Arfon Haines Davies

Oddi ar Wicipedia
Arfon Haines Davies
GanwydMehefin 1948 Edit this on Wikidata
Caernarfon Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcyhoeddwyr Edit this on Wikidata

Darlledwr o Gymro yw Arfon Haines Davies (ganwyd Mehefin 1948)[1]. Cychwynnodd ei yrfa fel cyhoeddwr rhaglenni ar gyfer HTV Cymru (ITV Cymru erbyn hyn) yn y 1970au.

Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod]

Ganwyd Arfon yng Nghaernarfon yn fab i weinidog. Symudodd y teulu i Aberystwyth a mynychodd Ysgol Gymraeg Aberystwyth ac Ysgol Ramadeg Ardwyn. Symudodd eto i Dreffynnon a cwblhaodd ei addysg uwchradd yn Ysgol Glan Clwyd. Hyfforddodd yng Ngholeg y Drindod ac aeth i weithio fel athro ym Mrynffordd, sir y Fflint. Cafodd secondiad o’r ysgol i fynychu’r Central School of Speech and Drama yn Llundain ar yr amod y byddai’n dychwelyd i ddysgu wedyn.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Cafodd swydd cyhoeddwr gyda HTV yn 1975 tra dal yn y coleg felly ni ddychwelodd i ddysgu. Roedd ei chwaer Catherine wedi gweld hysbyseb am y swydd mewn cylchgrawn Gymraeg ac wedi ei annog i wneud cais.[2] Parhaodd yn y swydd am yr 18 mlynedd nesaf.

Yn ogystal, cyflwynodd amrywiaeth o sioeau teledu yn Saesneg ac yn Gymraeg. Yn yr 1980au cyflwynodd Sêr, Seren Dau, Jam a Telethon ITV ymysg eraill. Daeth Arfon yn un o wynebau mwyaf cyfarwydd ITV.[3] Parhaodd i gyflwyno ar ITV Cymru, gan defnyddio archif helaeth y sianel, mewn rhaglenni fel Remember a Never To Be Forgotten.[4]

Ar S4C, cyflwynodd rhaglenni fel Pacio, Pen-blwydd Hapus a cymerodd ran mewn cyfres o Y Briodas Fawr. Yn 2000, cyflwynodd y gyfres Cledrau Coll yn edrych ar hanes rhai o reilffyrdd Cymru.

Mae hefyd yn westeiwr ac yn arwerthwr sy'n arbennigo mewn gwaith celf.[5]

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

Fe'i anrhydeddwyd gan Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Gâr 2014 am ei gyfraniad i iaith a diwylliant Cymru.[6]

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Mae'n briod ac Angela ac mae ganddynt ferch, Catrin.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Arfon Haines-Davies". Companies House. Cyrchwyd 9 May 2018.
  2. "My 30 years as the face of TV". Daily Post. North Wales. 9 Gorffennaf 2005. Cyrchwyd 9 Mai 2018.
  3. Mike Griffiths (12 Ionawr 2018). "HTV legends Arfon Haines Davies and Nicola Heywood Thomas look back on their favourite moments". ITV News. Cyrchwyd 9 May 2018.
  4. "An insight into TV presenter Arfon Haines Davies". Wales Online. 12 Gorffennaf 2008. Cyrchwyd 9 Mai 2018.
  5. Sir Kyffin Williams oil sells for Welsh record £50,000 in inaugural Welsh Sale of Rogers Jones at new Llandough home , Penarth Times, 9 Gorffennaf 2013. Cyrchwyd ar 1 Awst 2018.
  6. Eryl Crump (19 May 2014). "National Eisteddfod: Champions of Wales to be honoured by the Gorsedd of Bards". Daily Post. North Wales. Cyrchwyd 9 May 2018.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]