, 12 Chwefror 2022 (UTC)Ateb[ateb]

Cydymdeimlo'n llwyr a thi! Wedi digwydd i minnau hefyd. Mae'r Cymhorthydd Cyfieithu'n cadw popeth pob rhyw ddeg eiliad, ac yn gweithio'n dda! Fel arall, mae gen i ddogfen syml Notepad ar yr ochr i gopio popeth pob rhyw 5 munud! Ond digon hawdd dweud hyn rwan, wedi'r digwyddiad! O ia, cyn cyhoeddi, dw i wastad yn CTR A ac yna'n copio popeth rhag ofn fod rhywun arall wrthi ar yr un pryd! Llywelyn2000 (sgwrs) 14:51, 14 Chwefror 2022 (UTC)Ateb[ateb]

Wici Y Cyfryngau Cymraeg[golygu cod]

Tynnodd Aaron WiciMon fy sylw at y wefan yma sydd ar drwydded agored. Oes rhywun yn gwybod rhywbeth amdani? Addas ar gyfer mewnforio stwff i wici bach ni? Llywelyn2000 (sgwrs) 10:18, 15 Chwefror 2022 (UTC)Ateb[ateb]

Ymgyrch Iechyd Meddwl[golygu cod]

@Llywelyn2000, MathWilliams9, Lesbardd, Craigysgafn, Oergell, Cymrodor, Deb:@AlwynapHuw, Adda'r Yw, Stefanik, Dafyddt, Pwyll, Sian EJ, Jac-y-do:@Duncan Brown, Deri Tomos, Dafyddt, Heulfryn, Bobol Bach: Helo pawb! Mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu prosiect bychan tan ddiwedd Mawrth er mwyn gwella ein cynnwys ar Iechyd meddwl. Mi fydd Aaron a Menter Iaith Môn yn arwain ar gyfres o ddigwyddiadau yn ysgolion a byddaf yn trefni Cyfieithathon ar-lein. Bydd e'n wych petai'r holl gymuned yn cymryd rhan trwy helpu i gyfieithu/creu erthyglau newydd am y maes pwysig yma dros y wythnosau nesaf. Gweler isod, rhestr o erthyglau sydd i angen - ond mae croeso i chi ychwanegu at hyn hefyd. Jason.nlw (sgwrs) 13:14, 16 Chwefror 2022 (UTC)Ateb[ateb]

Erthyglau newydd

en

Cyfoethogi erthyglau
Ie, byddaf yn cyfrannu hefyd - da cael rhyw fath o darged a thema. Dwi am orffen cwpl o bostiadau ar symbylwyr addysg Gymraeg yr 20g cynnar yn gyntaf, Siôn J Stefanik (sgwrs) 22.22 17 CHwefror 2022 (UTC)
Dw i di rhyw gychwyn, Jason. Prun ydy'r gorau gen ti: erthyglau cyfoethog (a llai ohonyn nhw!) neu lawer o erthyglau llai? Hefyd: be di'r daflen amser i hyn? Llywelyn2000 (sgwrs) 06:46, 19 Chwefror 2022 (UTC)Ateb[ateb]
Haia @Llywelyn2000 a @Stefanik. Diolch am y diddordeb yn hyn! Mae gyda ni tan ddiwedd Mawrth i greu tua 30 erthygl newydd felly does dim pwysau mawr i greu llwyth o erthyglau. Felly mae'n lan i chi faint o amser si'n mynd mewn i bob un. Cywired yw'r peth pwysicaf. Diolch eto! Jason.nlw (sgwrs) 08:55, 21 Chwefror 2022 (UTC)Ateb[ateb]
Bore da pawb. Rwy'n cynnal Cyfieithathon bach bore efo Prifysgol Aberystwyth i gyfieithau rhai o'r erthyglau uchod. Byddaf yn gwirio pob erthygl newydd yn ystod y dydd. Diolch! Jason.nlw (sgwrs) 08:54, 28 Chwefror 2022 (UTC)Ateb[ateb]

Teitlau ffilm, llyfrau Almaeneg ayb[golygu cod]

Dw i newydd newid teitl ffilm a gyhoeddwyd yn yr Almaeneg i'r Almaeneg! Roedd rhyw wag wedi rhoi enw Saesneg i Aguirre, der Zorn Gottes! Mi fum yn ystyried ei drosi i'r Gymraeg, a fasa ddim gwahaniaeth gen i os oes rhywun yn dymuno ei newid i hynny. Angen polisi bychan ar hyn dw i'n meddwl. Dyma sy'n mynd drwy fy meddwl i:

  • Os mai Saesneg yw iaith y cyfrwng, yna (gan ein bod yn ddwyieithog) ei gadw yn yr iaith frodorol (Saesneg).
  • Os yw'r cyfrwng mewn iaith arall (hy nid cy nag en) yna gellir dewis naill ai'r iaith frodorol neu'r Gymraeg fel teitl y llyfr, albwm, ffilm...

Unrhyw farn neu opsiwn arall? Llywelyn2000 (sgwrs) 11:42, 17 Chwefror 2022 (UTC)Ateb[ateb]

Rwy’n cytuno mai Aguirre, der Zorn Gottes yw’r ateb cywir yn yr achos hwn. Pryd bynnag y mae'n ymarferol, dylem ni ddefnyddio'r iaith wreiddiol ar gyfer teitl neu enw priodol yn hytrach na fersiwn wedi'i Seisnigeiddio. Ond mi allaf i weld hefyd ei bod yn anodd weithiau osgoi defnyddio fersiwn cyfarwydd o deitl yn Saesneg yn hytrach nag un yn yr iaith wreiddiol sy'n anghyfarwydd. Er engraifft, dw i newydd gymryd golwg ar y ffordd mae ffilmiau Studio Ghibli yn cael eu trin yma. Braidd yn fratiog. Mae gennym ni Tonari no Totoro yn hytrach na My Neighbour Totoro, sy'n Peth Da yn fy marn i, er braidd yn syndod. Ar y llaw arall, mae gennym Howl's Moving Castle yn hytrach na Hauru no Ugoku Shiro – dim syndod o gwbl. Byddai'n braf pe bai popeth yn gyson, ond mae'r byd yn dipyn o lanast, ac weithiau mae'n rhaid i Wicipedia ddal drych i fyny i'r llanast hwnnw. Yr hyn dw i'n meddwl fyddai'n wallgof fyddai dyfeisio teitlau Cymraeg sydd erioed wedi cael eu defnyddio yn y byd go iawn – Totoro fy Nghymydog, Castell symudol Hauru, ayyb. Dyma fagl y mae ein defnyddwyr yn syrthio iddo o bryd i'w gilydd. --Craigysgafn (sgwrs) 00:07, 18 Chwefror 2022 (UTC)Ateb[ateb]
100% - cytuno!
Gallem gynnwys brawddeg neu ddwy at yr uchod:
Sylwer na ddylid cyfieithu teitlau cyfryngau Saesneg i'r Gymraeg; gellir hefyd, defnyddio fersiwn cyfarwydd o deitl yn Saesneg os yw'n un amlwg, cyfarwydd, yn hytrach na'r gwreiddiol, anghyfarwydd.
Os yw'r cyfieithiad yn un nodedig, ee Dan y Wenallt, yna byddai'n dda cael dwy erthygl, fel gydag Under Milk Wood.
Neu fedri di wella ar hyn Craigysgafn? Can diolch! Llywelyn2000 (sgwrs) 09:51, 18 Chwefror 2022 (UTC)Ateb[ateb]
Na fedraf. Mae hynny'n swnio'n iawn i mi! --Craigysgafn (sgwrs) 22:41, 18 Chwefror 2022 (UTC)Ateb[ateb]

Wicidestun[golygu cod]

Mae na brysurdeb mawr wedi bod ar Wicidestun, diolch i Alwyn! MAe angen ei greu'n Weinyddwr, gan fod ei waith yn cael ei gyfygu gan ddiffyg hawliau i wneud hyn a llall. Er mwyn newid hyn, fedrwch chi gadw llygad ar y gwaith, a'n cynotrthwyo bob yn hyn a hyn os gwelwch yn dda? Er enghraifft dolenu'r llyfrau mae wedi'i greu ar Wicipedia neu ddefnyddio peth o'r testun? Cadwch eich llygad ar y Sgriptoriwm (y caffi!) er mwyn roi'r hawliau angenrheidiol i Alwyn. Diolch o galon! Robin / Llywelyn2000 (sgwrs) 13:58, 4 Ebrill 2022 (UTC)Ateb[ateb]

Er enghraifft, tybed a wnewch chi arwyddo yma i gael gwared a'r bot sy'n gwneud dim! Yna, gallwn gynnig Alwyn yn Weinyddwr. DIOLCH! Llywelyn2000 (sgwrs) 12:43, 6 Ebrill 2022 (UTC)Ateb[ateb]
Dw i di cynnig Alwyn yn Weinyddwr eto. Llywelyn2000 (sgwrs) 03:50, 27 Ebrill 2022 (UTC)Ateb[ateb]

Gosod Crop Tool ar prosiectau Wici Cymraeg[golygu cod]

Mae Crop Tool yn declyn sydd yn galluogi chi i dorri lluniau sydd eisoes ar Gomin, gan gynnwys cropio llun allan o dudalen testun PDF, sydd yn ei wneud o'n hynod handi wrth drawsysgrifio llyfrau ar Wicidestun. Mae'r rhaglen yma Crop Tool; ac mae degau o enghreifftiau o luniau sydd wedi eu cropio allan o lyfrau efo'r teclyn yma Category:Owen_Morgan_Edwards. Yn ôl y dudalen yma ar gomin mae modd gosod y rhaglen ym mar offer ym mhrosiectau Wici, er mwyn ei ddefnyddio yn un syth o'r prosiect, Commons:CropTool ond mae'n tu hwnt i 'neall i. Gall rhywun sy'n deall y pethau yma cael golwg ar y ddalen naill a gosod y declyn ar Wicidestun neu ar yr holl brosiectau Cymraeg (mae'n bosib gwneud y naill neu'r llall mae'n debyg.) Diolch. AlwynapHuw (sgwrs) 23:45, 6 Ebrill 2022 (UTC)Ateb[ateb]

Mae hyn yn cael ei wneud yn unigol gan bob golygydd.
1. Dos i Meta a theipio User:AlwynapHuw/global.js yn y blwch chwilio. Clicia ar yr yr ysgrifen coch a weli er mwyn creu tudalen newydd o'r enw User:AlwynapHuw/global.js.
2. Copia'r canlynol yn y dudalen a'i safio:
// Global CropTool
if (mw.config.get('wgNamespaceNumber') === 6 && mw.config.get('wgIsArticle'))
 mw.loader.load( '//commons.wikimedia.org/w/index.php?title=MediaWiki:Gadget-CropTool.js&action=raw&ctype=text/javascript' );
Dylai edrych fel hyn. Cadwa'r dudalen. Bydd y sgript yma'n creu eicon y teclyn cropio ar BOB prosiect (gan gynnwys wp a wd).
Oherwydd hyn, bydd angen diffod y teclun ar Comin neu mi gei ddwy eicon. I wneud hyn dos i Dewisiadau, yna Teclunau, a'i ddiffodd.
Llongyfarcha dy hun am wneud job dda drwy wneud paned.
Llywelyn2000 (sgwrs) 07:44, 7 Ebrill 2022 (UTC)Ateb[ateb]

Botiau[golygu cod]

@Llywelyn2000 Ydy'r botiau newid pob tudalen sy'n gweithio yma hefyd yn gweithio ar Wicidestun? Rwyf wedi gwneud camgymeriad sylfaenol wrth greu bron pob dudalen yno, sef heb ystyried golwg ar y ffôn symudol. Os oes modd defnyddio bot, a fyddai modd newid pob <div style="margin-left:35%; margin-right:35%;"> (neu unrhyw rif % arall ag eithrio 0%) i <div style="margin-left:10%; margin-right:10%;">? AlwynapHuw (sgwrs) 05:31, 23 Ebrill 2022 (UTC)Ateb[ateb]

Dim problem. Fedri di wiro'r 3 yma os g yn dda. Os cywrir yna mi wnaf y gweddill. Ai incraments o 5 yn unig sydd i'w newid ee 30, 35, 40, neu a oedd eraill ee 31, 32, 33? Llywelyn2000 (sgwrs) 06:39, 23 Ebrill 2022 (UTC)Ateb[ateb]
@Llywelyn2000 Diolch mae'r 3 tudalen yn edrych yn dda ar y ffôn, tabled a'r cyfrifiadur. Efo'r ymylon mawr, mae'r testun yn cael ei gywasgu i ddim ond ychydig eiriau ar bob llinell ar ffôn, sydd yn anodd darllen. Mae modd defnyddio unrhyw rif ac mae ychydig efo 29, 31, 39 a 41, ond does dim yn uwch na 45, mae'r mwyafrif yn 25, 30, 35 a 40. Mae @Craigysgafn wedi bod wrthi fel lladd nadroedd yn gwneud yr ail wiriad i dudalennau i droi nhw o "felyn" i "wyrdd", bydd Bot Twm yn golygu miloedd o dudalennau yn creu defnyddiwr hynod weithgar arall yn ystod cyfnod pan mae'r hoelion wyth yn gwirio anghenion y safle AlwynapHuw (sgwrs) 03:11, 24 Ebrill 2022 (UTC)Ateb[ateb]
Yes check.svg Wedi beni! Llywelyn2000 (sgwrs) 05:44, 25 Ebrill 2022 (UTC)Ateb[ateb]

Cefnogi Alwyn ar Wicidestun[golygu cod]

Mae angen cefnogi Alwyn i fod yn Weinyddwr ar Wicidestun, os gwelwch yn dda (ia, eto! Diolch i reolau Meta!) Mae'r ddolen i'r fan priodol yn fama. DIOLCH! Llywelyn2000 (sgwrs) 09:01, 27 Ebrill 2022 (UTC)Ateb[ateb]

Heb i mi gael unrhyw fath o hysbyseb, canfyddes fy mod eto'n weinyddwr ar Wicidestun, boed dros dro, ta hyd fy medd, dw'i ddim yn gwybod. Ond diolch i un ac oll am eich cefnogaeth! AlwynapHuw (sgwrs) 03:54, 13 Mai 2022 (UTC)Ateb[ateb]

Gwahaniaethu[golygu cod]

Y drefn "dynodi" Cymraeg, traddodiadol, sydd i'w gweld mewn llyfrau, cylchgronau a newyddiaduron Cymraeg yw "enw coma" i ddynodi enw lle i wahaniaethu a chromfachau i ddynodi ffugenw i wahaniaethu. Ee y Parch John Jones, Aberdyfi am weinidog fu'n gweinidogaethu yn Aberdyfi yn ei anterth, ond John Jones (Eos Aberdyfi) am gerddor yn defnyddio ffug enw. Does dim cysondeb yn hyn o beth ar y Wicipedia Gymraeg, ac mae enghreifftiau o "symud tudalen" o'r drefn gynhenid i drefn Wikipedia Saesneg o ddynodi, e.e. John Jones, Maesygarnedd y traddodiad Gymraeg i John Jones (Maesygarnedd) yr arfer Saesneg. Fel awduron iaith sydd â thraddodiad hir ac ar wahân o ddynodi enwau, does dim rhaid i ni gyfieithu'r drefn Saesneg o ddynodi mewn cromfachau yn unig er mwyn gwahaniaethu erthyglau. Mae hyn yn wir, hefyd, efo erthyglau nad oes angen, eto, gwahaniaethu rhyngddynt. Mae [[Samuel Roberts (SR)]] a [[Catherine Prichard (Buddug)]] yn gywir, nid am fod y cromfachau yn eu gwahaniaethu rhag pobl a'r un enw ar Wicipedia, ond mae dyna eu dynodwyr cyffredin a thraddodiadol ym mhob cyhoeddiad Cymraeg, cyn bo Wicipedia yn bod. Gwell bod yn driw i'n hiaith na bod yn driw i arfer enwk. AlwynapHuw (sgwrs) 03:45, 13 Mai 2022 (UTC)Ateb[ateb]

Cytuno Alwyn, ac mae hyn yn cael ei nodi mewn dau bolisi sydd gynon ni: Wicipedia:Gwahaniaethu ac Wicipedia:Canllawiau iaith ac mae'r ddau'n gyson a'i gilydd. A oes angen cryfhau'r rhain? Dw i wedi dadwneud John Jones (Maesygarnedd) i John Jones, Maesygarnedd. Eiliad o wendid! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:36, 17 Mai 2022 (UTC)Ateb[ateb]

Wici'r Holl Ddaear[golygu cod]

Ysgyfarnog brown hare in WLE add.png

Y llynedd, daeth Cymru'n 8fed allan o dros 30 o wledydd yn y gystadleuaeth ffotograffeg Wici'r Holl Ddaear. Ac am y tro cyntaf, cafodd Cymru herio mawrion y byd, nid fel Wici Henebion, lle'r ydym yn cystadlu o dan y DU. Mae hyn yn chwa o awel iach a ffresh! Eleni, bydd y Llyfrgell Genedlaethol, WiciMon a ninnau (Wikimedia UK) yn trefnu am yr ail dro. Mae ein gwefan yn fama. Gallwch dynnu lluniau heddiw, a'u lanlwytho drwy gydol Mehefin. Mae na fideo bach da gan Jason ar sut i wneud hynny ar y wefan. Yn fyr - cliciwch ar y botwm gwyrdd ar Hafan y wefan a mi wneith adio categori fod y llun yn y gystadleuaeth. Mwynhewch, a chadwch yn ffit! Llywelyn2000 (sgwrs) 13:23, 24 Mai 2022 (UTC)Ateb[ateb]

Newyddion diweddaraf: mae pob un o'r Parciau Cenedlaethol wedi ymuno gyda'r ymgyrch! Rhagor i ddod! Llywelyn2000 (sgwrs) 11:03, 26 Mai 2022 (UTC)Ateb[ateb]
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi mynegi eu bod yn cefnogi ein hymgyrch! Da ni'n genedl annibynnol o ran wici a phel-droed, felly! A hynny gyda sel bendith ein Llywodraeth ni ein hunain! Ymlaen!
Mae'r gystadleuaeth yn para drwy Fehefin. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:40, 2 Mehefin 2022 (UTC)Ateb[ateb]
Dros 1,361 o luniau wedi eu huwchlwytho!

Mae hi'r 9fed o Fehefin, ac mae na 1,361 o luniau wedi'u huwchlwytho! Cawsom 1,900 y llynedd. Diolch i bawb! Ar ddiwedd Mehefin byddwn yn cael ein hychwanegu i'r siart yma. Ar hyn o bryd mi rydan ni'n 5ed allan o tua 30 o wledydd! Un job bach neis wrth fynd ymlaen ydy ychwanegu rhai o'r lluniau i'r erthyglau priodol. Dyma'r unig gystadleuaeth lle rydym yn cael ein hystyried yn wlad cuflawn, yn cyastadlu yn erbyn gweldydd sofran eraill. Chawn ni ddim gwneud hynny yn Wici Henebion - rhan o'r DU ydan ni - ac mae gen i lawer o greithiau'n brawf o'r ymladd a fu i newid hyn! Ond mae Wici'r Holl Ddaear yn ein derbyn am yr hyn yden ni - gwlad, cenedl gyflawn. Ymlaen! Llywelyn2000 (sgwrs) 05:49, 9 Mehefin 2022 (UTC)Ateb[ateb]

3,460 !!!

