Christine James

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Christine James
Christine James Cyn-Archdderwydd Awst 2018 7.jpg
Christine James yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2018.
Ganwyd Chwefror 1954 Edit this on Wikidata
Tonypandy Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth Bardd, Ysgrifennwr, ysgolhaig Edit this on Wikidata

Mae'r Athro Christine James (ganed Chwefror 1954)[1] yn Athro Emerita yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe. Enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri a'r Cyffiniau yn 2005 am ei chasgliad o gerddi rhydd ar thema o'i dewis ei hun.[2] Enw'r casgliad oedd Llinellau Lliw a chyflwynodd y gwaith o dan y ffugenw "Pwyntil". Maent yn gerddi egffrastig - hynny yw, cerddi sy'n ymateb i weithiau celf. Hi hefyd oedd bardd gwadd y Lle Celf yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a’r Cylch, 2008.

Fe etholwyd Christine James yn aelod o Fwrdd Gorsedd Beirdd Ynys Prydain yn 2010 ac fe'i henwebwyd gan Fwrdd yr Orsedd i fod yn Archdderwydd o 2013-2016.[3]. Fe'i gorseddwyd yn Archdderwydd Cymru yng Nghaerfyrddin, 29 Mehefin 2013, yn ystod Seremoni Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr.

Fe'i hetholwyd yn Gofiadur Gorsedd y Beirdd yn ystod Eisteddfod Genedlaethol 2017.

Ei chefndir a'i gwaith[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed Christine James (née Mumford) yn Nhonypandy. Daeth teulu ei thad o ganolbarth Lloegr a theulu ei mam o dde-orllewin Lloegr, ond ganwyd ei rhieni yng Nghwm Rhondda Fawr. Nid oedd eu rhieni yn siarad Cymraeg heblaw am ambell air o ddyddiau ysgol felly Saesneg oedd iaith yr aelwyd.[1] Aeth i Ysgol Gynradd Tonypandy ac ymlaen i Ysgol Ramadeg y Merched, Y Porth lle dysgodd y Gymraeg fel ail iaith. Astudiodd y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth lle enillodd radd BA yn y dosbarth cyntaf yn 1975. Aeth ymlaen i olygu testun o Gyfraith Hywel, cyfreithiau hanesyddol Cymru, ar gyfer doethuriaeth, a ddyfarnwyd iddi yn 1984.

Rhwng 1979 a 1981 bu'n gynorthwyydd golygyddol yn yr Academi Gymreig, yn gweithio ar Cydymaith i Lenydddiaeth Cymru. Yn 1985, fe'i penodwyd yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe, lle y mae erbyn hyn yn Athro Emerita.[4] O ran ei hymchwil academaidd y mae'n arbenigo ar lenyddiaeth yr Oesoedd Canol a'r cyfnod modern cynnar ac ar lenyddiaeth cymoedd diwydiannol de Cymru. Mae hi'n un o gymrodyr etholedig yr Academi Gymreig a Chymdeithas Ddysgedig Cymru.

Yn 2001 cyhoeddwyd ei golygiad o gerddi'r bardd D. Gwenallt Jones, Cerddi Gwenallt: Y Casgliad Cyflawn (Gwasg Gomer).

Bu hefyd yn golygu'r cylchgrawn Taliesin ar y cyd â Manon Rhys rhwng 2000 a 2009.[4].

Dechreuodd farddoni ar ôl cyfnod o salwch, fel modd i ddygymod â'r anhwylder. Dywedodd mewn cynhadledd i'r wasg ar ôl iddi ennill y Goron:

"Fe gefais i salwch a chyfnod o wendid hir yn dilyn hynny ac yr oedd peidio â gallu gweithio yn sioc i'r system ac fe gychwynais i farddoni fel ffordd o ddod mas o'r salwch - ac yr oedd yn rhyw fath o gatharsis i weithio fy ffordd drwy'r dryswch a'r gwendid."[5]

Cyhoeddwyd ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth, rhwng y llinellau, gan Gyhoeddiadau Barddas yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych yn 2013. Y gyfrol hon oedd enillydd categori Barddoniaeth cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn 2014.

Bywyd personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'n byw yng Nghaerdydd gyda'i gŵr, yr Athro E. Wyn James, a fu tan ei ymddeoliad yn ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ganddynt dri o blant a phedwar o wyrion.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1  Holi bardd y Goron. BBC Cymru (Rhagfyr 2005). Adalwyd ar 29 Gorffennaf 2016.
  2. Coron i Christine Gwefan Newyddion y BBC. 1-08-2005. Adalwyd ar 12-07-2009
  3. Gwefan y BBC
  4. 4.0 4.1 [1]
  5. Coron 2005 Darluniau Christine. Gwefan y BBC. Adalwyd 12-07-2009