Llŷr Titus

Oddi ar Wicipedia
Llŷr Titus
Ganwyd1990s Edit this on Wikidata
Penrhyn Llŷn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, dramodydd Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Nofelydd a dramodydd yw Llŷr Titus (ganwyd 1992/1993). Yn 2023 enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn am ei gyfrol Pridd, lle mae'n creu 'darlun cignoeth ond cyfareddol' o fywyd hen ŵr yng nghefn gwlad Llŷn.[1]

Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod]

Daw Llŷr Titus Hughes o Frynmawr ger Sarn ym Mhenrhyn Llŷn. Cafodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Edern, Ysgol Uwchradd Botwnnog ac yna yng Ngholeg Merion-Dwyfor. Yn 2014 graddiodd o Brifysgol Bangor[2] Aeth ymlaen i wneud cwrs Meistr ac yn 2020 roedd yn parhau gyda’i ymchwil ar gyfer doethuriaeth ym Mhrifysgol Bangor.[3]

Gwaith a gwobrau llenyddol[golygu | golygu cod]

Enillodd y Goron ym Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Abertawe 2011 ac y flwyddyn ganlynol yn Eisteddfod yr Urdd Eryri enillodd y Fedal Ddrama.[4] Cyhoeddodd ei nofel gyntaf, Gwalia, yn 2015 (Gwasg Gomer) ac enillodd Wobr Tir Na N-Og 2016 (categori ysgol uwchradd).

Mae Llŷr hefyd yn ddramodydd, ac yn awdur Drych a gynhyrchwyd gan Gwmni'r Fran Wen yn 2015.[5] Mae'n un o olygyddion a sylfaenwyr cylchgrawn Y Stamp a Chyhoeddiadau'r Stamp.

Yn 2023 enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn am ei gyfrol Pridd (Gwasg y Bwthyn), lle mae'n creu "darlun cignoeth ond cyfareddol" o fywyd hen ŵr yng nghefn gwlad Llŷn.[6] Yn ôl Megan Hunter ar ran y beirniaid mae'n nofel wreiddiol iawn, an ôl Savanna Jones, un arall o’r beirniaid, "Mae’n llwyddiannus yn y ffordd mae’n ein hannog i fynd ar antur gyda’r prif gymeriad ac i ymrwymo yn ei fyd wrth iddo garlamu drwy daith bywyd."

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. golwg.360.cymru; adalwyd 15 Gorffennaf 2023.
  2.  Dramodydd talentog ifanc yn graddio. Prifysgol Bangor (10 Gorffennaf 2014). Adalwyd ar 20 Ionawr 2020.
  3. "Llŷr Titus - Authors". www.gomer.co.uk. Cyrchwyd 2020-01-10.
  4.  Llyr yn cael Medal at Goron y llynedd – Stori Fideo. Golwg360 (6 Mehefin 2012). Adalwyd ar 20 Ionawr 2020.
  5. Crump, Eryl (2015-09-09). "Gritty drama by young playwright to open at Pwllheli". northwales. Cyrchwyd 2020-01-10.
  6. golwg.360.cymru; adalwyd 15 Gorffennaf 2023.