Rhestr enwau lleoedd yng ngwaith Guto'r Glyn

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Rhestr enwau lleoedd yng ngwaith Guto'r Glyn (c.1435 – c.1493). Rhoddir y sillafiad fel mae'n cael ei sillafu yn y gwreiddiol gan Guto'r Glyn ac yna mewn Cymraeg cyfoes. Casglwyd y rhestr gan Ann Parry Owen o brosiect Guto'r Glyn.net.[1] Mae "n" ar ôl y cyfeiriad yn dangos bod nodyn ar gael ar y wefan, pe baech am ragor o wybodaeth.

Nodyn: Mae'r rhifau'n cyfeirio at rifau'r cerddi ar wefan gutorglyn.net, sydd angen eu dileu o'r rhestr hon.

A[golygu | golygu cod y dudalen]

B[golygu | golygu cod y dudalen]

C[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Cae Alo man anhysbys, Powys 98.10n
  • Caeaw Caeo, cwmwd yn y Cantref Mawr, Sir Gaerfyrddin 9.6 Caeo 6.12n
  • Caer Chester, dinas ar lan Afon Dyfrdwy ar y ffin â Sir y Fflint 34.20n, 43.25, 67.24, 69.2n, 35 Caerlleon 101a.49
  • Caer gw. Caer Llion
  • Caer gw. Sir Gaer (Sir Gaerfyrddin)
  • Caer-dro gw. Troea (Caerdroea)
  • Caerdyf Caerdydd, prif dref Arglwyddiaeth Morgannwg 12.8, 9, 17.9, 20.35n
  • Caerfyrddin prif dref Sir Gaerfyrddin, yng nghwmwd Derllys 8.6, 14.1n
  • Caer Gai caer Rufeinig ger Llanuwchllyn, Meirionnydd 45.26n
  • Caer-gaint Canterbury, Swydd Gaint, enwog am ei chadeirlan a oedd yn gyrchfan pererinion 23.18n, 102.30n Caint 58.10
  • Caerloyw Gloucester 23.12n, 25.34
  • Caerlŷr Leicester, dinas ar safle hen gaer Rufeinig yng nghanolbarth Lloegr 36.38
  • Caer Llion Caerllion ar Wysg, ger Casnewydd, a gysylltir â'r Brenin Arthur a'i Ford Gron 61.58n, 125.8 Caerllion 26.50, 38.42n, 125.4n Caerlleon 114.19n Caer 75.18n
  • Caer ’n Arfon Caernarfon, yng nghantref Arfon, Gwynedd 63.61
  • Caer Selem Jerwsalem, dinas yn Israel a chyrchfan pwysig i bererinion 90.4, 12n
  • Caint gw. Caer-gaint
  • Calais porthladd yng ngogledd Ffrainc 73.45n
  • Caron ardal Tregaron, Ceredigion 52.23n, 57
  • Carreg Cennen castell 6 km i'r de o Landeilo, Sir Gaerfyrddin 21.22n
  • Carreg Hofa Carreghwfa, plwyf ar y Gororau rhwng Cwmwd Deuddwr a’r Deuparth, tua 2 km i'r gorllewin o Lanymynech 87.40n, 88.24n Craig Hofa 89.51n
  • Castell Gwent Cas-gwent, Chepstow, tref ar lan Afon Gwy, Gwent 25.6n, 35
  • Castellnewydd Casnewydd, tref ac arglwyddiaeth yng Ngwent 18.35
  • Castil Castille, talaith ym Mhenrhyn Iberia, bellach yn rhan o Sbaen 29.11n
  • Cedewain cwmwd ac arglwyddiaeth ym Mhowys Wenwynwyn, o amgylch y Drenewydd a rhwng afonydd Hafren a Rhiw 27.45n, 39.15 Cydewain 37.14, 16, 66, 38.50
  • Cefn yr Ais ansicr, ym Mhowys 44.23n
  • Celyddon coedwig yng ngorllewin yr Alban lle aeth Myrddin yn wallgof 114.26
  • Celli-wig Celliwig, llys y Brenin Arthur yng Nghernyw 71.1n
  • Cemais, y plwyf yng nghwmwd Cyfeiliog, Sir Drefaldwyn 41.29n
  • Cent Kent, (Caint) sir yn ne-ddwyrain Lloegr 79.23
  • Ceredigiawn Ceredigion a ymrannai’n Uwch Aeron i’r gogledd ac Is Aeron i’r de 9.35
  • Ceri cwmwd bychan rhwng Cedewain a Maelienydd, ar y ffin â Lloegr, yn aml yn cynrychioli pegwn dwyreiniol pell 37.15, 65, 43.27n
  • Cernyw yn y de-orllewin eithaf 29.17
  • Cilan gw. Hywel Cilan
  • Clas, y y Clas-ar-Wy, arglwyddiaeth fechan i'r gorllewin o'r Gelli Gandryll 36.12
  • Clawdd Offa Clawdd Offa, y ffin draddodiadol rhwng Cymru a Lloegr 68.21 y Clawdd 107.19n
  • Cliffordd Clifford, castell ac arglwyddiaeth fechan ar lan afon Gwy 36.12
  • Clwyd afon sy’n tarddu yng Nghlocaenog ac yn llifo drwy Ddyffryn Clwyd ac ymuno â'r môr yn y Foryd, y Rhyl 43.1n, 49.34n, 71.8n
  • Cnwcin, y Cnwcin, Knockin, pentref ger Croesoswallt, swydd Amwythig 79.50n, 55
  • Coetmawr Coetmor, cartref nawdd ger Llanllechid, Arllechwedd Uchaf, Gwynedd 99.4n, 100.67n Coetmor 100.22n, 42n
  • Collfryn, y cartref nawdd yng nghwmwd Deuddwr, Powys Wenwynwyn 83.66n
  • Comin Plas, y Cwrt y `Common Pleas’ yn Neuadd Westminster yn Llundain 99.8n
  • Conwy1 bwrdeistref ar lan aber afon Conwy, Gwynedd 43.2n, 60.18n a gw. Siôn Conwy
  • Conwy2 afon sy'n llifo drwy Ddyffryn Conwy i'r môr yng Nghonwy, Gwynedd 21.68n, 61.32n
  • Cornatun mynydd ger Trefaldwyn, ar y ffin â swydd Amwythig 85.24n
  • Corsygedol cartref nawdd yn Llanddwywe-is-y-graig, Dyffryn Ardudwy, Meirionnydd 52.55n
  • Corwen un o brif drefi Edeirnion, ar lan afon Dyfrdwy ac islaw bryniau Berwyn 43.6n, 19, 64, 44.4n, 44a.5, 20n, 45.6, 47.10, 38, 49, 84.7n, 52
  • Craig Hofa gw. Carreg Hofa
  • Craig Nannau uwch llys Nannau, Llanfachreth, cwmwd Tal-y-bont, Meirionnydd 87.39n
  • Croesoswallt tref ac arglwyddiaeth yn swydd Amwythig, tua 10 km i'r de o'r Waun 96.24, 102.19n, 103.45n
  • Cryniarth, y cartref nawdd ger Llandrillo, Edeirnion 48.69
  • Cwchwillan Cochwillan, cartref nawdd ychydig i'r de o Dal-y-bont, Arllechwedd Uchaf, Gwynedd 55.15n
  • Cwm, y plwyf yng nghwmwd Rhuddlan, Tegeingl 43.7n, 53, 44.58n, 44a.22, 56
  • Cwrtnewydd, y cartref nawdd yn Bacton, swydd Henffordd 36.35n, 54
  • Cwyntry Coventry, yn Warwickshire 44.34n
  • Cydweli plwyf a chwmwd yn Sir Gaerfyrddin 98.9n
  • Cyfeiliog cwmwd yn ne-orllewin Powys 40.6, 24
  • Cymer abaty Sistersaidd ger Dolgellau, Meirionnydd 50.44n
  • Cymerau, y aber afonydd Efyrnwy a Hafren, ger Llanrinio, cwmwd Deuddwr, dwyrain Powys 65.56
  • Cymru 1.46, 2.11, 19, 3.72, 10.40, 14.52, 19.20, 80, 20a.35, 21.1n, 65, 70, 24.73, 85, 25.12, 64n, 27.57, 29.64, 36.39, 54.4, 60.21, 62.26n, 78.12n Cymry 79.42
  • Cynllaith cwmwd ym Mhowys Fadog a Swydd y Waun 90.44n, 48n, 56n
  • Cynwyd trefgordd ym mhlwyf Llangar, Edeirnion 43.2n
  • Chwaen, y cartref nawdd yng nghwmwd Llifon, Môn 63.21n
  • Chwitffordd plwyf yng nghwmwd Cwnsyllt, Tegeingl 70.36n

