Hogia'r Wyddfa
| Enghraifft o: | band |
|---|---|
| Dechrau/Sefydlu | 1963 |
| Dynodwyr | |
Grŵp adloniant Cymraeg yw Hogia'r Wyddfa a ffurfiwyd yn 1963[1]. Maen nhw wedi bod yn perfformio mewn cyngherddau a nosweithiau o adloniant ar hyd a lled Cymru a'r tu hwnt am dros hanner can mlynedd. Aelodau'r grŵp oedd Arwel Jones, Myrddin Owen, Elwyn Jones, Richard Morris, Vivian Williams ac yn ddiweddarach Annette Bryn Parri.
Er bod Hogia’r Wyddfa wedi ymddeol droeon, maen nhw wedi ail-ffurfio sawl tro i berfformio. Cyhoeddwyd eu recordiau cynharaf gan Recordiau'r Dryw gan gynnwys caneuon fel 'Safwn yn y Bwlch' gan Glyn Roberts, 'Tylluanod' ac 'Aberdaron'. Ym 1967, cyhoeddodd Hogia’r Wyddfa eu Ep cyntaf ar label Dryw.[2] Roedd Hogia'r Wyddfa ymhlith y cyntaf o artistiaid Sain i dderbyn Disg Aur.
Aelodau
[golygu | golygu cod]Cyn ymddeol, Prifathro oedd Arwel Jones, tra bod Myrddin Owen yn gweithio yn Adran Cynllunio Cyngor Dwyfor, Vivian Williams yn rhedeg ei siop Golff ym Mangor ac Elwyn Jones yn gweithio yn Amgueddfa Chwarel Dinorwig. Bu farw Richard Huw Morris eu cyfeilydd cyntaf yn 2000, ond fe ymunodd Annette Bryn Parri fel pianyddes, cyfansoddwraig a threfnydd.
Cefndir
[golygu | golygu cod]Cafodd y grŵp eu dylanwadu gan Triawd y Coleg, gan edmygu dewis y triawd lleisiol am ddeunydd gwreiddiol yn hytrach na dynwared cerddoriaeth Saesneg. Aethant ati i addasu geiriau rhai o feirdd amlycaf Cymru megis R. Williams Parry, J. Glyn Davies a Cynan. Derbyniodd y grŵp feirniadaeth ar y cychwyn am ei haddasiadau mentrus fel y gân 'Aberdaron', a gyfansoddwyd gan Arwel Jones ar eiriau Cynan, fel rhan o gynhyrchiad Cwmni Theatr Cymru o Cofio Cynan ym 1970.[3]
Bu iddynt berfformio ar rai o lwyfannau mwyaf Cymru yn y 1960au a 1970au gan gynnwys pafiliynau Corwen a Phontrhydfendigaid, sinemâu y Majestic, Caernarfon a'r Lyric Caerfyrddin, pier Y Rhyl a Neuadd Brangwyn, Abertawe. Cawsant y cyfle hefyd i deithio'r byd gan berfformio yn Neuadd Frenhinol Albert, Llundain, Unol Daleithiau Amreica, Nigeria ac Awstralia. [3]
Recordiau'r Dryw oedd eu label recordio cyntaf cyn iddynt newid i Recordiau Sain ym 1974.[3]
Ym 1990, nododd gohebydd y Daily Post, Arthur Williams fod Hogia'r Wyddfa "...wedi cyfoethogi'r 'pethe' gorau yn hanes y genedl [Cymru] mewn cyfnod cyffrous, tyngedfennol a dyrys. Gwnaethant hyn gyda chysegriad, angerdd a ffurf hollol unigryw yn myd canu poblogaidd".[3]
Caneuon
[golygu | golygu cod]Dyma drefn y caneuon oddi ar y 9 CD Y Casgliad Cyflawn a ryddhawyd gan Sain yn 2013.
