Thomas Mardy Rees

Oddi ar Wicipedia
Thomas Mardy Rees
Ganwyd1871 Edit this on Wikidata
Castell-nedd Edit this on Wikidata
Bu farw2 Mai 1953 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgweinidog yr Efengyl, hanesydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Clawr darluniedig Difyrwch Gwyr Morgannwg gan T. Mardy Rees (tua 1920).

Awdur a phregethwr oedd Thomas Mardy Rees (18712 Mai 1953). Roedd yn frodor o Gastell-nedd, Morgannwg, yn ne Cymru. Roedd yn weinidog gyda'r Annibynwyr.

Wedi gadael yr ysgol, gyda'i dad yng nglofa'r Fforest Fforchdwm ac yna Melin-cwrt a'r Maerdy yn y Rhondda Fach. Yn y Maerdy, achubwyd ef, ei dad a'i frawd John wedi tanchwa ym mhwll rhif 2 ar 23 Rhagfyr 1885.[1]

Ysgrifennai yn Gymraeg ac yn Saesneg ar hanes Anghydffurfiaeth a'r Crynwyr, hanes celf yng Nghymru a llyfrau poblogaidd ar hanes Cymru. Cyhoeddodd yn ogystal gyfrol o straeon byrion doniol Cymraeg am fywyd glowyr y De, Difyrwch Gwyr Morgannwg (sic).

Llyfryddiaeth ddethol[golygu | golygu cod]

  • Welsh Painters, Engravers, Sculptors (1527-1911) (Caernarfon, 1912)
  • Ystoriau Difyr
  • Mynychdai Cymru
  • Difyrwch Gwyr Morgannwg (Caernarfon, d.d.=tua 1920)
  • A History of the Quakers in Wales and their emigration to North America (Caerfyrddin, 1925)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Y Bywgraffiadur Cymreig Arlein; Llyfrgell Genedlaethol Cymru.


Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.