...ac mae pythefnos i fynd! Da ni'n ail ar hyn o bryd, i'r Almaen! O flaen Sbaen a Rwsia, a'r gweddill a gwledydd bychain! ;-) Llywelyn2000 (sgwrs) 11:01, 14 Mehefin 2022 (UTC)Ateb[ateb]

Cod ar gyfer unrhyw leoliad - llif byw o Wicidata[golygu cod]

Gallwch ychwanegu'r cod canlynol ar bob erthygl ar leoliad ee pentref, tref, dinas neu wlad:

{{Poblogaeth WD}}

Does dim rhaid newid unrhyw ran o'r cod! Jyst copio a phastio! Mi ychwanegith gyfeiriad at y ffynhonnell hefyd, lle mae'r canlyniadau diwethaf i'w gweld. Mae'n fersiwn haws a gwell na'r hen un wnes i, gan nad oes raid chwilio am Qid y lle. Mae'n diweddaru'n otomatig. Mae wedi ei banio o'r Wicipedia Saesneg, jyst fel fi. ;-) Mwynhewch! Llywelyn2000 (sgwrs) 11:02, 26 Mai 2022 (UTC)Ateb[ateb]

Sesiwn Zoom ar gyfer holl olygyddion Wicipedia yr ieithoedd Celtaidd![golygu cod]

Helo pawb! Mae Defnyddiwr:Brwynog (Wikipedia Cernyweg a'r Gymraeg) a minnau'n trefnu cyfarfod Zoom ar Ddydd Mawrth 7 Mehefin am 7.00 yh , a gwahoddir pob golygydd rheolaidd ym mhob Wicipedia iaith Geltaidd. Byddwn yn trafod syniadau ar gyfer rhoi Golygathon at ei gilydd a fydd yn cael ei gynnal ym mis Medi. Os ydych am ymuno â ni bydd angen i chi anfon e-bost ataf i gael y ddolen.

Beth yw editathon?

Cynhaliodd y golygyddion Cernywaidd a ninnau olygathon ynghyd a golygyddion Palestina ychydig fisoedd yn ol. Dyma beth wnaethon ni bryd hynny.

Sut i wiki-e-bostio?

Mae fy e-bost wedi'i droi ymlaen. Os yw'ch un chi, yna'r cyfan sydd angen i chi ei wneud yw mynd i fy nhudalen defnyddiwr. Yna ewch i'r ddewislen ar y chwith, ychydig o dan logo WP, ac i lawr i'r Blwch Offer, yna dewch o hyd i Ebostiwch y defnyddiwr. Yna gallwch ddanfon nodyn sydyn ataf yn gofyn am y ddolen briodol i Zoom.

Dim e-bost?

I droi eich e-bost ymlaen, ewch i'ch dewis (Top) i'r dde o'ch Enw Defnyddiwr. Yn y dewisiadau, y tab cyntaf yw 'Proffil defnyddiwr': ewch i lawr i e-bost ac ychwanegwch eich e-bost. Reit hawdd a di-lol!

Methu gwneud hyn?

Ebostiwch fi ar wicipediacymraeg @ gmail.com (dim angen y gofod gwyn) Edrychaf ymlaen at eich gweld yn y cyfarfod hynod bwysig hwn! Dewch â gwên! Cofion cynnes.. Robin aka... Llywelyn2000 (sgwrs) 15:15, 30 Mai 2022 (UTC)Ateb[ateb]

Hoffwn i ddod. Deb (sgwrs) 09:57, 2 Mehefin 2022 (UTC)Ateb[ateb]
Bril! Mae na dros ddeg yn dod erbyn hyn! Edrych ymlaen! Llywelyn2000 (sgwrs) 14:35, 3 Mehefin 2022 (UTC)Ateb[ateb]
Mae na 15 wedi cofrestru, ond cawn weld faint ddaw nos fory! Mae na nifer da o cywici wedi mynegi diddordeb a dw i'n edrych ymlaen yn arw i'ch cyfarfod! Mae lle i ragor os hoffech ddod! Wici-ebostiwch fi am ddolen Zoom. Llywelyn2000 (sgwrs) 12:32, 6 Mehefin 2022 (UTC)Ateb[ateb]
DIOLCH i bawb ddaeth i'r cyfarfod!

Braf iawn oedd gweld chi i gyd! Cael rhoi wyneb i enw! Gweld gwen yn lle gair. Da ni am barhau fel grwp o olygyddion Celtaidd. Os ydych isio ymuno a'r grwp, bydd raid i chi gysylltu efo fi ar ebost. Byddwn yn creu golygathon Geltaidd rhwng y 6 gwlad ar Meta, ac mae croeso i chi ychwanegu erthyglau a ddymunir am Gymru mewn ieithoedd eraill ar y dudalen yma. Dw i wedi cyflwyno cod Wicidata ym mhob un o'r ieithoedd Celtaidd dros y blynyddoedd diwetha; y diweddaraf yw'r cod ar gyfer poblogaeth. Mae rhai o'r ieithoedd hyn yn gweiddi am help, felly: mewn undod mae nerth; undod sy'n gwerthfawrogi ac yn parchu gwahaniaethau. Llywelyn2000 (sgwrs) 05:56, 9 Mehefin 2022 (UTC)Ateb[ateb]

Arglwyddi rhaglaw neu Arglwydd rhaglawiaid[golygu cod]

Nifer o erthyglau rwyf wedi ysgrifennu am Arglwyddi Rhaglaw wedi eu newid i Arglwydd Rhaglawiaid. Mae hyn yn chwithig i fy nghlust i. Fel arfer yn y Gymraeg pan fo gan enw unigol dau gymal, y cymal gyntaf sydd yn cael ei luosogi ee Gweinidog yr Efengyl - Gweinidogion yr Efengyl; canwr opera - cantorion opera; chwaraewr rygbi - chwaraewyr rygbi. Mae gan farn Arglwydd Rhaglaw yr un grym a phe bai'r farn wedi dod o law (unigol) y brenin ei hun. Gan fod dim ond un brenin, Arglwyddi Rhaglaw yw'r niferoedd sydd awdurdodi pethau fel petaent wedi dod o law unigol ei fawrhydi. Yr Arglwyddi sy'n lluosog nid y llaw brenhinol.
Onid gwell byddid agor sgwrs ar y pwnc yn hytrach na newid cynifer o erthyglau heb drafodaeth? AlwynapHuw (sgwrs) 02:26, 14 Mehefin 2022 (UTC)Ateb[ateb]

Beth am ofyn ar Twitter? Os nad oes ateb, ac os nad oes cyfeiriad at y lluosog mewn geiriadur dibynadwy, yna cynnig ein bod yn dilyn dy arweiniad di yn hyn, Alwyn. Mae be ti'n ddweud yn gwneud synnwyr yn tydy. Llywelyn2000 (sgwrs) 11:21, 15 Mehefin 2022 (UTC)Ateb[ateb]
Sori, Alwyn, fi sydd ar fai yma. Roedd cryn lawer o erthyglau yn anghyson wrth ddefnyddio'r term(au). O ran y lluosog, dilynais yr arweiniad a roddwyd gan Geiriadur yr Academi a Byd Term Cymru (gwefan Llywodraeth Cymru sy'n ddefnyddiol dros ben ynghylch materion o'r fath) yn ogystal â nifer o wefannau swyddogol eraill. Yn wir, mae'r "Arglwydd Raglawiaid" (NB y treiglad) yn swnio braidd yn od, ond mae'n ymddangos mai dyna'r consensws swyddogol. --Craigysgafn (sgwrs) 11:54, 15 Mehefin 2022 (UTC)Ateb[ateb]

Nid oes ots be di'r consensws gan gyfieithwyr sydd heb grebwyll am hanes na chyfraith. Mae Arglwydd Rhag Llaw yn cyfeirio at UN sydd yn weithredu rhag (ar ran) llaw y Brenin. Yr Arglwyddi sy'n lluosog nid llaw y Brenin. Mae hawl i Wicipedia dangos weithiau bod ein hymchwil ni yn gywirach na'r consensws. Wedi cyhoeddi erthyglau yn enwi bron i 3 mil o Arglwyddi yn weithredu rhag law y Brenin/hes rwy'n credu fy mod wedi profi mae'r Arglwyddi sy'n lluosog a llaw'r brenin yw'r unugol barhaus. Rwyf wedi creu rhestrau o'r Arglwyddi, lle mae'ch restr chi o'r llawiaid? Does dim sens yn dy ddadl;, na dadl eraill, mae y rhaglawiaid sy'n lluosog nid yr arglwyddi. @Craigysgafn: (sgwrs)

Mae'r hyn a ddywedwch yn gwbl resymegol, Alwyn. Ac yn reddfol, mi fyddwn i wedi dweud "Arglwyddi rhaglaw", hefyd. Ond fel mater o ffaith, pob un o'r awdurdodau y gallwn i ddod o hyd a ddywedodd mai "Arglwydd raglawiaid" oedd y lluosog. Yn arbennig, dwy i ddim yn sicr a ddylai Geiriadur yr Academi gael ei ddiystyru. --Craigysgafn (sgwrs) 10:29, 28 Awst 2022 (UTC)Ateb[ateb]
Craigysgafn:Er gymaint fy hoffter o Bruce Griffith fel cyfaill tafarn, doedd o ddim yn hanesydd. O ran cyfeiriadau dyma ychydig:- Tudalennau addysg TGAU BBC Bitesize"; Ac Eto . Datganiad Ariannu Cynulliad Cenedlaethol Cymru Ar Gyfer 2000-2001; Cymdeithas Tai Gogledd Cymru; Swyddfa Cymru, Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru; Yr Athro Prys Morgan; Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Mewn trafodaeth am bennu term am y rhai sy'n gweithio rhag llaw Ei Mawrhydi yng Nghymru, credwn fod defnydd Swyddfa Cymru a Llywodraeth Cymru yn hynod ddylanwadol AlwynapHuw (sgwrs) 05:55, 1 Medi 2022 (UTC)Ateb[ateb]
@AlwynapHuw: Diolch am eich ymchwil trylwyr! Mi allwn i gynhyrchu rhestr o wrthenghreifftiau, ond ni wnaf. Rydych chi wedi fy argyhoeddi! Oni bai bod rhywun yn gwrthwynebu, byddaf yn gwneud y newidiadau i enwau'r categorïau ayyb. - Dafydd (fy enw yn y byd go iawn) --Craigysgafn (sgwrs) 07:14, 1 Medi 2022 (UTC)Ateb[ateb]
Gan nad oes neb wedi gwneud sylw, rwyf wedi gwneud y newid. "Arglwyddi Rhaglaw" o hyn ymlaen. --Craigysgafn (sgwrs) 09:25, 10 Medi 2022 (UTC)Ateb[ateb]

ffiltro botiau[golygu cod]

Ces i gipolwg ar y newidiadau diweddar, ac roedd cyfraniadau gan Defnyddiwr:ListeriaBot, hyd yn oed os yn gosod y ffiltr "Dynol, nid bot", er bod y cyfrif hwnnw'n ymddangos yn gywir yn y rhestr o fotiau. Ydy rhywbeth o'i le gyda'r feddalwedd? Dani di Neudo (sgwrs) 19:54, 16 Mehefin 2022 (UTC)Ateb[ateb]

Pa hwyl, a diolch am hwn. Mae ffiltr lleol hwn yn nodi ei fod yn fot, ond mi adawais i neges ar dudalen sgwrs y gwneuthurwr Magnus dro'n ol. Dw i wedi codi'r peth eto ar github ac mae croeso i ti ehangu ar y broblem yn fano. Diolch eto am godi hwn! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:12, 22 Mehefin 2022 (UTC)Ateb[ateb]
Diolch am ei godi ar Github. Gwelwn a fydd rhywun yn ei drwsio neu gynghori i ni beth i'w wneud. Dw i'n gweld bod rhywun wedi ymateb i ddweud eu bod nhw'n gweld yr un broblem ar trwiki hefyd. --Dani di Neudo (sgwrs) 20:33, 13 Gorffennaf 2022 (UTC)Ateb[ateb]

Cymorth i greu Cymorth Wicidestun[golygu cod]

Mae Wicidestun yn adnodd pwysig. Adnodd mor bwysig dylai fod yn ganolog i holl brosiectau'r Wici Gymraeg. Mae'n cynnig llyfrau sy'n gyfeiriadau ar gael i erthyglau Wicipedia, mae'n cynnwys ffynhonnell dyfyniadau i Wiciddyfynu Cymraeg a sawl gair anghyfarwydd gellir eu hegluro ar y Wiciadur. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yr wyf wedi llwyddo, efo ychydig o gymorth, i "gyhoeddi" 63 o lyfrau, sydd yn chwiladwy o gais ar Google etc. Rwyf wedi sganio ac uwchlwytho tua 80 o lyfrau eraill sydd heb eu cyffwrdd eto. Mae gennyf fwy na 60 o lyfrau yn fy nghasgliad personol, addewid o 5 llyfr y mis gan lyfrgelloedd gogledd Cymru heb sôn am y cannoedd o lyfrau Cymraeg sydd wedi eu sganio gan Google. Ond mae wedi dod yn fwy o gig na allwn gnoi, bellach. Mae angen imi ofyn cymorth yn y gwaith. Mae creu tudalennau Wicidestun yn (ddiflas) o hawdd, y broblem yw bod y tudalennau cymorth (Saesneg) yn uffernol o gymhleth i'w dilyn. Da o beth byddai gweld yn htrach nag egluro! Mae gennyf raglen creu fideo i ddangos be dwi'n gwneud, ond fel hynafgwr byddar efo dannedd gosod gwael dydy fy lleferydd ddim yn ddigon eglur i greu fideo sain cymorth Pe bawn yn creu fideo mud efo sgript a fyddai modd i rywun arall ei drosleisio imi, neu dangos imi sut i ddefnyddio'r sgript fel is deitlau? AlwynapHuw (sgwrs) 03:58, 8 Gorffennaf 2022 (UTC)Ateb[ateb]

Haia Alwyn. Mi gynigiais gwneud fideo fel hwn chwe mis yn ol mewn gohebiaeth atat, ac mae'r cynnig yn dal i sefyll. Uwchlwytha dy fideo i'r cwmwl yn rhywle a danfona ddolen ataf; mi dyna i'r sain oddi arno a'i isdeitlo. Byddai fideo holi-ac-ateb sut mae mynd ati i brawfddarllen y llyfrau ti wedi eu sganio yn ffordd dda hefyd. Llywelyn2000 (sgwrs) 08:12, 11 Gorffennaf 2022 (UTC)Ateb[ateb]
@AlwynapHuw: Gest ti afael ar rywun i ddarllen y sgript? Os nad, ti isio i mi wneud? Llywelyn2000 (sgwrs) 11:13, 12 Ebrill 2023 (UTC)Ateb[ateb]

Teipo ar dudalen "Canlyniadau'r chwiliad"[golygu cod]

Chhwaer.jpg

Oes modd i rhywun efo'r hawl i olygu y tudalen "Canlyniadau'r chwiliad" cywiro camgymeriad ar y tudalen sydd wedi bod yno am flynyddoedd? Ar ochr dde y dalen ceir awgrymiadau o ganlyniadau chwilio o chwaer prosiectau Wicipedia. Ond mae na h diangen rhwng y "ch" a'r "w" yn chwaer. AlwynapHuw (sgwrs) 19:25, 23 Gorffennaf 2022 (UTC)Ateb[ateb]

Fedri di ail-greu hwn a danfon dolen i'r dudalen lle mae'n ymddangos? Dw i newydd chwilio ar TranslateWiki, a dim son amdano. Diolch. Llywelyn2000 (sgwrs) 13:09, 5 Awst 2022 (UTC)Ateb[ateb]
@Llywelyn2000: Rho'r ymchwiliad Chwedlau'r Aelwyd i mewn i'r blwch CHWILIO ar ben unrhyw dudalen Wicipedia. Does dim erthygl o'r enw ar Wicipedia, ond mae llyfr (uffernol o ddiflas) gyda'r teitl ar Wicidestun. Felly bydd y chwiliad yn creu'r awgrym chhwaer-brosiectau a'r ochr dde'r sgrin gyda linc i'r llyfr Wicidestun (ar gyfrifiadur desg, dim yn gwybod be sy'n digwydd efo'r wedd symudol). Rhyw hanner cof mae::@Jason.nlw: a greodd, neu a osododd y nodwedd, blynyddoedd maith yn ôl yn y cyfnod pan oeddem yn brin iawn o erthyglau ac yn meddwl am ffurf i beidio â chael gormod o chwiliadau cwbl aflwyddiannus. AlwynapHuw (sgwrs) 00:44, 6 Awst 2022 (UT

Diweddaru côd Wiki chwiorydd[golygu cod]

Problem ar Wicidestun, Wicidyfynu a Wiciadur, yw eu bod wedi eu creu blynyddoedd yn ôl ac wedi eu gadael fel marciau i sefyll bwlch heb eu datblygu o ran cynwys na chôd, erstalwm. O Geisio creu "Opera Infobox" ar Wicipedia, mae'n hawdd, copïo "Opera Infobox" i "Nodyn:Opera" a chyfieithu ambell i air. Ar y chwaer prosiectau mae bron yn amhosibl; yn rhannol gan nad oes cysylltiad rhwng y rheol "Opera Infobox" i "Nodyn:Opera". Ar Wicidestun mae "Nodyn:Opera yn dal i chwilio am "Opera Infobox" ac yn methu ei chael ac yn dal i chwilio. Rwyf wedi trio defnyddio y drefn sy'n creu } yn ôl ei ddefnydd rheolaidd, heb lwyddiant gan bod pob rheol yn y broses yn alw am reol arall Rwy'n hoff o hel achau, ond mae mynd i ddegfed ach "template" yn mwy na digon i mi. Heb ddeallt sut mae bol y peiriant yn gweithio; a fyddai defnyddio un o'r bots i lawrlwytho pob templed nodyn a themplad o fan hyn i bob chwaer prosiect yn gymorth? AlwynapHuw (sgwrs) 02:48, 6 Awst 2022 (UTC)Ateb[ateb]

Fy awgrym ydy canolbwyntio ar y testun ac nid yr allanolion, Alwyn. O ran gwybodleni, mae defnyddio'r dair nodyn (Pethau, Person a Lle) yn llawer haws na mewnforio miloedd o nodion o cy-wici / en-wiki; byddai mewnforio gyda bot yn bosib, yn hynod o gymhleth. Pa nodion / templedi ydy'r pwysicaf i'w cael ar Wicidestun, Alwyn? Efallai y byddai rhestr o'r pwysicaf yn rhoi brasamcan o'r gwaith. Llywelyn2000 (sgwrs) 14:52, 12 Awst 2022 (UTC)Ateb[ateb]

Ffilmiau[golygu cod]

