Neidio i'r cynnwys

Richie Thomas

Oddi ar Wicipedia
Richie Thomas
Math o laistenor Edit this on Wikidata
Clawr albwm Goreuon Richie Thomas (Tenor)

Canwr o Gymro oedd Richie Thomas (1906 – Medi 1988). Fe'i ystyriwyd yn un o denoriaid mwyaf naturiol dawnus Cymru. Ganed ef yn Eirianfa, Penmachno, ger Betws-y-Coed. Bu'n arwain y canu yn ei gapel am dros 50 mlynedd.[1]

Melin Wlân Penmachno lle bu Richie Thomas yn 1952 (nid Richie sydd yn y llun)
Capel Wesleaidd Bethania, Penmachno, lle bu Richie Thomas yn godwr canu am ddegawdau

Roedd yn 47 oed pan ddaeth i amlygrwydd cyhoeddus trwy ennill y Wobr y Rhuban Glas yn Eisteddfod Genedlaethol y Rhyl 1953. O hynny ymlaen bu ei fywyd yn un gyfres hir o gyngherddau a recordiadau; ond daliodd i weithio fel rheolwr melin wlân hyd ei ymddeoliad. Roedd yn godwr canu yn ei gapel, Bethania, am dros 50 mlynedd.[2]

Roedd Thomas yn Rheolwr Melin Wlân wrth ei alwedigaeth.[3] Gwrthododd Richie, sy’n enwog am ganeuon fel Elen Fwyn ac Yr Hen Rebel, gynnig i ymuno â chwmni Opera Sadler’s Wells yn ogystal â chanu yn Unol Daleithiau America.[1]

Ymhlith uchafbwyntiau gyrfa Richie Thomas oedd ennill yr unawd tenor yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ym 1951; ennill y Rose Bowl yng ngŵyl Gerdd Ryngwladol Blackpool, 1952, allan o 250 o gystadleuwyr, a chipio'r Rhuban Glas yn Eisteddfod Genedlaethol y Rhyl, 1953.

Recordiodd 10 o recordiau ar label Qualiton, ac yna recordiodd i labeli Welsh Teledisc a Cambrian cyn recordio dwy LP i gwmni Sain ym 1974 ac 1977.[2]

Dadorchuddiwyd plac iddo gan Arthur, un o'i feibion,[2] ar ei hen gartref, 'Eirianfa' ym Medi 2012 gyda chyngerdd yn ddilyn gan y canwr lleol, Trebor Edwards a Band Penmachno.[1]

Disgograffi

[golygu | golygu cod]

Cyhoeddodd Richie Thomas o leiaf 20 record yn ystod neu wedi ei yrfa gyda'r nifer helaeth yn senglau a rhai albwm ac un CD Goreuon wedi ei farwolaeth.[3]