D[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Deau de Cymru 27.11, 36.1, 52.6, 114.10 y Deau 8.11, 9.43, 53, 17.3, 26, 19.6n, 17n, 71, 24.8, 27.56, 48.7, 66.42, 126.25 Deheubarth 8.22, 9.8 ac yn y cyfuniad Deheubarthwyr 8.26 Deheudir 9.27, 41 y Deheudir 35.1n Deheuwlad 14.4, 24.83 y Ddeheuwlad 8.43, 43.10n
  • Defnsir Dyfnaint, Devon, sir yn ne-orllewinol Lloegr 24.17n Dyfnaint 23.17n
  • Deheubarth, Deheudir, Deheuwlad gw. Deau
  • Deifr Deira (ac fel enw pobl yn 26.6) 52.2n
  • Derbi gw. Harri o Dderbi
  • Deuddwr cwmwd rhwng afonydd Efyrnwy a Hafren yn nwyrain Powys Wenwynwyn 61.16n, 83.68, 84.15n, 85.4, 18 a gw. Gruffudd Fychan Deuddwr
  • Deuma enw ar fynachlog Sistersaidd Llantarnam, merch eglwys i Ystrad-fflur a sefydlwyd yn 1177 8.30n
  • Deuparth, y Y Deuparth, yn arglwyddiaeth Croesoswallt, swydd Amwythig 95.44n
  • Dinas y Garrai Doncaster, swydd Efrog 24.3n
  • Dinbech gw. Dinbych
  • Dinbych bwrdeistref yn Nyffryn Clwyd 67.4n, 71.15, 26n, 105.60n Dinbech 66.33n
  • Dinefwr castell ger Llandeilo, prif lys tywysogion y Deheubarth 12.29
  • Dofr Dover, porthladd yn ne-ddwyrain eithaf Lloegr 27.54, 29.17, 38.46n
  • Dôl Eryri man anh. yn Eryri, Gwynedd 108.57n
  • Dolgellau prif dref Meirionnydd 50.11n
  • Dotawnt afon neu nant anh. yn ardal Mantes neu Rouen, Ffrainc? 1.47n
  • Dref-fawr, y gw. Trefawr
  • Dref Hir, y Longtown, gynt Ewias Lacy, tref a chanolfan arglwyddiaeth Euas, bellach yn swydd Henffordd 33.52, 36.36
  • Drefrudd, y Dref Rudd gw. Trefrydd
  • Dulas afon sy’n tarddu ger Machynlleth ac yn llifo i afon Dyfi 42.3n
  • Dwywent gw. Gwent
  • Dyfed un o hen daleithiau Cymru, yn y de-orllewin 28.20n, 114.28
  • Dyfi afon sy’n tarddu ger Aran Fawddwy ac yn llifo i'r môr yn Aberdyfi 20a.45n, 66.43
  • Dyfnaint gw. Defnsir
  • Dyfolwern Tafolwern, trefgordd ger Llanbryn-mair 40.12n
  • Dyfrdwy afon sy’n tarddu uwch Llanuwchllyn ac yn llifo i Lyn Tegid, drwy Ddyffryn
  • Dyfrdwy ac ymlaen i Lannau Dyfrdwy 42.3n, 43.1n, 52.12n
  • Dyffryn Aur Golden Valley, swydd Henffordd 36.7n
  • Dyffryn Clwyd Dyffryn Clwyd, cantref ac arglwyddiaeth yng Ngwynedd Is Conwy 66.38
  • Dyffryn Gwy yn ne-ddwyrain Cymru 30.10, 64
  • Dyffryn Nedd dyffryn y llifa afon Nedd drwyddo i'r môr ym Mae Abertawe 15.34

