Neidio i'r cynnwys

Annette Bryn Parri

Oddi ar Wicipedia
Annette Bryn Parri
Ganwyd29 Gorffennaf 1962 Edit this on Wikidata
Bu farw27 Mai 2025 Edit this on Wikidata
Bangor Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcyfeilydd, cyfansoddwr, pianydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Cyfeilyddes, cerddor, cyfansoddwraig a pherfformwraig oedd Annette Bryn Parri (29 Gorffennaf 196227 Mai 2025).[1][2] Roedd yn adnabyddus fel pianydd a chyfeilydd i sawl artist yn cynnwys Bryn Terfel, Hogia’r Wyddfa, Ysgol Glanaethwy, Rebecca Evans a Rhys Meirion.

Bywyd cynnar ac addysg

[golygu | golygu cod]

Fe'i ganed yn Neiniolen, Gwynedd. Ddechreuodd ar ei gyrfa gerddorol yn ifanc, gan berfformio gyda'i chwiorydd Marina ac Olwen, o dan yr enw Genod Tŷ'r Ysgol. Yn bymtheng mlwydd oed, roedd Annette yn gyfeilydd swyddogol.

Wedi iddi astudio’r piano gyda Rhiannon Gabrielson o Benmaenmawr aeth ymlaen i astudio gyda Marjorie Clement yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd ym Manceinion, lle graddiodd yn 1984. Wrth gyfeilio yn y brifysgl, roedd Annette yn arbenigo mewn Lieder, oratorio a’r opera, ond roedd ei diddordeb mwyaf yng nghyfansoddwyr y cyfnod Rhamantaidd.

Yn 1982 enillodd wobr Grace Williams am gyfansoddi yn Eisteddfod yr Urdd ym Mhwllheli. Yn 1983, cafodd ei gweld am y tro cyntaf ar lwyfan Eisteddfod Genedlaethol yn Llangefni. Enillodd y Rhuban Glas offerynnol yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Y Rhyl yn 1985.

Yn 1984 ymunodd a’r Adran Gerdd ym Mhrifysgol Cymru Bangor, ac o'r flwyddyn honno ymlaen, bu Annette yn diwtor piano i fyfyrwyr cerddoriaeth sy’n dilyn cyrsiau B.A. a B.Cerdd a bu’n cyfeilio i fyfyrwyr yn eu harholiadau perfformio.

Bu'n cyfeilio i nifer o brif artistiaid Cymru fel Bryn Terfel ac Aled Jones, Eirian James, Gwyn Hughes-Jones, Leah Marian Jones a Rebecca Evans. Cyfrannodd i nifer o gynyrchiadau teledu fel Noson Lawen, Cân i Gymru. Meistroli, a llawer mwy. Mae ei chyfansoddiadau yn cynnwys ei threfniant o ganeuon Andrew Lloyd Webber, caneuon Cymreig a melodïau amrywiol, cerddoriaeth i ffilm a cherddoriaeth ysgafn.

Ymddangosodd mewn cyngherddau, fel perfformwraig ac fel cyfeilyddes trwy Gymru a Lloegr, yn ogystal ag yn yr Almaen, Llydaw, yr Eidal, Nigeria, Awstralia a Hong Cong - ac ar fwrdd y QE2. Roedd wedi cyfeilio yn Neuadd Albert, Llundain ar sawl achlysur, a bu Syr Andrew Lloyd Webber, Syr George Solti, y Tywysog Charles a’r diweddar Dywysoges Diana ymhlith ei chynulleidfaoedd preifat.

Ers 1993 roedd yn brif gyfeilydd i gorau Ysgol Glanaethwy ym Mangor, ac rhwng 2002 a 2011 bu’n Gyfarwyddwr Cerdd Côr Meibion ​​y Traeth. Cyhoeddodd ei hunangofiant Bywyd ar Ddu a Gwyn yn 2010.

Rhwng 1995 a 1997, ac wedyn yn 2005, cyd-gyfansoddodd a bu'n gyfarwyddwr cerdd ar ddramâu cerdd Gŵyl Fai Pwllheli gyda Glyn Roberts a Paul Griffiths.

