Neidio i'r cynnwys

Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhosllannerchrugog 1945

Oddi ar Wicipedia
Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhosllannerchrugog 1945
Enghraifft o:un o gyfres reolaidd o wyliau Edit this on Wikidata
Dyddiad1945 Edit this on Wikidata
CyfresEisteddfod Genedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
LleoliadRhosllannerchrugog Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Dynodwyr

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1945 yn Rhosllannerchrugog, Sir Ddinbych (Bwrdeistref Sirol Wrecsam bellach).

Prif Gystadlaethau
Cystadleuaeth Teitl y Darn Ffugenw Enw
Y Gadair Yr Oes Aur "Jason" Tom Parri Jones
Y Goron Coed Celyddon "Rhyd-y-croesau" Griffith John Roberts
Tlws y Ddrama - - Neb yn deilwng[1]

Cafwyd perfformiad gyntaf Prelude for the Youth of Wales gan Arwel Hughes yn yr Eisteddfod. Perfformiwyd y gwaith hwn o flaen bedwar mil o bobl ym mhafiliwn yr Eisteddfod yn Rhosllannerchrugog. Trefnwyd y gyngerdd hon gan drigolion Rhosllannerchrugog a hefyd pwyllgor y 'Rhos Mine Workers' Institute' ('Y Stiwt' ar lafar yn lleol).

Perfformiwyd y rhaglen gan Gerddorfa Ffilharmonig Lerpwl dan arweinyddiaeth Albert Coates gydag Eva Turner yn unawdydd. Canwyd clod i "un o gyfansoddwyr gorau Cymru", Arwel Hughes, a arweiniodd y perfformiad cyntaf o'i waith Prelude for the Youth of Wales, gwaith i gerddorfa lawn.

Hon oedd yr Eisteddfod olaf i'w chynnal yn ystod yr Ail Ryfel Byd: gollyngwyd bombiau atomig ar Hiroshima a Nagasaki yn ystod wythnos yr Eisteddfod, a chyhoeddi diwedd yr Ail Ryfel Byd ar y dydd Gwener.[2] Trefnwyd gwasanaeth diolchgarwch ar fyr rybudd, gyda chanu'r emyn Cyfamod Hedd a gweddi gyhoeddus a arweiniwyd gan y cyn-archdderwydd Elfed, oedd yn 85 oed ac yn ddall.[3]

12 cwmni drama "yn unig" fu'n cystadlu ar berfformio "drama un-act Gymraeg na fu ym mhrawf terfynol yr Eisteddfod Genedlaethol yn ystod y 10 mlynedd diwethaf"[1] Mary Lewis a John Gwilym Jones oedd yn beirniadu. Y tri chwmni a ddewiswyd ar gyfer yr Ŵyl oedd:

  • Cwmni Llangefni - Lluest y Bwci gan Matthew Williams
  • Cwmni Trefnant - Jane Wogan gan Florence Howell
  • Cwmni Treherbert - Gwaelod y Gwpan gan George Davies

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Rhos Llannerchrhugog. 1945.
  2. Llwyd, Alan (2006) Y Gaer Fechan Olaf, Cyhoeddiadau Barddas. t.118-9
  3. Llwyd, Alan (2006) Y Gaer Fechan Olaf, Cyhoeddiadau Barddas. t. 119
Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.