D[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Edeirniawn cwmwd Edeirnion ym Mhenllyn, Meirionnydd, a gynhwysai dref Corwen 47.8
  • Edeirnion 43.58n, 52.49, 66.39, 93.8
  • Efyrnwy afon sy’n llifo i afon Hafren yng nghwmwd Deuddwr, yn nwyrain Powys Wenwynwyn 65.55, 89.33n
  • Eglwyseg trefgordd yn Llangollen, Nanheudwy 112.22n
  • Egwestl gw. Llanegwestl
  • Eglwys-wen, yr Yr Eglwyswen, Whitchurch, swydd Amwythig 75.52n
  • Ehangwen neuadd y Brenin Arthur 22.29n
  • Eifionydd cwmwd a chantref yng Ngwynedd 87.17, 68, 100.11n
  • Eitwn Eutun, trefgordd ym mhlwyf Erbistog ym Maelor Gymraeg 109.61n
  • Elsmer Ellesmere, tref fechan yn swydd Amwythig, tua 13 km i'r gogledd-ddwyrain o Groesoswallt 75.10n
  • Emral gw. Parc Emral
  • Ergin Ergyng, rhanbarth traddodiadol Gymraeg yn swydd Henffordd, i'r de-ddwyrain o
  • Euas, S. Archenfield 36.10, 120.24n
  • Eryri mynyddoedd yng Ngwynedd 21.40, 56.26n, 57.13n, 100.8n
  • Euas arglwyddiaeth a chwmwd yn gorwedd ar lethrau dwyreiniol y Mynydd Du, ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, a’i chanolfan yn y Dref Hir (Longtown) 32.2n, 14, 33.56, 34.28, 35.6, 13, 40, 120.32n, 126.53n
  • Eutun Eyton on Severn, i'r dwyrain o Amwythig 77.64n

F[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Fêl Ynys, y gw. Prydain
  • Fenni Y Fenni, tref yng ngogledd-orllewin Gwent 125.15
  • Fenis dinas yng ngogledd yr Eidal 20.12
  • Felallt, y Beeston, rhwng Caer a Nantwich yn swydd Gaer 38.45n, 56.23n

Ff[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Ffecnam Feckenham, lleoliad fforest frenhinol yn nwyrain swydd Gaerwrangon 60.40n
  • Ffordun plwyf ger y Trallwng, Powys 38.8n
  • Fforest y Dên Fforest y Ddena, yng ngorllewin swydd Gaerloyw ac yn agos i’r ffin rhwng Gwent a Lloegr 25.21
  • Fflint, y bwrdeistref yng ngogledd-ddwyrain Cymru 21.60, 71.28n
  • Ffrainc 1.58, 3.6, 73, 4.14, 16, 25, 24.69, 28.51, 29.44, 48.47n, 78.13n, 96.27n, 28, 99.1n, 100.47n Ffrawns 29.27

G[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Gasgwin Gascoigne, ardal yn ne-orllewin Ffrainc 20a.33n
  • Gefenni yr ardal o amgylch tref y Fenni, Gwent 12.11, 19.9n, 23, 20.78, 22.29n
  • Gilwch, y Gillow, maenordy ym mhlwyf Henllan (Hentland), swydd Henffordd 120.30n
  • Glan Feurig ai enw'r fron y safai Nannau ar ei glan, ym mhlwyf Llanfachreth, cwmwd Tal-y-bont, Meirionnydd? 51.3n y Lan 49.17n, 51.6n
  • Glan Hafren ansicr, ai llys coll ger Aberriw, sir Drefaldwyn? 37.71
  • Glasgrug ansicr, ai'r llys ym mhlwyf Llanbadarn-y-Creuddyn, gogledd Ceredigion? 10.51n
  • Glyn1, y ansicr 60.59n
  • Glyn2, y yr un elfen ag a geir yn enw Guto’r Glyn; ai Glyndyfrdwy? 58.42n, 59.37n, 110.43
  • Glyn 44a.24
  • Glyn3, y gw. Glyn Aeron
  • Glyn Aeron yng nghwmwd Mebwynion, Ceredigion 10.9 y Glyn 10.19, 60
  • Glyn Dŵr gw. Glyndyfrdwy
  • Glyndyfrdwy cwmwd ac arglwyddiaeth, ym Meirionnydd 43.34n, 80.44 Glyn Dŵr 48.65n a gw. o bosibl Glyn2, y
  • Glyn Egwestl gw. Llanegwestl
  • Glyn-nedd ym Morgannwg, lleoliad catref Rhys ap Siancyn yn Aberpergwm 15.10, 34.4n, 35.38, 114.9n
  • Glyn Rhin Glyn Rhein, Dyffryn Rhein yn yr Almaen, enwog am ei win 20a.34n
  • Gogledd, y Gogledd Lloegr, yr Hen Ogledd 35.62n
  • Gomora Gomorra, dinas yng ngwlad yr Iorddonen, Beibl 89.14n
  • Graig Wen, y gw. Wengraig, y
  • Grig, y Gwlad Groeg 96.29n
  • Gwanas ym mhlwyf Brithdir 92.55
  • Gwenllwg Gwynllŵg, cantref rhwng afonydd Rhymni ac Wysg yn ne-ddwyrain Cymru, ond yn fwy penodol enw ar yr iseldir o gwmpas Casnewydd 18a.20n Gwaun Llŵg 114.15n
  • Gwent ymrannai'n ddwy ran, sef Gwent Is Coed a Gwent Uwch Coed, ac yn dair arglwyddiaeth, Cas-gwent, Brynbuga a’r Fenni 4.2, 12, 18, 24, 28, 50, 78, 19.20, 28, 20.22, 26, 31, 72, 20a.36, 37, 63, 22.18, 34, 46, 55, 60, 68, 23.2, 50, 24.40, 60, 25.14, 26.4, 45, 51, 56, 27.8, 28.4, 34n, 34.20n, 27, 35.14, 36.5, 95.60, 117.48, 125.2, 12 Gwentoedd 114.40 Dwywent 4.23, 43, 19.19n, 46, 23.49, 24.8n, 25.69, 27.56, 114.14n Teirgwent 25.13 y Teirgwent 22.59n a gw. iarll Gwent
  • Gwepra Gwepra, trefgordd ym mhlwyf Llaneurgain, cwmwd Cwnsyllt, Tegeingl 70.6n
  • Gwrecsam Wrecsam, tref ym Maelor Gymraeg 72.19n, 110.36n, 111.19n
  • Gwy afon sy’n tarddu ym Mhumlumon ac yn llifo drwy ddwyrain Cymru ac i'r môr ger Cas-gwent 30.20, 36.15n
  • Gwydris Goodrich, castell a phentref yn ne swydd Henffordd 78.34
  • Gwyddelwern plwyf yng nghwmwd Edeirnion, Meirionnydd 52.18n, 29
  • Gwynedd talaith, yn ymrannu'n Wynedd Uwch Conwy (i'r gorllewin o afon Conwy) a
  • Gwynedd Is Conwy / y Berfeddwlad (i'r dwyrain o afon Conwy) 15.18, 20.53, 20a.40, 50, 21.2, 11, 28, 32, 44, 52, 55, 59, 67, 26.2, 42.6, 19, 32, 40, 43.11, 16, 33, 60, 47.13, 48.8n, 54, 70n, 49.18, 50.26, 45, 52.6, 28, 53.12, 55.33n, 42, 56.36, 68, 57.16, 28, 46, 54, 58.14n, 44, 58.55, 59.8, 60.8, 13, 61.10, 32, 37, 59, 63.6n, 64.32, 50, 66.41, 78.39, 84.53, 87.18n, 99.9n, 100.10, 13, 20, 105.47, 109.41, 113.74, 114.10, 117.48, 126.27 dwy Wynedd 10.46, 61.26n, 64.16n, 100.4n
  • Gwynionydd cwmwd rhwng afonydd Teifi ac Aeron 12.50n
  • Gwynlle Nant Nancwnlle, plwyf yng nghwmwd Pennardd, Uwch Aeron, Ceredigion 10.22n
  • Gŵyr arglwyddiaeth a phenrhyn i'r gorllewin o Abertawe 26.54n
  • Gwyrfái1 cwmwd Is Gwyrfai, Arfon, Gwynedd 58.4n
  • Gwyrfái2 cymydau Is Gwyrfai ac Uwch Gwyrfai yng nghantref Arfon, Gwynedd 61.27n
  • Gyffin, y plwyf ger Conwy, Gwynedd 108.5n

