Dylan Iorwerth

Oddi ar Wicipedia
Dylan Iorwerth
GanwydDylan Iorwerth Jones Edit this on Wikidata
Ebrill 1957 Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, newyddiadurwr, person busnes Edit this on Wikidata

Newyddiadurwr a llenor Cymreig yw Dylan Iorwerth (ganed Ebrill 1957), sy'n gweithio yn yr iaith Gymraeg. Cafodd ei eni yn Nolgellau ond symudodd y teulu i Waunfawr pan oedd yn saith oed.

Ar ôl astudio yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth ymunodd â'r Wrexham Leader am gyfnod cyn ymuno ag Adran Newyddion BBC Radio Cymru. Gweithiodd yn ddiweddarach fel gohebydd gwleidyddiaeth BBC Cymru yn Llundain.[1] Bu yn un o sylfaenwyr y papur Sul wythnosol Sulyn, ac ym 1988 sefydlodd y cylchgrawn wythnosol Golwg.[1]

Enillodd y goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanelli 2000, y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Eryri a'r Cyffiniau 2005[1] gyda'i gyfrol o straeon byrion Darnau a'r Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Morgannwg 2012.

Gwnaethpwyd ef yn gymrawd er anrhydedd o Brifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan ym mis Mawrth 2010.[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Darnau (Gwasg Gwynedd, 2005)
  • Dau Fywyd Cyfan: Hunangofiant Defi Fet (Gwasg Gomer, 2006)
  • Nabod y Teip (Gwasg Carreg Gwalch, 2007)
  • Gohebydd yng Ngheredigion yn ystod y Flwyddyn Fawr: Hanes John Griffith (Y Gohebydd) ac Etholiad 1868 (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 2007)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3  Uni honours tenor and journalist. BBC (9 Mawrth 2010). Adalwyd ar 10 Mawrth 2010.