Llyfrau Ceiniog Humphreys

Oddi ar Wicipedia
Pedr Fawr, o'r llyfryn gyntaf yn y gyfres

Roedd Llyfrau Ceiniog Humphreys yn gyfres o lyfrau a gyhoeddwyd gan yr argraffwr, cyhoeddwr a phregethwr Hugh Humphreys,[1] Caernarfon (1817—1896).

Cefndir[golygu | golygu cod]

Fel mae'r enw yn awgrymu pris pob cyfrol oedd un geiniog (ar y pryd gwerth £0.004 , nid y £0.01 cyfoes). Mae'r cyfrolau yn 12 tudalen o hyd, ac yn delio a phob pwnc dan haul o hanes Pla mawr Llundain, Cyfreithiau Hywel Dda, Bywgraffiad Y Pab Piws IX i Ferched Enwog yn Hanes Cymru. Cyhoeddwyd o leiaf 96 o'r llyfrau, sef y nifer a ail-gyhoeddwyd mewn 2 gyfrol yn cynnwys 48 yr un ohonynt.

Mae awduron y rhan fwyaf o'r llyfrau yn anhysbys. Ysgrifennodd Llew Llwyfo[2] hunangofiant yn unswydd i'r gyfres, a chyfieithiad o waith Thomas Pennant yw'r llyfr am Owain Glyndŵr. Am y gweddill mae'n debyg mae cyfieithiadau gan Hugh Humphreys ei hun o adroddiadau o bapurau Llundain neu o benodau o lyfrau Saesneg ydy'r mwyafrif mawr ohonynt.

Cyhoeddwyd gyfrol newydd pob wythnos gan gychwyn tua 1878.[3]

Gwerthfawrogiad[golygu | golygu cod]

Yn ei Atgofion am Gaernarfon dyfynna'r Athro Hudson Williams o Hanes yr Ysgol Sir ym Mrynrefail gan H. Parry-Jones:—

"Dyma y llyfrau mwyaf cyfareddol a ddaeth i ddwylaw bechgyn erioed; llyfrau ceiniog Humphreys Caernarfon. Dyma agoriadau i wlad hud a lledrith."[4]

Teitlau[golygu | golygu cod]

