Wicipedia:Canllawiau iaith

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Canllawiau ac adnoddau ysgrifennu yn Gymraeg ar gyfer Wicipedia.

Pwrpas y canllawiau iaith yw casglu cyngor ac argymhellion ar ysgrifennu Cymraeg cywir er lles cyfranwyr a golygyddion Wicipedia. Crynhoir nodiadau a chynghorion sydd eisoes wedi eu trafod ar Wicipedia ac sydd o ddiddordeb parhaol. Mae hwn hefyd yn gyfle i’r rhai hynny sydd wedi astudio’r Gymraeg rannu eu gwybodaeth â’r rhai ohonom nad ydym wedi astudio'r Gymraeg.

Os cwyd cwestiwn ar fater o arfer iaith mae'r dudalen cymorth iaith ar gael i drafod y cwestiwn.

Gweler hefyd y dudalen ar arddull Wicipedia sy'n cynnwys argymhellion ar arddull Cymraeg addas at ddibenion Wicipedia.

Nodiadau gramadeg[golygu cod y dudalen]

Byrfoddau[golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau map[golygu cod y dudalen]

  • Gogledd -- G
  • De -- D
  • Gorllewin -- Gn
  • Dwyrain -- Dn

Trefnolion[golygu cod y dudalen]

Y system ugeiniau a ddefnyddir ar gyfer y trefnolion Cymraeg. Mae'r gramadegwyr a'r golygyddion at ei gilydd yn argymell ysgrifennu'r trefnolion yn llawn. Ond os am ddefnyddio byrfodd ar gyfer y trefnol yna defnyddir llythrennau diwethaf y rhan o'r rhif sy'n llai na chant, e.e. 131ain, sef yr unfed ar ddeg ar hugain wedi'r cant.

Byrfodd Trefnol Byrfodd Trefnol
1af cyntaf 11eg unfed ar ddeg
2il ail 12fed deuddegfed
3ydd/3edd trydydd/trydedd 13eg trydydd/trydedd ar ddeg
4ydd/4edd pedwerydd/pedwaredd 14eg pedwerydd/pedwaredd ar ddeg
5ed pumed 15fed pymthegfed
6ed chweched 16eg unfed ar bymtheg
7fed seithfed 17eg ail ar bymtheg
8fed wythfed 18fed deunawfed
9fed nawfed 19eg/19fed pedwerydd/pedwaredd ar bymtheg / un-deg-nawfed
10fed degfed 20fed ugeinfed
       
37fed tri-deg-seithfed 50fed hanner canfed
157fed cant pum-deg-seithfed 160fed cant-chwe-degfed
1277fed un-fil dau-gant saithdeg-seithfed 1280fed un fil dau gan wythfed
1,000,000fed miliynfed    

Morffoleg y Gymraeg[golygu cod y dudalen]

Marw[golygu cod y dudalen]

Sylwer nad oes ffurf gryno o'r amser gorffennol o'r ferf marw yn yr iaith safonol. Ni ellir dweud

Marwodd *** ddydd Iau diwethaf

Yn hytrach, dyweder,

Bu *** farw ddydd Iau diwethaf neu Bu farw *** ddydd Iau diwethaf.

Cystrawen y Gymraeg[golygu cod y dudalen]

John Smith was a rugby player from Cardiff[golygu cod y dudalen]

Mae gan ddysgwyr dueddiad i gyfieithu brawddeg fel "John Smith was an author from Cardiff" yn llythrennol e.e. "John Smith oedd nofelydd o Gaerdydd", sy'n gwbl estron i'r Gymraeg. Yr hyn ddylid ei ddweud yw, "Nofelydd o Gaerdydd oedd John Smith" neu "Roedd John Smith yn nofelydd o Gaerdydd". Mae'r frawddeg gyntaf yn enghraifft o'r hyn a elwir yn frawddeg "bwysleisiol" (emphatic sentences) h..y., mae pwyslais ar air penodol. Ynddi, ar y gair 'nofelydd' mae'r pwyslais (gan fod y frawddeg yn pwysleisio mai nofelydd yr oedd). Gellid osgoi brawddegau pwysleisiol drwy ddefnyddio "roedd" yn y gorffennol.

