Griffith Jones (Glan Menai)

Oddi ar Wicipedia
Griffith Jones
Ganwyd15 Mawrth 1836 Edit this on Wikidata
Llanfairfechan Edit this on Wikidata
Bu farw21 Hydref 1906 Edit this on Wikidata
Llanfairfechan Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethathro, ysgrifennwr, llyfrwerthwr Edit this on Wikidata

Roedd Griffith Jones (Glan Menai) (Mawrth 1836 - 21 Hydref 1906) yn ysgolfeistr ac yn awdur Cymreig.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganwyd Jones yn Llanfairfechan yn blentyn i Griffith Jones, bugail a thywysydd ymwelwyr trwy'r mynyddoedd a Mary ei wraig. Cafodd ei fedyddio yn Eglwys St Mair, Llanfairfechan a chafodd ei addysgu yn Ysgol Genedlaethol (ysgol Eglwys Loegr) Llanfairfechan. Wedi ymadael a'r ysgol aeth yn fyfyriwr i Goleg y Drindod Caerfyrddin lle gymhwysodd fel athro.[2]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Hysbyseb am ysgol forwrol Glan Menai yn yr Aeron Visitor (gol Glan Menai)

Cafodd ei benodi yn athro yn Ysgol Genedlaethol Llanddeusant, Môn, symudodd oddi yno ar ôl gyfnod byr i fod yn athro yn Ysgol Genedlaethol Llanfrothen. O Lanfrothen symudodd i Ysgol Genedlaethol Aberaeron. Yn Aberaeron bu hefyd yn cadw ysgol breifat i ddysgu sgiliau morwrol, aeth nifer o'i ddisgyblion preifat ymlaen i fod yn gapteiniaid llongau. Bu'n dysgu yn Aberaeron am ddeng mlynedd cyn symud i Ysgol Genedlaethol Llandybie lle arhosodd am 3 blynedd cyn dychwelyd i Aberaeron. Ni fu yn Aberaeron am yr eildro am lawer gan i'w iechyd torri a'i orfodi i roi'r gorau i fod yn athro ar ôl gyrfa o 20 mlynedd.

Symudodd i Gaernarfon i fyw. Yno dechreuodd ysgrifennu erthyglau ar gyfer y papurau lleol a phapurau Cymreig Lerpwl fel y caniatâi ei iechyd. Wedi cael peth adferiad aeth ar gais y Deon Edwards ar daith trwy Gymru i chwilio am ohebwyr a thanysgrifwyr i gylchgrawn enwadol Eglwys Lloegr, Y Llan. Wedi llwyddo yn y gwaith cafodd gais gan berchennog y Carmarthen Journal i wneud gwaith tebyg. Gwariodd gweddill ei oes yn hybu papurau ac yn gwerthu llyfrau.[3]

Gyrfa lenyddol[golygu | golygu cod]

Dechreuodd Glan Menai cystadlu mewn eisteddfodau pan oedd yn weddol ifanc. Cafodd ei lwyddiant mawr cyntaf ym 1859 pan ddaeth yn fuddugol am y cyfieithiad gorau o "God Save the Queen" i'r Gymraeg. Rhan o'r wobr oedd cael gwahoddiad i Gastell Penrhyn i glywed ei gyfieithiad yn cael ei chanu o flaen y Frenhines Fictoria, tra bod hi'n ymweld â Chymru. Ym 1861 cyhoeddwyd nofel, Hywel Wyn, ganddo. Ym 1865 enillodd wobr am y traethawd gorau am "Enwogion Sir Aberteifi" a gyhoeddwyd fel llyfr gan gwmni Hughes, Dolgellau ym 1868.[4]. Yn Eisteddfod Porthaethwy 1879 bu'n fuddugol am draethawd ar "Fywyd ac Athrylith Lewis Morris (Llywelyn Ddu o Fôn)" Ym 1886 cyhoeddwyd cyfrol o'i gerddi "Caneuon Glan Menai". Cyhoeddwyd nifer fawr o draethodau a chyfieithiadau eraill ganddo hefyd. Ym 1901 cyhoeddodd llyfr Saesneg am fro ei enedigaeth "A Commplete Guide to Llanfairfechan and Aber".[5]

Ym 1904 cafodd blwydd-dal o £30 y flwyddyn gan y llywodraeth fel cydnabyddiaeth i'w cyfraniad at lenyddiaeth Cymraeg a Chymreig.[6]

Teulu[golygu | golygu cod]

Bu'n briod ddwywaith. Bu farw ei wraig gyntaf yn Aberdaron wrth esgor. Mary oedd enw ei ail wraig a bu iddynt dwy ferch a mab. Bu Mary farw ym 1902 [7]

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Wrth ymweld â Chonwy fel rhan o'i waith fel llyfrwerthwr cafodd Glan Menai ffit apoplectig (strôc, mae'n debyg) aed a fo adref i Lanfairfechan ar y trên ond bu farw o fewn hanner awr o gyrraedd cartref. Claddwyd ei weddillion ym mynwent y plwyf Llanfairfechan.[8]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "JONES, GRIFFITH (Glan Menai; 1836 - 1906), ysgolfeistr ac awdur | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-08-16.
  2. "Glan Menai - The Welsh Coast Pioneer and Review for North Cambria". W. H. Evans. 1909-03-18. Cyrchwyd 2019-08-15.
  3. "GLAN MENAI - The Carmarthen Journal and South Wales Weekly Advertiser". J. Daniel. 1909-03-12. Cyrchwyd 2019-08-15.
  4. Internet Archive Enwogion Sir Aberteifi, Copi wedi ei ddigido gellir ei ddarllen am ddim
  5. "GLAN MENAI - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1909-05-12. Cyrchwyd 2019-08-15.
  6. "ANNUITYFORGLANMENAI - Carnarvon and Denbigh Herald and North and South Wales Independent". James Rees. 1904-08-26. Cyrchwyd 2019-08-16.
  7. "Family Notices - Carnarvon and Denbigh Herald and North and South Wales Independent". James Rees. 1902-02-07. Cyrchwyd 2019-08-16.
  8. "jOBITUARY - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1906-10-29. Cyrchwyd 2019-08-15.