Yn 2013 sefydlodd TRIO, triawd lleisiol yn cynnwys ei mab Bedwyr, yn ogystal â Steffan Lloyd Owen ac Emyr Gibson. Yr un flwyddyn cafodd ei hurddo i Orsedd yr Eisteddfod Genedlaethol. Bu'n perfformio am ugain mlynedd gyda'r telynor Dylan Cernyw fel y ddeuawd 'Piantel'. Roedd hi hefyd yn Gyfarwyddwr Cerdd Côr Heddlu Gogledd Cymru.[3]

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Roedd hi'n briod a'r diweddar Gwyn Parri a ganwyd tri o blant iddynt - Heledd, Ynyr a Bedwyr.[4] Bu farw yn Ysbyty Gwynedd ar 27 Mai 2025, yn 62 mlwydd oed ac yn dilyn cyfnod o waeledd.[5][2]

Teyrngedau

[golygu | golygu cod]

Talwyd terngedau iddi gan lawer gyda'r newyddion yn dod yn ystod wythnos Eisteddfod yr Urdd. Magwyd Trystan Ellis-Morris yn yr un pentref, Deiniolen. Tra'n cyflwyno rhaglenni teledu yr Eisteddfod ar S4C dywedodd "Mae hi wedi ysbrydoli gymaint o gerddorion ifanc dros y blynyddoedd... Mae'r cyfraniad mae hi 'di gneud yn anfesuradwy mewn gwirionedd. Mae'r llu atgofion yn rhai bendigedig,".

Dywedodd Meinir Jones Parry oedd yn cyfeilio ar lwyfan yr Urdd: "Tristwch mawr clywed y newyddion am Annette Bryn Parri. Person hynod dalentog ac annwyl. Wedi cael y fraint o fod yn ei chwmni a rhannu llwyfan gyda hi dros y blynyddoedd."

Dywedodd Dylan Cernyw : "Anodd credu y newyddion bore ‘ma, ffrind, cerddor, ac fel chwaer, Annette.... Fy ffrind gore, cyd-berfformiwr, ers dros ugain mlynedd, ac yn gyd gyfeilydd i wahanol gorau ac unawdwyr ers blynyddoedd maith, un o'r goreuon! Pleser oedd dy nabod, y chwerthin, y crio a dy hiwmor."

Englyn coffa gan Annes Glynn

[golygu | golygu cod]
Annette fu'n cyfeiliant ni ar y daith;
aur y dôn, a'i hasbri
telynegol, hudol hi
yw'r ias fydd yn goroesi.[6]

Rhestr recordiadau

[golygu | golygu cod]

Dyma restr o ganeuon gan Annette Bryn Parri. Nid yw'r rhestr yn orffenedig, ac mae'r ffeiliau yn dameidiau i aros pryd, sef y 30 eiliad cyntaf o'r traciau a recordiwyd ar label Cwmni Recordiau Sain.[7]

Teitl y gân Clip sain Blwyddyn cyhoeddi Rhif Catalog
Bugeilio'r Gwenith Gwyn2005SAIN SCD 2368
El Cumbanchero2005SAIN SCD 2368
Hwiangerdd a Breuddwydion2005SAIN SCD 2368
Il Spirto Gentil2005SAIN SCD 2368
La Vergine2005SAIN SCD 2368
Le Coucou2005SAIN SCD 2368
Moonlight Sonata2005SAIN SCD 2368
Oh Holy Night2005SAIN SCD 2368
Prelude yn C Leiaf2005SAIN SCD 2368
Rhapsody in Blue2005SAIN SCD 2368
Romance de Amor2005SAIN SCD 2368
Tarantelle2005SAIN SCD 2368
Toccata yn D Leiaf2005SAIN SCD 2368
Un Mondo a Parte2005SAIN SCD 2368
Moonlight Sonata2009SAIN SCD 2558

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Annette Bryn PARRI personal appointments - Find and update company information - GOV.UK". find-and-update.company-information.service.gov.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-05-28.
  2. 1 2 "Hysbysiad marwolaeth Annette Bryn PARRI". Dally Post. 2025-06-05. Cyrchwyd 2025-06-05.
  3. "Teyrnged i Annette Bryn Parri". www.northwales.police.uk. Cyrchwyd 2025-05-29.
  4. "Y pianydd Annette Bryn Parri wedi marw'n 62 oed". newyddion.s4c.cymru. 2025-05-28. Cyrchwyd 2025-05-29.
  5. "Y gyfeilyddes a'r hyfforddwraig Annette Bryn Parri wedi marw". BBC Cymru Fyw. 28 Mai 2025. Cyrchwyd 28 Mai 2025.
  6. "Tudalen Facebook Annes Glynn". www.facebook.com. Cyrchwyd 2025-05-29.
  7. sainwales.com; adalwyd 29 Awst 2017.