Dw i di rhoi trefn ar gronfa o ffilmiau (cofio trafod hyn gyda @Dafyddt: yng Nghaerdydd, flynyddoedd yn ol) a mi fyddaf yn cyhoeddi rhyw ddeg i bymtheg erthygl, o dipyn i beth, er mwyn cael eich awgrymiadau / bendith! Dw i newydd roi un o'r lleiaf yma: Die Hände Meiner Mutter a daw rhagor cyn hir! Fel sy'n arferol, os nad oes gwybodaeth, yna mae na sawl Nodyn yn disgwyl ei amser, yn guddiedig, a phan ddaw rhagor ar Wicidata, mi wneith y brawddegau priodol flodeuo'n weledol i'r darllenydd. Diolch! ON Mae'n amhosib edrych ar bob ffilm ac adolygiad i weld a ydyw'n nodedig, ond fy llinyn mesur ydy hyn: os yw ar Wicipedia iaith arall, yna mae'r iaith honno'n credu ei bod yn nodedig. Dylem gael ffydd yn y wicis erill yn fy marn bach i. Dyma wnaethom ni efo'r erthyglau ar y menywod rhyw 6 mlynedd yn dol. OON mi wna i'r categoriau wrth fynd ymlaen, ond am y tro mi adawai nhw'n goch hyll! @Craigysgafn, Adda'r Yw:. Cofion... Llywelyn2000 (sgwrs) 13:41, 5 Awst 2022 (UTC)Ateb[ateb]

@Craigysgafn: Diolch - ro'n i'n gweld sawl erthygl heb italeiddio enwau ffilm pan edrychais ryw fythefnos yn ol, ond wedi edrych ymhellach, heddiw, yn dilyn dy olygu, mae'r rhan fwyaf wedi'u hitaleiddio! A does dim gwahaniaeth rhwng ffilm a llyfr yn nagoes? Does fawr o gysondeb ar de-wici chwaith, ond mi ddilynaf dy safon gyda'r gweddill. Diolch yn fawr am d'amser ar hyn. Llywelyn2000 (sgwrs) 16:08, 6 Awst 2022 (UTC)Ateb[ateb]
@Llywelyn2000: Dylai enwau llyfrau (ac eithrio llyfrau'r Beibl), cylchgronau, dramâu, ffilmiau, cyfresi teledu, albymau, paentiadau, cerfluniau, llongau, locomotifau a phethau tebyg fod mewn italig. Enwau gweithiau cerddorol hefyd gan mwyaf, ond y mae yna eithriadau (rhy gymleth i'w sgwennu ar gefn paced ffags). Mi dreuliais oes yn trin y math hwn o bethau. 'Sdim syndiad 'da fi pam na ddefnyddiwyd italig gan yr erthygl Die Hände meiner Mutter ar dewici. Mae ganddyn nhw'r un rheolau. --Craigysgafn (sgwrs) 19:17, 6 Awst 2022 (UTC)Ateb[ateb]
Ew, bendigedig! Mi wnai gywiro'r gronfa ddata. Diolch! Llywelyn2000 (sgwrs) 05:03, 7 Awst 2022 (UTC)Ateb[ateb]

Y teitl: fel y cytunwyd dro'n ol, mae teitlau ffilmiau tramor, ar wahan i'r Saesneg wedi eu cyfieithu - i raddau helaeth! Dw i'n siwr fy mod wedi methu rhai, ac mae problem pan fo'r ffilm wedi'i chyhoeddi mewn sawl iaith. Ar y cyfan, mae'r rheol wedi'i pharchu. Llywelyn2000 (sgwrs) 14:45, 12 Awst 2022 (UTC)Ateb[ateb]

Gwaith gwych! Ond, ynghylchGwobr i'r Gwrthryfelwr: dyma ffilm Rwseg o'r cyfnod Sofietaidd. O ble daeth y teitl Almaeneg "Kopfgeld für den Aufrührer", tybed? Cyn belled ag y gallaf ganfod, ystyr yr enw Rwseg gwreiddiol - Белый башлык - yw "Cwfl gwyn", gan gyfeirio at benwisg y Cosaciaid. --Craigysgafn (sgwrs) 17:19, 12 Awst 2022 (UTC)Ateb[ateb]
Dylwn fod wedi sylwi ar hyn! Mae'n dangos fod y wybodaeth, hefyd, ar WD yn ddiffygiol weithiau (newydd ei ychwanegu), ond mae'n brosiect sy'n datblygu'n sydyn, a gwallau a bylchau'n lleihau o ddydd i ddydd. Dw i newydd ychwanegu dy awgrym o deitl Cymraeg. Gwell o lawer! Diolch! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:19, 13 Awst 2022 (UTC)Ateb[ateb]
Diolch am yr awgrymiadau @Deb, Craigysgafn: ychwanegwyd y Default Sortcode bondigrbs, a manion eraill! Llywelyn2000 (sgwrs) 08:38, 16 Awst 2022 (UTC)Ateb[ateb]
Ychwanegwyd 'Seiliwyd y gwaith ar...' gw. Elle (ffilm, 2016). Llywelyn2000 (sgwrs) 11:52, 17 Awst 2022 (UTC)Ateb[ateb]
Cymer ofal! Cynhwyswyd y camsyllafiad "Fflimiau" yn y set ddata! Anodd sylwi arno! --Craigysgafn (sgwrs) 17:23, 17 Awst 2022 (UTC)Ateb[ateb]
Do, ond fe'i cywirwyd rhyw 5 diwrnod yn ol! Newydd weld fod rhai heb eu cywiro - diolch am fynd ati! Mae'r i a'r l mor debyg yn aml! ON - fe'i cywirwyd mewn un db ond nid y llall! Mae'r ddwy yn gywir rwan, diolch i ti!Llywelyn2000 (sgwrs) 11:10, 18 Awst 2022 (UTC)Ateb[ateb]
@Llywelyn2000:Y teitl: fel y cytunwyd dro'n ol, mae teitlau ffilmiau tramor, ar wahan i'r Saesneg wedi eu cyfieithu. Dwi ddim yn siwr pa mor ddefnyddiol ydy hyn. Cliciais ar Y Rhan Fwyaf Fan Fwyaf a gan nad oes dolen at erthygl mewn iaith arall a dwi ddim yn siarad Hwngareg, does dim modd i mi ganfod y teitl gwreiddiol. Beth sydd o'i le ar yr hen arfer " Teitl gwreiddiol y ffilm oedd Die Hände meiner Mutter (cyfieithiad: 'Dwylo mam') "?
Sori os ydy hyn wedi ei nodi'n rhyw;e arall ond ar erthygl Monolith, ar y gwaelod lle mae'n rhestru enwau ffilmiau eraill gan yr un cyfarwyddwr, mae'n dangos cyfeirif WD y ffilm, nid ei theitl. Hefyd mae'r ffilm wedi ei chynnwys yn y categori Dramâu o'r Eidal, sy'n anghywir, a Ffilmiau gan gyfarwyddwyr ffilm gwrywaidd Saesneg - gweld o'n chwithig nodi bod cyfarwyddwr yn siarad Saesneg ond nid ei fod yn Eidalwr (nac yn siarad Eidalegǃ)--Rhyswynne (sgwrs) 10:27, 15 Medi 2022 (UTC)Ateb[ateb]
Mae'r erthyglau wedi'u cytuno a'u cyhoeddi, felly rwyt ti braidd yn hwyr yn danfon dy sylwadau Rhys. Ond mi wnaf drafod dy ymateb.
Y teitl - enwau ffilmiau estron: croeso i ti ail godi'r polisi yn rhywle arall. Yn y polisi mi weli hefyd fod y defnydd yn yr iaith wreiddiol yn cael ei ganiatau. Mae'r dewis yno. Yr hyn sydd ddim yn cael ei ganiatau ydy cyfieithu enwau tramor i'r Saesneg! Dim dolen? Ddim ar y swp diweddaraf. Os edrychi ar y bot yn fama mi weli ei fod wrthi fel lladd nadroedd yn gweud hynny. Nid mewn munud neu ddau mae dyblu'r nifer o erthyglau ar cywici, Rhys. Beth sydd o'i le ar Teitl gwreiddiol y ffilm oedd Die Hände meiner Mutter (cyfieithiad: 'Dwylo mam')...? Dim byd. Piti nad awgrymwyd hynny cyn eu cyhoeddi. I mi mae'r ddwy ffordd cystal a'i gilydd.
Monolith - Qid yn hytrach na'r teitl - ydy. Ychwanega'r teitl ar Wicidata a mi wneiff ymddangos. Mae'r Qid yn ymddangos pan nad oes neb wedi ychwanegu'r teitl cy neu en ar WD: bydd hynny'n digwydd fel rhan o'r prosiect. Rwyt yn nodi gweld o'n chwithig nodi bod cyfarwyddwr yn siarad Saesneg ond nid ei fod yn Eidalwr. Os darlleni eilwaith, Rhys, fe weli fod yr erthygl yn nodi mai yn Saesneg y sgwennwyd y sgript. Mae hefyd yn nodi Ganwyd y cyfarwyddwr ffilm Ivan Silvestrini ar 22 Ionawr 1982 yn Rhufain. sy'n hollol gywir. Llywelyn2000 (sgwrs) 11:19, 15 Medi 2022 (UTC)Ateb[ateb]
Dallt bod yr erthygl yn cynnwys bod o'n medru'r Seaesneg, neu gellir dyfalu hynny, a'i fod o Rufain. Meddwl o'n i os oedd modd rhoi tweak i'r bot gynnwys/creu categori yn nodi ei famiaith ac o ba wlad mae'n dod (ond dwi'n dallt dim am ba mor drafferthus ydy hynny wedynǃ). Ond eto dydy'r manylion hyn ddim o bwys mawr gan mai'r ffilm ei hun yw'r ffocws a bod pethau pwysicach i'w gwneud. Rhyswynne (sgwrs) 12:17, 15 Medi 2022 (UTC)Ateb[ateb]

@Deb, Craigysgafn: I enwau ffilm gyda dim ond un neu ddau gair, a all gael sawl ystyr, sawl erthygl gwahanol, dwi wedi ychwanegu (ffilm, blwyddyn), sy'n diogelu gwarthdaro nes ymlalen. Rheswm arall dros gynnwys y cromfachau yw gan fod sawl ffilm gyda'r un enw'n bod, ac os nad oes gwahaniaethu, chaiff yr ail erthygl ddim ei chreu. Yn drydydd, mae'r cromfach hefyd yn esboniad o beth yw cynnwys yr erthygl, mewn categoriau, gan fod llawer o'r enwau mewn iaith ddiarth. Gallaf ddileu'r cromfachau i gyd, neu eu cadw i gyd; ond does dim modd rhagweld pa rai sydd o'r un enw ar WP neu heb eto eu creu. Dewisiwch chi! Llywelyn2000 (sgwrs) 13:58, 18 Awst 2022 (UTC) Iaith ffilmiau tramor - mae'r rhain naill ai yn yr iaith wreiddiol (ee Tsieineeg a Ladineiddiwyd), neu yn y Gymraeg. Hyd nes fod erthygl newydd yn cael ei chreu, mae'n ymddangos mewn Saesneg ar adegau, gan mai dyna a roddwyd ar WD fel arfer. Er enghraifft - y tabl ar waeld Dwrn y Ddraig. Bydd y rhain yn newid wrth i deitlau'r erthyglau newydd gael eu rhoi ar WD. Llywelyn2000 (sgwrs) 14:12, 18 Awst 2022 (UTC) @Llywelyn2000: Dw i'n gallu ddeall eich rhesymu ond dw i ddim yn siŵr ei fod yn syniad da i ychwanegu "disambiguator" i deitl yr erthygl Cymraeg os nad yw'n hanfodol. Deb (sgwrs) 14:13, 18 Awst 2022 (UTC)Ateb[ateb]

O ce, Deb, dim problem. Allan a nhw! Llywelyn2000 (sgwrs) 14:49, 18 Awst 2022 (UTC)Ateb[ateb]
Does dim barn gref gen i un ffordd neu'r llall. Yn sicr, mae rhesymau da dros roi'r wybodaeth hon mewn cromfachau ymlaen llaw – anaml y bydd cyfranwyr yn gwneud prawf ar eu holl ddolenni i wneud yn siŵr eu bod yn mynd i'r pen taith cywir. Fyddai rhywbeth mor annelwig ag "Elle" byth yn syniad da heb gronfachau. Byddai "Xalq Nəğməkarı" yn eithaf saff ar y llaw arall. Penderfynu fesyl achos, sbo. --Craigysgafn (sgwrs) 19:01, 18 Awst 2022 (UTC)Ateb[ateb]
Diolch i ti! Dw i wedi dileu'r cromfachau ar wahan i teitlau yn y gronfa ddata sy'n cael eu dyblygu. Gallem 'benderfynu fesyl achos' unwaith maent wedi eu cyhoeddi. Ond, os yw'r teitl yn bodoli ar wici'r barod, wneith o ddim creu erthygl. Efallai ar y diwedd y gallwn gyhoeddi'r rhain bob yn un, gyda llaw.
Yn ddigon eironig, bydd angen sicrhau fod ffilmiau Cymraeg yn gywir, ac mae na lawer ar goll hefyd, nad ydynt ar WD! Wicibrosiect: Ffilmiau Cymraeg?
Os nad oes gwelliant / sylw arall, mi af ati i'w cyhoeddi. Llywelyn2000 (sgwrs) 09:14, 25 Awst 2022 (UTC)Ateb[ateb]
Wedi cael y db gan ̣̪Llywelyn2000. Mi af ati cyn hir i gyhoeddi rhai erthyglau gyda'r bot. Mae hyn yn gyffrous iawn! Sylwadau os oes gwallau, os gwelwch yn dda, er mwyn i mi eu cywiro. Sian EJ (sgwrs) 13:20, 31 Awst 2022 (UTC)Ateb[ateb]
Edrych yn dda! Cwpl o awgrymiadau:
yn 19xx > ym 19xx [Dwywaith, weithiau 3! Ond gadael blynyddoedd 2000+ gyda "yn"]
Sgwennwyd y sgript yn wreiddiol mewn [iaith] > yn [iaith]
Mae'r ffilm xxx yn zzz munud o hyd > Mae'r ffilm xxx zzz munud o hyd
ator/ion > actorion [neu weithiau, actor]
bydeang > byd-eang
//
Hefyd, mae brawddegau fel "Hyd at 2022 roedd o leiaf 66300 o ffilmiau Saesneg wedi gweld golau dydd." yn ymddangos braidd yn od ar gyfer ieithoedd fel Saesneg, er ei fod i'w weld yn berthnasol ar gyfer ffilmiau mewn ieithoedd mwy anarferol. Roedd ambell i fwlch gwyn na ddylai fod yno efallai hefyd.
Pob lwc efo'r bot! Llygad Ebrill (sgwrs) 14:44, 31 Awst 2022 (UTC)Ateb[ateb]
@Llygadebrill: diolch am y rhain! Dw i'n cytuno, ac wedi newid pob un ar y db ar wahan i:
yn 19xx > ym 19xx - y dull modern o ddweud 1984 ydy "un-naw-wyth-pedwar", a dyna mae'r mathemategwyr yn ei argymell. Mae "un-dau-wyth-dau" yn llawer mwy llithrig a phoblogaidd na "mil-dau-wyth-dau". Mae'r naill neu'r llall yn dderbyniol yfmi, a'r ddau'n cael ei defnyddio ar WP; ond os yw dy farn yn gryf am hwn, mi wna i ei newid.
mewn [iaith] > yn [iaith] -> mi fum yn pendroni cryn dipyn am hyn. Ti'n iawn "yn Gymraeg" a ddywedwn fel arfer, ond mae "mewn Cymraeg" hefyd yn gywir. A phan drown at ieithoedd eraill, dw i'n meddwl ei bod yn haws deall "Sgwennwyd y sgript yn wreiddiol mewn Tsienieeg" nag yw dweud "Sgwennwyd y sgript yn wreiddiol yn Tsienieeg". Ond os yw dy farn yn gryf am hwn, mi wna i ei newid.
Mae'r ffilm xxx zzz munud o hyd. Fedrai ddim gweld sut fod hyn yn gywir. I mi, mae: Mae'r ffilm Titanic yn 70 munud o hyd. yn swnio'n naturiol, yn gywir, ond mae dweud Mae'r ffilm Titanic 70 munud o hyd. yn annaturiol, yn angyflawn.
Diolch eto! Mi ddaliai nol cyn trosglwyddo'r db i Sian, a rho wybod dy ymateb a pha mor gryf yw dy farn arnyn nhw! Mae cyfaddawd wastad yn bosib! Cofion cynnes.... Robin aka Llywelyn2000 (sgwrs) 08:53, 1 Medi 2022 (UTC)Ateb[ateb]
Diolch am hyn! Yr unig un dw i'n teimlo'n gryf yn ei gylch yw "mewn [iaith]". Yng nghyd destun brawddegau fel "Sgwennwyd y sgript mewn Cymraeg cywir"/"mewn Saesneg llafar"/"mewn Ffrangeg llenyddol" ac ati mae "mewn Cymraeg" yn gywir - ond mae "Sgwennwyd y sgript mewn Saesneg" yn swnio'n anghywir i mi. Mae'r prawf Google yn cadarnhau bod "yn Ffrangeg/yn Almaeneg" tua 10x fwy cyffredin na'r fersiynau gyda "mewn". Gyda ieithoedd llai cyfarwydd i'r darllenydd (megis Kannada!) efallai fyddai aralleiriad ("Kannada yw Iaith y sgript wreiddiol") yn ffordd well o osgoi amwysedd?
Hapus gyda'r frawddegau eraill - a rhaid syrthio ar fy mai, newydd weld bod Peter Wynn Thomas yn argymell "yn 1964" hefyd... Cofion Robin aka Llygad Ebrill (sgwrs) 09:38, 1 Medi 2022 (UTC)Ateb[ateb]
Gwych iawn! A finnau'n derbyn 'Yn [iaith]' yn llawen! Diolch eto! Mi drosglwyddai'r gronfa i Sian rwan. Ond fe gwyd gwallau, yn sicr, ac os y gweli unrhyw nam, plis rho wybod iddi, neu i mi. ON Anaml y ceir dau robin yn yr un ardd! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:08, 2 Medi 2022 (UTC)Ateb[ateb]

Ffilmiau: Chingari (ffilm o 2013), El Galleguito De La Cara Sucia, Gwobr i'r Gwrthryfelwr, 12 Angry Men, 2001: A Space Odyssey, Xalq Nəğməkarı (ffilm, 1963) (un o'r lleiaf), 14, Fabian Road, 23-F: La Película, A Poor Wife's Devotion, Doedden Nhw'n Amser Da? (un o'r lleiaf), Rhyfel y Twneli (y lleiaf un!), Aah (ffilm, 1953), Elle (ffilm, 2016) (un o'r hiraf) a 37,2 °C Le Matin.