'O' a materion cysylltiedig[golygu cod y dudalen]

Defnyddir yr arddodiad 'o' i gyfleu (ymhlith pethau eraill):

  1. Symudiad oddi wrth rywle; (berf) + enw + o + lle, e.e. Ymfudodd Dafydd o Gymru i America.
  2. Man cychwyn neu darddiad; enw + o + lle, e.e. Sieffre o Fynwy, Catherine o Aragon, Gwilym o Normandi.
  3. Nifer; nifer + o + enw, e.e. llwyth o oraensys.

Ystyr yr ymadrodd 'brenin o Ffrainc' yn Saesneg yw a king from France.

Cyflëir y genidol (bod rhywbeth yn perthyn i rywbeth arall) trwy osod y ddau enw ochr yn ochr, e.e. cath Mari, sef y gath sy'n perthyn i Mari (the cat of Mary). Defnyddir y genidol mewn teitl i ddisgrifio bod rhywun yn frenin, dyweder, ar rhywle (king of somewhere), e.e. brenin Lloegr, Archesgob Caergaint.

'O' a theitlau pobl[golygu cod y dudalen]

Defnyddir y ffurfiau 'y brenin Arthur', 'yr Archesgob Williams', 'yr Arlywydd Bush' yn Gymraeg ar gyfer teitlau (lle ceir King Arthur, Archbishop Williams, President Bush yn Saesneg).

Weithiau mae angen rhoi disgrifiad manylach. Os oes angen mynegi enw a swyddogaeth a thiriogaeth yna defnyddir yr ymadrodd - enw, swyddogaeth + lle - yn Gymraeg, e.e. Elisabeth II, brenhines y DU; Bush, arlywydd UDA; Rowan Williams, archesgob Caergaint (lle ceir Queen Elizabeth II of the UK; President Bush of the USA; Archbishop Rowan Williams of Canterbury yn Saesneg).

Weithiau adnabyddir rhywun yn ôl y lle mae'n hanu ohono, e.e. William Williams Pantycelyn, Owain Glyndŵr, Catrin o'r Berain (neu Catrin o Ferain), Edward o Dŷ Efrog. Sylwer bod modd cynnwys y gair Tŷ pan fo amwyster ystyr – gallai Edward o Efrog olygu Edward sydd wedi dod o ddinas Efrog yn hytrach nag Edward sy'n perthyn i (Dŷ) Efrog (ond sylwer mai Andrew, Dug Efrog yw enw ail fab Elizabeth II).

Enwau ar bobloedd[golygu cod y dudalen]

Mae dwy ffordd o ddisgrifio cenedl yn Gymraeg; e.e. i gyfleu Welsh athletes gellir dweud:

  • Athletwyr o Gymry
  • Athletwyr o Gymru

Mae mantais i'r ail ddewis wrth ddisgrifio pobl sy'n dod o wlad ag enw diarth neu gymhleth megis St Kitts, Ynys Ascension, h.y. athletwyr o St Kitts, athletwyr o Ynys Ascension.

Gellir hefyd ddisgrifio athletwyr sy'n dod o Gymru fel 'athletwyr Cymru' wrth gyfeirio atynt i gyd fel un grŵp. Mae'r gystrawen hon yn addas ar gyfer teitlau categorïau.

Defnydd Cymreig, Cymraeg, Cymro[golygu cod y dudalen]

Dylid defnyddio'r gair 'Cymreig', 'Seisnig', ayb i ddisgrifio cenedligrwydd (yn perthyn i Gymru neu i genedl y Cymry) heblaw am yn achos iaith a phobl, e.e. 'gwisg Gymreig', 'y wasg Gymreig' (y wasg sy'n delio â materion Cymreig, trwy gyfrwng y Saesneg neu'r Gymraeg).

Felly mae 'pobl o dras Gymreig' yn gywir - mae Cymreig yn disgrifio 'tras'. Ond nid 'athletwr Cymreig' - 'athletwr o Gymro' yw'r ymadrodd naturiol Gymraeg. Gweler yr adran 'Enwau ar bobloedd' am ragor o wybodaeth.

