Ffydd, Gobaith, Cariad (albwm)

Oddi ar Wicipedia
Ffydd, Gobaith, Cariad
Clawr Ffydd, Gobaith, Cariad
Albwm stiwdio gan Fflur Dafydd
Rhyddhawyd Mehefin 2012
Label Rasal

Pedwerydd albwm y gyfansoddwraig Fflur Dafydd yw Ffydd, Gobaith, Cariad. Rhyddhawyd yr albwm ym Mehefin 2012 ar y label Rasal.

Mae Ffydd, Gobaith, Cariad yn ddatblygiad pellach yn y sŵn arbennig mae Fflur bellach wedi’i greu i’w hun. Mae’r casgliad yn un teimladwy sy’n cynnwys teyrngedau i nifer o bobl, ac mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys y gân ‘Ray o’r Mynydd’ er cof am Ray Gravell a’i fersiwn gerddorol o lythyr Paul at y Corinthiaid, ‘Ffydd, Gobaith, Cariad’.

Dewiswyd Ffydd, Gobaith, Cariad yn un o ddeg albwm gorau 2012 gan ddarllenwyr cylchgrawn Y Selar.[1]

Canmoliaeth[golygu | golygu cod]

Mae’r traciau wedi’u trefnu’n wych a cheir y teimlad eu bod yn suddo mewn i’w gilydd i wneud un campwaith mawr.

—Ifan Edwards, Y Selar

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]