Y Blew

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Y Blew
Blew logo.jpg
Gwybodaeth gefndirol
Tarddiad Aberystwyth
Cerddoriaeth Y grŵp roc Cymraeg cyntaf
Roc
Pop 60au
Seicedelig
Blynyddoedd 1967
Label(i) recordio Qualiton, (Pontardawe)
Cysylltiedig Spencer Davis Group
The Impressions
Cyn aelodau
Prif leisydd: Maldwyn Pate
Gitar Flaen: Richard Lloyd
Gitar Fas: Dafydd Evans
Allweddellau: Dave Williams
Drymiau: Geraint Evans/Topsi

Band roc Cymraeg arloesol, gynnar oedd Y Blew a ystyrir fel y grŵp roc trydanol cyntaf i ganu’n Gymraeg ac i rhyddhau record. Fe'i sefydlwyd ym Mhasg 1967, gan bedwar o fyfyrwyr Prifysgol Cymru, Aberystwyth a oedd wedi syrffedu ar ganu ysgafn, hen ffasiwn Cymraeg ac yn ymwybodol o’r angen i ddatblygu cerddoriaeth berthnasol i bobl ifanc: Maldwyn Pate, Dafydd Evans, Dave Williams a Geraint Evans.

Mae eisiau i bobol sgrechian mewn Cymraeg sâl - Y Blew [1]

Cynhalwyd gig arloesol yn neuadd Talybont ym Mhasg 1967. Er mwyn cael yr offer i ddatblygu ymhellach, bu'n rhaid i'r band benthyca swm sylweddol o arian.

Trefnwyd sawl taith lwyddianus yn fan y grŵp a elwid y Blewfan yn ystod ‘Summer of love’ 1967. Fe chwareodd Y Blew dros 50 o gigs mewn 8 mis gan gynnwys ymweliad â'r Eisteddfod Genedlaethol yn y Bala. Recordiwyd Maes B, eu hunig ddisg, yn ystod yr haf hwnnw.


Ffurfio’r Band[golygu | golygu cod y dudalen]

Y Blew - wrth bont Dolgellau, ffoto drwy garedigrwydd Alcwyn Deiniol Evans
Y Blew - ffoto drwy garedigrwydd Alcwyn Deiniol Evans

Yn 1960au roedd diwylliant Gymraeg yn dal dan ddylanwad traddodiad canu capel a nosweithiau llawen, heb adlewyrchu ffasiynau modern y genhedlaeth ifanc - a oedd yn dilyn y bwrlwm cyffroes y byd pop Eingl-Americanaidd. Yn dilyn sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg bu twf yn yr ymwybyddiaeth o'r Gymraeg a dechreuodd cyfnod o brotestio dros wella statws a sefyllfa'r Gymraeg, a gwelwyd canu modern yn rhan o'r ymgyrch honno.

Roedd rhai'n credu fod moderneiddio'r diwylliant Cymraeg hwnnw'n annorfod, moderneiddio er mwyn bod yn berthnasol i’r genhedlaeth newydd - y tu hwnt i’r cefnogwyr traddodiadol.

Nod y Blew oedd cyrraedd y Cymry Cymraeg a Di-gymraeg nad oeddent yn genedlaetholwyr, dechrau 'Scene' Cymraeg ymysg y rhai hollol anwleidyddol oedd y gobaith. yn ôl Dafydd Evans un o’r sylfaenwyr Y Blew.[2]

Fe geisiodd Maldwyn Pate trefnu grŵp trydanol i ganu yn Gymraeg gyda chyd fyfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth. Enw'r band oedd ‘Y Pedwar Cainc’ - Dafydd Evans, Maldwyn Pate (aelodau’r Blew yn nes ymlaen) gyda Hefin Elis (aelod o Edward H. Dafis nes ymlaen) a Geraint Griffiths (aelod o Eliffant ac Injaroc nes ymlaen). Perfformiodd y band unwaith yn unig, yn Eisteddfod Aberafan 1966, ond nid oedd y gynulleidfa'n barod am gerddoriaeth roc yn Gymraeg a fod y gynulleidfa wedi eu bwio.[3]

Y flwyddyn ganlynol fe ffurfiodd ‘’Y Blew’’ yn wreiddiol gyda Maldwyn Pate (llais), Dafydd Evans (gitâr fâs), Rick Lloyd (gitâr) a Geraint Evans (Drymiau). Ymunodd Dave Williams (Allweddellau) yn ddiweddarach.