Gofal![golygu cod]

@Sian EJ:@Bot Sian EJ: Dw i'n credu bod problem fach pan fo erthygl gyda'r teitl yn y BD yn bodoli eisoes - gweler Blondie! Roedd yr un peth wedi digwydd gyda Diwan ond dw i wedi tacluso hwnnw bellach. Dw i ddim yn siŵr ydy'r un peth wedi digwydd gydag erthyglau eraill oherwydd mae cyfraniadau'r bot mor niferus (chwarae teg!!) - oes ffordd gennych chi o wirio? --Llygad Ebrill (sgwrs) 13:45, 15 Medi 2022 (UTC)Ateb[ateb]

Wedi bod yn chwilio, mae hyn wedi digwydd i lot o dudalennau: [1] @Bot Sian EJ @Llywelyn2000 Llygad Ebrill (sgwrs) 14:05, 15 Medi 2022 (UTC)Ateb[ateb]
Diolch am hyn! Yn enwedig am yr ail ymchwiliad - handi iawn! Dylai hyn ddim fod wedi digwydd, pan oedd gennym y dyddiad ar ol teitlau un gair (Blondie (ffilm, 1998). Mae na reswm arall, yn ol Sian (newydd gael ebost) - anghofiodd droi'r botwm 'Skip if article exists' ymlaen ar ddau o'r pedwar bot am gyfnod o ryw awr. A gyda dy ymchwiliad / dolen di, gallwn ddadwneud y golygiad. Oherwydd pwysau gwaith (a Chorwen yfory!) bydd raid aros diwrnod neu ddau! Diolch eto! Llywelyn2000 (sgwrs) 14:52, 15 Medi 2022 (UTC)Ateb[ateb]

Yes check.svg Cwblhawyd

Roedd rhai y diwrnod cynt hefyd! Cyfanswm dros 360: pob un wedi'u cywiro bellach. Yr olaf oedd Election. Diolch Llygadebrill! Llywelyn2000 (sgwrs) 11:21, 17 Medi 2022 (UTC)Ateb[ateb]

Erthyglau "amddifad"[golygu cod]

Gan fod nifer o'r ffilmiau yn "erthyglau amddifad", a oes iws i erthyglau fel hyn Defnyddiwr:AlwynapHuw/1952 mewn ffilm (gweddol) hawdd eu creu gyda'r teclyn cyfieithuAlwynapHuw (sgwrs) 06:35, 25 Hydref 2022 (UTC)Ateb[ateb]

Whaw! Oes wir! Mi wnest ti rywbeth tebyg efo trefi UDA, blwyddyn neu ddwy yn ol. Diolch Alwyn! Llywelyn2000 (sgwrs) 09:06, 27 Hydref 2022 (UTC)Ateb[ateb]

Gwall yn y cod[golygu cod]

Mae'r testun canlynol yn ymddangos yn y rhai diweddarː fFe'cynhyrchwyd --Rhyswynne (sgwrs) 09:49, 13 Hydref 2022 (UTC)Ateb[ateb]

Doleni[golygu cod]

Gan fod trafodaeth wedi bod am yr actor Cymreig Naunton Wayne ar Twitter yn niweddar edrychais yn ôl ar yr erthygl dechreuais amdano yn 2019. Doedd dim dolen glas at yr 20 erthygl newydd a grewyd gan y brosiect yma yn y rhestr "Ffilmograffi" yn yr erthygl nac ychwaith o'r erthyglau newydd at ei fywgraffiad. Oes modd creu cysylltiadau priodol gyda bot neu a fydd rhaid gwneud y gwaith o greu cysylltiadau a llaw a llygad? AlwynapHuw (sgwrs) 07:10, 14 Hydref 2022 (UTC)Ateb[ateb]

Sorri Alwyn - newydd weld hwn ydw i! Mi edrychai arno nes ymlaen! Diolch! Llywelyn2000 (sgwrs) 12:34, 7 Tachwedd 2022 (UTC)Ateb[ateb]

Cyfieithu teitlau (eto), ffilmiau Basgeg[golygu cod]

Dw i newydd symud "Cytiau Leku, Beteak Hitz" i Leku hutsak, hitz beteak, ella bod pethau sy'n edrych fel geiriau Saesneg wedi eu "cyfieithu" yn ddamweiniol!! "huts" ydy "gwag" yn y Fasgeg, does dim sôn am gytiau yn y ffilm am wn i :D Wna i weithio'n raddol trwy'r 86 ffilm Fasgeg, ond efallai bod werth i rywun wirio rhai o'r ieithoedd eraill. Dadl dros osio tuag at y teitl gwreiddiol pan fo ansicrwydd, efallai.

Os dw i'n cyfri'n iawn, dw i wedi symud 37 o blith yr 86 tudalen yn y categori https://cy.wikipedia.org/wiki/Categori:Ffilmiau_Basgeg. O blith y 37, roedd o leiaf 9 o'r teitlau yn nonsens llwyr - fy ffefryn oedd "zati bat" (un tamaid bach) wedi troi'n ystlum! Wnes i symud y lleill am nifer o resymau - gan roi blaenoriaeth i'r teitl gwreiddiol dros gyfieithiadau i'r Saesneg a'r Sbaeneg. Ar gyfer prosiectau mawr o'r fath yn y dyfodol, dw i'n credu mai callach byddai gosod y teitl gwreiddiol yn yr iaith wreiddiol fel teitl, gyda'r "cyfieithiad" i'w wirio yng nghorff yr erthygl. --Llygad Ebrill (sgwrs) 11:43, 22 Ebrill 2023 (UTC)Ateb[ateb]
O Mam bach! Ia, cytuno! Diolch am dy waith ar y rhain hefyd! Efallai Google yn cyfieithu'r ieithoedd mwy yn well, ond dw i'n siwr y bydd gwallau yn y rheiny hefyd! Llywelyn2000 (sgwrs) 13:07, 26 Ebrill 2023 (UTC)Ateb[ateb]

Etholiad Sefydliad Wicimedia: angen cyfaill[golygu cod]

Mae na bleidlais yn fama ar gyfer un o brif bwyllgorau Wicimedia canolog (Sefydliad). Fel Grwp Defnyddwyr, mae gennym un bleidlais. Rhowch wybod i mi os ydych yn awyddus i bleidleisio dors un o'r rhain. Yn bersonol, mae na ddau yn dod i'r brig: Mike Peel, gan ei fod wedi cynorthwyo cywici sawl gwaith dros y 10 mlynedd diwethaf, a Farah Jack Mustaklem un o sefydlwyr y Grwp Defnyddwyr Lavant, a fu'n cydweithio gyda ni yn y Golygathon Palesteina-Cymru-Cernyw. Diolch! Llywelyn2000 (sgwrs) 15:54, 6 Awst 2022 (UTC)Ateb[ateb]

Mae cysylltiadau personol o'r math hyn yn bwysig. Rwy'n hapus i ddilyn dy arweiniad, Robin. --Craigysgafn (sgwrs) 19:40, 6 Awst 2022 (UTC)Ateb[ateb]
O'r profiad bychan rwyf wedi cael efo Wici tu allan i Wici Cymraeg, fy argraff yw bod y rhan fwyaf o uwch swyddogion y mudiad yn gwbl anwybodus ac yn gwbl ddi-hid i'r problemau y mae Wicis llai eu defnydd yn eu hwynebu. Mae'r ffaith bod un ohonynt, Farah Jack Mustaklem, wedi cyd weithio a phrosiect efo Wici Cymru a Wici Cernyw, yn awgrymu un a allasai bod a mwy o ddealltwriaeth a chydymdeimlad ag anghenion y Wicis llai.AlwynapHuw (sgwrs) 21:51, 9 Awst 2022 (UTC)Ateb[ateb]
Diolch i chi! Newydd bleidleisio i'r ddau (a dau yn unig) y bore ma. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:24, 26 Awst 2022 (UTC)Ateb[ateb]
Mi dderbyniais i gwahoddiad i bleidleisio hefyd (dim yn sicr paham) y dau sy'n adnabyddus i Wici Cymru cafodd fy mhleidlais hefyd AlwynapHuw (sgwrs) 18:47, 26 Awst 2022 (UTC)Ateb[ateb]
Fi hefyd... --Craigysgafn (sgwrs) 19:51, 26 Awst 2022 (UTC)Ateb[ateb]

Delweddau wedi'u huwchlwytho gyda "chaniatâd gan y crëwr"[golygu cod]

Mae Delwedd:Eisteddfod 2012.gif wedi cael ei huwchlwytho dan y drwydded "Rhyddhawyd y ddelwedd hon gan Eisteddfod Genedlaethol Cymru, i'w defnyddio mewn erthyglau'r Wicipedia Cymraeg yn unig." Mae'n glir, ar sail beth mae Nodyn:Caniatâd gan y crëwr (sy'n dyddio o 2011) yn ei ddweud, nad yw hyn yn drwydded ddilys ar gyfer defnydd Wicipedia. Dw i wedi tagio'r ddelwedd gyda'r nodyn honno, ac bydd rhaid ei dileu oni bai bod modd rhoi rhyw drwydded dderbyniol yn ei lle - a chyn i ni allu wneud hynny, dw i'n dychmygu y byddai rhaid i rywun fynd nôl i bwyllgor yr Eisteddfod i ofyn am ganiatâd i'w rhyddhau dan y drwydded CC-BY-SA-3.0, gan dynnu eu sylw at destun y drwydded er mwyn iddynt allu gweld y byddai hynny'n rhoi hawliau sy'n ymestyn i drydydd partïon yn ogystal â Wicipedia ei hun, gan gynnwys y rhai masnachol, er mwyn iddynt allu gwneud penderfyniad gwybodus. Ond fyddwn i ddim yn gwybod sut i chwilio am restr lawn o ddelweddau sy wedi cael eu copïo o wefan yr Eisteddfod ac sy'n defnyddio'r drwydded annilys honno - mae'r drafodaeth (a ddigwyddodd yn 2009) yn cyfeirio at "rhai o'r lluniau sydd ar eich gwefan", felly mae'n debyg bod delweddau eraill y mae hyn yn effeithio arnynt yn bodoli rywle. Ydy unrhyw un yn gwybod sut i chwilio amdanynt? Gyda llaw, rhywbeth arall dw i'n sylwi arno yma yw bod caniatâd a roddwyd yn 2009, ynglŷn a delweddau oedd ar eu gwefan ar y pryd, wedi cael ei ddefnyddio i gyfiawnhau uwchlwytho ffeil gyda logo Eisteddfod 2012, sy braidd yn sicr i fod heb wedi bodoli eto pan roddwyd y caniatâd. Ni cheir gwneud rhywbeth tebyg oni bai eu bod nhw'n gwneud datganiad diamwys nad yw'r caniatâd yn ymwneud â ffeiliau sy'n bodoli yn unig, ond hefyd i unrhyw ffeil (neu ffeil o ddisgrifiad penodol) a grëir yn y dyfodol. Annhebyg iawn y byddent yn caniatáu â chais fel hynny yn fy marn i. Dani di Neudo (sgwrs) 10:54, 15 Awst 2022 (UTC)Ateb[ateb]

Croeso i ti leihau unrhyw gydraniad uchel, ac ychwanegu trwydded Defnydd Teg ar luniau fel hyn. Llywelyn2000 (sgwrs) 14:12, 15 Awst 2022 (UTC)Ateb[ateb]
Diolch. Gallai hynny weithio fel datrysiad, gan ddibynnu ar sut yn union mae'r ddelwedd yn cael ei defnyddio (mae'r rheolau am Ddefnydd Teg braidd yn gyfyngedig). Ond oes gan unrhyw un yma ateb i'r cwestiwn am sut i gael rhestr o'r delweddau sy wedi cael eu hychwanegu ar sail y caniatâd dan sylw? Anodd cychwyn cyn hynny. --Dani di Neudo (sgwrs) 16:38, 15 Awst 2022 (UTC)Ateb[ateb]
Llond llaw oedd ohonyn nhw. Os edrychi pa ddelweddau sydd a'r drwydded dan sylw (Beth sy'n cysylltu yma), yna ella y gweli di ragor. Pob hwyl! Llywelyn2000 (sgwrs) 11:54, 17 Awst 2022 (UTC)Ateb[ateb]
Gan bod Trefnydd newydd a Phrif Weithredwr newydd gan yr Eisteddfod ers 2009, efallai buasai'n werth cysylltu eto a gweld os gellir gwneud rhywbeth mwy ffurfiol lle maen nhw fel sefydliad naill ai'n lanlwytho detholiad o ddelweddau a logos eglurder isel, neu o leiaf yn eu darparu. Hwyrach y byddant yn gweld gwerth i'r peth os caiff ei werth fel arf marchnataǃ --Rhyswynne (sgwrs) 12:20, 2 Medi 2022 (UTC)Ateb[ateb]

Erthyglau awtomateg am lleoedd yng Nghymru - Adborth[golygu cod]

Helo Pawb - @Llywelyn2000, MathWilliams9, Lesbardd, Craigysgafn, Oergell, Cymrodor, Deb:@AlwynapHuw, Adda'r Yw, Stefanik, Dafyddt, Pwyll, Sian EJ, Jac-y-do:@Duncan Brown, Deri Tomos, Dafyddt, Heulfryn, Bobol Bach: Ar hyn o bryd rwy'n gweithio ar brosiect gyda cyllideb gan lywodraeth Cymru ac mewn partneriaieth efo Mapio Cymru a Menter Iaith Môn i gwella data a gwybodaeth Gymraeg am lleoedd yng Nghymru. Fel rhan o'r gwaith yma da ni wedi adnabod tua 850 o gymunedau yng Nghymru heb erthygl Cymraeg ac yn awyddus i creu erthyglau egin yn awtomatic efo data agored gan annog pobol yw gwella ar law trwy gyfres o ddigwyddiadau. Mae rhan fwyaf o'r erthglau yn pentrefi/pentrefanau bychan ond mae na hefyd llond law o 'ardaloedd trefol, ystadau tai mawr ayyb. Dyma 8 erthygl prawf o'r data dw'i wedi paratoi. Felly bydd e'n wych cael eich adborth ar unrhyw elfen o'r erthyglau gyda'r gobaith bydd modd cael caniatad y gymuned i cyhoeddu'r set cyfan. Mae gan pob un o'r erthyglau yn union yr un lefel o wybodaeth. Bydd e'n wych i gallu llenwi'r bylchau yma sydd ar Wicipedia am ein gymundau lleol. Diolch!

  1. Aber-Cywarch
  2. Cyntwell
  3. Gatlas
  4. Newbridge, Wrecsam
  5. Pandy, Dyffryn Ceiriog
  6. Pentre, Sir y Fflint
  7. Pont-rug
  8. Tyla-gwyn

Jason.nlw (sgwrs) 13:00, 24 Awst 2022 (UTC)Ateb[ateb]

Maent yn edrych yn dda, Jason. Cystal os nad well na nifer o'r erthyglau am gymunedau llawer mwy. Un pwynt bach o ran orgraff mae angen newid agosach i agosaf. Byddwn yn awgrymu newid "y pentref agosaf" i "y gymuned agosaf", i osgoi pethau fel "y pentref agosaf yw Dolgellau", (sydd yn dref). Pethau eraill gellir eu cynnwys o ddata (er hwyrach na fydd dim ar gyfer llefydd bychain) yw enwogion, adeiladau rhestredig/henebion, SSSIs &c. Mae'n ymddangos nad yw Wicidata yn gwybod bod Wrecsam yn ddinas bellach, rwyf bron yn sicr mae'r ddinas agosaf i Newbridge, Wrecsam yw Wrecsam, nid Caer. AlwynapHuw (sgwrs) 13:45, 24 Awst 2022 (UTC)Ateb[ateb]
(O.N.) O dderbyn bod y llywodraeth wedi cyllido y prosiect ar gyfer Cymru, gan bod y rhaglen hel data cymunedol wedi ei greu, a byddai modd ei redeg ar gyfer pob cymuned yn y DU, Ffrainc, Awstralia ac ati?AlwynapHuw (sgwrs) 13:55, 24 Awst 2022 (UTC)Ateb[ateb]
Diolch am yr adborth Alwyn mi wna'i gweithio ar y newidiadau yma. Wrecsam yn Dinas!? ers eleni mae'n debyg, felly bydd rhaid i mi datrys hynny yn y ddata. Cytuno bod potensial i neud mwy efo enwogion ayyb ond hoffwn creu erthyglau o safon cyson i ddechrau gyda scôp o wella grwpiau llai wedyn. Cwestiwn da am data tihwnt i Gymru. Un o'r pethau byddwn yn trafod fel rhan o'r prosiect yma yw sut allwn ni adeiladu ar hyn i gweithio tuag at map Cymraeg o'r byd, felly mae na tipyn o sgôp i gweithio mwy ar hyn dros y blynyddoedd i ddod. Jason.nlw (sgwrs) 14:53, 24 Awst 2022 (UTC)Ateb[ateb]
Gwaith da! Ond dyma droednodyn i'r hyn a ysgrifennodd Alwyn. Rwy'n cytuno yn gyffredinol, ond rwy’n meddwl y dylen ni ddefnyddio’r enw "cymuned" yn ei ystyr gyfyng: sef Cymuned (Cymru), a dwy i ddim yn siŵr bod y lleoedd hyn i gyd yn gymunedau yn yr ystyr hwnnw. Er ei fod yn gywir, mae "anheddiad agosaf" braidd yn drwsgl: efallai na fyddai newid "pentref" i "dref" â llaw yn faich mawr lle bo angen ... --Craigysgafn (sgwrs) 14:23, 24 Awst 2022 (UTC)Ateb[ateb]
Diolch i ti Craig am ymateb. Cytuno am "Cymuned". Mae'r erthyglau yn nodi y gymuned perthnasol felly bydd hynny'n drysu pethau. Credu mae camgymeriad fi yw defnyddio'r gair 'pentre' yn lle 'tref'. Bydd rhaid i mi sieco i bod yn siwr ond credu bod y brawddeg yna yn gyfeirio at y 'Tref' agosach yn pob achos, a nid y pentre. Jason.nlw (sgwrs) 15:00, 24 Awst 2022 (UTC)Ateb[ateb]
Reit, mae'n tebyg bydd Wrecsam yn cael ei statws Dinas yn swyddogol ar cyntaf Medi. Mae'n gwaith eitha gymleth i newid y data i gymryd hyn i ystyriaeth felly mi wna'i aros tan ar ol y dyddiad yna gan gobeithio bydd O.S. ac eraill yn diweddaru ei ddata'n gyflym er mwyn hwyluso cael y wybodaeth cywir mewn i'r erthyglau. Ond na'i ddim cyhoeddi rhagor nes bod hynny wedi cael i ddatrys. Diolch AlwynapHuw am tynny fy sylw at hyn. Jason.nlw (sgwrs) 15:31, 24 Awst 2022 (UTC)Ateb[ateb]
Teipo - mae angen "Yr orsaf reilffordd..." yn hytrach na "Y gorsaf tren" Llygad Ebrill (sgwrs) 16:29, 28 Awst 2022 (UTC)Ateb[ateb]
Hefyd "y dref" nid "y tref"; "Mae x oddeutu x milltir o y" nid "yn oddeutu" etc. Llygad Ebrill (sgwrs) 16:32, 28 Awst 2022 (UTC)Ateb[ateb]
Diolch yn fawr iawn i ti Llygadebrill. Mi wna'i cywiro'r testyn nawr. Jason.nlw (sgwrs) 07:36, 30 Awst 2022 (UTC)Ateb[ateb]
Diolch i bawb am y sylwadau hyd yma. Erbyn hyn dw'i wedi datrys y problem efo Wrecsam yn trwy'n dinas a wedi gwneud yr holl newidiadau syllafu/treiglo yn ol eich adborth. Felly os oes na unrhyw sylwadau arall yna rowch gwybod, gan gobeithio bydd pawb yn hapus i mi bwrw ymlaen efo cyhoeddu cyn bo hyr. Diolch eto! Jason.nlw (sgwrs) 14:57, 1 Medi 2022 (UTC)Ateb[ateb]
Hapus iawn, gan y gallwn newid unrhyw gangymeriadau torfol gyda'r bot ar ol eu cyhoeddi. Pob lwc! Llywelyn2000 (sgwrs) 11:53, 2 Medi 2022 (UTC)Ateb[ateb]
Diolch @Llywelyn2000. Mi wna'i gadael hi dros y penwythnos rhag ofn bydd unrhyw sylwadau ychwanegol a bwrw ymlaen wythnos nesaf os nad. Jason.nlw (sgwrs) 13:41, 2 Medi 2022 (UTC)Ateb[ateb]