H[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Hafren afon sy’n tarddu ym Mhumlumon ac yn llifo drwy'r Gororau ac i Fôr Hafren 19.73n, 25.54n, 39.2, 66.44, 80.8n, 89.24n, 115.33n
  • Haltun Halchdyn, Halghton, ym Maelor Saesneg 75.3n
  • Harddlech Harlech, tref a chastell a adeiladwyd gan Edward I ar arfordir Ardudwy 21.14n, 24
  • Hawlffordd Hwlffordd, tref yng nghantref Rhos, sir Benfro 114.22n
  • Hendwr, yr cartref nawdd ym mhlwyf Llandrillo, cwmwd Edeirnion, Meirionnydd 48.9n, 66
  • Henffordd gw. swydd Henffordd
  • Henllan pentref a phlwyf ger Dinbych, yng nghwmwd Is Aled, cantref Rhufoniog 61.64n, 71.42n
  • Hiraethog ucheldir i’r gorllewin o Ruthun 122.17n
  • Hold, yr Holt, tref ym Maelor Gymraeg 73.30n, 33, 69
  • Hyrddin bryn coediog ar bwys abaty Glyn-y-groes, Llangollen 112.34n Llwyn Hyrddin 113.87n Bron Hyrddin 111.27n

I[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Iâl cwmwd ym Mhowys Fadog 52.28n, 66.37, 73.4n, 76.3n, 9, 94.41n, 101.4n, 101a.4, 105.46n, 108.33, 109.6n, 20, 34, 110.4n, 27, 64, 111.24, 25, 112.6, 58, 113.27, 74, 114.58n, 60, 116.7, 117.38, 44, 50, 60n, 126.56n mawrIal 5.47n, 113.62
  • India 28.3n yr India 20a.20n
  • Iorc Caerefrog, prif ddinas swydd Efrog 14.20, 29.18n, 28n, 36.42, 38.48n, 44.40n, 58.38n a gw. dug o Iorc, dug yn Iorc
  • Is Aeron rhan ddeheuol Ceredigion islaw'r afon Aeron 13.49n
  • Is Coed cwmwd yn Is Aeron, Ceredigion 12.49
  • Is Conwy Y Berfeddwlad / Gwynedd Is Conwy, yn cynnwys cantrefi Rhos, Rhufoniog, Dyffryn Clwyd a Thegeingl 71.17n, 105.55n y Berfeddwlad 43.65n, 70.29n
  • Israel 20.29 yr Israel 25.71, 48.41
  • Iwerddon 29.20n, 78.13n

L[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Litsffild Caerlwytgoed, Lichfield, dinas yn swydd Stafford 44.41n

