Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor 1890

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Cofnodion Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor 1890

Cynhalwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor 1890 yn ninas Bangor, Gwynedd.

Gwleidyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwrthododd Arglwydd Penrhyn rhoi ei gyfraniad arferol i gynnal yr Eisteddfod Genedlaethol am ei fod yn ofni y gallai David Lloyd George, a oedd newydd ennill is-etholiad seneddol, droi'r eisteddfod yn un wleidyddol. O ganlyniad, rhoddwyd lle i nifer o Dorïaid amlwg a'r unig gyfraniad a wnaeth Lloyd George oedd cael ei orfodi i ddiolch i Syr John Puleston, Aelod Seneddol Devonport, Dyfnaint a fu'n llywydd ac yn ffigwr amlwg yn yr Eisteddfod.

Gwobrau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Y Gadair - Thomas Jones (Tudno) am ei awdl "Y Llafurwr".[1]
  • Traethodau - Enillodd yr hanesydd Charles Ashton y wobr am draethawd Gymraeg ar fywyd gwledig Cymru. Gwobrwyd Glan Menai am ei draethawd 'Y prif ddigwyddiadau hanesyddol yn dwyn perthynas â Bangor a'r gymdogaeth'.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Trafodion Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor 1890 (Isaac Foulkes, Lerpwl, 1892), tud 1.
  2. Trafodion Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor 1890 (Isaac Foulkes, Lerpwl, 1892), tud. 180.
Flag of Wales (1959–present).svg Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.