CD 1
- Cofio
- Y Gwanwyn Du
- Nos y Ddinas
- Crwydryn
- La la la
- Stafell Gynddylan
- Tre Saith
- Paham, Pa Bryd?
- Pwyth at Bwyth
- Ni'm Symudir Ni
- Siglo yn y Gwynt
- Brawdgarwr
- Bugail Aberdyfi
- Bethlehem oedd yn Cysgu
- Bro Dwyfor
CD 2
- Teifi
- Yr Eneth Glaf
- Holi
- Carol
- Dos draw, Moses
- Olwyn
- Clychau'r Gog
- Rhieingerdd
- Y Drwydded Yrru
- Hwn ŵr bach
- Y Tangnefeddwyr
CD 3
- Pentra bach Llanbêr
- Ddoi di gyda mi?
- Gwanwyn
- Aberdaron
- Ofer Chwilio
- Gweddi Plentyn
- Bysus bach y Wlad
- Tylluanod
- Llanc ifanc o Lŷn
- Doedd dim ar ôl
- Mr Pwy a Ŵyr
- Hwiangerddi
- Safwn yn y Bwlch
CD 4
- Rownd yr Horn
- Y Ferch o Blwy' Penderyn
- Santiana
- Y Fronfraith
- Lisa Lân
- Ma' nghariad i'n Fenws
- Ar Gyfer Heddiw'r Bore
- Hwiangerdd Mair
- Fflat Huw Puw
- Blewyn Glas
- Llongau Caernarfon
- P'le buost ti neithiwr?
- Si Hei Lwli
CD 5
- Ti a dy Ddoniau
- Mil harddach wyt na'r Rhosyn Gwyn
- Pe bawn i...
- Mynd heb ddweud
- Rhywun
- Jimmy Brown
- Ynys yr Hud
- Traeth Bondi
- Cerdd yr Hen Chwarelwr
- Tua Thre
- Trafaeliais y Byd
- Carol Gŵr y Llety
CD 6
- Titw Tomos Las
- Gwyn
- Y Ferch ar y cei yn Rio
- Pont yr Abar
- Olwen
- Caru Cymru
- Tecel
- Draw mae'r llais yn Galw
- Chwarel Dinorwig
- Eifionydd
- Cofio
CD 7
- Ceiliog y Gwynt
- Dafydd ap Siencyn
- Gwaun Cwm Brwynog
- Yr Heliwr
- Tymhorau
- Wil Tatws Trw' Crwyn
- Rhaid Deffro yn Awr
- Ffarwel i'r Parlwr Du
- Bwgan y Brain
- Amser Noswyl
- Angharad
- Pan fo'r nos yn hir
CD 8
- Mae'n hwyr y dydd
- Hen Ŵr ar Bont y Bala
- Nadolig? Pwy a Ŵyr?
- Dyro gyfle i'r galar gilio
- Addfwyn aThyner
- Mari Linôr
- Maradona
- Mae'n dda dy Weled
- Seren fach Ddisglair
- Dychweliad y Wennol
- Mae gen i gariad atat ti
- Cofio Cilmeri
CD 9
- Rhaid i ni Ddathlu
- Ein Tir
- Dijeridŵ
- Carol Gŵr y Llety
- Allwedd y Gell
- Ynys Afallon
- Tua'r Gymru Rydd
- Dewch i'r Ddawns
- Lluniau Ddoe
- Fe Syrth yr Eira
- Y Milwr
- Y Fordaith Fawr
- Grist Bendigedig
- Cymru
Oriel
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Wyn-Williams, Gareth (2014-01-02). "Hogia'r Wyddfa celebrate 50 years on stage". northwales (yn Saesneg). Cyrchwyd 2014-06-29.
- ↑ "Hogia'r Wyddfa". Golwg360. 2020-12-26. Cyrchwyd 2025-09-15.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 3.3 Hogia'r Wyddfa (1990). Cofio. Gwalia. ISBN 1871734010.