Defnyddir 'Cymraeg', 'Ffrangeg', ayb i ddisgrifio iaith, e.e. 'nofel Ffrangeg' i ddisgrifio nofel a ysgrifennwyd yn y Ffrangeg, 'y wasg Gymraeg' i ddisgrifio'r wasg sy'n cyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Adnoddau iaith[golygu cod y dudalen]

Gramadegau[golygu cod y dudalen]

  • Elfennau Gramadeg Cymraeg, Stephen J Williams (Gwasg Prifysgol Cymru, 1959) (ddim ar gael)
  • Cywiriadur Cymraeg, Morgan D Jones (1965)
  • Cystrawen y Frawddeg Gymraeg, Melvill Richards (1970) (ddim ar gael)
  • Cyflwyno'r Iaith Lenyddol, Yr Uned Iaith Genedlaethol, (D. Brown a'i Feibion, 1994) - yn trafod y gwahaniaethau rhwng Cymraeg cyfoes a Chymraeg llenyddol (ddim ar gael)
  • Gramadeg y Gymraeg, Peter Wynn Thomas, (Gwasg Prifysgol Cymru, 2006)
  • Y Treigladur, D Geraint Lewis (Gwasg Gomer, 1993) - llyfr anhepgor, hawdd ei ddefnyddio

Geiriaduron[golygu cod y dudalen]

  • Geiriadur Prifysgol Cymru, 1950-2002 Gwasg Prifysgol Cymru – geiriadur llenyddol a'r mwyaf cynhwysfawr ar gyfer y Gymraeg. Ar gael ar-lein
  • Geiriadur yr Academi, 2003, Bruce Griffiths a Dafydd Glyn Jones (goln) – geiriadur cynhwysfawr Saesneg–Cymraeg. Ar gael ar-lein.
  • Gweiadur, 2005-2016 D. Geraint Lewis - geiriadur Cymraeg-Cymraeg-Saesneg yn cynnwys diffiniadau o eiriau Cymraeg, rhediadau berfau ac arddodiaid yn yr ardull ffurfiol ac anffurfiol a mynegai Saesneg-Cymraeg. Mae cofrestru am ddim.
  • Y Termiadur goln Delyth Prys, JPM Jones ac eraill (Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru, 2006) – geiriadur Cymraeg–Saesneg a Saesneg-Cymraeg ar gyfer ysgolion hyd at oedran 19. Rhoddwyd hwn ar y we gan Ganolfan Bedwyr - Y Termiadur ar y we.
  • Cysgliad (ar gryno ddisg) - gweler http://www.bangor.ac.uk/cysgliad - Cynhwysir sawl un o'r termiaduron ar y ddisg. Cynhwysir hefyd rhaglen cysill i wirio sillafu a gramadeg Cymraeg.
  • Geiriadur Gomer i'r Ifanc 1994, D. Geraint Lewis, Gwasg Gomer – geiriadur Cymraeg–Cymraeg
  • Y Geiriadur Mawr 2003, HM Evans a WO Thomas (goln), Gwasg Gomer - geiriadur Cymraeg-Saesneg a Saesneg-Cymraeg mewn un gyfrol
  • Collins Spurrell Welsh Dictionary 1991, HarperCollins
  • Cyfres Enwau Creaduriaid a Phlanhigion 1: Creaduriaid Asgwrn-Cefn, Cymdeithas Edward Llwyd (Gwasg y Lolfa, 1994)
  • Geiriadur y BBC ar y we - mae hwn yn cynnig geiriadur Cymraeg-Saesneg a Saesneg-Cymraeg a hefyd gwirydd treigladau syml sy'n gwirio treiglad enw+ansoddair
  • Cyfiau berfau ar wefan y BBC
  • Geirfâu Berwyn Prys Jones ar wefan Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru
  • Lecsicon Saesneg-Cymraeg Mark Nodine
  • Eurfa - geiriadur Kevin Donnelly yn cynnwys ffurfiau treigledig a berfol

Termiaduron yn y sector gyhoeddus[golygu cod y dudalen]

Bathu a safoni termau[golygu cod y dudalen]

Idiomau Cymraeg[golygu cod y dudalen]

  • Y Geiriau Bach, Cennard Davies (1998)
  • Poster Idiomau Cymraeg A2, Acen (2007)
  • Torri'r Garw, Cennard Davies (1996)
  • Geiriadur Idiomau, goln A.R. Cownie ac Wyn G. Roberts (Geiriadur Prifysgol Cymru, 2001)
  • Idiomau Cymraeg: y Llyfr Cyntaf R.E. Jones, (Tŷ John Penri, 1987)
  • Ail Lyfr o Idiomau Cymraeg, RE Jones, (Tŷ John Penri, 1997)
  • Idiomau Ar-lein, www.learnons4c.co.uk (2008)

Arall[golygu cod y dudalen]