The Beatles

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Logo The Beatles

Grŵp roc Saesneg o Lerpwl yn y 1960au oedd The Beatles, un o grwpiau roc enwoca'r byd. Y pedwar prif aelod oedd John Lennon, Paul McCartney, Ringo Starr a George Harrison. Ar ôl mynd i Hamburg yn yr Almaen i ddysgu eu crefft, fe ddaeth llwyddiant ym Mhrydain, lle cafodd y term 'Beatlemania' ei ddefnyddio i ddisgrifio'r sgrechian a'r hysteria yr oedd y grwp yn dod ar eu traws wrth chwarae i gynulleidfaoedd cyhoeddus. Wrth iddynt gael llwyddiant yn yr Unol Daleithiau, roedd eu poblogrwydd yn cynyddu, i'r pwynt lle roedd Beatlemania i'w weld ym mhobman yr oeddent yn mynd. Cyn recordio Sgt. Pepper's Lonely Hearts Club Band, cyhoeddwyd y grŵp eu bwriad i roi'r gorau i berfformio o flaen cynulleidfaoedd. Mae nifer o'u recordiau wedi'u canmol eu bod 'ymysg y goreuon sydd erioed wedi'u creu'. Ar ôl nifer o angydfod barn ynglŷn â phenderfyniadau recordio, cytunodd y grwp i roi'r gorau i'r band. Yna, fe ddilynnodd pob aelod llwybrau gwahanol, gyda McCartney a Lennon yn cael gyrfaoedd llwyddiannus dros ben. Llofruddiwyd John Lennon ym 1980 a bu farw George Harrison yn 2001, ond mae'r aelodau eraill yn dal yn fyw. Mae'r band, hyd yn hyn, yn dal i fod yn hynod o boblogaidd, ac hyd yn oed ers marwolaeth dau o'i aelodau, maent yn dal i werthu miliynau o recordiau. Ym marn nifer o bobl, gwelir y band fel un o'r mwyaf dylanwadol yn hanes cerddoriaeth fodern.

Albymau[golygu | golygu cod y dudalen]

Llun The Beatles, oddi ar clawr yr albwm 'Beatles For Sale'

Dolen Allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:


Music template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.