Golygathon Geltaidd ar Meta-Wici[golygu cod]

Henffych well bobl! Fel y gwyr rhai ohonoch, mae na olygathon wedi'i threfnu rhwng y 6 iaith Geltaidd ar Meta-Wici. Eisioes mae na rai ohonom wedi dechrau golygu! Mae'r tablau (neu'r cwricwlwm!) yn hunan-lenwi. felly o fewn eiliad i chi greu erthygl newydd, mae'n ymddangos yn y tabl. Ond, dyfnder yw prif nod y golygathon yma, nid creu erthyglau newydd, byr! Un marc am bob erthygl newydd - ond 3 marc am bob 3000 beit o wybodaeth da chi'n ei hychwanegu! Mae'r golygathon yn para drwy fis Medi. Os oes gan rywun ddiddordeb ymuno yn y grwp all-lein (Zoom a ballu), ac yn siarad Cymraeg yn rhugl, yna danfonwch ebost i wneud cais. Mewn undeb y mae nerth! Undeb Geltaidd, wrth gwrs! Llywelyn2000 (sgwrs) 11:51, 2 Medi 2022 (UTC)Ateb[ateb]

I hope I'm here right and I'm sorry that I don't speak Gaelic. Somebody wrote that article Aids – Die Afrikalegende. unfortinatly this user also wrote something about Batman. Now I'm wondering why you mention batman in that article. Can somebody clean that article? Thank you very much. Pls ping me.--Sanandros (sgwrs) 20:31, 16 Medi 2022 (UTC)Ateb[ateb]

Thanks for your input @Sanandros. The article is about a film. Most articles about films on this wiki contain a sentence which translates as "The most popular film of that year was . . .". In 1989, the year in which "Aids – Die Afrikalegende" was published "Batman" happened to be the most popular film of the year, which is why it is, properly, mentioned in the article AlwynapHuw (sgwrs) 12:58, 19 Medi 2022 (UTC)Ateb[ateb]
OK thx. I just don't get the logic why u'd mention what's the moast succesful movie that year.--Sanandros (sgwrs) 17:20, 19 Medi 2022 (UTC)Ateb[ateb]
Dyma'r eildro mewn ychydig ddyddiau i gwestiwn fel hyn gael ei godi gan ddefnyddiwyr trawswici sy'n gwirio am fandaliaeth - holoddd rhywun union yr un peth mewn cwestiwn am Monolith ar dudalen sgwrs Llywelyn2000 am fod llawer iawn, iawn mwy o wybodaeth am ffilm fwyaf boblogaidd y flwyddyn na thestun yr erthygl ei hun.. Yn achos Aids – Die Afrikalegende dim ond drwy ffliwc y gellir dyfalu o deitl Almaeneg y ffilm beth yw pwnc y ffilm, tra mae digonedd o wybodaeth am ffilm Batmanǃ
ːFfilm ddogfen yw Aids – Die Afrikalegende a gyhoeddwyd yn 1989. Fe'i cynhyrchwyd yn yr Almaen.
ːFel y nodwyd, cyhoeddwyd y ffilm yn 1989. Ffilm fwyaf poblogaidd y flwyddyn honno oedd Batman (ffilm o 1989) sef ffilm drosedd llawn cyffro gan Tim Burton, lle mae’r Dark Knight o ddinas Gotham yn ymladd yn erbyn troseddu gyda'i elyn mawr cyntaf, Jack Napier, troseddwr sy'n datblygu i fod y Joker.
Efallai bod y ddau enghraifft yma'n eithriadau prin o'u cymharu â gweddill yr erthyglau ffilmiau sydd â mwy o wybodaeth arnynt, ond mae hyn yn edrych yn od. Mond yn achlysurol dwi'n cyfrannu yma felly dwi'n deall mod i'n hwyr yn rhoi sylwadau, ond nid jest fi sy'n gweld hyn yn rhyfedd yn amlwg. Os am gynnwys gwybodaeth am ffim fwyaf poblogaidd y flwyddyn, beth am ei gyfyngu o leiaf at y canlynol?
ː Fel y nodwyd, cyhoeddwyd y ffilm yn [XXXX]. Ffilm fwyaf poblogaidd y flwyddyn honno oedd [XXXXXX], (ffilm o 1989) sef ffilm [XXXX] gan [Tim Burton]. Rhyswynne (sgwrs) 14:23, 21 Medi 2022 (UTC)Ateb[ateb]
Diolch Rhys. Dw i'n siwr ei bod yn bosib lleihau'r rhan ti'n ei nodi, a mi roi hynny i lawr ar y rhestr gwella / cywiro yn fama. Bydd dyfnder ein herthyglau wedyn yn gostwng, wrth gwrs. Llywelyn2000 (sgwrs) 08:17, 22 Medi 2022 (UTC)Ateb[ateb]

Bookreader ar Wicidestun[golygu cod]

Rwyf wedi gosod nodwedd newydd ar Wicidestun, rwy'n gobeithio bydd yn ategu at werth y safle. Ar ddiwedd llinell teitl pob tudalen indecs mae 'na icon bach bellach, sy'n edrych fel dau dudalen o lyfr.

Icon Bookreader.jpg

O roi clec ar yr icon bydd modd mynd i safle Wikimedia Bookreader a darllen unrhyw lyfr sydd wedi uwchlwytho yna, boed wedi ei drawsysgrifio neu beidio, fel rhith lyfr. Mantais hyn yw ei fod yn golygu bod gwerth inni rŵan gosod llyfrau sydd yn rhy fawr i obeithio y caent eu trawsysgrifio am flynyddoedd maith, megis 10 cyfrol (9,000 tudalen, 11 miliwn gair) Y Gwyddoniadur Cymreig Dr John Parry a Thomas Gee. Rwyf wedi creu tudalen sy'n cynnwys rhestr o'r holl dudalennau Indecs ac rwyf wrthi'n rhoi categorïau testun ac awdur ar yr holl dudalennau indecs hefyd, fel bydd modd eu canfod trwy Categori:Nofelau Categori:Owen Morgan Edwards ac ati. AlwynapHuw (sgwrs) 15:31, 7 Hydref 2022 (UTC)Ateb[ateb]

Diolch, Alwyn. Mwy o waith da draw fan acw yn Wicidestun! Dafydd --Craigysgafn (sgwrs) 16:36, 7 Hydref 2022 (UTC)Ateb[ateb]
Fantastig! Diolch Alwyn! Llywelyn2000 (sgwrs) 09:51, 10 Hydref 2022 (UTC)Ateb[ateb]

Grwp Golygydgyddion Celtaidd[golygu cod]

Bydd cyfarfod i holi'r Athro Delyth Prys a Dr Teresa Lynn bnawn dydd llun (17fed) am 16.00 - 17.00. Os nad ydych yn y grwp, danfonwch ebost i ymuno! Cofion cynnes... Llywelyn2000 (sgwrs) 13:51, 14 Hydref 2022 (UTC)Ateb[ateb]

Gwall blwch tacson[golygu cod]

Nes i newid rhai gwerthoedd mewn blwch tacson, ond am ryw reswm mae'r fersiwn newydd yn dangos gwallau. Beth ydw i wedi ei wneud yn anghywir? Diff yn fama 121Oed (sgwrs) 16:04, 14 Hydref 2022 (UTC)Ateb[ateb]

Mae'r fersiwn newydd yn cynnwys dangos hyn yn y blwch tacson (nid y cod HTML ond y fersiwn mae'r defnyddiwr yn ei weld):
colspan=2 style="text-align: center; background-color: transparent; text-align:center; border: 1px solid red;" | SARS-CoV-2
colspan=2 style="text-align: center; background-color: transparent; text-align:center; border: 1px solid red;" | Dosbarthiad gwyddonol
colspan=2 style="text-align: center; background-color: transparent; text-align:center; border: 1px solid red;" | Enw deuenwol 121Oed (sgwrs) 16:06, 14 Hydref 2022 (UTC)Ateb[ateb]
Pwy a wyr? Mae'r cod yn y blwch tacson yn hud dwfn, tywyll. Fodd bynnag, dwy i ddim yn siŵr o gwbl ai'r blwch tacson yw'r dewis cywir ar gyfer firysau, felly rwyf wedi ei gyfnewid am un sy'n gweithio. (Rwy'n meddwl mai hwn oedd yr unig flwch o'r math ar gyfer firws.) Diolch am geisio ei drwsio. --Craigysgafn (sgwrs) 18:58, 14 Hydref 2022 (UTC)Ateb[ateb]

Erthyglau BOT am bryniau[golygu cod]

Helo pawb. @Llywelyn2000, MathWilliams9, Lesbardd, Craigysgafn, Oergell, Cymrodor, Deb:@AlwynapHuw, Adda'r Yw, Stefanik, Dafyddt, Pwyll, Sian EJ, Jac-y-do:@Duncan Brown, Deri Tomos, Dafyddt, Heulfryn, Bobol Bach:

Mae gen i batsh bach arall o erthyglau y'w cyhoedd fel rhan o brosiect Wici-Lleoedd. Mae hyn yn batsh o 125 erthygl - sef yr holl bryniau/mynyddoedd Cymru ar Wikidata efo Llun, a heb erthygl.

Dyma rhai engreifftiau i chi. Byddaf yn werthfawrogi unrhyw adborth, cywiriaudau ayyb. Diolch!

Jason.nlw (sgwrs) 12:09, 28 Hydref 2022 (UTC)Ateb[ateb]

Diolch, Jason.nlw , angen newid "o fewn 5 cilometr i Mynydd" i "o fewn 5 cilometr i Fynydd" ac angen sicrhau bod yr enwau sy'n cael eu creu yn y rhestri yn enwau Cymraeg (pan fo enwau Cymraeg ar gael) AlwynapHuw (sgwrs) 05:18, 31 Hydref 2022 (UTC)Ateb[ateb]
Gwerth chweil! Sylwer ar rai cangyms bach yn fama. Cofion cynnes... Llywelyn2000 (sgwrs) 11:44, 31 Hydref 2022 (UTC)Ateb[ateb]
Diolch yn fawr am y sylwadau. Mi wna'i gweithredu ar hyn. AlwynapHuw - efo'r enwau ar y rhestrau sy'n cael i creu mae gan pob un label Cymraeg ar Wikidata, ond fel ti'n sylwi mae na rhai Saesneg - y mwyafrif yn ardaloedd fel Sir Benfro, Mynwy ac ar y Ffin efo Lloegr. Y rheswm dros y Saesneg oedd bod dim tystiolaeth amlwg bod enw Cymraeg yn bodoli. Wrth gwrs efo rhagor o ymchwil/gwybodaeth lleol mae'n posib bydd modd cywiro hyn efo rhai achosau. Ond yn y gyfamser ydy ni'n hapus i cadw ambell enw Saesneg - er mwyn cadw'r rhestr yn Cyflwawn? Yr opsiwn arall y'w ceisio cuddio'r rhai Saesneg ond dw'i ddim yn hollol siwr sut i cael Listeria i neud hyn. Llywelyn2000 - Wyt ti'n gwybod? Diolch! Jason.nlw (sgwrs) 13:39, 31 Hydref 2022 (UTC)Ateb[ateb]
I fedru cuddio'r enw Saesneg byddai'n rhaid nodi iaith yr enw ar Wicidata yn gyntaf. Os ydy 'Littleville' yn enw Cymraeg, yna mae'n amen!
Pan wnes i greu erthyglau ar henebau megis Categori:Cestyll mwnt a beili Cymru, Categori:Bryngaerau Cymru‎ a Categori:Siambrau claddu, rhyw 12 mlynedd yn ol (OMG!) cafwyd trafodaeth ar yr union beth. Y penderfyniad oedd mynd drwy pob erthygl / enw a newid y Saesneg pan oedd hynny'n gwneud synnwyr, a'u gadael os nad oedd enw Cymraeg yn cynnig ei hun. Er enghraifft mae'r canlynol yn parhau ar y Wicipedia: Siambr gladdu New House, Sweyne's Howe a Crugiau Fairy Oak. Dyma waith y dylai Cadw fod wedi'i wneud, ond da ni i gyd yn gwybod corff mor uffernol o seisnig ydy Cadw. Beth am gynnwys categori ee 'Categori:Enwau Saesneg sydd angen ymwchwil pellach' gan obeithio y daw rhywun i daclo'r broblem. Mond awgrym. Llywelyn2000 (sgwrs) 17:16, 1 Tachwedd 2022 (UTC)Ateb[ateb]
Diolch @Llywelyn2000 . Hapus i creu/defnyddio categori am hyn. Dim ond dau neu tri o'r erthyglau sydd efo enw Saesneg, ond bydd ambell un yn arall ym ymddangos yn y rhestr o bryniau agos, sydd heb erthyglau. Mi wna'i gwario cwpl o oriau eto yn edrych ar rhain i weld os oes rhagor efo gyfieithiad amlwg/tystiolaeth ar-lein o enw Cymraeg. Jason.nlw (sgwrs) 11:30, 3 Tachwedd 2022 (UTC)Ateb[ateb]

Rwyf wedi creu tudalen newydd gyda theitl gwallus[golygu cod]

Tybed a fuasau Alwyn neu un o'r Golygyddion ei ddileu. Teitl y dudalen yw Tafira. Mae'r dudalen gywir Tarifa wedi ei greu. —Cafodd y sylw hwn heb lofnod ei ychwanegu gan 28 Hydref 2022 (sgwrscyfraniadau) Duncan Brown

Yes check.svg Llywelyn2000 (sgwrs) 11:37, 31 Hydref 2022 (UTC)Ateb[ateb]


Yr Hawl i Amgylchedd Iach[golygu cod]

Mae'r hawl yma, fel y gwyddoch dw i'n siwr, yn cael ei nodi fel Hawl Dynol gan y Cenhedloedd Unedig. Crewyd Golygathon gan y Cenhedloedd Unedig a Sefydliad Wicimedia rhyw ddwy flynedd yn ol, ac fe gymeron ni ran ynddo:

Oherwydd prysurdeb wnes i ddim cynnig yr her eleni, ond mi wna i dynnu'ch sylw, rhag ofn fod gan rywun awydd llenwi ambell fwlch.

  • Dyma her 2022. Dydy hi ddim yn ras, ond mae'n rhoi ryw ffocws i rywun, os credwch fod y maes yn un poblogaidd ac o ddiddordeb. Mwynhewch - dyna sy'n bwysig! Llywelyn2000 (sgwrs) 16:59, 1 Tachwedd 2022 (UTC)Ateb[ateb]
Yn y 3 mis dwaetha, dw i di creu 90 o erthyglau perthnasol. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:50, 15 Ionawr 2023 (UTC)Ateb[ateb]

Dark Remains[golygu cod]

Mroczne Szczątki duplicates Dark Remains. These pages describe the same movie. Mroczne Szczątki is the Polish title of Dark Remains. I removed Mroczne Szczątki page from Wikidata item and merged items into Q19867907. PółCzłowiek-półInfobox (sgwrs) 23:51, 17 Tachwedd 2022 (UTC)Ateb[ateb]

Diolch. Rhyswynne (sgwrs) 13:24, 21 Tachwedd 2022 (UTC)Ateb[ateb]

Golygathon enwau lleoedd Cymru, Caerdydd, 10 Chwefror 2023[golygu cod]

Dim ond neges sydyn i hysbusebu golygathon i wella gwybodaeth am enwau lleoedd Cymru ar Wicipedia. Mi fydd hyn yn digwyddiad go iawn yn Caerdydd ar 10 Chwefror. Am rhagor o manylion ac i gofrestri ewch i'r digwyddiad ar Eventbright. Diolch, a Nadolig Llawen. Jason.nlw (sgwrs) 11:04, 19 Rhagfyr 2022 (UTC)Ateb[ateb]

@Jason.nlw Wedi cofrestru ar gyfer hwn, munud olaf fel arferǃ Ddim yn siwr sut ymateb ti wedi ei gael hyd yma. Rhyswynne (sgwrs) 20:17, 2 Chwefror 2023 (UTC)Ateb[ateb]

Ymgyrch gweinyddwyr ar sail iaith, yn hytrach na phrosiect[golygu cod]

Llywelyn2000 Rwy'n credu'n gryf bod raid i Wikipedia, yn ganolog, ystyried y budd o dderbyn y syniad o weinyddwyr ar sail iaith, yn hytrach na phrosiect ar chwaer prosiectau mewn ieithoedd llai eu defnydd

Mae categorïau Wikidestun yn llanast, yn bennaf gan fy mod i wedi creu y rhan fwyaf ohonynt ac mae fy nghrybwyll o drefn categorïau yn wan. Does dim modd i'n "arbenigwr" ar gategorïau, Craigysgafn defnyddio ei arbenigrwydd ar gategorïau i sortio fy smonach, gan nad yw ei hawliau gweinyddol yn croesi'r ffin o Wicipedia i Wicidestun.

Mae'r un broblem yn bodoli efo'r Wiciadur, Wiciddyfynnu a phrosiectau Cymraeg eraill parthed eu diweddaru. Mae "bol" peiriant Wicidestun tua 15 mlynedd yn hŷn na'r diweddaraf ar Wicisource en. Heb gymorth ein hacwyr profiadol, sydd â hawl gweinyddol yma, rwy'n methu gweld ffordd allan o ddiffygion y safle cyfoes. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar Wikisource #2005 sydd llawer llai apelgar na Wikisource #2023

Mae creu trawsgrifiadau o hen lyfrau yn achosi nifer o gyfleoedd i greu "dyfyniadau" ar gyfer Wiciddyfynnu a dolenni eglurhad am eiriau "hen ffasiwn" i'r Wiciadur. Hyd y gwyddwn dydy boliau'r safleoedd hyn heb newid dim ers creu y cysyniad o Wici Cymraeg. Mae'r ddau heb unrhyw weinyddwr cofrestredig. Galliasai eu defnyddio i'w iawn allu gwneud gwahaniaeth mawr i ddealltwriaeth beirianyddol o'r Gymraeg ee'r Wiciadur yn egluro bod yr Aipht yn hen sillafiad am yr Aifft.