Yn dilyn sawl perfformiad llwyddiannus i fyfyrwyr Aberystwyth fe wahoddwyd gan Robert Griffiths, Y Lolfa, iddynt chwarae yn TalyBont oedd hefyd yn noson lwyddiannus.

Teithiau[golygu | golygu cod y dudalen]

Poster gig Y Blew, Talybont

Penderfynodd y band fynd ati o ddifrif i drefnu teithiau o gigs, fe drefnon nhw dair taith yn Ne Cymru: y cyntaf ym mis Mehefin, yr ail ym mis Gorffennaf a’r trydydd yn Awst-Medi. Ar y pryd nid oedd modd rhentu system sain am y noson a bu'n rhaid benthyg swm sylweddol o arian i brynu offer a fan.

‪Y Blew Teledu 1967‬
‪Y Blew Teledu 1967-2‬
Y Blew yn ymddangos ar raglen deledu, 1967. Yn ôl ffotograffydd Y Blew Alcwyn Deiniol - 'R wy'n credu mae "P'nawn da" oedd enw'r rhaglen, ar y BBC, gan mai yn stiwdios Broadway yng Nghaerdydd oedd y rhaglen (fyw) yn cael ei gwneud. Ar yr un rhaglen 'roedd na westai arbennig, Mrs Edwards, a'i mab newydd gael ei gap rygbi cyntaf dros Gymru!…Gareth Edwards oedd y mab. Hefyd, pan oeddent yn paratoi, dyma'r cyfarwyddwr yn gofyn; "All ready?" a dwedodd y boi sain "I can't get this interference off the lead guitar" ac fe atebodd Rick Lloyd, yn weddol swrth, "It's the fuzzbox," it's supposed to be there!".

Roedd trefniadau'r daith yn hollol broffesiynol: llogwyd byrddau hysbysebu enfawr a dosbarthwyd miloedd o daflenni yn cyhoeddi "Mae'r Blew yn dod". Mae rhai o'r memorobilia hyn i'w gweld yn yr arddangosfa newydd yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.[4] Bu’r nosweithiau’n llwyddiannus iawn, yn aml fe ddaeth holl bobl ifanc yr ardal i weld y ffenomenon yn eu pentref. Yn dilyn un gig fe ddarganfu’r band negeseuon mewn lipstic dros eu fan a ysgrifennwyd gan ferched oedd wedi bod yn y noson.[3]

Doedd dim amser cyfansoddi 25 o ganeuon newydd sbon ar gyfer y teitihau felly fe gyfieithwyd caneuon llwyddiannus cyfoes.

Roedden ni’n gwneud caneuon oddi ar Sargent Pepper a’u cyfieithu i Gymraeg.. roedden ni hyd yn oed yn canu San Fransisco gan Scott McKenzie yn Gymraeg, a caneuon Cream pethe felly, a rhai ein hunain hefyd, yn arbennig rhai oedd yn rhoi cyfle i Richard Lloyd chwarae gitar. Roedd e’n gitarydd eitha da, y steil ar y pryd oedd i sefyll reit lan at yr ampliffier er mwyn cael feedback - Dafydd Evans.

Cofir haf 1967 fel y Summer of Love gyda’r mudiad hipiaidd yn seiliedig ar ‘heddwch a chariad’ ar ei anterth. Roedd y cyfryngau poblogaidd yn llawn rhybuddion am bobl ifanc yn troi i ffwrdd o ddisgyblaeth y genhedlaeth hŷn wrth ymddiddori mewn cyffuriau ac agweddau mwy agored at ryw. Roedd y Beatles newydd ryddhau eu halbwm seicadelig Sgt. Pepper's Lonely Hearts Club Band ac wedi aros ym Mangor ar gyfer penwythnos o fyfyrdod gyda Guru Indiaid.

Eisteddfod Bala, 1967[golygu | golygu cod y dudalen]

Ni fentrodd teithiau'r band i'r gogledd rhyw lawer, er i grwpiau pop a roc Saesneg eu hiaith chwarae'n gyson mewn nifer fawr o neuaddau, caffis a chlybiau trwy ogledd Cymru ar hyd y 1960au. Teimlodd Y Blew nad oedd y gogleddwyr yn barod am roc Cymraeg trydanol neu am newid yr arfer o nosweithiau llawen traddodiadol gyda cherddoriaeth acwstig gwerin fel Dafydd Iwan a Tony ac Aloma a grwpiau 'hogia' fel Hogia Llandegai a Hogia'r Wyddfa. Un o ychydig berfformiadau Y Blew yn y gogledd oedd yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Cymru y Bala 1967. Roedd Maes yr Ŵyl wedi’i rhannu'n sawl rhan, Maes A, Maes B a Maes C ayb… gyda’r bobl ifanc yn gwersylla ar ‘Maes B’. Perfformiodd y Blew yn y Babell Lên ar y prif faes gan ddod ag ysbryd a llawenydd y diwylliant newydd siecadelig.[5]