Ll[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Llai, y pentref ger Gresffordd sydd ychydig i’r gogledd o Wrecsam 75.13, 60n
  • Llanarmon-yn-Iâl prif eglwys Iâl 77.45
  • Llandaf cadeirlan ac esgobaeth ychydig i'r gogledd o Gaerdydd, Morgannwg 17.14, 58, 61
  • Llandeilo Llandeilo Gresynni, pentref a phlwyf yng Ngwent 19.25n
  • Llandrunio Llandrinio, plwyf yng nghwmwd Deuddwr 84.46, 58
  • Llandygái Llandegái, pentref a phlwyf yn Arllechwedd Uchaf, Gwynedd 56.35n
  • Llanddewi Rhydderch plwyf tua 6 km i'r dwyrain o'r Fenni, Gwent 4.10 Llanddewi 4.6
  • Llanddwyn eglwys a phlwyf yng nghwmwd Menai, Môn 61.28n
  • Llanegwestl Llanegwystl, Llynegwestl, Glynegwystl, Egwestl, Egwystl, Plas-y-groes, Pant yr Hengroes, enwau ar abaty Sistersaidd Glyn-y-groes, ger Llangollen 101a.44n, 110.60, 114.34n Llan Egwestl 117.42n Llynegwestl 101.6n *Llyn Egwestl 112.10n, 59–60 Llyn y Gwystl 111.3n Glyn Egwestl 110.12n Egwestl 105.44n, 111.51n, 113.19n, 115.11n, 116.18n Egwystl 108.16n, 116.18n *Pant-y-groes 110.6n, 112.58n Pant yr Hengroes 110.38 Plas-y-groes 116.19n
  • Llanelwy plwyf a chadeirlan yng nghwmwd Rhuddlan, Tegeingl 70.7n, 39, 94.41n
  • Llaneurgain plwyf yng nghwmwd Cwnsyllt, Tegeingl 70.20n, 51
  • Llanfachraith plwyf yng nghwmwd Tal-y-bont, Meirionnydd 50.10n
  • Llan-faes pentref a phlwyf yng nghwmwd Dindaethwy, cantref Rhosyr, Môn 56.32n
  • Llangedwyn plwyf yng nghwmwd Mochnant Is Rhaeadr 94.1
  • Llangurig plwyf yng nghantref Arwystli 39.66n
  • Llangywair Llangywer, plwyf ger Llyn Tegid yng nghwmwd Penllyn, Meirionnydd 42.46
  • Llaniwllyn Llanuwchllyn, plwyf yng nghwmwd Penllyn, Meirionnydd 42.11n
  • Llannerch, cartref nawdd ym Mhenrhyn Llŷn 53.1n, 39, 66
  • Llannerch-y-medd canolfan fasnach yn Nhwrcelyn, Môn 62.39n
  • Llanwnnog plwyf tua 3 km i'r gogledd o Gaersws yn Arwystli 82.28n
  • Llanybyddair Llanybydder, plwyf ar lan afon Teifi yng ngogledd sir Gaerfyrddin 13.54n
  • Llanymddyfri tref ar lan afon Tywi yng ngogledd-ddwyrain sir Gaerfyrddin 27.54n
  • Llan-y-mynaich Llanymynech, plwyf ar y ffin rhwng Cymru a swydd Amwythig, ychydig i'r gogledd o'r Trallwng 89.40
  • Llechwedd Ystrad cartref nawdd ger Llyn Tegid, plwyf Llangywer 42.29n, 43
  • Llëyn gw. Llŷn
  • Llinwent maenor ym mhlwyf Llanbister, sir Faesyfed, cartref nawdd 49.29n
  • Lliwan Llifon, cwmwd yng nghantref Aberffraw, Môn 63.24n
  • Lloegr 1.4, 43, 3.12, 74, 6.6, 21.13, 69, 23.16, 20, 25, 25.67, 27.12n, 23, 28.53, 38.40, 41.3, 19, 22, 27, 44.25, 44a.54, 47.30, 49.10, 60.22, 67.28, 71.34n, 78.11, 42, 81.26n, 53, 84.56, 86.31, 90.43, 102.38, 107.52
  • Llowes plwyf ar lan afon Gwy yn sir Faesyfed 30.41n
  • Llundain 23.21, 29.40, 38.34, 41.1, 8, 16n, 94.65n, 99.12, 102.21n
  • Llwydiarth cartref nawdd i’r gogledd-ddwyrain o Lannerch-y-medd, cwmwd Twrcelyn, Môn 62.30, 40, 65.19n
  • Llwyn Hyrddin gw. Hyrddin
  • Llwyn y Neuadd o bosibl Llwyn Bryn y Neuadd ym mhlwyf yn Llangar, Meirionnydd 42.24n
  • Llwyn-onn cartref nawdd ym mhlwyf Llanwnnog, Arwystli 82.28n
  • y Llwyn-onn, o bosibl yn Llanaber, Ardudwy, cartref nawdd 49.8n
  • Llychlyn Sgandinafia 120.7n
  • Llydaw 24.27, 86.38n
  • Llŷn cantref yn eithaf Penrhyn Llŷn, Gwynedd 55.44n Llëyn 53.4, 26, 28, 66.40
  • Llynegwestl gw. Llanegwestl
  • Llyn Tegyd Llyn Tegid, y Bala 68.36
  • Llyweni Lleweni, cartref nawdd ger Dinbych 71.3n, 37

