Neidio i'r cynnwys

Elwyn Jones (canwr)

Oddi ar Wicipedia
Elwyn Jones
FfugenwElwyn Llanbêr / 'Rhen Êl
LlaisBâs
GanwydElwyn Wilson Jones
27 Mehefin 1938
Pen Ceunant, Llanberis
Bu farw15 Gorffennaf 2017 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcanwr Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaHogia'r Wyddfa Edit this on Wikidata

Baswr gyda Hogia'r Wyddfa oedd Elwyn Jones (27 Mehefin 193815 Gorffennaf 2017) [neu Elwyn Wilson Jones] a adwaenid hefyd fel Elwyn Llanbêr. Roedd yn aelod cychwynnol o'r grŵp lleisiol.[1]

Ganwyd Elwyn Wilson Jones yn Mhen Ceunant, Llanberis, Gwynedd yn un o 3 o blant,[2] a bu'n byw yno gydol ei oes. Roedd yn fab i Hugh Richard Jones [BEM] a Ceinwen Lloyd Jones.[2] Roedd ei dad yn brif beiriannydd olaf yn Chwarel Dinorwig a derbyniodd anrhydedd y BEM am ei wasanaeth i'r diwydiant. Bu Elwyn hefyd yn gweithio yn amgueddfa Chwarel Dinorwig.[3]

Dechreuodd ganu o oed ifanc iawn, gan fynychu eisteddfodau lleol. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Dolbadarn, Llanberis gan adael ym 1953, a dilyn ôl traed ei dad yn y chwarel nes iddi gau ym 1969.[2] Wedi hynny, bu'n gweithio i amrywiol gwmnïau o Fiwmares i Wrecsam.[2]

Ar ddechrau'r 1950au, ymunodd â Band Prês Llanberis i chwarae'r cornet, ond bu'n rhaid iddo adael y band ynghanol y 1960au oherwydd prysurdeb Hogia'r Wyddfa.[2]

Planwyd hadau Hogiau'r Wyddfa o gyfnod cynnar iawn, pan oedd Elwyn yn chwarae pêl-droed gydag Arwel Jones a Myrddin Owen.[2] Aeth y tri wedyn ymlaen i ganu a pherfformio sgetsus mewn nosweithiau llawen wedi'i drefnu gan dad Elwyn, o dan yr enw Triawd yr Wyddfa.[2]

Teithiodd Elwyn y byd yng nghwmni Hogia'r Wyddfa ac ymddangosodd ar deledu Cymraeg dros ddegawdau o'r 1960au hyd yr 2010au. Bu hefyd mewn cynyrchiadau llwyfan gyda Cwmni Theatr Cymru ac mewn dramâu cerdd ym Mhwllheli.

Roedd yn briod â Hefina.

Disgyddiaeth

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Teyrngedau yn cael eu rhoi i Elwyn Hogia'r Wyddfa , BBC Cymru Fyw, 16 Gorffennaf 2017. Cyrchwyd ar 17 Gorffennaf 2017.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 2.6 Hogia'r Wyddfa (1990). Cofio. Gwalia.
  3. Tributes to 'rock' of Welsh music scene Elwyn Jones (en) , Daily Post, 16 Gorffennaf 2017. Cyrchwyd ar 17 Gorffennaf 2017.