Diwedd y grŵp[golygu | golygu cod y dudalen]

Perfformiodd y band hyd at Nadolig 1967 ond fe roddwyd y gorau iddi cyn diwedd y flwyddyn ac fe wasgarodd yr aelodau; aeth y canwr Maldwyn Pate i fyw i Efrog Newydd lle gweithiodd fel coreograffydd. Aeth Richard Lloyd yn aelod o’r grwp y Flying Pickets a gyrhaeddod rhif un yn siartiau Prydain gyda ‘'Only You’’ dros Nadolig 1983.[2]

Ar ôl i’r Blew chwalu fe gymerodd hi 6 mlynedd i’r band roc trydanol nesaf i’w ffurfio: Edward H. Dafis yn 1973 ac yna Brân yn 1974.

Rwy’n credu ei fod e wedi cymered amser i’r geiniog syrthio. Roedd ‘ethos’ y Cymry Cymraeg - Perlau Taf, Y Pelydrau.. dyna fath o beth oedd yn mynd ar y pryd - Dafydd Evans mewn cyfweliad ym 1986.[2]

Y Sengl Maes B[golygu | golygu cod y dudalen]

Clawr sengl Maes B, Y Blew

Gwahoddwyd Y Blew i recordio sengl gyda Recordiau Cambrian a oedd yn arfer rhyddhau cerddoriaeth corau a chanu ysgafn ond roedd y band o'r farn nad oedd offer recordio un trac y cwmni'n addas. Fe benderfynon dderbyn cynnig cwmni Qualiton, Pontardawe, gan eu bod yn gallu cynnig stiwdio gyda mwy o draciau BBC Abertawe.[6]

Er i deitl y gân ddathlu dyfodiad siecadelia i Faes B yr Eisteddfod, nid yw geiriau'r gân yn cyfeirio at faes yr Eisteddfod. Mae geiriau'r gân yn adlewyrchu ffasiwn seicedelig 1967 gyda llinellau fel pam 'na nei di ddod 'da fi i weld y tylwyth teg a chael clywed cloc y dref yn taro tair ar ddeg.[5] Fe'i hsgrifennwyd y noson gynt, y dôn gan Dave Williams (Allweddellau) gydag ambell awgrym gan Maldwyn Pate. Y dylanwad mwyaf ar Dave Williams ar y pryd oedd sŵn Tamla Motown sydd i'w clywed yn glir ar y drymio.

Recordiwyd y cyfan, yn cynnwys yr ail ochr, mewn ychydig o oriau gan fod y band ar frys i gyrraedd Aberystwyth i chwarae dwy gig y noson honno (un yn Neuadd y Dref a'r llall yng Ngwesty'r Marine). Nid oedd y drymiwr wedi ei clywed Maes B, nes iddo gyrraedd y stiwdio. Ar y recordiad fe glywir Pate yn canu 'edrych ar y snos' yn lle 'nos', ond nid oedd amser i'w gywiro.

Fe hoffai'r band fod wedi cael sŵn trymach, mwy cyfoes, yn debycach i Cream a Hey Joe, Jimi Hendrix a oedd yn llwyddiant mawr ar y pryd, ond nid oedd yn bosib gydag offer elfennol stiwdio BBC Abertawe.

Credir i tua 2,000 o senglau cael eu gwasgu. Ni chafodd y gân fawr o chwarae ar y radio, prin oedd y Gymraeg i’w chlywed gyda’r gwasanaethau radio wedi'u lleoli yn Llundain ar yr adeg honno. Fe adolygwyd Maes B ar raglen panel yn trafod recordiau newydd eu rhyddhau ar BBC Radio 1 (fe lansiwyd Radio 1 yn fis Hydref 1967 mis cyn rhyddhau Maes B) ond roedd y panelwyr o dan yr argraff bod canu yn Gymraeg yn ddim ond rhyw fath o gimig gwerthu.

