Neidio i'r cynnwys

Grace Williams

Oddi ar Wicipedia
Grace Williams
GanwydGrace Mary Williams Edit this on Wikidata
19 Chwefror 1906 Edit this on Wikidata
y Barri Edit this on Wikidata
Bu farw10 Chwefror 1977 Edit this on Wikidata
y Barri Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcyfansoddwr Edit this on Wikidata
Arddullopera Edit this on Wikidata

Cyfansoddwraig o Gymraes oedd Grace Mary Williams (19 Chwefror 190610 Chwefror 1977) a gysylltir â cherddoriaeth gerddorfaol yn bennaf. Fe'i hystyrir fel un o'r cyfansoddwyr benywaidd Cymreig mwyaf dylanwadol yn hanes cerddoriaeth Cymru yn ystod yr 20g. Hi oedd y gyfansoddwraig gyntaf yng Nghymru i gyfansoddi opera a'r fenyw gyntaf o wledydd Prydain i ysgrifennu sgôr ar gyfer ffilm lawn.[1]

Ymhlith ei gweithiau cerddorfaol mwyaf nodedig y mae: Fantasia on Welsh Nursery Tunes (1940), Sea Sketches (1944) a Penillion (1955).

Bywyd cynnar

[golygu | golygu cod]

Cafodd ei geni yn y Barri yn ferch i William Matthews Williams a Rose Emily Richards Williams. Roedd ei rhieni yn athrawon ac roedd ei thad yn gerddor nodedig.[2][3] Ar ôl gadael Ysgol y Sir, yn y Barri, enillodd ysgoloriaeth Morfydd Owen ac aeth i Goleg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy. Oddi yno aeth i Goleg Brenhinol Cerddoriaeth (y Royal College of Music) yn Llundain yn 1926, ble cafodd ei dysgu gan Ralph Vaughan Williams a'i hanogodd i gofleidio cerddoriaeth draddodiadol Cymru. Cymhellwyd hi i drefnu alawon gwerin gan ei chyfaill, y cyfansoddwr Benjamin Britten (1913–76) hefyd. Yn 1930 cafodd ysgoloriaeth i deithio, ac aeth i Fiena. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, symudwyd y myfrywyr i Grantham yn Swydd Lincoln, lle cyfansoddodd hi rai o'i gweithiau cynharaf, gan gynnwys Sinfonia Concertante a'i symffoni gyntaf.

Ar ôl dysgu yn Llundain am ychydig, daeth yn ôl i Gymru i weithio gyda’r BBC ac ar unwaith aeth ati i gyfansoddi trefniannau o alawon gwerin yn bennaf ar gyfer Adran Ysgolion y BBC, er bod ambell drefniant o alawon gwerin Cymreig yn dyddio o’r 1930au, er enghraifft Six Welsh Oxen Songs (1937). Hyd yma (2024) cafwyd hyd i 115 o drefniannau o alawon gwerin Cymreig gan Grace Williams.

Un o'i gweithiau mwyaf poblogaidd oedd Fantasia on Welsh Nursery Tunes (1940).

Bu'n dysgu yn y Camden School for Girls rhwng 1932 a 1946, lle bu wrthi'n addasu rhai o operâu Gilbert and Sullivan ar gyfer y myfyrwyr. Yn 1947, yn dilyn cyfnod o salwch, dychwelodd i’r Barri, lle gweithiodd fel cerddor llawrydd a bu'n dysgu yn achlysurol yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru Caerdydd.

Ceisiodd nawdd i gyfansoddi opera yn seiliedig ar hanes Twm o’r Nant (Thomas Edwards) neu Dic Penderyn (Richard Lewis) rai blynyddoedd cyn cyfansoddi ‘The Parlour’, ond methodd.

Yn 1949, ysgrifennodd y gerddoriaeth ar gyfer y ffilm nodwedd Blue Scar, y fenyw gyntaf o wledydd Prydain i gyfansoddi ar gyfer ffilm lawn.[1] Treuliodd chwe blynedd, rhwng 1960 a 1966, yn sgwennu ei hunig opera The Parlour, a chafodd ei pherfformio[4] ar 5 Mai 1966 yn y Theatr Newydd, Caerdydd, gan y WNO a Cherddorfa Symffoni Dinas Birmingham fel rhan o double bill gydag Il Tabarro (The Cloak) gan Puccini. Yna, teithiodd y cwmni i yn Landudno yn Awst 1966 lle recordiwyd y perfformiad ar gyfer y BBC Music Programme a ddarlledwyd yn Nhachwedd 1966, yr unig recordiad o’r opera sydd ar gael hyd heddiw (2024).

