Brian Epstein
| Brian Epstein | |
|---|---|
| Ganwyd | Brian Epstein 19 Medi 1934 Lerpwl |
| Bu farw | 27 Awst 1967 o gorddos o gyffuriau Llundain |
| Label recordio | Parlophone Records |
| Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | person busnes, impresario, asiant talent, rheolwr talent, cynhyrchydd, entrepreneur, cynhyrchydd recordiau |
| Arddull | roc poblogaidd |
| Gwobr/au | Rock and Roll Hall of Fame |
| Gwefan | http://www.brianepstein.com/ |
Roedd Brian Samuel Epstein (19 Medi 1934 – 27 Awst 1967) yn entrepreneur cerddorol o Loegr a oedd hefyd yn reolwr ar y grŵp pop Y Beatles. Roedd yn reolwr ar nifer o fandiau eraill hefyd gan gynnwys Gerry & The Pacemakers, Billy J. Kramer and the Dakotas, Cilla Black a The Remo Four.
Recordiodd Y Beatles demo yn stiwdios Decca a Epstein dalodd am hyn. Yn ddiweddarach, perswadiodd George Martin i wrando ar y demo, am nad oedd gan Decca ddiddordeb mewn cynnig cytundeb i'r Beatles. Cynigiodd Martin gytundeb recordio i Epstein ar label fechan EMI, Parlophone er eu bod wedi cael eu gwrthod gan bron pob cwmni recordiau arall ym Mhrydain.
Bu farw Epstein o or-ddôs damweiniol o gyffuriau yn ei gartref yn Llundain ym mis Awst 1967. Priodolir llwyddiant cynnar Y Beatles i reolaeth Epstein a'i synnwyr o steil. Pan yn sôn am Epstein, dywedodd Paul McCartney: "If anyone was the Fifth Beatle, it was Brian."