Y Trwynau Coch

Oddi ar Wicipedia
Y Trwynau Coch
Enghraifft o'r canlynolband Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1977 Edit this on Wikidata
Genrepunk music Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Y Trwynau Coch - Aberystwyth 1985

Band pync/pop-pŵer Cymraeg o Gwm Tawe oedd Y Trwynau Coch.[1]. Daeth y band i amlygrwydd yn y 1970au hwyr gyda cherddoriaeth gyflym ac amrwd gyda agwedd gwrth-sefydliadol.

Ffurfiwyd y band yn 1977 gan griw o ffrindiau yn Ysgol Gyfun Ystalyfera. Cafodd y band gryn sylw wedi eu cân "Merched Dan 15" ei wahardd rhag cael ei chwarae ar Sain Abertawe. Yn ddiweddarach dywedodd Aled Glynne Davies, DJ ar yr orsaf, mai ei wahardd o ran o safon y gerddoriaeth a wnaeth nid o ran y cynnwys. Er hynny roedd y gwaharddiad yn gymorth i godi proffil y band a dywedir eu bod yn un o'r bandiau Cymraeg cyntaf i ddod at sylw John Peel, DJ ar BBC Radio 1.[2]

Aelodau[3][golygu | golygu cod]

  • Rhys Harris - llais
  • Huw Eirug - gitâr
  • Huw Chiswell - allweddellau
  • Alun Harris - bas
  • Rhodri Williams - gitâr
  • Aled Roberts - drymiau (1978-)
  • Ian Jones - drymiau (1977)

Disgyddiaeth[golygu | golygu cod]

Senglau/EP[golygu | golygu cod]

Teitl Fformat Label Rhif Catalog Blwyddyn
Merched Dan 15 EP 7" Recordiau Sgwar RSROC 002 1978
Wastod Ar Y Tu Fas EP 7" Recordiau Sgwar RSROC 003 1978
Un Sip Arall... EP 12", feinyl coch Recordiau Coch RCTC 1 1979
Y Trwynau Coch - "Radio Cymru" / Crach, Tanc, Cyffro Sengl dwbl 7" Recordiau Coch RCTC 2 1979
Y Trwynau Coch - "Methu Dawnsio" / Crach - "Putain Rhad" 7" Recordiau Coch RCTC 3 1980
Pan Fo Cyrff Yn Cwrdd EP 7" Recordiau Sain / Recordiau Coch SAIN 92S 1981

Albymau a Chasgliadau[golygu | golygu cod]

Teitl Fformat Label Rhif Catalog Blwyddyn
Rhedeg Rhag Y Torpidos Albwm 12" Recordiau Sain / Recordiau Coch SAIN-1186M 1980
Y Casgliad Albwm CD Recordiau Crai CRAI CD 046 1994
Y Trwynau Coch Albwm 12" Low Down Kids Records LDK-LP6 2002

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Sain - Trwynau Coch. Adalwyd ar 6 Chwefror 2017.
  2. Hill, Sarah (2007). 'Blerwytirhwng?' The Place of Welsh Pop Music. Ashgate. ISBN 978-0-7546-5898-6
  3.  Artistiaid - Y Trwynau Coch. Curiad (22 Medi 2011). Adalwyd ar 6 Chwefror 2017.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]