Andrew Lloyd Webber
| Andrew Lloyd Webber | |
|---|---|
| Ganwyd | 22 Mawrth 1948 Kensington |
| Label recordio | Sony Classical |
| Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | sgriptiwr, cynhyrchydd ffilm, cyfarwyddwr theatr, person busnes, cyfansoddwr caneuon, impresario, gwleidydd, cyfansoddwr, cynhyrchydd recordiau, cynhyrchydd |
| Swydd | Aelod o Dŷ'r Arglwyddi |
| Adnabyddus am | Evita, Jesus Christ Superstar, Cats, The Phantom of the Opera, Starlight Express |
| Arddull | opera roc |
| Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol |
| Tad | William Lloyd Webber |
| Mam | Jean Hermione Johnstone |
| Priod | Sarah Hugill, Sarah Brightman, Madeleine Gurdon |
| Plant | Imogen Lloyd Webber, Nick Lloyd Webber, William Lloyd Webber, Isabella Lloyd Webber |
| Gwobr/au | Gwobr Laurence Olivier, Gwobr Grammy Legend, Praemium Imperiale, Anrhydedd y Kennedy Center, honorary doctor of the Royal College of Music, Marchog Faglor, Seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Gwobr Arbennig Cymdeithas Theatr Llundain, Tony Award for Best Original Score, Grammy Award for Best Musical Theater Album, Primetime Emmy Award for Outstanding Special Class Program, Gwobr Anrhydeddus Fawr Sitges, Classic Brit Awards, Gwobr yr Academi am y Gân Wreiddiol Orau, Tony Award for Best Original Score, Tony Award for Best Original Score, Knight of the Garter |
| Gwefan | http://www.andrewlloydwebber.com/ |
Mae Andrew Lloyd Webber, Baron Lloyd-Webber (ganwyd 22 Mawrth 1948) yn gyfansoddwr cerddorol Seisnig hynod o lwyddiannus.
Yn arbenigwr ym maes y sioeau cerdd, mae Lloyd Webber wedi cyfansoddi 16 o sioeau, 2 sgôr ffilm a requiem mass yn Lladin ymysg gweithiau eraill. Yn ogystal, mae'r cyfansoddwr o Dde Kensington, wedi casglu rhestr faith o wobrau ac anrhydeddau ym myd ffilm a theatr gan gynnwys saith Gwobr Tony, tair Gwobr Grammy, Oscar, Emmy Rhyngwladol, chwech Gwobr Olivier a Gwobr Golden Globe. Mae ei ganeuon enwocaf wedi'u canu a'u recordio gan filoedd o artistiaid ar draws y byd. Ers dod yn berchennog ar y Palace Theatre yn Llundain yn 1983 mae Lloyd Webber wedi prynu wyth o theatrau Llundain, gan gynnwys y London Palladium.
Ymysg ei ganeuon enwocaf mae I Don't Know How to Love Him (Jesus Christ Superstar), Memory (Cats), Don't Cry for Me Argentina (Evita), Any Dream Will Do (Joseph and the Amazing Technicolour Dreamcoat) Music of the Night (Phantom of the Opera) a Love Changes Everything (Aspects of Love).
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Ar y 25 Hydref 2009 cyhoeddwyd ei fod yn dioddef o ganser y brostad ond fod yr afiechyd yn ei gyfnod cynnar.
Sioeau cerdd
[golygu | golygu cod]Rhoddir awdur geiriau'r sioeau mewn cromfachau.
- The Likes of Us (1965) (Tim Rice/Leslie Thomas)
- Joseph and the Amazing Technicolor Dreamcoat (1968) (Tim Rice)
- Jesus Christ Superstar (1971) (Tim Rice)
- Jeeves (1975) / ailenwyd yn By Jeeves (1996) (Alan Ayckbourn)
- Evita (1976) (Tim Rice) - seiliedig ar fywyd Eva Peron
- Cats (1981) (o gerddi T. S. Eliot, 1939)
- Tell Me On a Sunday (1979) / ailenwyd yn Song and Dance (1982) (Don Black)
- Starlight Express (1984) (Richard Stilgoe)
- The Phantom of the Opera (1986) (Richard Stilgoe/Charles Hart ac Andrew Lloyd Webber)
- Aspects of Love (1989) (Don Black a Charles Hart/Andrew Lloyd Webber)
- Sunset Boulevard (1993) (Christopher Hampton/Don Black)
- |Whistle Down the Wind (1996) (Jim Steinman/Patricia Knop, Andrew Lloyd Webber a Gale Edwards)
- Metal Philharmonic (1997) (yn arbennig ar gyfer gwyl gerddorol Lloyd Webber)
- The Beautiful Game (2000) (Ben Elton)
- The Woman in White (2004) (David Zippel/Charlotte Jones)
- Love Never Dies (2010) (Glenn Slater/Ben Elton a Frederick Forsyth)
- The Wizard of Oz (2011) (Andrew Lloyd Webber/Jeremy Sams)
- Stephen Ward (2013) (Christopher Hampton/Don Black)
- School of Rock (2015) (Glenn Slater/Julian Fellowes)
- Cinderella (2021) (David Zippel/Emerald Fennell)
Mae amryw o sioeau Lloyd Webber wedi'u cyfieithu i'r Gymraeg gan gynnwys