M[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Mabeilfyw Mabelfyw, cwmwd yn y Cantref Mawr, sir Gaerfyrddin a gynhwysai blwyfi Llanybydder a Phencarreg 12.14n, 60, 13.26
  • Mabwynion Mebwynion, cwmwd i’r gogledd o gwmwd Mabelfyw yn Is Aeron, Ceredigion 12.48n
  • Machynllaith Machynlleth, plwyf ar lan afon Dyfi, yng Nghyfeiliog 40.27n
  • Maelawr cymydau Maelor Gymraeg a Maelor Saesneg ym Mhowys Fadog 3.70, 45.50, 53.9n, 70.30n, 72.4n, 57, 62, 76.6n, 86.18n, 88.13n, 89.34n, 103.32n Maelor 3.26, 53, 73.2n, 74.14, 22, 75.5n, 46, 50, 58n, 79.68n, 110.2n y ddwy Faelawr 104.4n y ddwy Faelor 66.35n dwy Faelor 72.22n
  • Maelienydd gw. Mael Maelienydd
  • Maelor Gymräeg cwmwd ym Mhowys Fadog 73.67
  • Maen Maine, talaith i’r gogledd o Anjou ac i’r de o Normandi 3.20n, 36
  • Maenan abaty Sistersaidd yn Nyffryn Conwy, merch eglwys i Ystrad-fflur a sefydlwyd yn 1186 8.30, 110.62, 122.26n
  • Maesbrog Maesbrook, pentref i’r dwyrain o Lanymynech a ger y Cnwcin yn swydd Amwythig 79.38n, 122.26n
  • Main, y trefddegwm ym Meifod, Mechain, Powys 27.46n, 82.17n, 89.12n
  • Maleiniog maenor ar ddwy lan afon Gwy, yn agos i Laneigon a'r Gelli 30.56n
  • Malltraeth pentref a thraeth ym Môn ger aber afon Cefni 64.5n, 39, 65.2n, 32, 37 Mall Draeth 65a.14n y Traeth Mall 63.11n
  • Manafon pentref ger Aberriw, sir Drefaldwyn 38.54n
  • Mars, y Y Mers, arglwyddiaethau wedi eu lleoli gan fwyaf yn nwyrain Cymru ac a oedd o dan awdurdod arglwyddi Eingl-Normanaidd 13.16n, 27.46, 29.19n, 41.2, 44.70, 70.40n, 71.18n, 72.28, 75.11, 51, 59, 78.57n, 79.53, 80.32n, 86.33, 102.14n, 105.18n
  • Mathafarn plasty yn Llanwrin 40.11n
  • Mawddwy cwmwd i'r de o Benllyn, yn cynnwys plwyfi Caereinion Fechan, Llanymawddwy a Mallwyd 80.19, 44n, 54, 81.15, 65, 72
  • Mawnd gw. Mawnt
  • Mawns Le Mans, prif dref Maine, Ffrainc 3.22n
  • Mawnt Mantes, tref ar afon Seine, rhwng Rouen a Pharis, Ffrainc 1.6n, 10, 21, 32, 48, 56, 2.54 Mawnd 2.10
  • Mechain cantref ym Mhowys Wenwynwyn yn ymrannu'n ddau gwmwd, Mechain Is Coed a Mechain Uwch Coed 82.18n, 115.19n a gw. Syr Siôn Mechain
  • Meifod plwyf yng nghantref Mechain, Powys 89.20n
  • Meirionnydd cantref yn ne Gwynedd yn cynnwys cymydau Tal-y-bont ac Ystumanner 42.14, 55.46n
  • Melan Milan, dinas yng ngogledd yr Eidal a oedd yn enwog am gynhyrchu dur 1.27, 73.2n, 11n, 98.54n, 120.62n
  • Melwern Melverley, pentref i’r de o Groesoswallt a ger y Cnwcin yn swydd Amwythig 65.53, 79.38n
  • Menai afon sy'n gwahanu Ynys Môn ac Arfon 52.11n, 57.42, 62.42
  • Merthyr Tudful, plwyf ac ardal yng nghwmwd Uwch Caeach ym Morgannwg 16.22n, 74
  • Moel Othrwm Moel Orthrwm, mynydd ger Nannau, ym mhlwyf Llanfachreth, cwmwd Tal-y-bont, Meirionnydd 50.21n Moel Orthrwm 51.5n
  • Moelyrch Moeliwrch, cartref nawdd ger Llansilin, cwmwd Cynllaith 90.11, 92.15n
  • Môn ynys yng ngogledd eithaf Cymru, a ymrannai'n dri chantref, Cemais (gogledd), Aberffraw (gorllewin), Rhosyr (de-ddwyrain) 10.10, 12.11, 47, 15.18, 16.33n, 19.10n, 20.77, 21.12, 56, 66, 29.19n, 38.41n, 43n, 53, 39.43n, 51n, 45.30, 49.34, 52.13n, 55.45n, 56.34, 44, 51, 57.1n, 53, 60.4n, 47 62.18, 26, 36, 44, 63.2n, 18, 26, 48, 62, 64, 68, 64.2n, 38, 52, 62, 65.18, 37, 48, 66, 65a.58, 70.3, 27n, 72.28n, 63, 76.6, 18, 80.32, 44, 82.9n, 31, 91.15n, 100.10, 43n, 108.4n, 117.47n
  • Morfa, y rhan ddeheuol arglwyddiaeth Casnewydd neu Wynllŵg? 18a.19n
  • Morgannwg yn wreiddiol un o hen raniadau Cymru, ond ar ôl y Goncwest cyfatebai'n fras i sir Forgannwg 15.16, 17.12, 19.5n, 21.67n, 25.53n, 26.54n, 35.32n, 37.27, 38.44n
  • Môr Rudd Môr y Gogledd 126.54n
  • Môr Tawch Yr Eigion, Oceanus 29.54n
  • Mynyw sef Tyddewi, sir Benfro 12.15, 19.9n, 26.49n, 28.35, 30.26n, 70.3n, 52n, 94.19 Tyddewi 37.9n

N[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Nanconwy cwmwd yn Arllechwedd Uchaf, Gwynedd Uwch Conwy 100.12n
  • Nanheudwy cwmwd yn Swydd y Waun, yn cynnwys plwyfi Llangollen, y Waun, &c. 103.6n
  • Nanmor Deudraeth trefgordd ym mhlwyf Beddgelert, cwmwd Eifionydd 54.3
  • Nannau cartref nawdd ym mhlwyf Llanfachreth, cwmwd Tal-y-bont, Meirionnydd 48.51n, 49.3n, 53, 62, 50.11n, 51.10n, 63.7n
  • Nedd1 bwrdeistref ym Morgannwg 15.14
  • Nedd2 afon sy'n tarddu ym Mannau Brycheiniog gan lifo i'r de, drwy Ddyffryn Nedd, allan i'r môr ym Mae Abertawe 21.68n
  • Nordd, y y Gogledd, gogledd Lloegr 24.26, 25.64n, 41.42n, 44.44n, 44a.42
  • Norhantwn Northampton 24.24n
  • Normandi Normandy, gogledd Ffrainc 2.10n, 23, 27n, 3.2, 20.10
  • Northfolc Norfolk, dwyrain Lloegr 76.8n

O[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Ogwen afon sy'n llifo heibio i Gochwillan i'r môr yn Aberogwen, ger Bangor, Gwynedd Uwch Conwy 55.30n
  • Opia Ethiopa, y wlad yn Affrica 59.44n

