Brân (band)

Oddi ar Wicipedia

Daeth Brân i fodolaeth yn 1974, yn dilyn gig Yr Atgyfodiad yn Theatr Fawr, Prifysgol Abertawe. Yr aelodau gwreiddiol oedd John Gwyn, gitar a llais, Gwyndaf Roberts, bas, a'r diweddar Keith Snelgrove ar y drymiau. Aeth y band ati i recordio'i sengl gyntaf Tocyn yn stiwdio TW yn Llundain, a chyhoeddwyd y record ar label newydd Gwawr.

Gan nad oedd John Gwyn yn meddwl ei fod e'n gallu canu gofynnwyd i Nest Howells o Gaerwen ymuno â'r grwp. Felly, erbyn recordio LP cynta'r band ym 1975, Ail Ddechra, roedd Nest wedi'i sefydlu fel prif leisydd y band ac yn ysgrifennu rhai o'r caneuon (Breuddwyd), ac roedd Keith Snelgrove wedi gadael. Yr aelod newydd ar y drymiau oedd Dafydd Roberts, brawd bach Gwyndaf, oedd hefyd yn canu'r ffliwt a'r delyn Geltaidd.

Ail Ddechra oedd yr albwm gyntaf i'w recordio yn stiwdio newydd cwmni Sain yn Llandwrog, ac enillodd Brân gystadleuaeth Cân i Gymru ym 1975 gydag un o'r caneuon oddi arni, Caledfwlch, a chyfansoddwyd gan Gwyndaf Roberts.

Erbyn yr ail LP, Hedfan, yn 1976, roedd aelodau'r band wedi newid eto. Roedd Gwyndaf a Dafydd Roberts wedi gadael, a Paul Westwell a Dafydd Pierce wedi ymuno gyda John Gwyn a Nest. Bu Brân yn perfformio dipyn o gwmpas y wlad gan feithrin dilyniant selog o gefnogwyr ymhob man, felly erbyn i'r band gyhoeddi'r drydedd albwm, sef yr albwm olaf, Gwrach y Nos, roeddent yn siwr y byddai tipyn o werthiant arni. Erbyn cyhoeddi Gwrach y Nos ym 1978 roedd Paul Westwell, Dafydd Pierce a Nest Howells wedi gadael y band, gyda Louis Thomas, Len Jones a Brian Griffiths yn ymuno gyda John Gwyn.

Daeth Brân i ben ym 1978 wedi cyfrannu casgliad o ganeuon gwahanol iawn i fyd roc Cymru'r saithdegau, gyda chymysgedd o ganeuon pop megis Tocyn a chaneuon dipyn mwy crefftus a dwys fel Breuddwyd, oedd yn adlewyrchu dylanwadau gwahanol - pop, roc a gwerin - yr aelodau gwahanol.

Mae pwysigrwydd y grwp yn cael ei adlewyrchu hyd at heddiw wrth i Gruff Rhys ddewis sawl un o'u caneuon ar gyfer y casgliadau Welsh Rarebeat.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]