Morwen Brosschot

Oddi ar Wicipedia

Bardd ac arlunydd Cymreig o Lanbedrog yn Llŷn yw Morwen Brosschot. Bu'n athrawes yn Ysgol Cymerau ym Mhwllheli tan iddi ymddeol.[1]

Barddoniaeth[golygu | golygu cod]

Mae cerddi a chelf Morwen Brosschot yn cymryd ffurf myfyrdodau ar fyd natur a threigl tymhorau. Mae ei gwaith yn aml yn cynnwys cyfuniad o elfennau gweledol a llenyddol, gan ddefnyddio Instagram i gyhoeddi llawer o'i cherddi byrion.

Cyhoeddodd ei phamffled cyntaf o gerddi, Pethau fel hyn, ar ei liwt ei hun yn ystod 2020, i godi arian at Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd. Cyhoeddwyd Gwrando, casgliad o gerddi a chelf ar y cyd â'r artist gweledol a chyfaill Morwen, Kim Atkinson, trwy Gyhoeddiadau'r Stamp yn hydref yr un flwyddyn.[2] Mae Gwrando yn cynnwys cerddi yn llawysgrifen y bardd, ac esboniodd rywfaint ar gefndir y broses wrth gylchgrawn Golwg:

"Cefais gymaint o fwynhad yn cydweithio efo Kim (Atkinson) ar y delweddau a dylunio’r pamffled. Mi wnaethon ni lawer o waith yn ystod y gwanwyn, allan mewn gwahanol lefydd, yn gwrando ac yn ymateb ar bapur i sŵn a sain. Dydi’r lluniau yn Gwrando ddim wedi eu gwneud yn arbennig i gerddi neilltuol. Wedyn wnaethon ni ddewis delweddau oedd rywsut yn cyd-fynd â’r cerddi. Roedden ni’n awyddus i roi fformat tirlun i’r pamffled oedd yn rhoi ryw deimlad o anffurfioldeb llyfr braslunio iddo a hefyd argraffu’r cerddi mewn llawysgrifen yn hytrach na phrint".[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "Y Llyfrau yn fy Mywyd". Golwg360. 2020-11-21. Cyrchwyd 2021-01-13.
  2. Tyne, Iestyn (2020-08-19). "Newyddion a Fideo: Gwrando - Morwen Brosschot". ystamp-1 (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-12-04. Cyrchwyd 2021-01-13.