P[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Paitio Poitou, talaith ar arfordir gorllewinol Ffrainc 4.38
  • Pant -y-groes, Pant yr Hengroes gw. Llanegwestl
  • Parc Emral cartref nawdd ym Maelor Saesneg 74.2n Emral 74.24
  • Parc Enwig man anh., o bosibl yn y Berwyn 76.27n
  • Paris prifddinas Ffrainc 1.26n, 87.23n, 98.43n
  • Penbrwg gw. Penfro
  • Penfro cantref, arglwyddiaeth neu dref ac iddi gastell mawr yn ne-orllewin Cymru 21.18n, 20, 28.11, 114.24 Penbrwg 24.20, 26.54n, 28.22n a gw. iarll Penfro, iarll Penbrwg
  • Pengwern trefgordd ac enw cartref nawdd yn Llangollen, Nanheudwy 106.36
  • Penllyn cantref ym Meirionnydd yn cynnwys cymydau Dinmael, Edeirnion, Uwch Tryweryn ac Is Tryweryn 42.5n, 54, 64.9n, 66.40, 121.22n a gw. Tudur Penllyn
  • Pennant Melangell plwyf yng nghwmwd Mochnant Uwch Rhaeadr 42.25–7n
  • Pen-rhos Pen-rhos Fwrdios, cartref nawdd ger Caerllion ar Wysg 114.3n
  • Penrhyn cartref nawdd ar lannau’r Fenai ym mhlwyf Llandegái 57.6n y Penrhyn 56.65n
  • Pentrecynfrig pentref a chartref nawdd, tua 2 km i'r de o'r Waun, swydd Amwythig 108.20n
  • Pentre'rfelin Pentrefelin, yn Llandysilio-yn-Iâl, ychydig i'r de o abaty Glyn-y-groes 111.25n
  • Pen-y-lan Penlan, ger y Bala, yn ôl pob tebyg 48.11n
  • Peris afon yng ngogledd cwmwd Anhuniog, Ceredigion 11.46n
  • Porth Siaff porthladd yn Israel 97.8n
  • Porth Wgon man anh. y cysylltir Tegau Eurfron ag ef 107.11n
  • Powls cadeirlan St Paul's, Llundain 22.26n, 99.8 Powlys 116.19n a gw. Dawns o Bowls fel e.c.
  • Powlys gw. Powls
  • Powys un o hen daleithiau Cymru a rennid yn hanesyddol yn Bowys Fadog (gogledd) a Phowys Wenwynwyn (de). Cynhwysa yn fras siroedd Trefaldwyn, Maesyfed a Brycheiniog a rhan o sir Ddinbych 8.34, 15.19, 24.74, 26.53n, 27.52, 38.5, 53, 39.18, 48, 41.31, 42.23, 53.12, 60, 66.46n, 79.39, 82.16, 24, 83.8, 84.12, 27, 85.16, 88.1, 89.39n, 90.62n, 94.4, 60, 95.30n, 61, 98.23n, 33, 42n, 104.12, 115.12, 34 dwy Bowys 117.55
  • Powystir 27.42n, 80.3, 97.47
  • Powys Fadawg Powys Fadog, gogledd Powys 86.17n Powys Fadog 66.31n, 104.14
  • Prydain Prydain Fawr 14.54, 25.2 Ynys Brydain 58.52, 107.15 Brytaen 78.25 y Fêl Ynys 88.28 Ynys y Cedyrn 29.46n
  • Prydyn yr Alban neu’r Hen Ogledd 63.57n a gw. Du o Brydyn
  • Prysaddfed Prysaeddfed, cartref nawdd ger Bodedern yng nghwmwd Llifon, Môn 63.16n, 64.49n

R[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Rug cartref nawdd ger Corwen, Edeirnion 44.23n, 49.47n

Rh[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Rhaglan castell Syr Wiliam ap Tomas a Wiliam Herbert yn arglwyddiaeth Brynbuga, Gwent 19.1n, 22, 36, 20.8, 15, 44, 54, 20a.10n, 34, 23.5, 24.55n, 26.10, 40, 60, 27.16, 28.47
  • Rhiw, yr enw ar lys neu fryn ger Aberriw, plwyf ar y ffin rhwng cymydau Cedewain aLlannerch Hudol, sir Drefaldwyn 38.14n, 22, 56n
  • Rhiwabon plwyf rhwng Llangollen a Wrecsam ym Maelor Gymraeg 72.53, 116.30
  • Rhiw Tren cartref nawdd ym mhlwyf Llanybydder 12.25n
  • Rhôn Rouen, prifddinas Normandi, gogledd Ffrainc 1.2n, 18, 34, 41, 55, 3.16n, 23, 55,

29.6n, 40, 98.44n

  • Rhos cantref yn ne Penfro yn cynnwys Hwlffordd 28.19n
  • Rhosyr safle hen lys tywysogion Gwynedd ger Niwbwrch, Môn, ac enw cantref yn neddwyrain Môn yn cynnwys cymydau Menai a Dindaethwy 65.42
  • Rhuddlan tref a chwmwd yng nghantref Tegeingl 61.64n
  • Rhufain prifddinas yr Eidal, cyrchfan pererinion 23.10, 29.40, 36.42, 37.14, 61.57n, 82.48, 91.21n, 102.18, 107.20n, 111.59, 112.2, 4n, 125.9
  • Rhuthun tref ac arglwyddiaeth yn Nyffryn Clwyd, Gwynedd Is Conwy 121.26n, 122.17n
  • Rhydodyn plasty ym mhlwyf Llansawel, cwmwd Caeo 101a.47
  • Rhydychen Oxford, Lloegr 6.25–6, 28

S[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Sain Clêr Sanclêr, arglwyddiaeth i’r dwyrain o Gaerfyrddin 27.35n
  • Sain Siâm Santiago de Compostela, cyrchfan pererinion yng ngogledd-orllewin Sbaen 37.11
  • Saint afon sy’n llifo i’r môr yng Nghaernarfon, Gwynedd 65.2n
  • Salbri Salisbury, dinas yn Wiltshire 61.53n Salsbri 25.5
  • Sarn Elen Sarn Helen, yr hen ffordd Rufeinig ar hyd gorllewin Cymru 21.6n
  • Sermania gw. Almaen
  • Siêb Cheapside, ardal enwog am ei siopau yn Llundain 22.28n, 58.53n, 102.35 Siêp 41.4n, 73.52n, 101a.24n
  • Sieffild Sheffield, swydd Efrog 78.28
  • Siffnal Shifnal, swydd Amwythig 78.30n
  • Sin Sheen, palas brenhinol gynt ger Richmond-on-Thames 37.10
  • Sir Gaer sir Gaernarfon 55.52n
  • Sir Gaerfyrddin sir Gaerfyrddin 13.47–8 swydd Gaer 14.18
  • Sodma Sodom, dinas yng ngwlad yr Iorddonen, Beibl 89.14n
  • Staffordd Stafford, dinas yng nghanolbarth Lloegr 44.43n a gw. Syr Wmffre Staffordd
  • Swydd Gaer1 gw. sir Gaerfyrddin
  • Swydd Gaer2 Cheshire 71.35n
  • Swydd Henffordd Herefordshire 36.12
  • Swydd y Waun Arglwyddiaeth y Waun, yn cynnwys cymydau Nanheudwy, Mochnant Is Rhaeadr a Chynllaith 103.34n, 104.7, 107.60n
  • Sycharth llys Owain Glyn Dŵr yn Llansilin, Powys 38.51n

