John Glyn Davies
| John Glyn Davies | |
|---|---|
| Ganwyd | 22 Hydref 1870 Sefton Park |
| Bu farw | 11 Tachwedd 1953 |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | bardd, cyfansoddwr, cyfansoddwr caneuon, academydd, hanesydd, ysgrifennwr, darlithydd |
| Cyflogwr |
|
Ysgolhaig yr ieithoedd Celtaidd, ysgrifennwr caneuon a bardd o Gymro oedd yr Athro John Glyn Davies (22 Hydref 1870 – 11 Tachwedd 1953).[1]
Roedd yn gasglwr ar alawon a cherddi traddodiadol, gan eu haddasu neu eu trosi i'r Gymraeg. Ymhlith ei gerddi enwocaf mae sawl cân werin Gymraeg, fel Llongau Caernarfon neu Fflat Huw Puw.
Roedd ganddo ddiddordeb mewn modelau llongau, a dangoswyd arddangosfa o'i gasgliad yn Amgueddfa Lechi Cymru yng Ngorffennaf 2006.[2]
Magwraeth a theulu
[golygu | golygu cod]Ganwyd John Glyn Davies yn 55 Peel St, Sefton Park, Lerpwl i deulu Cymreig, ac yn fab i John (Masnachwr te) a Gwen Davies. Roedd yn wyr i John Jones, Talysarn (tad ei fam), tras y byddai'n ymfalchïo ynddo ar hyd ei oes. Roedd ganddo dri brawd: yr heddychwr George M. Ll. Davies, Stanley Davies a'r Capten Frank Davies.[3] Derbyniodd ei addysg yn Liverpool Institute.
Ar 18 Gorffennaf 1908 priododd Hettie Williams o Geinewydd, Ceredigion a chawsant un mab a thair merch: Gwen, Mair ac Elin; sef y 'Gwen a Mair ac Elin' yn un o'i ganeuon, a 'fu'n bwyta lot o bwdin'.
Gwaith
[golygu | golygu cod]Wedi gadael yr ysgol, gweithiodd i sawl cwmni gan gynnwys cwmnïau llongau hwylio Rathbone Brothers (1887-92), y Cambrian (1892-95), Henry Tate & Sons (1895-96) ac yna gyda'r Mines Corporation of New Zealand (1896-98), cyn newid gyrfa'n llwyr, ac ennill gradd yn Aberystwyth. Daeth dan ddylanwad Thomas Edward Ellis ac eraill a'i ysgogodd i fynd i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth i gasglu llyfrgell Gymraeg a fyddai'n sylfaen i 'Lyfrgell Genedlaethol Cymru' yn ddiweddarach. Bu yn Aberystwyth o 1899 i 1907 a dywedir iddo wneud cyfraniad pwysig yno, ond roedd yn anfodlon ar amodau ei swydd. Bu'n llyfrgellydd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, cyn ymuno ar staff Prifysgol Lerpwl, ei dref enedigol, yn 1907, a dod yn athro ar yr Adran Gelteg yn 1920 yn dilyn ymddeoliad yr Athro Kuno Meyer. Bu yno hyd at ei ymddeoliad yn 1936 gan deithio o'i gartef yn Mostyn ac yn Ninbych.
Wedi ymddeol bu'n byw yng Nghaergrawnt, Llandegfan, Llannarth (Ceredigion) a Llanfairfechan lle bu farw ar 11 Tachwedd 1953.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Cledwyn Jones (2003) Mi Wisga'i Gap Pig Gloyw, John Davies 1870-1953, Shantis, Caneuon Plant a Cherddi Edern Gwasg Pantycelyn ISBN 1-903314-56-9
- Darlith gan yr Athro E. Wyn James yng nghyfres Darlithoedd Blynyddol Canolfan Uwchefrydiau Cymry America, Prifysgol Caerdydd: https://www.youtube.com/watch?v=pvJbezP0kYo
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Yr Athro Robert Geraint Gruffydd. Davies, John Glyn. Y Bywgraffiadur Ar-lein. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Adalwyd ar 23 Tachwedd 2012.
- ↑ 'Hwylio Heno'. BBC (Gorffennaf 2006). Adalwyd ar 23 Tachwedd 2012.
- ↑ Y Bywgraffiadur Cymraeg Arlein