Nid wyf yn gwybod i ba bwyllgor dylid gwneud y fath gynnig, na sut i ganfasio defnyddwyr yr ieithoedd llai eu defnydd eraill sydd yn yr un twll; ond rwy'n credu yn gryf mae ar sail "iaith" nid ar sail "prosiect" dylai weinyddwr mewn iaith lai ei ddefnydd bod. Dydy fy ngadael i fel Pelican yn yr Anialwch ar Wicidestun heb gymorth fy nghyfeillion yma ddim o les i'r Gymuned Wici Cymraeg na hawliad Wikipedia i honni ei fod yn safle rhyng ieithol go iawn. AlwynapHuw (sgwrs) 04:24, 29 Rhagfyr 2022 (UTC)Ateb[ateb]

Haia Alwyn. Cytuno 100%. A dylai ariannu, sydd ar sail ddaearyddol (ee Wikimedia France), hefyd fod ar sail iaith. 'Canolog' - mae'r rheolau bondigrybs yn cael eu llunio drwy gonsensws ar lefydd fel Meta, Sefydliad Wicimedia ayb. Byddai angen ymgyrch enfawr i newid y rhain: mae na grwp ar Signal o unigolion ieithoedd wici os ti isio ymuno efo hwnnw. Inari o Wlad y Basg gychwynodd y grwp rhyw 4 mlynedd yn ol ac mae na dros 100 arno bellach. Fel arall, gallem gyfarfod a chynnig rhywbeth fel Grwp Golygyddion, sydd heb gyfarfod ers rhyw 3 blynedd oherwydd Covid.
Categoriau: mae @Adda'r Yw: hefyd yn giamstar, os oes ganddo'r amser. Ond cofia, nad oes rhaid bod yn Weinyddwr i symud tudalennau a rhoi trefn ar gategoriau.
Pelican - dw i'n gwybod y teimlad! Dw i di ychwanegu Cymru fel cenedl ar Comin ar > fil o gategoriau, gw. fy nhudalen defnyddiwr. Hyd yma, mae nhw'n parhau yno, ond mae'n rhaid amddiffyn, amddiffyn yn barhaus.
Traws-brosiect - mae hyn yn cyfoethogi'r cynnwys Cymraeg yn fawr. Ond mae cyn lleied ohonom, a hyd yma, da ni di methu cenhadu. Dw i'n deall dy waedd, Alwyn, a dwi'n ei adleisio drwy goridoriau oer ein prifysgolion, Cadw, Amgueddfa Cymru - ac yng nghlustiau pob Cymro sydd wedi derbyn unrhyw nawdd i gyhoeddi, i ddarlledu, i greu unrhywbeth yn y Gymraeg. Mae angen eu hysgwyd. Derbyn, heb roi!
Wiciadur - Aipht = yr Aifft - cytuno, cytuno... mae @Pwyll: wedi gwneud gwaith aruthro ar Wicidaur, ond heb olygu ers 2 flynedd.
Mae na 3 papur bro yn awyddus i greu prosiectau lleol er mwyn cyfoethogi WP (rhagor cyn hir). Ella bod tir cyffredin yma i'w hannog i roi cynnwys allan o hawlfraint ar Wicidestun?
Ti isio i mi alw cyfarfod o'r Grwp Defnyddwyr? Be mae pawb eraill yn ei feddwl?
Llywelyn2000 (sgwrs) 07:46, 29 Rhagfyr 2022 (UTC)Ateb[ateb]

Wicipedia:Wicibrosiect Cymru[golygu cod]

Jyst gair i danlinellu prosiect newydd gan Defnyddiwr:Titus Gold sy'n dod ag elfennau pwysig, craidd am Gymru i lwyfan Wici: Wicipedia:Wicibrosiect Cymru. Dylai bod y cyfan o'r erthyglau yma yn eu lle ers 20 mlynedd, ond dyna ni. Gwell hwyr... Diolch am dy waith ar y rhain. Byddai'n wych pe allai pawb fynd ati i'w gynorthwyo drwy dacluso'r erthyglau neu fynd yr ail gam gan eu datblygu ymhellach. Mae na restr goch o erthyglau i'w creu yno hefyd.

Gair arall sydyn. Mae Defnyddiwr:Titus Gold hefyd wrthi fel lladd nadroedd, ar ei liwt ei hun ar y wici iaith fain. Mae yno, megis llais yn yr anialwch, heb neb yn ei gynorthwyo. De ja vu! Diolch Titus gold! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:47, 15 Ionawr 2023 (UTC)Ateb[ateb]

Diolch yn fawr am eich geiriau, rwy'n gwerthfawrogi hyn yn fawr. Mae "Llais yn yr anialwch" yn taro! Mae hi wedi bod yn anodd ar adegau ar y Wikipedia Saesneg on rwyf wedi dod drwyddi gyda degau o dudalennau newydd ar Gymru erbyn hyn. Mae bron pob prif ddolen ar dudalen https://en.wikipedia.org/wiki/Wales er enghraifft yn cyfeirio at dudalen o berspectif Cymru erbyn hyn a https://en.wikipedia.org/wiki/Welsh_devolution efallai oedd y prosiect mwyaf.
O ran y Wicipedia Cymraeg, rwyf nawr yn gweithio i gyfiethu yr erthyglau Saesneg hyn ac eraill ar Gymru draw i fan hyn fel dechreubwynt. Rwyf wedi creu'r prosiect Wicipedia:Wicibrosiect Cymru, gan ddilyn esiampl y Wikipedia Saesneg. Os y mynwch, ewch draw ac ychwanegu eich enw i'r rhestr aelodau a dechrau ar gyfiaethu un o'r erthyglau a restrwyd os gwelwch yn dda. Efallai fod ambell un yn bodoli'n barod ac os felly tynwch yr erthygl yma o'r rhestr. Croeo hefyd i chi ychwanegu erthygl i'w greu at y rhestr a gwella tudalen y prosiect. Byddai unrhyw gyfraniad yn werthfawr tu hwnt.
Diolch yn fawr! Titus Gold (sgwrs) 15:45, 15 Ionawr 2023 (UTC)Ateb[ateb]
Dolen aelodaeth yma: Wicipedia:WiciProsiect Cymru/Aelodau Titus Gold (sgwrs) 22:15, 15 Ionawr 2023 (UTC)Ateb[ateb]

Les Barker[golygu cod]

Newyddion trist iawn yw dysgu am farwolaeth Les. Heddwch i'w lwch. —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 16:59, 17 Ionawr 2023 (UTC)Ateb[ateb]

Wrong title[golygu cod]

Hello to Welsh community! I am a user of italian wikipedia and I noticed that Così È La Vita is wrong. Is there someone that can move the page to "Così è la vita"? Many, many and many thanks in advance!!! Gatto bianco (sgwrs) 11:57, 18 Ionawr 2023 (UTC)Ateb[ateb]

YesY Ben arrivato. Grazie. --Craigysgafn (sgwrs) 12:20, 18 Ionawr 2023 (UTC)Ateb[ateb]

Diolch! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:00, 1 Chwefror 2023 (UTC)Ateb[ateb]

Gwedd newydd Wici[golygu cod]

Mae na wedd / rhyngwyneb newydd y gallwch ei brofi. Ewch i: Dewisiadau -> Gwedd --> Gwedd 2022.

Gallwn wneud y wedd yma'n ddiofyn / default os dymunwch. Barn? Llywelyn2000 (sgwrs) 06:59, 1 Chwefror 2023 (UTC)Ateb[ateb]

O'm rhan i, dwyf i ddim yn gweld pwrpas Vector 2022. A minnau'n siarad fel rhywun sydd wedi bod yn ymwneud â dyluniad a defnyddioldeb, pan ymddangosodd V2022 cefais i fy siomi'n fawr ynddo. Mae'r newid yn gosmetig yn bennaf, ac yn defnyddio llawer o "whitespace" i ddim pwrpas. Os byddwn ni'n gwneud V2022 yn ddiofyn fyddaf i ddim yn ei ddefnyddio. Yn wir, byddai V2022 yn gwneud llawer iawn o fy ngwaith i yma yn anoddach o lawer oherwydd bod y "sidebar" yn llai ymarferol. Felly byddwn i'n parhau i ddefnyddio Vector legacy (2010). Rwy'n amau y byddai golygyddion eraill yn gwneud yr un peth. Ac os yw golygyddion yn gweld gwedd wahanol i'r un diofyn y mae mwyafrif o ymwelwyr achlysurol yn ei gweld, bydd yn sicr o greu problemau. --Craigysgafn (sgwrs) 10:31, 1 Chwefror 2023 (UTC)Ateb[ateb]
Dim yn ei hoffi o gwbl. Dim yn gweld pwynt cael hanner sgrin y cyfrifiadur yn wag o herwydd borderi gwyn enfawr. Mae'r borderi hefyd yn gwneud yr ysgrifen o amgylch lluniau (ee yr adran pigion) I edrych mwy fel rhestr siopa na pharagraff am bwnc difir. AlwynapHuw (sgwrs) 17:58, 1 Chwefror 2023 (UTC)Ateb[ateb]
Newydd orffen 24 awr o'i brofi. Cytuno! Mae nhw di colli siawns i'w wella - rhoi'r gallu i'r defnyddiwr i symud gwanahol rannau, gweld pwy sydd ar-lein a thrafod gyda sain neu fideo. Licio'r 'Rhestr siopa'! Ond dyna ydy o! A chychwyn erthyglau hir (gyda tabl cynnwys) yr un fath! Os yw'r darllenydd eisiau i'r erthygl lenwi'r sgrin, dylai fod a'r gallu i wneud hynny. Be sy'n dda? Fy hun, dw i'n hoffi mwy o le gwag gwyn! Ac mae botwm yr ieithoedd ar frig yr erthygl, nid yn ei ben ol. Oes gan rywun arall farn, plis? Llywelyn2000 (sgwrs) 16:04, 2 Chwefror 2023 (UTC)Ateb[ateb]
Dwi ddim yn gweld gymaint o broblem gyda'r diwyg a'r gofod gwyn fy hun. Mae'n haws darllen testun pan fod y prif golofn destun ychydig yn gulach. I'r darllenwyr sydd eisiau gwybodaeth a ddim eisiau cyfrannu na golygu, mi fydd e'n edrych yn 'well'. Ond mae problem am fod defnyddwyr wedi mewngofnodi yn gweld pethau yn wahanol e.e. mi fyddwn i eisiau gweld y prif fwydlen arferol ar y chwith a nid penawdau'r cynnwys. Mae e yn cofio'r dewis yma felly does dim problem. I ddarllenwr heb fewngofnodi, nid yw'n cofio'r dewis. Dwi ddim yn poeni gymaint os nad yw fformat y cynnwys ei hun yn edrych yn wahanol - does dim synnwyr dylunio ar gyfer maint sgrin penodol. Er hynny os oedd y gwedd newydd yn ddiofyn, byddai angen ail-ddylunio y dudalen flaen yn amlwg. Mae angen edrych ar rhai elfennau sydd ddim fel petai nhw wedi newid ar cywiki o'r gwedd newydd. e.e. drwy gymharu a Wikipedia mae'r brif fwydlen ar y chwith yn wahanol a mae'r 'offer' yn llenwi'r gofod ar y dde. Mae yna hefyd ychydig o bethau i'w cyfieithu a cywiriadau i'w gwneud - ble mae'r cyfieithiad yn cael ei reoli? --Dafyddt (sgwrs) 22:59, 2 Chwefror 2023 (UTC)Ateb[ateb]
Rhywle ar translatewiki.net dwi'n meddwl ond alla i ond dod o hyd i'r dudalen hon sy'n dangos newidadau diweddaraf a gan bwy https://translatewiki.net/wiki/Special:ActiveLanguages/cy Rhyswynne (sgwrs) 09:44, 10 Chwefror 2023 (UTC)Ateb[ateb]
Diolch Rhys. Roedd gen i gyfri ar translatewiki ond o'n i di anghofio'n llwyr amdano! --Dafyddt (sgwrs) 23:35, 14 Chwefror 2023 (UTC)Ateb[ateb]
Yn bendant dylen ni symud at Vector 2022 heb os nac oni bai. Y darllenwr a hybu defnydd Wici Cymraeg sydd bwysicaf, nid defnyddioldeb y system ar ein cyfer ni fel golygwyr. Rwyf wedi bod yn defnyddio'r system ar Wiki Saesneg ac mae'n ddigon hawdd ei ddefnydd. Mae'r system presennol yn edrych yn hen a llai deniadol o'i gymharu. Titus Gold (sgwrs) 15:29, 16 Chwefror 2023 (UTC)Ateb[ateb]
Rhaid hefyd cofio bod y newid yn un sydd fod i wneud symud rhwng cyfrifiadur a ffôn symudol yn haws. Titus Gold (sgwrs) 15:40, 16 Chwefror 2023 (UTC)Ateb[ateb]
Ar hyn o bryd mae'n ymddangos fod @Llywelyn2000, @Dafyddt ya minnau yn cefnogi symud at "Gwedd 2022". Fyddai @Craigysgafn ac @AlwynapHuw yn ystyried cefnogi'r symudiad yma er mwyn cael consensws i foderneiddio ymddangosiad y Wici i'r darllenwyr? Titus Gold (sgwrs) 18:07, 24 Chwefror 2023 (UTC)Ateb[ateb]
Dydw i ddim yn gwrthwynebu newid yr opsiwn diofyn/default o gwbl. Ond bendith gymysg ydyw. Dyna'r cyfan roeddwn i'n ei ddweud. Gwaetha'r modd, dyw "mwy modern" ddim yn gyfystyr ag "yn well". --Craigysgafn (sgwrs) 23:34, 24 Chwefror 2023 (UTC)Ateb[ateb]
Does dim raid i neb newid barn am y gwedd newydd er mwyn creu y newid. Mae'r hysbyseb wedi bod i fynu am bron i bedwar wythnos; digon hir i bawb sydd am fynegi barn gwneud hynny. Bellach mae'n amser gweithredu ar farn y mwyafrif sydd wedi gwneud sylw AlwynapHuw (sgwrs) 00:01, 25 Chwefror 2023 (UTC)Ateb[ateb]
Diolch yn fawr i chi am eich ymateb, rwy'n gwerthfawrogi ac yn deall eich barn. Mae'n ymddangos felly fod mwyafrif yn cefnogi'r symud i'r gwedd Vector 2022 felly yw hi nawr yn amser i'w wneud yn ddiofyn/default? Titus Gold (sgwrs) 19:51, 26 Chwefror 2023 (UTC)Ateb[ateb]
Dal yn erbyn, ond yr ymateb (anffodus i fy mhlaid innau) yw-ydi. 'Treched treisied, gwanaf gwaedded', 'Brexit means Breakfast' at ac ati; ond dyna fo, fel dywedodd Dick Tuck The-people-have-spoken-the-bast**** 1966 a barn y myafrif sy'n mynd a'r dydd AlwynapHuw (sgwrs) 03:07, 27 Chwefror 2023 (UTC)Ateb[ateb]
@Titus Gold: Diolch am grynhoi ac awgrymu ffordd ymlaen! Maer na lawer o bwyntiau o blaid newid a llawer o bethau negyddol yn erbyn newid. Dyw hi ddim yn ddu a gwyn gen i, ond efallai fod na fwy o bwyntiau o blaid newid... ond dim ond ar ol i rywun gywiro'r Hafan - mae'n fler iawn dan yr arwyneb newydd! Oes na rhywun yn cynnig mynd ati? Llywelyn2000 (sgwrs) 14:26, 27 Chwefror 2023 (UTC)Ateb[ateb]
@Llywelyn2000: Rwyf i braidd yn rhydlyd, ond ar un adeg roeddwn i'n eitha da o ran CSS. Rwy'n meddwl y gallwn i roi cynnig ar Hafan oni bai bod gennym ni arbenigwr go iawn wrth law. Craigysgafn (sgwrs) 16:31, 27 Chwefror 2023 (UTC)Ateb[ateb]
Bydd ddewr! Does dim ffasiwn beth a changymeriad, cofia! Gweidda os ti isio cymorth! Llywelyn2000 (sgwrs) 16:41, 27 Chwefror 2023 (UTC)Ateb[ateb]
O'r gorau. Byddaf i'n mynd ati. --Craigysgafn (sgwrs) 19:24, 27 Chwefror 2023 (UTC)Ateb[ateb]
Falch i weld fod yr Hafan wedi'i wneud. Oes posib symud i'r meddalwedd newydd rwan?Diolch. Titus Gold (sgwrs) 16:37, 5 Ebrill 2023 (UTC)Ateb[ateb]

Dileu lluniau Recordiau Sain[golygu cod]

https://commons.wikimedia.org/wiki/Commons:Deletion_requests/Uploads_by_User:DafyddMR Mae'n edrych fel bod lluniau uwchlwythwyd i Commons.wikimedia gan Dafydd Roberts, Prif Weithredwr Sain, wedi cael eu dileu, oherwydd bod yna risg o dorri hawlfraint! Oes 'na rhyw ffordd o'u perswadio bod y lluniau yn ddilys? Piti nag ydyn nhw'n gyrru neges i bob tudalen wicipedia sy'n defnyddio'r lluniau neu fuaswn yn gwybod am y cais cyn eu bod wedi cael eu dileu. Brwynog (sgwrs) 19:45, 3 Chwefror 2023 (UTC)Ateb[ateb]

Diolch Brwynog Fe ddylai'r uwchlwythwr fod wedi ychwanegu'r templad ei fod yn berson go iawn, a dull cysylltu NEU ebostio Comin gyda'r manylion - i'r system OTRS, a elwir heddiw yn VRTS. Methais innau weld y rhybudd, felly byddai'nbraf petai rhywun yn egluro wrth Dafydd sut i fynd ati, er mwyn sicrhau fod y lluniau'n aros ar Comin. Wyddwn i ddim iddo gychwyn cyfrif ar Comin, chwaith. Llywelyn2000 (sgwrs) 14:23, 10 Chwefror 2023 (UTC)Ateb[ateb]

Cymuned Wicimedia Cymru[golygu cod]

Pob hyn a hyn rydym yn cael cais gan Wiki UK i gyfiawnhau parhad y gymuned trwy roi cyfrif o'n gweithgarwch. Gan nad ydwyf wedi gweld cais o'r fath am beth amser rwy'n disgwyl y daw un yn fuan. O ran diddordeb i ni ein hunain ac er mwyn bodloni Wiki UK, os ddaw gais, dyma ystadegau Wicidestun am y flwyddyn ddiwethaf

Dyddiad Safle yn rhestr ieithoedd Wicidestun Nifer y tudalenau wedi eu prawf-ddarllen
1 Chwef 2022 44 4366
5 Mawrth 2022 41 5243
25 Ebrill 2022 39 6985
13 Mai 2022 39 7218
23 Mehefin 36 8379
5 Gorffennaf 2022 34 8877
8 Awst 2022 34 9577
12 Ionawr 2023 32 13,919
3 Chwefror 2023 31 15,469

AlwynapHuw (sgwrs) 05:03, 5 Chwefror 2023 (UTC)Ateb[ateb]

Rydych chi wedi gwneud gwaith anhygoel ar Wicitestun, Alwyn. Rwy'n gobeithio bod pawb yn ei werthfawrogi. Byddaf i'n galw heibio o bryd i'w gilydd i wneud prawfddarllen, ond dim ond piso dryw bach yn y môr ydyw. Dafydd --Craigysgafn (sgwrs) 21:33, 5 Chwefror 2023 (UTC)Ateb[ateb]
Nid piso driw bach mohoni, ond cyfraniad hanfodol. Mae'r system "ailolwg" yn bwysig iawn er mwyn sicrhau cywyrdeb ein testynau a'u gwerth fel ffynhonnell dibynadwy. Diolch o galon am dy gyfraniad. AlwynapHuw (sgwrs) 03:58, 6 Chwefror 2023 (UTC)Ateb[ateb]
Mae'n rhaid i mi ategu sylw Craig yn fama! Anhygoel! Ar hyn o bryd, dw i'n troi fel pi-pi-down o un lle i'r llall, ac yn methu rhoi sylw digonol i dy waith, Alwyn. Soniom ni dro'n ol am recordio cyfweliad ohonot sut i fynd ati - fideo i'r adran 'Cymorth' efallai, os cei amser! Llywelyn2000 (sgwrs) 14:12, 10 Chwefror 2023 (UTC)Ateb[ateb]
Cymerodd amser hir i mi weithio allan sut i gael y ddealltwriaeth prin sydd gennyf o sut i gyfrannu i Wicidestun. Rwy'n credu byddai fidio yn ei wneud yn haws i bobl deall sut i gyfrannu na'r artaith es i drwyddo i ddeall y "cymorth" Saesneg. Ond rwyf wedi bod yn ansicr sut! Mae hyn wedi bod yn rhwystr. Dim yn gwybod lle i ddechrau neu sut i greu penodau o fideos cymorth.