Grace Williams oedd y gyfansoddwraig gyntaf yng Nghymru i gyfansoddi opera. Defnyddiodd y stori fer ‘En Famille’ gan y nofelydd a’r dychanwr Ffrengig Guy de Maupassant (1850–93) fel sail ar gyfer ysgrifennu ei libretto ei hun ar gyfer ‘The Parlour’. Rhaid cofio, fodd bynnag, y cafwyd sawl opera cyn ‘The Parlour’ a oedd yn ymdrin â themâu Cymreig, er enghraifft Blodwen (Joseph Parry), Tir Na Nog (David de Lloyd) a The Black Ram (Ian Parrott),

Caiff ei chysylltu â cherddoriaeth gerddorfaol yn bennaf a'i hystyried fel un o'r cyfansoddwyr benywaidd Cymreig mwyaf dylanwadol yn hanes cerddoriaeth Cymru yn ystod yr 20g[5].

Gweithiau coll

[golygu | golygu cod]

Yn 2024, cyhoeddwyd bod rhagor o waith Grace Williams wedi eu canfod mewn ystordy yn y Barri, yn sgil gwaith myfyrwraig o Brifysgol Bangor, gan gynnwys casgliad o ddeg alaw Gymreig, sy'n cynnwys "Hun Gwenllian", "Bwlch Llanberis" a "Dwfn yw'r môr".

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Yn ystod ac ar ôl yr Ail Ryfel Byd, dioddefodd o iselder a phroblemau iechyd eraill.

Gwrthododd dderbyn OBE am wasanethau i gerddoriaeth yn rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd 1967.

Ystyriaf fy hun yn ffodus iawn o gael fy ngeni'n Gymraes.[6]

Bu farw yn 70 mlwydd oed yn 1977.

Neilltuodd BBC Radio 3 eu heitem Cyfansoddwr yr Wythnos iddi yn ail hanner mis Awst 2006. O ganlyniad, cafwyd nifer o berfformiadau o weithiau nas perfformiwyd, gan gynnwys ei Choncerto Fiolin.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Gwaith

[golygu | golygu cod]

Roedd llawer o waith Grace Williams yn clymu gyda cherddoraieth gwerin Gymreig, fel ei darn enwocaf, Fantasia on Welsh Nursery Tunes. Dyma rhestr o’i gwaith:

  • Theseus and Ariadne, bale (1935)
  • Four Illustrations for the Legend of Rhiannon, cerddorfa (1939)
  • Fantasia on Welsh Nursery Tunes, cerddorfa (1940)
  • Sinfonia Concertante, piano a cherddorfa (1941)
  • Symffoni rhif 1 (1943)
  • Sea Sketches, cerddorfa linynnol (1944)
  • Concerto Piano (anorffenedig) (1949)
  • The Dark Island, cerddorfa linynnol (1949)
  • Concerto Feiolin (1950)
  • Variations on a Swedish Tune, piano a cherddorfa (1950)
  • The Dancers (1951)
  • Hiraeth, telyn (1951)
  • Three Nocturnes, 2 piano (1953)
  • Seven Scenes for Young Listeners, cerddorfa (1954)
  • Penillion, cerddorfa (1955)
  • Symffoni rhif 2 (1956, diwygiedig 1975)
  • All Seasons shall be Sweet (1959)
  • The Parlour, opera (ar ôl Guy de Maupassant) (1961)
  • Processional, cerddorfa (1962, diwygiedig 1968)
  • Concerto Trumped (1963)
  • Carillons, obo a cherddorfa (1965)
  • Severn Bridge Variations: Amrywiad 5, cerddorfa (1966)
  • Ballads, cerddorfa (1968)
  • Castell Caernarfon, cerddorfa (1969)
  • Missa Cambrensis (1971)
  • Ave Maris Stella, côr SATB (1973)
  • Fairest of Stars, soprano a cherddorfa (1973)

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1 2 Jan G. Swynnoe (2002). The Best Years of British Film Music, 1936–1958. Boydell Press. tt. 89–. ISBN 978-0-85115-862-4.
  2. Griffiths, Rhidian (2014). "WILLIAMS, GRACE MARY (1906-1977), cyfansoddwraig". Y Bywgraffiadur Cymreig. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyrchwyd 11 Mehefin 2020.
  3. Steph Power (8 Mawrth 2016). "WOMEN COMPOSERS OF WALES: BBC NOW, TŶ CERDD, BANGOR NEW MUSIC FESTIVAL". Wales Arts Review. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-12-21. Cyrchwyd 11 Rhagfyr 2016.
  4. Roberts, Maddy Shaw (7 Mawrth 2019). "This Welsh female composer's beautiful music was lost for years – but now it is being performed again". Classic FM (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-06-11.
  5. Elain Jones, "O'r ymylon i'r canol: ailystyried taith gerddorol Grace Williams", Gwerddon 38 (Tachwedd 2024); adalwyd 24 Rhagfyr 2025
  6. [O’r ymylon i’r canol: ailystyried taith gerddorol Grace Williams; erthygl gan Elain Jones. Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor Cyflwynwyd: 25 Ebrill 2024; adalwyd 3 Rhagfyr 2024.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]