Meddai Dafydd Evans Fe wnaethon nhw werthu'n dda yn Ne Cymru; doedden ni ddim wedi perfformio yn y gogledd felly roedd y gwrthiant yn is.[7]

Clawr Spencer Davis

Prynwyd y Label Qualiton yn ddiweddarach gan Decca a'i ailenwi yn Qualiton Records (1968) Ltd. Defnyddiwyd colledion y cwmni gan Decca am resymau treth.[8]

Ochr 2 – Beth Sy'n Dod Rhyngom Ni[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae ail ochr y sengl yn fersiwn Y Blew o'r gân Curtis Mayfield You Must Believe Me. Roedd y Blew wedi clywed y gân ar ail record hir y grŵp Saesneg The Spencer Davis Group [9]. Fe recordiwyd yn wreiddiol gan Curtis Mayfield gyda'i grŵp The Impressions gan gyrhaeddodd rhif 15 yn siartiau Billboard yn yr Unol Daleithiau ym 1964. Mae'n ymddangos ar record hir yr Impressions People Get Ready.

Mae'r Trwnyau Coch yn canu fersiwn o Beth Sy'n Dod Rhyngom Ni ar eu record hir Rhedeg Rhag y Torpidos (1980, SAIN-1186M).

Cyfeiriadau a theyrngedau i Maes B[golygu | golygu cod y dudalen]

Clawr ffansin Cymdeithas yr Iaith, 1986

Prin iawn bu’r sylw i’r Blew wedi 1967. Ym 1986, bron i ugain mlynedd ers ‘’Y Blew’’ fe gyhoeddwyd ‘’Hanes y Blew’’ gan Cymdeithas yr Iaith. Yn drawsgrifiad o gyfweliad gyda Dafydd Evans yn cynnwys lluniau a thoriadau papur archif.

Cymerwyd hyd at 1997 cyn recordio rhaglen deledu ddogfen am Y Blew ar S4C. [10] Roedd hon yn cynnwys ffilmiau archif o berfformiad teledu’r band, cyfweliad gyda’r aelodau a'r rhai a oedd yn eu cofio, ar ddiwedd y rhaglen mae’r aelodau’n ail-recordio ‘Maes B’ mewn stiwdio fodern.

Hefyd yn 1997 fe ddychwelodd yr Eisteddfod Genedlaethol i’r Bala a bu sawl erthygl gylchgrawn a radio yn cyfeirio at Eisteddfod 1967 a’r Blew. Penderfynwyd enwi’r pafiliwn cerddoriaeth roc oedd newydd ei sefydlu yn ‘Maes B’

Enwyd ar ôl Maes B

  • Maes B - Tri deg mlynedd ar ôl i'r Blew ymddangos yn Eisteddfod Y Bala, 1967, fe ddychwelodd yr Eisteddfod Genedlaethol i'r Bala ym 1997 ac fe enwyd y pafiliwn cerddoriaeth roc newydd yn 'Maes B'.
  • Maes E - Cân Datblygu a rhyddhawyd ym 1999. Y llythyren 'E' yn yr achos yma yw'r cyffur ecstasy, roedd ffasiwn ‘E’ wedi bod ar ei anterth yn y 1990au.
  • Maes D - Pafiliwn yr Eisteddfod i ddysgwyr Cymraeg, bellach yw 'Maes D'
  • MaesE.com - Yn 2002 fe sefydlodd Nic Dafis y fforwm drafod ar lein poblogaidd Maes-E.com
  • Maes-T - Mae Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor yn galw eu gwefan termau yn Maes-T.com

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Llyfr Dafydd Evans Y Lolfa.jpg
  • Maes B - Y Blew ar YouTube [1]
  • Beth sy'n dod rhyngom ni - Y Blew ar YouTube [2]
  • Maes-E - Datblygu ar YouTube [3]
  • You Must Believe Me - The Impressions ar YouTube [4]
  • Second Album - The Spencer Davis Group ar YouTube [5]
  • Mae’r gân ‘’Maes B’’ ar gael ar CD ‘’’Degawdau Roc (1967-82)’’ Recordiau Sain, 2004, SCD2376 [6]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Llyfr Dafydd Evans: Y Blew a Buddugoliaeth Gwynfor Cofant Dafydd Evans. Detholiad o ddyddiaduron plentyndod a chyfnod coleg Dafydd Evans rhwng 1954 a 1967, yn cynnws cyfnod 'Y Blew'. Gwasg Y Lolfa, ISBN 0862436729 [7]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Hanes Y Blew, 1986 Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Rhanbarth Clwyd (1986). Hanes y Blew.