Os gymerwyf destun bach, un o daflenni baledi Prifysgol Caerdydd neu un o Lyfrau Ceiniog Humphreys a dal ar fidio be dwi'n gwneud, heb sain; ond gyda dogfen o eglurhad, rhwng uwch lwytho i Gomin a chyhoeddi i Wicidestun; a fyddai hynny yn gymorth i bobl sy'n fwy hyddysg na fi yn y pethau hyn i roi cymorth imi sut i greu fideos a dogfennaeth cymorth i'r prosiect Cymraeg?AlwynapHuw (sgwrs) 03:07, 15 Chwefror 2023 (UTC)Ateb[ateb]
Betha am sgwrs efo fi ar Zoom, Alwyn? Holi ac ateb fel Rhodd Mam stalwm! Mi holai di sut, a gelli egluro'r drefn gam wrth gam yn fyw? Mi allai ei olugu hefyd os fyddi di'n rhegi gormod! Llywelyn2000 (sgwrs) 14:30, 27 Chwefror 2023 (UTC)Ateb[ateb]
Syniad arall - beth am greu Wicibrosiect Wicidestun yma ar WP? Cynnwys y tabl uchod a dolen i brosiect tebyg ar Wicidestun ei hun? Llywelyn2000 (sgwrs) 07:59, 6 Ebrill 2023 (UTC)Ateb[ateb]

Global ban for PlanespotterA320/RespectCE[golygu cod]

Per the Global bans policy, I'm informing the project of this request for comment: m:Requests for comment/Global ban for PlanespotterA320 (2) about banning a member from your community. Thank you.--Lemonaka (talk) 21:40, 6 February 2023 (UTC)

A Problem with Nodyn:Pethau?[golygu cod]

(Pardon me for talking English here, i am de-N, en-2, cy-0.) I have seen that there are many articles that display "&Nbsp;" in the read view. The Wiki-source-texts of the articles do not have syntax errors. See https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Arbennig:Search&limit=250&offset=0&ns0=1&search=nbsp for a list of articles affected. (Nearly) always, the Nodyn:Pethau is included in the articles, and the problem arises with the elements Poblogaeth, Label brodorol, and Màs. Please see also Sgwrs_Nodyn:Pethau#nbsp_syntax_error, were i described my observation four weeks ago. Thank you in advance. --Himbeerbläuling (sgwrs) 20:09, 8 Chwefror 2023 (UTC)Ateb[ateb]

Yes, I've noticed this too. Deb (sgwrs) 20:39, 8 Chwefror 2023 (UTC)Ateb[ateb]
Mae String2 yn cael eu lapio o gwmpas rhai o'r gwerthoedd yma yn y wybodlen ond does dim angen gwneud hyn ar gyfer rhifau. Felly rwy wedi gwneud datrysiad cyflym o dynnu hwn i ffwrdd. String2 is wrapped around some of these values in the infobox but it doesn't need to be there for numbers and one word values, so I've put in a quick solution to remove this. The display should now be better --Dafyddt (sgwrs) 22:40, 9 Chwefror 2023 (UTC)Ateb[ateb]
Can diolch Dafyddt - effeithiol iawn fel arfer! Llywelyn2000 (sgwrs) 14:13, 10 Chwefror 2023 (UTC)Ateb[ateb]
+1, much better now. Thank you --Himbeerbläuling (sgwrs) 17:40, 11 Chwefror 2023 (UTC)Ateb[ateb]

Ymateb i Lywodraeth Lloegr - Ieithoedd Lleiafrifol[golygu cod]

Gyfeillion!

Mae Wikimedia UK yn bwriadu ateb Llywodraeth Lloegr, a'u 'galwad am dystiolaeth' parthed ieithoedd lleiafrifol y gwledydd hyn. Mae Lucy, CEO WMUK am gadeirio sesiwn Zoom i geisio eich barn ar sut i ymateb. Dyma ei chais (yn y Saesneg):

The Department for Culture, Media and Sport (DCMS) of the UK government is currently running an Inquiry on Minority languages, with a 'call to evidence' until 10th March. Details of the inquiry are here:

https://committees.parliament.uk/work/7208/minority-languages/

Wikimedia UK is planning to submit a response to this inquiry, as we see it as a valuable opportunity to emphasise the importance of support for indigenous minority languages. We are planning to highlight the impact that thriving minority languages have on cultural identity and community cohesion, and the role of Wikimedia in enabling indigenous minority language speakers to freely access - or indeed, to contribute to - a body of knowledge and information in their language. However, we would love to include the voices of contributors to indigenous language Wikipedias within our submission, to make sure we are representing a range of views and perspectives. To this end, we are holding a meeting (over Zoom) to discuss the questions posed by the inquiry:

The call will be 12noon - 1pm on Wednesday 1st March and it would be great if you could join us. Do let me know if you can make it and we will send you the zoom link nearer the time. If you can't make the meeting but would like to contribute your views, please do feel free to email us your thoughts on any of the questions.

Rhowch wybod i mi drwy ebost os ydych yn dymuno derbyn dolen i'r cyfarfod. Lucy fydd yn cadeirio a bydd y cyfarfod drwy'r Saesneg.

Diolch a chofion... Robin - Llywelyn2000 (sgwrs) 05:50, 13 Chwefror 2023 (UTC)Ateb[ateb]

Diolch am y neges Robin. Titus Gold (sgwrs) 16:19, 15 Chwefror 2023 (UTC)Ateb[ateb]
Nodyn i'ch atgoffa!
Mae'r cyfarfod heddiw am 12 y pnawn. Danfonwch ebost ataf am ddolen Zoom. Cofiwch ddweud eich dweud. Llywelyn2000 (sgwrs) 08:42, 1 Mawrth 2023 (UTC)Ateb[ateb]

Meddalwedd newydd[golygu cod]

Oes gobaith cael y diweddariad meddalwedd ar gyfer Wici Cymru fel sydd wedi digwydd ar gyfer y Wikipedia Saesneg ac eraill yn ddiweddar? Mae meddalwedd a ffurf Wici Cymmraeg yn edrych yn hen mewn cymhariaeth ac angen diweddariad. Diolch. Titus Gold (sgwrs) 16:19, 15 Chwefror 2023 (UTC)Ateb[ateb]

Bore da gyfaill. Mae na drafodaeth ar hyn yn barod (rhyw bump sgwrs i fyny): 'Wicipedia:Y Caffi#Gwedd newydd Wici'. ON Edrych ar yr Hafan yn y wedd newydd! Tipyn o waith, ond mae'n bosib! Angen consensws. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:38, 16 Chwefror 2023 (UTC)Ateb[ateb]
Diolch. Wedi ychwanegu fy nghefnogaeth dros y newid. Titus Gold (sgwrs) 15:33, 16 Chwefror 2023 (UTC)Ateb[ateb]

Canolbwyntio ar erthyglau yn ôl nifer ymweliadau[golygu cod]

Mi fuaswn i'n dadlau fod angen gwelliant mawr ar yr erthyglau Cymraeg a Chymru gan eu bod yn ymddangos ar frig rhestrau ymweliadau yn gyson. Mae angen gwella erthyglau wrth weithio i lawr o'r rhai gyda'r nifer uchaf o ymweliadau. Rwyf wedi dechrau gyda hyn eisioes:

https://pageviews.wmcloud.org/topviews/?project=cy.wikipedia.org&platform=all-access&date=last-month&excludes= Titus Gold (sgwrs) 01:41, 20 Chwefror 2023 (UTC)Ateb[ateb]

Gwych! Ga i awgrymu fod hwn yn is-brosiect o Wicibrosiect Cymru? Ella, jyst rhestr, lle gall golygyddion dicio'r erthygl wedi iddi gael ei datblygu / ei chyfoethogi. Llywelyn2000 (sgwrs) 11:16, 20 Chwefror 2023 (UTC)Ateb[ateb]
Ie, syniad da. Titus Gold (sgwrs) 16:17, 20 Chwefror 2023 (UTC)Ateb[ateb]

Botwm golygu[golygu cod]

Dwi'n meddwl fyddai'n well symleiddio ymddangosiad tudalennau fod y botymau golygu yn newid o "[ golygu | golygu cod y dudalen ]" a'i symleiddio i "[golygu]" fel sydd yn ymddangos yn y Wiki Saesneg er enghraifft. Byddai hyn yn edrych yn fwy deniadol i'r darllenwyr. Titus Gold (sgwrs) 18:04, 24 Chwefror 2023 (UTC)Ateb[ateb]

Haia! Mae na ddwy ffordd o olygu, fel y gwyddost: yr hen ddull (golygu cod y dudalen) a'r un diweddar, sef golygu ar yr wyneb (Visual Editor). Gall golygydd ddewis y naill neu'r llall. Felly, mae'n rhaid gwahaniaethu rhwng y ddau. Mae'n bosib symlhau'r hyn a welir i rywbeth fel 'golygu'r cod' / 'golygu'r arwyneb', wrth gwrs. Efallai mai un sy gen ti (mi synnwn ni'n fawr!) - yn dibynnu ar dy 'Ddewisiadau'. Llywelyn2000 (sgwrs) 16:52, 27 Chwefror 2023 (UTC)Ateb[ateb]
Dim ots; mae'r botwm [golygu | golygu cod y dudalen] ac [edit] ond yn ymddangos ar ol mewngofnodi felly ddim i'w weld i'r darllenwr heb gyfrif. Titus Gold (sgwrs) 16:33, 5 Ebrill 2023 (UTC)Ateb[ateb]

Cais eto am gymorth efo Wicidestun[golygu cod]

Nid ydwyf yn arbenigwr ar Wiciudestun. Canfyddais y safle sawl flwyddyn yn ôl a rhoddais ambell i gerdd ac ambell i emyn arni fel testun rhydd heb ddeall y cysylltiad rhwng yr angen am "wirio" testun efo sgan o'r gwaith gwreiddiol.

Pan fu farw fy ngwraig tair mlynedd yn ôl, bu'r plant a fi trwy'r gorchwyl prudd o be i gadw o'i phethau hi a be i binio. Ymysg y pethau nad oeddem am eu cadw oedd ei chasgliad o lyfrau rhamant "Mills and Boon". Prin fu diddordeb y siopau ail law ac elusennol i gaffael y llyfrau - gan hynny i'r bin ail-gylchu aeth y cwbl. Perodd hynny braw imi; gan fod gennyf, nifer o hen lyfrau am hanes a chrefydd Cymru byddai'n mynd yr un ffordd a rhai "Mills and Boon" fy ngwraig pan af fi i'm medd.

Ar y cyfan y llyfrau Cymraeg sydd gennyf yw rhai sydd yn cyfeirio at bobl sydd yn fy ach. Llyfrau hanes lleol a chofiannau gweinidogion.

Pan oeddwn yn ymgeisydd i'r weinidogaeth Wesleaidd bu gennyf gannoedd o "esboniadau" a rhoddwyd imi mewn cymwynas gan bobl oedd am hwyluso fy astudiaethau. Wedi fy niarddel o'r weinidogaeth mi losgais y blydi lot. Dydy'r llyfrwerthwyr ail-law dim yn derbyn esboniadau bellach, maent oll yn mynd yn brin.

Mae nifer y siopau llyfrau ail law yng Nghymru wedi eu lleihau yn ddirfawr yn ystod y blynyddoedd diwethaf hefyd. Bu un ym mhob tref 30 mlynedd yn ôl, rhyw dau neu dri sydd yn y goledd bellach, ac mae un ohonynt yn gwrthod gwerthu imi am fy mod yn lladd ei masnach trwy osod llyfrau ar Wicidestun!

Mae cannoedd o lyfrau Cymraeg "hen ffasiwn" "diwerth" dal ar gael ar silffoedd Cymry, sydd angen eu hachub. Rwy'n gwybod, rhywfaint sut i'w hachub, y broblem sydd gennyf yw sut i egluro i eraill sut i wneud.

Awgrymodd fy mab rhaglen "dal fideo" mae o'n defnyddio ar sut i drechu gelyn mewn gêm, ond rwy'n methu gwneud siw na miw efo hi, er talu £100 am y rhaglen.

Os yw'r prosiect am ffynnu mae'n rhaid imi gael cymorth ar sut i gael eraill i ddeall sut i gyfrannu, heb yr helbul pum mlynedd bum i drwodd. Rwy'n hen, mae fy nghyfraniad yn fuan am dod i ben, trwy gwrs bywyd. Mae gan eraill ffynhonnell lyfrau nad ydynt ar gael i mi.

Rwyf mewn twll ar hyn o bryd o wedi cnoi gormod o gig, a dim yn gwybod sut i ddenu cymorth i'r achos! AlwynapHuw (sgwrs) 06:48, 28 Chwefror 2023 (UTC)Ateb[ateb]

Alwyn, dydw i ddim yn gwybod ble i ddechrau. Mae'n hollol amlwg bod Wicidestun yn brosiect sy'n eithriadol o bwysig, ac mae'n anodd deall pam y dylech chi gael eich gorfodi i frwydro ymlaen ar eich pen eich hun. Mae dirfawr angen mwy o bobl ymroddedig i gynorthwyo. Oni all y Llyfrgell Genedlaethol gynnig unrhyw gymorth? --Craigysgafn (sgwrs) 22:54, 1 Mawrth 2023 (UTC)Ateb[ateb]
Alwyn: dw i 'di cynnig creu fideo holi-ac-ateb (rhanu sgrin ar Zoom) fel canllaw / rhagolwg o'r gwaith rwyt yn ei wneud - ac mae'r cynnig yn parhau. Gallwn gychwyn adran 'Cymorth' hefyd, ac ychwanegu'r fidoes i'r fan honno. Ebostia fi os ti awydd gwneud fideo a mi ddanfonai wahoddiad Zoom atat. Cytuno hefyd efo Craigysgafn, ond dw i'n gwybod fod Jason LlGC yn andros o brysur - fel arfer! Llywelyn2000 (sgwrs) 13:12, 14 Mawrth 2023 (UTC)Ateb[ateb]

Dim modd gwneud y pethau bychain am awr ar 1 Mawrth 2023[golygu cod]

Ymddangys na fydd modd golygu'r Wicipedia Cymraeg am awr rhwng 14ː00 a 15ː00 (amser Cymru) ar 1 Mawrth oherwydd gwaith profi. Rhyswynne (sgwrs) 09:41, 28 Chwefror 2023 (UTC)Ateb[ateb]

Hafan newydd[golygu cod]

Rwyf wedi cael cynnig ar ailwampio'r dudalen Hafan (gweler "Gwedd newydd Wici" uchod). Gallwch chi ddod o hyd iddi yma yn fy Mhwll Tywod. Rwy'n meddwl bydd y dudalen yn ymddwyn ychydig yn well o dan Vector 2022, ond mae'n anodd dweud sut y bydd yn edrych ar pob cyfrifiadur, tabled a ffôn arall. Byddwn i wedi hoffi gallu creu fersiwn a fyddai’n gweithio'n well ar ffonau symudol, ond ar hyn o bryd mae yna fater technegol i’w oresgyn.

A oes unrhyw sylwadau, awgrymiadau neu feirniadaeth ar y dyluniad newydd arfaethedig?

Gyda llaw, ar ôl imi wneud cryn dipyn o arbrofi gyda'r wedd newydd, roeddwn i'n teimlo'n hapusach â hi. Os caewch chi far Cynnwys ar y chwith a bar Offer ar y dde byddwch chi'n datrys y broblem o erwau o le gwag ar un ochr a'r gorlenwad ar yr ochr arall. Felly pan fyddwch chi'n dod i edrych ar y dyluniad arfaethedig, rhowch gynnig arno ar ôl pwyso'r botymau "Cuddio" ar y ddwy ochr. Craigysgafn (sgwrs) 22:11, 1 Mawrth 2023 (UTC)Ateb[ateb]

Gwerth chweil! Mae na sawl drafft wedi'i wneud o Hafan newydd yn y gorffennol (mi wnes i un!), ond does na run cystal a hwn! Diolch Craigysgafn am greu cod glanach, sy'n gweithio dan yr hen wedd a'r gwedd newydd. Os nad oes gwrthwynebiad, awgrymaf fod yr newydd yn cael ei roi ar yr Hafan. Llywelyn2000 (sgwrs) 14:38, 15 Mawrth 2023 (UTC)Ateb[ateb]
Craigysgafn Golwg deche ar y cynnig i ailwampio, cytuno gydag awgrym Llywelyn2000 i'w roi ar yr Hafan AlwynapHuw (sgwrs) 15:45, 16 Mawrth 2023 (UTC)Ateb[ateb]
@Craigysgafn: Cafwyd digon o amser, dw i'n meddwl i bawb leisio eu barn. Felly, ymlaen a 'Hafan Newydd Craigysgafn'! Llywelyn2000 (sgwrs) 13:38, 27 Mawrth 2023 (UTC)Ateb[ateb]
Rwyf wedi gwthio'r cwch i'r dŵr! --Craigysgafn (sgwrs) 14:01, 27 Mawrth 2023 (UTC)Ateb[ateb]
Mae'n edrych yn dda, yn well, yn ysgafnach. Gwych iawn! Llywelyn2000 (sgwrs) 05:08, 28 Mawrth 2023 (UTC)Ateb[ateb]

Comin Anfasnachol (NC)[golygu cod]

1) Comin Anfasnachol (NC / non-commercial). Mae adran gyfreithiol Sefydliad Wicimedia bellach wedi dweud fod rhwydd hynt i Wicipedias fel hon ddefnyddio deunydd Anfasnachol (NC) os ydyn nhw'n dymuno gwneud hynny! Dyma dro pedol go iawn! Mae na brosiect, sydd wedi uwchlwytho dros 1.2 M o ddelweddau a ffeiliau eraill yma: https://nccommons.org/wiki/Main_Page

2) Mae Our World in Data yn gweithio o fewn awyrgylch Wicimedia (hy ar wici) yn fama https://mdwiki.org/wiki/WikiProjectMed:OWID gyda'r Basgiaid, er mwyn cyflwyno ffeiliau NC i'r Wicipedia Fasgeg.

3) Ceir prosiect meddygol, cyfoes https://mdwiki.org/wiki/WikiProjectMed:Translation_task_force sy'n cyflwyno sut i wneud hyn ar erthyglau megis https://mdwiki.org/wiki/Abdominal_thrusts

Os ydw i'n dallt yn iawn - bydd caniatad arbennig yn cael ei roi ar yr erthygl lle bydd y ddelwedd NC, a rhwystr rhag i'r llun fynd allan o'r erthygl i wefanau masnachol a gwefanau eraill. Fel hyn, mae'r drwydded NC yn cael ei pharchu a'i chadw. Er enghraiff, gallwn uwchlwytho pob ffeil sydd ar wefan Casgliad y Werin a'u defnyddio ar WP, yna fideos, yna ffeiliau sain...

