Recordiau Qualiton
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Label recordiau fach o ardal Abertawe oedd Recordiau Qualiton. Sylfaenwyd y cwmni gan John Edwards yn 1953[1]. Roedd yn cynhyrchu recordiau shellac a feinyl o'r 1950au hyd at 1961 ym Mhontardawe. Ymhlith y rhai cyntaf i recordio i'r label oedd y tenor David Price a Chymdeithas Gorawl Pontarddulais.
Fe'i prynwyd yn ddiweddarach gan Decca a'i ailenwi yn Qualiton Records (1968) Ltd. Defnyddiwyd colledion y cwmni gan Decca am resymau treth.[2]
Er i Qualiton arfer rhyddhau cerddoriaeth corau a chanu ysgafn, ym 1967 rhyddhawyd y sengl Maes B gan Y Blew - y record roc trydanol cyntaf yn yr iaith Gymraeg. Credir i tua 2,000 o senglau cael eu gwasgu.
Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- Maes B - Y Blew ar YouTube
- Beth sy'n dod rhyngom ni - Y Blew ar YouTube
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ SWYNGYFAREDD YR HEN RECORDIAU gan Huw Williams. Adalwyd ar 25 Mawrth 2017.
- ↑ (Saesneg) JOHN EDWARDS: A BIOGRAPHY. Adalwyd ar 25 Mawrth 2017.