Neidio i'r cynnwys

Wicipedia:Cymorth iaith

Ychwanegu adran
Oddi ar Wicipedia
Sylw diweddaraf: 1 mis yn ôl gan Rhyswynne ym mhwnc Assist (enw nid berf)
Cymorth iaith
Cymorth iaith

Croeso i dudalen cymorth iaith Wicipedia. Os oes gennych unrhyw gwestiwn ynglŷn â'r iaith Gymraeg -- treiglo, sillafu, gramadeg neu rywbeth arall -- gofynnwch yma. Am gwestiynau cyffredinol neu dechnegol, ewch i'r Caffi os gwelwch yn dda. Ceir nodiadau ar ysgrifennu Cymraeg cywir ar y dudalen canllawiau iaith - efallai y byddant yn trin yr union bwnc sydd yn ateb eich gofyn.

I ychwanegu cwestiwn, cliciwch yma i ddechrau pennawd newydd, a theipiwch eich neges. Cofiwch lofnodi'r neges drwy ychwanegu pedair tilde (~~~~) ar y diwedd, os gwelwch yn dda.

Gwelwch gornel y dysgwyr hefyd.

Os oes angen cymorth ag ysgrifennu, gramadeg, a sillafu yn y Gymraeg arnoch, mae modd defnyddio Cysill Ar-lein (beta), sy'n wirydd sillafu a gramadeg am ddim gan Brifysgol Bangor.

Archifau Cymorth Iaith __


Caneuon

[golygu cod]

Cwestiynau am ganeuon

Pori mae yr asyn ar y porfa fras wedi pori ddigon neu pori digon Pa un sy'n gywir ?

Daw hyfryd fis Cwcw, Cwcw, Cwcw'n canu'n braf neu Gwcw,Gwcw, Gwcw sy'n gywir?


Yr anthem Tros ryddid collasant neu Dros ryddid gollasant sy'n gywir?

Allwch chi esbonio pam hefyd os yn bosib.


Diolch yn fawr

Tomos —Cafodd y sylw hwn heb lofnod ei ychwanegu gan 78.141.10.142 (sgwrscyfraniadau) 13:36, 15 Mai 2017‎

Astudiaeth anifeiliaid

[golygu cod]

Sut mae sillafu'r enw am astudiaeth anifeiliaid yn Gymraeg? Mae Geiriadur y Brifysgol yn cynnig swoleg a sooleg, heb acenion. Yng Ngeiriadur yr Academi ceir söoleg a less correctly sŵoleg. (Mae camgymeriad ar wefan Geiriadur yr Academi yn rhoi sõoleg yn hytrach na söoleg). —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 17:11, 4 Awst 2019 (UTC)Ateb

Assist (enw nid berf)

[golygu cod]

Ym mhêl-droed gelwir y bas olaf o'r bêl at y sawl sy'n sgorio gôl yn assist, ac mae hyn yn rhywbeth sydd bellach yn cael ei nodi fel ystadegyn pwysig o ran mesur cyfraniad chwaraewr (ac yn fanylyn arall i'r diwydiant betio ei hwrdioǃ). Dwi wedi pori drwy'r geiriaduron ac heb ddod o hyd i ddim. Fy nghynigion i yw 'pas tyngedfenol', 'pas olaf', 'pas cyn sgorio', ond byddai term un giar yn well. Term cyffredin yw 'croesiad' (cross), ond mae hyn yn awgrymu cic hir o'r ystlys, lle gall assist fod yn gyffyrddiad ysgafn, byr o ran pellter gyda'r droed, yn beniad, neu'n dafliad (throw in) hyd y oed. Oes gan rhywun gynnig arall neu sylw ar yr uchod? Rhyswynne (sgwrs) 09:46, 25 Ebrill 2025 (UTC)Ateb

Wedi cael cynnig 'pas-gôl' Rhyswynne (sgwrs) 16:02, 8 Mai 2025 (UTC)Ateb