Os ydym eisiau dilyn y Basgiaid (sy'n griw blaengar, avant garde iawn) yna byddai'n rhaid trafod yma, dod i gonsensws, ac os ydyn ni'n cytuno, bydd angen penodi un cyswllt i fynd a'r maen i'r wal.

Be 'da chi'n ei feddwl? Llywelyn2000 (sgwrs) 08:01, 10 Mawrth 2023 (UTC)Ateb[ateb]

Cytuno os yw'n golygu fod mwy o luniau ar gael i'w defnyddio ar Wicipedia Cymraeg. Titus Gold (sgwrs) 14:09, 11 Ebrill 2023 (UTC)Ateb[ateb]
O, ydy! Mae na 152,177 o luniau ar wefan Casgliad y Werin yn unig! Mi af ati i geisio gynaeafu'r lluniau, felly, cyn eu huwchlwytho. Does gen i ddim Python, felly bydd raid i mi chwilio am help i wneud y cam cyntaf. Diolch gyfaill! Llywelyn2000 (sgwrs) 09:42, 20 Ebrill 2023 (UTC)Ateb[ateb]

Trafodaeth ar Wiki Saesneg[golygu cod]

Mae sgwrs ar wahaniad potenial i dudalennau pennodol ar Gymru a Lloegr.

en:List of ports in England and Wales Titus Gold (sgwrs) 14:07, 11 Ebrill 2023 (UTC)Ateb[ateb]

Ddaeth neb yno i'th gynorthwyo! Trist iawn! Chawn i ddim gan mod i wedi fy ngwahardd o enwiki. Gan fod porthladdoedd Cymru'n annibynnol o ran rheoli, mae'n gwneud synnwyr mai rhestr ar bob un o'r dair wlad oedd eu hangen. Trist iawn. Llywelyn2000 (sgwrs) 11:23, 12 Ebrill 2023 (UTC)Ateb[ateb]
Rwy'n cydymdeimlo â Titus, ond o'm rhan i, dwyf i ddim am gael fy nghaethiwo mewn dadleuon ar enwiki. Newydd gymryd cipolwg ar y dudalen Sgwrs yno, a suddodd fy nghalon. Mae'n ymddangos fel pe bai synnwyr cyffredin yn cael ei alltudio o drafodaethau o'r fath. Craigysgafn (sgwrs) 13:51, 12 Ebrill 2023 (UTC)Ateb[ateb]
Cytuno, Craig. Cha i ddim golygu ar enwiki, neu mi fuaswn yn sefydlu grwp ymosodol ar ffurf rhyfela gerila Glyn-dwraidd-Arthuraidd, ar gyfer achosion fel hyn! Daw dydd! Efallai y dylid troi'r grwp golygyddion Celtaidd i'r diben yma! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:56, 13 Ebrill 2023 (UTC)Ateb[ateb]
Dwi'n rhannu fy amser rhwng Wiki Saesneg a'r Wici Cymraeg ac yn cyfiethu tudalennau ar Gymru gan geisio datblygu presenoldeb cryf ar Gymru yn y ddwy iaith.
Buaswn yn gwerthfawrogi cipolwg ar en:Foreign relations of Wales ac mae trafodaeth ar en:Wikipedia talk:WikiProject Wales.
Dwi wedi cyfieithu hefyd i Rhestr o borthladdoedd a harbyrau Cymru ac hefyd Cysylltiadau tramor Cymru ymhlith eraill.
Mae'n ymddangos nad yw'n bosib cyfieithu o'r Gymraeg i'r Saesneg, ond o'r Saesneg i'r Gymraeg yn unig am rhyw reswm. Titus Gold (sgwrs) 16:48, 14 Ebrill 2023 (UTC)Ateb[ateb]

Gwedd 2022[golygu cod]

Helo pawb. Apologies for not writing in the ancient language of Cymry. The Web team has just deployed the new look. It may take up to 3 days for logged-out users to see the new skin across all pageviews. It's just a caching issue - they don't see pages directly from our databases, but from cache servers instead. Logged-in users may experience something similar, too, but you'll see a consistent interface sooner.

Here's more information about the skin. In particular, I'd like to encourage you to see the FAQ (as well as other documentation pages) and subscribe to our newsletter. Diolch! SGrabarczuk (WMF) (sgwrs) 21:38, 12 Ebrill 2023 (UTC)Ateb[ateb]

Diolch (Thanks) @SGrabarczuk (WMF): ac i bawb a gyfrannodd i'r sgwrs ddifyr yma. Llywelyn2000 (sgwrs) 12:58, 13 Ebrill 2023 (UTC)Ateb[ateb]
Gwych, diolch. @SGrabarczuk (WMF) Much appreciated. Titus Gold (sgwrs) 16:49, 14 Ebrill 2023 (UTC)Ateb[ateb]

Newid hinsawdd a hawliau dynol ar Meta[golygu cod]

Ddwy flynedd yn ol fe wnaeth criw ohonom geisio llenwi man gwan, a phwysig ar Wicipedia: newid hinsawdd a hawliau dynol; gw. Wicipedia:Y Caffi uchod. Yn y ddwy flynedd ers hynny da ni di creu tua 200 o erthyglau ar y ddau bwnc yma. Prosiect gan y Cenhedloedd Unedig a Sefydliad Wicimedia ydy hwn. Eleni, ychwanegwyd rhestr arall o erthyglau a geisir. Dw i'n gwybod fod gan bawb ei flaenoriaeth ei hun, a da hynny, ond os ydy hwn at eich dant, byddai'n braf gael cwmni! Llywelyn2000 (sgwrs) 13:18, 13 Ebrill 2023 (UTC)Ateb[ateb]

Mae gwaith y wicibrosiect wedi datblygu ac ehangu yn fawr dros y misoedd diwethaf ond mae angen mwy o gymorth arnym. Rwyf wedi tacluso'r tasgau sydd angen eu cyflawni ar brif dudalen y Wicibrosiect, felly os y dymunwch chi ymuno a chyfranu mae rwan yn amser da i wneud. Diolch! Titus Gold (sgwrs) 00:52, 25 Ebrill 2023 (UTC)Ateb[ateb]

Rwy'n cyfranu erthyglau Cymreig o safbwynt Cymreig i Wicipedia, nid fel ail bobiad o erthyglau Saesneg. Yr hyn rwy'n gweld ar Wicibrosiect Cymru yw restr o bynciau sydd wedi eu codi o'r Wici Saesneg. Nid lle'r Sais yw dweud wrthym ar y Wici Cymraeg pa brosiectau sy'n bwysig i ni.
Gan fod cyfraniadau nifer o gyfranwyr Cymraeg i Wikipedia:WikiProject Wales wedi cael ymateb hiliol, ffiaidd a gwrth Gymreig rwy'n credu bod "prosiect" Cymraeg sydd wedi ei gyfieithu ohoni yn sarhad i'n Wici ni! AlwynapHuw (sgwrs)
Mae lle i bob math o erthyglau a does dim byd yn bod ar gyfieithiadau. Mae'r cyfieithiadau ar y cyfan yn addasu y cynnwys gorau, y teitl a'r cyflwyniad ac yn sylfaen da.
Mae llawer ohonynt o'r dudalennau newydd yn gyfieithiadau o dudalennau a greais i fy hun ar y Wiki Saesneg hefyd. Mae llawer o'r erthyglau Saesneg wedi bod o gwmpas ers blynyddoedd ac wedi datblygu dros amser hir. Byddai hi'n wastraff i beidio cymryd mantais o'r cynnwys sydd ar gael. Mae'n bwysig hefyd bod defnyddwyr y Wiki Saesneg yn cael pob cyfle i ddefnyddio'r ddolen newid iaith a dod draw i'r Wici Cymraeg.
Dwi'n cytuno'n llwyr bod angen creu erthyglau sy'n bwysig i Gymry gan gynnwys y Cymry Cymraeg.
Mae croeso i ddefnyddwyr i ychwanegu teitlau erthyglau sydd yn bwysig iddyn nhw i'r WiciBrosiect.
Fel y Wicipedia Cymraeg, dyle bod gennym mwy i'w gynnig ar Gymru nag unrhyw Wicipedia arall. Ar hyn o bryd, y Wiki Saesneg sydd ar y blaen ond rydym yn dechrau dal i fyny o ddifrif.
Titus Gold (sgwrs) 22:44, 25 Ebrill 2023 (UTC)Ateb[ateb]
Nid oes gennyf unrhyw wrthwynebiad I ddefnyddio'r teclyn cyfieithu. Man cychwyn y tua 100 o fywgraffiadau chwaraewyr rygbi cynnar Cymreig, rwyf wedi eu cyfrannu yma, fu'r teclyn cyfieithu. Ond mae pob un wedi ei gyfoethogi gyda gwybodaeth ychwanegol o safle Papurau Cymru LlGC. Dwy flynedd yn ôl ysgrifennais erthygl am y diwynydd Catholig, canoloesol, Duns Scotus, yn bennaf trwy gyfieithu'r erthygl Saesneg. Mi roddais gwedd Cymreig iddo trwy gyfeirio at draethawd academaidd Cymraeg Moeseg Cyfraith Naturiol Johannes Duns Scotus a stori plant gan Owen Edwards Llyfr Del - Ar Ystol Y Gosb Mae Wici Cymraeg, i mi, yn rhywbeth mwy na chyfieithiad! AlwynapHuw (sgwrs) 04:41, 26 Ebrill 2023 (UTC)Ateb[ateb]
Cytuno'n llwyr efo'r ddau ohonoch mai sail i adeiladu arno ydy'r cyfieithiad. Mae angen llygad barcud gan fod cymaint o en-wici'n gogwyddo tuag at unoliaethwyr Seisnig, rhaid dod ag idiomau Cymraeg i'r crochan, ac fel dywed Alwyn chwilio am wybodaeth sy'n berthnasol i'r darlenydd. Ond da ni gyd yn gwneud hyn. Titus Gold - mae'r erthyglau ar Gymru llawer gwell nag oedden nhw chwe mis yn ol - yn y ddwy iaith. Mae gen i ryw 20 o erthyglau ar newid hinsawdd dw i di ymgymryd i weithio arnyn nhw a mi drof at Brosiect Cymru. Ymlaen! Llywelyn2000 (sgwrs) 15:56, 26 Ebrill 2023 (UTC)Ateb[ateb]
Cytuno gyda'r ddau ohonoch ei bod yn bwysig i ychwanegu idiomau Cymraeg a ffynhonellau Cymraeg i erthyglau.
Edrych ymlaen i weld datblygiad pellach y Wicibrosiect. Titus Gold (sgwrs) 19:34, 27 Ebrill 2023 (UTC)Ateb[ateb]
iawn, wedi trio hwn (am y tro cyntaf, hynny yw defnyddio'r teclyn cyfieithu split screen - dwi fel arfer yn gwneud torri a gludo mewn ffeil googletranslate gwahanol ieithoedd a gweithio arno wedyn). Wedi gwneud https://cy.wikipedia.org/wiki/Coedwig_Genedlaethol_i_Gymru pam nad yw'r bocs wybodaeth yn dod i fyny er 'mod i wedi defnyddio
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolTudalen brosiect Wicimedia Edit this on Wikidata


sef fy ffordd arferol o gyrchwy gwybodaeth i'r gwybodlen? Stefanik (sgwrs) 11:32, 1 Mai 2023 (UTC)Ateb[ateb]
Yr hyn sy'n llenwi'r gwybodlen yw gwybodaeth o Wicidata. Er bod yna Eitem Wicidata ar gael i Goedwig Genedlaethol i Gymru, mae'r eitem yn wag ag eithrio y teitl Saesneg. Mae angen i rywyn sy'n mwy gyfarddwydd â Wicidata na fi i osod priodoleddau ar yr eitem. AlwynapHuw (sgwrs) 16:19, 1 Mai 2023 (UTC)Ateb[ateb]
Rwyf wedi dechrau llewni'r bylchau yn y Wicidata. Mae'n rhyfeddol o anodd dod o hyd i ffynonellau Cymraeg ar gyfer y prosiect hwn. Ac (ochenaid) fel arfer, gall ein cydweithwyr ar enwiki ddefnyddio logo'r prosiect ar y tudalen yno, gyda'u hapêl i gyfraith hawlfraint yr Unol Daleithiau, ond ni all cywiki. --Craigysgafn (sgwrs) 18:32, 1 Mai 2023 (UTC)Ateb[ateb]
Mae modd i ni ddefnyddio'r logo yma gan ddefnyddio'r un ddadl sy'n cael ei roi am ei ddefnyddio ar Wicipedia Saesneg, ond mae'n rhaid creu copi newydd ohoni ar gyfer y safle yma yn unig (hy peidio â'i roi ar Gomin at ddefnydd cyffredinol.) Mae llwyth o luniau "defnydd teg" tebyg yma'n barod ar gyfer cwmniau, cloriau llyfr, posteri ffilm ac ati. Gan nad yw'r lluniau yn dod o Wicidestun mae rhaid ychwanegu |image=enwllun (a |caption= disgrifiad os oes eisisau) ar y nodyn {{pethau}}AlwynapHuw (sgwrs) 20:33, 1 Mai 2023 (UTC)Ateb[ateb]
Diolch, Alwyn! --Craigysgafn (sgwrs) 21:15, 1 Mai 2023 (UTC)Ateb[ateb]
reit, diolch bawb! Wnes i ddim meddwl edyrch ar y wikidata (yn weddol gyfarwydd gyda llenwi hwnnw'n eflennol, o leiaf). Rhyfedd nad oedden nhw wedi llenwi hynny - roeddwn i'n cymryd mai oddi yno roedd manylion y gwybodlen yn dod! Diolch unwaith eto - braf bod yn rhan o dîm yn cefnogi a chynghori ein gilydd. Stefanik (sgwrs) 08:24, 2 Mai 2023 (UTC)Ateb[ateb]

Dehongliad - queer-sensitive interpretation[golygu cod]

Newydd gael hwn gan gyfaill i mi (Owen):

Ddydd Mercher, y 17fed Mai, bydd y sesiwn yn Queering Wikipedia, gyda Norena Shopland yn siarad am "Tricky Terminology" am y cymuned LHDTC+ a gyda fi, Vic o Wicimedia Yr Ariannin a Kira a Sofia o Art+Feminism gyda arweinlyfr newydd am cofiaint LHDTC+.

Dwi'n meddwl bydd hi'n neis i gwneud dehongliad yng Nghymraeg efallai?

Do you know anyone I might get in touch with who would be able to provide queer-sensitive interpretation? If not live, then post-facto translation might be good so we could provide subtitles maybe?

Mae mwy am y gynhadledd — a gyda linciau i gofrestru ac i'r amserlen — yn Meta: https://meta.wikimedia.org/wiki/QW2023


Rhowch wybod os ydych am gymryd rhan. Llywelyn2000 (sgwrs) 20:22, 8 Mai 2023 (UTC)Ateb[ateb]

Dim yn ddeall y gwahoddiad. Yn ôl fy nealltwriaeth i o reolau Wici does dim sensitive interpretations i fod yma am unrhyw bwnc! Rydym yn creu erthyglau mor ffeithiol a phosibl heb unrhyw "interpretation" o gwbl heb sôn am "sensitifrwydd". Rwy'n methu gweld gwahaniaeth rhwng galw am "sensitive interpretation" o bobl LHDTC+ a gofyn am "sensitive interpretation" o ASau Ceidwadol! AlwynapHuw (sgwrs) 02:12, 9 Mai 2023 (UTC)Ateb[ateb]
@AlwynapHuw: Does dim i erthygl, dyn ni'n hoffi rhywun sy'n gallu gwneud cyfieithiad cythrymol yng Nghymraeg i sesiwn am ein gynhadledd a sy'n gallu gwneud hynny yn teimladol a gyda parch i'r cymuned LDHTC+ — yn bod gofalus i geiriau sy'n defnyddio am pobl LDHTC+ gan gynnwys y bobl anneuol, er enghraifft. — OwenBlacker (sgwrs), ar ran y Grŵp Defnyddwyr Wicimedia LDHT+ a'r tîm Queering Wikipedia, 08:37, 9 Mai 2023 (UTC)Ateb[ateb]

Wicidestun[golygu cod]

Un golygiad y dydd! Mae Alwyn ar Wicidestun yn fama'n awgrymu un neu ddau o bethau bach syml i'w wneud ar Wicidestun. Dilynwch y ddolen uchod ac ewch ati! Un cam bach ar y tro... Llywelyn2000 (sgwrs) 08:36, 9 Mai 2023 (UTC)Ateb[ateb]

Mae'r dasg yn ymddangos yn aruthrol, ond ... "Sut ydych chi'n bwyta eliffant?" "Un brathiad ar y tro." Mae syniad Alwyn o gydweithio ar "lyfr y mis" yn wych. Rwyf wedi gwneud cychwyn. Craigysgafn (sgwrs) 09:26, 9 Mai 2023 (UTC)Ateb[ateb]

Etholiad arweinydd Plaid Cymru 2023[golygu cod]

Does dim byd gennyf ran bersonol yn y mater, ond dw i ddim yn hapus am Etholiad arweinydd Plaid Cymru 2023. Dylai Wicipedia fod yn ffynhonnell ffeithiau, h.y. pethau sydd wedi digwydd, nid pethau a allai ddigwydd. Mae'r erthygl yn ymddangos fel ymgais i lywio cwrs hanes gwleidyddol. Dylen ni aros nes cyhoeddi etholiad. Craigysgafn (sgwrs) 15:54, 10 Mai 2023 (UTC)Ateb[ateb]

(8 awr yn ddiweddarach) Mae Adam Price wedi ymddiswyddo bellach. Ond mae'r egwyddor yn bwysig. --Craigysgafn (sgwrs) 22:17, 10 Mai 2023 (UTC)Ateb[ateb]

Wiki Saesneg - mae dau olygydd yn ceisio cael gwared ar y dudalen en:Talk:Controversy of the Prince of Wales title. Byddwn yn gwerthfawrogi mewnbwn byr. Titus Gold (sgwrs) 13:30, 15 Mai 2023 (UTC)Ateb[ateb]

Gweler y cynnig am "split". Byddwn yn gwerthfawrogi sylw byr yn fawr iawn. Diolch Titus Gold (sgwrs) 23:41, 25 Mai 2023 (UTC)Ateb[ateb]

Wrth gwrs, mae angen dwy erthygl, ond nid oes gan enwiki ddim didddordeb yn fy mewnbwn i o gwbwl. Unionists ydy'r rhai hynny sy'n ymladd dros gadw'r erthyglau yn 'England and Wales', ac mae gogwydd Seisnig iawn i'w golygiadau nhw. Mae'r gwaith ti'n ei wneud ar cywici'n aros, a da ni i gyd yn ei werthfawrogi. Llywelyn2000 (sgwrs) 12:19, 8 Mehefin 2023 (UTC)Ateb[ateb]

Wici'r Holl Ddaear 2023[golygu cod]

Jyst gair sydyn i ddweud fod ei hymgyrch rhyngwladol Wici'r Holl Ddaear 2023 - gyda Chymru'n sefyll ar ei thraed ei hun yn fama, ar Comin. Bydd yn para yng Nghymru drwy Fis Mehefin a Gorffennaf. eich llygad ar y nifer o luniau yn fama. Ar hyn o bryd da ni'n 6ed allan o 31 gwlad, gyda 7 wythnos i fynd! Llywelyn2000 (sgwrs) 12:55, 8 Mehefin 2023 (UTC)Ateb[ateb]