Dyma restr anghyflawn iawn o rai o'r teitlau

  • Hanes Pedr Fawr, ymerawdwr Rwssia
  • Hanes Pio Nono, y diweddar Bab
  • Hanes Brwydr fythgofiadwy Waterloo
  • Hanes Alexander Fawr a'i Ryfeloedd
  • Y Pla mawr yn Llundain, a'r Tân
  • Hanes Mahomet y Gau-brophwyd
  • Cynghorion Teuluol buddiol
  • Columbus, darganfyddwr America
  • Gau-grefyddau a Gau-grefyddwyr
  • Drylliadau y Commerce a'r Royal Charter
  • Hanes Poland a'i Gorthrymderau
  • Hanes Owain Glyndwr a'i Ryfeloedd
  • Y Crusades, neu Ryfeloedd y Groes
  • Hanes Bywyd Syr Thomas Picton
  • Y Chwilys a'i Weithrediadau arswydus
  • Hanes y Gwrthryfel ar fwrdd y Bounty
  • Hanes Llundain, Prifddinas y Byd
  • Daeargrynfeydd, a dinystr Lisbon
  • Hanes yr anffodus Farwn Trenck
  • Sut i wneyd Diodydd iachusol
  • Hanes H. M. Stanley yn Affrica
  • Hanes Cyflwr arswydus Francis Spira
  • Castell Caernarfon, a'r ymosod arno
  • Bywyd ac Anturiaethau Cadben Cook
  • Hanes y Gwrthryfel yn India yn 1857
  • Y Cospedigaethau a nodir yn y Beibl
  • Hanes Boneddiges ddall a'i Helbulon
  • Hanes Cwn; eu Ffyddlondeb i Ddyn
  • Hanes Bywyd a Llafur John Wesley
  • Difrod y Prydeiniaid yn Cabool, India
  • Hanes John Gibson, y Cerflunydd
  • Hanes yr enwog Dr. Franklin, America
  • Ffoadigaeth y Ffrangcod o Rwsia, 1812
  • Hanes William Tell o Switzerland
  • Cynghorion ar Byngciau cyfreithiol
  • Mordaith Anson o amgylch y Ddaear
  • Hanes Bywyd y dyngarol J. Howard
  • Hanes Ffynon Elian, a Jack yr offeiriad
  • Anturiaethau Dr. Livingstone, Affrica
  • Hanes Bywyd J. B. Gough, America
  • Hanes Gwrthryfel Iwerddon yn 1798
  • Gwarchaead Tair o Drefydd caerog
  • Suddiad yr Agerddlong Princess Alice
  • Hanes Joan o Arc (Morwynig Orleans)
  • Hanes y Telephone a'r Phonograph
  • Môr-frwydrau y Nile a Copenhagen
  • Hanes Bywyd y bardd Twm o'r Nant
  • Dynion a ymddyrchafasant trwy Lafur
  • Bywyd Martin Luther y Diwygiwr
  • Brad yr Indiaid Cochion yn America
  • Hywel Dda, a'i Gyfreithiau clodfawr
  • Ffraingc a'i Helbulon terfysglyd
  • Tystiolaethau Amgylchiadol, &c
  • Bywyd y Gwron enwog Garibaldi
  • Hanes y Pyramidiau hynod yn yr Aipht
  • Lewis Morris (Llewelyn Ddu o Fôn)
  • Brwydr Trafalgar, lle lladdwyd Nelson
  • Goresgyniad Ynys Prydain gan Caisa
  • Ymchwiliadau i'r Pegwn Gogleddol
  • Y Brenin Arthur yn cymeryd Rhufain
  • John Bunyan, awdwr Taith y Pererin
  • Drylliad yr Agerddlong Rothsay Castle
  • Brad y Cyllill Hirion gan y Saeson
  • Hanes Goronwy Owain y Bardd enwog
  • Abyssinia a Chwymp Theodore
  • Hanes Prascovie, Arwres Siberia
  • Oberlin, Gweinidog Protestanaidd
  • Hanes Hen Gymry y Canoloesoedd
  • Wm. Penn, Sylfaenydd Pennsylvania
  • Llywelyn, Tywysog olaf y Cymry
  • Gustavus Adolphus a'r Rhyfel hir
  • Merched enwog yn hanes Cymru
  • Richard Wilson, yr Arlunydd Cymreig
  • Tiriad y Ffrangcod yn Abergwaun
  • George Stephenson, y Peiriannydd
  • Mabinogion Arthur y Ford Gron
  • Hanes y Cymry yn America
  • Hanes Iolo Morganwg, y Bardd, &c.
  • Rob Roy Macgregor a'i Anturiaethau
  • Hanes Iarll de Charney a Picciola
  • Y Bastile a'r Creulonderau a fu yno
  • Llong-ddrylliad arswydus y Medusa
  • Hanes Bywyd George Washington
  • Hanes Oliver Cromwell, a'i Amserau
  • Hanes Bywyd Thomas Charles o'r Bala
  • Richard Falconer, a'i Beryglon morawl
  • Yr Ymosodiad ar New Orleans
  • Syr Owain ap Tudur o Benmynydd
  • Hanes y Diwygwyr yn Ffraingc
  • Wilberforce, Diddymwr y Gaethfasnach
  • Hanes Eugene Aram, y Llofrudd, &c
  • Daeargrynfeydd yn y ganrif bresenol
  • Môr-ladron-Hanes Peggi Morgan
  • Y Bachgen dewr a gonest o'r Alpau
  • Alaric y Goth: Hanesyn Rhufeinig
  • Cas-bethau y Gwr o Hendregaerog, &c.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "HUMPHREYS, HUGH (1817 - 1896), argraffydd a chyhoeddwr | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2022-04-21.
  2. "LEWIS, LEWIS WILLIAM ('Llew Llwyfo '; 1831 - 1901), bardd, nofelydd, a newyddiadurwr | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2022-04-21.
  3. "Advertising - Y Genedl Gymreig". Thomas Jones. 1878-09-19. Cyrchwyd 2022-04-21.
  4. LLYFRAU CEINIOG; Griffith,Ifor Bowen; Gwefan Y Casglwr adalwyd 21 Ebrill 2022