T[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Talebolion Talybolion, cwmwd yng nghantref Cemais, Môn 39.52n
  • Talgarth tref yn sir Frycheiniog 30.24
  • Tal-y-bont ger y Trallwng 88.31n
  • Tanad afon ar y ffin rhwng Powys Fadog a Phowys Wenwynwyn ac yn llifo i Efyrnwy ger Abertanad 86.13, 40, 87.29n, 88.11n, 89.57n, 95.36n
  • Tawy afon Tawe, sy'n tarddu ym Mannau Brycheiniog ac yn llifo i'r môr yn Abertawe 14.20n
  • Tegeingl un o bedwar cantref y Berfeddwlad, yn cynnwys cymydau Cwnsyllt, Prestatyn a Rhuddlan 43.54n, 47.16n, 61.63n, 70.32n Tegaingl 121.22n
  • Teifi afon sy’n tarddu yng ngogledd Ceredigion ac yn llifo i'r môr yn Aberteifi 8.36, 9.45n, 12.9, 46, 13.4, 43.25
  • Teirgwent gw. Gwent
  • Traean, y Y Traean, yn arglwyddiaeth Croesoswallt, swydd Amwythig 95.43n
  • Traeth Mall, y gw. Malltraeth
  • Trallwng, y tref yng nghwmwd Ystrad Marchell, ar y ffin â swydd Amwythig 39.70n
  • Tre’rtŵr cartref nawdd ym mhlwyf Llanfihangel Cwm Du, Dyffryn Wysg 19.26n
  • Trefawr rhan o blwyf Llangollen, Nanheudwy, yn cynnwys Trefor Uchaf a Threfor Isaf 3.55n, 103.39, 105.23n, 49, 105.9n, 113.85n, 116.59 Trefor 72.22n, 103.38n, 107.59n, 111.24n, 25, 112.4n y Dref-fawr 99.4n
  • Trefgwnter cartref nawdd ger Talgarth yn Nyffryn Gwy 30.48
  • Trefrydd Y Drefrudd, Wattlesborough, ym mhlwyf Alderbury, swydd Amwythig 81.12n y Drefrudd 80.18n, 55 y Dref Rudd 80.57
  • Tregarn Tref y Garn, Trefgarnowain ym mhlwyf Breudeth, sir Benfro 80.58n
  • Tren afon sy'n llifo i afon Teifi ger Llanybydder 12.51
  • Trent afon sy'n tarddu yn swydd Stafford ac yn ymuno ag afon Ouse ychydig i’r de o Hull 14.53n
  • Tro cartref nawdd yn Llanfihangel Troddi, i’r de o Drefynwy 19.26n
  • Troea y ddinas hynafol yn Anatolia (Twrci) 53.24 Caer-dro 85.36n
  • Trum Elidir mynydd neu fryn anh., o bosibl yn y Berwyn 108.54n
  • Tŵr, y Tŵr Llundain neu o bosibl Tretŵr yn sir Frycheiniog 17.35n
  • Twrcelyn Twrcelyn, cwmwd yng nghantref Cemais, Môn 62.11n, 14
  • Tŵr Gwyn, y Llundain 80.25n
  • Tŵr yr Eryr un o dyrau castell Caernarfon 105.20n
  • Tyddewi gw. Mynyw
  • Tywi afon sy’n tarddu yng Ngheredigion ac yn llifo i'r môr ger castell Llansteffan yn sir Gaerfyrddin 27.45n
  • Tywyn ym Meirionnydd 14.53n
  • Tywyn, y y Ferwig, Ceredigion 38.20n Uwch Aeron yr ardal i'r gogledd o afon Aeron yng Ngheredigion 10.16, 11.22

U[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Uwch Conwy Gwynedd Uwch Conwy, y rhan o Wynedd i'r gorllewin o afon Conwy 63.56n Warwig Warwick 44.24n a gw. fel enw person

W[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Waun, y tref ar y ffin â swydd Amwythig yn ymrannu'n ddwy ran, y Waun Isaf a’r Waun Uchaf 95.43n, 104.17, 105.42n, 107.49 dwy Waun 107.14n y ddwy Waun 111.23
  • Waun Isaf, y trefgordd yn y Waun, tref ar y ffin â swydd Amwythig 104.1n, 105.35n
  • Weblai Weobley, cartref teulu Devereux yn swydd Henffordd 26.7 Weble 27.9
  • Weble gw. Weblai
  • Wengraig, y y graig y saif plasty Nannau arni neu lys cysylltiedig â Nannau, ym mhlwyf Llanfachreth, cwmwd Tal-y-bont, Meirionnydd 50.50n, 51.13n y Graig Wen 49.7n
  • Westmestr Westminster, Llundain 94.6n
  • Winsawr Winsor, castell brenhinol yn Berkshire 97.43n
  • Wlasgуd Woolascott, trefgordd yng nghyffiniau Amwythig 83.34n
  • Wtil Ynysoedd yr Hebrides 120.4n
  • Wyddfa, y Yr Wyddfa, mynydd uchaf Eryri, Gwynedd 21.36n
  • Wysg afon sy'n llifo drwy Went ac i Foryd Hafren ger Casnewydd 19.74n, 27.14n, 114.9n

Y[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Ynys Brydain gw. Prydain
  • Ynys Wydrin Glastonbury, de-orllewin Lloegr 22.60n
  • Ynys y Cedyrn gw. Prydain
  • Ynys y Saint Ynys Enlli 37.11n
  • Ysbaen Sbaen 29.28 yr Ysbaen 77.20n
  • Ysbrús, yr Prwsia, gogledd yr Almaen 96.26n
  • Ystrad Alun gw. Alun Ystrad
  • Ystrad-fflur abaty Sistersaidd yng Ngheredigion 9.9–10, 30.38 Fflur Ystrad 8.58 caer Fflur 8.23 côr Fflur 6.18, 7.40 gloywgor Fflur 6.6 teml Fflur 5.4, 8.19 tyrau Fflur 9.38 tŷ Fflur 8.18
  • Ystrad Marchell abaty Sistersaidd ger y Trallwng 82.1n
  • Ystradmeurug Ystradmeurig, pentref ger Tregaron a oedd yn safle hen lys brenhinol 9.66

Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. www.gutorglyn.net; adalwyd 22 Mawrth 2018 gyda chaniatad gan Ann Parry Owen (gweler Trydariad yma.