Senglau

[golygu | golygu cod]
  • I Achub Hen Rebel Fel Fi / Hen Ffon Fy Nain Maimie Noel Jones yn cyfeilio ar y piano; Sengl 10", 78 RPM, Qualiton RD 3132 1958
  • Gems From The Welsh Opera Blodwen Beti Wyn Jones a Richie Thomas (3 fersiwn o'r gwasgiad) Welsh Teldisc, TEP 817 1963
  • Yn Canu Emynau'r Diwygiad Sengl 7" (3 fersiwn o'r gwasgiad) Welsh Teldisc TEP 825 1963
Caneuon: A1 Y Gwr wrth Ffynnon Jacob; A2 Ar Galfaria; B1 Pardwn yn y Gwaed; B2 A Glywaist Di Bechadur 1963
  • Favourite Songs Of Wales Richie Thomas a Beti Wyn Jones Sengl 7" (dau fersiwn wedi gwasgu) Welsh Teldisc TEP 818 1963
Caneuon: A1 Yr Hen Gerddor (The Old Minstrel), A2 I Achub Hen Rebel fei Fi (The Rebels Lament) Soprano Songs, B1 Nant y Mynydd (The Mountain Stream), B2 Cartref (My Homeland).
Caneuon: A Glywaist Ti Son, A2 Mi Glywaf Dyner Lais; B1 Ust Gwrandewch, B2 Hardd Rhosyn Saron.
Caneuon: A1 Bugail Aberdyfi, A2 Mentra Gwen; B1 Galwad y Tywysog, B2 O Na byddai'n Haf O Hyd.
Caneuon: A1 Cof am y Cyfiawn Iesu, A2 Ar y Mynydd gyda'r Iesu; B1 Duw sy'n Maddau, B2 Cofio'r Gwaed.
Caneuon: A1 Pwy fydd yma Mhen Can Mlynedd, A2 Rwyf yma yn Mynch Ofni; B1 Hen Feibl Mawr fy Mam, B2 Yn Ymyl y Groes.
Caneuon: A1 Aros mae'r Mynyddau Mawr, A2 Bwthyn Bach melyn fy Nhad; B1 Mae Cymru'n Barod (Duet)
Caneuon: A1 Y Galw, A2 Brethyn Cartref; B1 Serenâd, B2 O Iesu Mawr rho D'anian Bur.
Caneuon: Ochr B: Swn Cawodydd
Hen Brocer Bach Gloyw Fy Nain Sengl 7", Recordiau Qualiton WSP 5061 blwyddyn anhysbus
Caneuon: Ochr B: O Fryniau Caersalem

Recordiau Hir

[golygu | golygu cod]
Caneuon: A1 Y Golomen Wen, A2 Graig Yr Oesoedd, A3 Rhosyn Saron, A4 Mi Glywaf Dyner Lais; B1 Baner ein Gwlad, B2 Y Fam a'i Baban, B3 Ust, Gwrandewch, B4 Ar ei Ben Bo'r Goron.
Caneuon: A1 Cartrefi Gwynion Cymru, A2 Cartrefle, A3 Elen Fwyn, A4 Pa Bryd Ca' i fynd Adre'n Ol?, A5 Carol (Eirinwg), A6 Cannwyll Fy Llygad, A7 Yr Hen Rebel; B1 Llwybr yr Wyddfa, B2 Duw A Digon, B3 Carol (Bethlehem), B4 Y Ddafad Golledig, B5 Cofio'r Groes, B6 Bore'r Geni, B7 Mai.
Caneuon: A1 Y Gân Orchfygol, A2 Mae D'eisiau di Bob Awr, A3 Cartre' Fy Nghalon, A4 Mab Afradlon, A5 Carol Gŵr y Llety, A6 Regent Square, A7 Darlun fy Mam; B1 Mi Glywaf Dyner Lais, B2 Bro Hiraethog, B3 Iesu Annwyl, B4 Dusseldorf, B5 Mi Gerddaf Gyda Thi, B6 Y Gardotes Fach, B7 Ffaeleddau fy Mywyd
Caneuon: A1 A Glywaist Ti Sôn?, A2 O Nefol Amen, A3 Y Gŵr wrth Ffynnon Jacob, A4 Cof Am y Cyfiawn Iesu, A5 Yr Hen Rebel, A6 Hen Ffon fy Nain, A7 O Paradiso!, A8 Sound An Alarm, A9 Galwad y Tywysog; B1 Back To Sorrento, B2 Nos Gân, B3 Cymru'n Barod, B4 Somewhere a Voice is Calling, B5 Arafa Don, B6 Ust, Gwrandewch, B7 Baner Ein Gwlad.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1 2 3 "Plaque unveiled in memory of Tenor Richie Thomas". Daily Post. 22 Medi 2012.
  2. 1 2 3 "Cofio Richie Thomas". BBC Cymru Fyw. 22 Medi 2012.
  3. 1 2 "Richie Thomas". Discogs. Cyrchwyd 15 Ebrill 2024.
Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato