Sŵnami

Oddi ar Wicipedia
Sŵnami
Enghraifft o'r canlynolband Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Dod i'r brig2011 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2011 Edit this on Wikidata
Genreroc indie Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.swnami.com/ Edit this on Wikidata

Mae Sŵnami yn fand roc indie o Wynedd.

Hanes[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd y band yn 2011, gan ymddangos ar gystadleuaeth Brwydr y Bandiau C2 y flwyddyn honno. Daeth y band yn ail, gyda Siân Miriam yn cipio'r wobr gyntaf. Roedd y pum aelod gwreiddiol, Ifan Davies (llais, gitâr), Ifan Ywain (gitâr), Gerwyn Murray (gitar fâs, llais), Huw Ynyr (allweddellau, llais), a Tom Ayres (drymiau), wedi eu magu ym Meirionnydd, gyda'r rhan fwyaf ohonynt yn mynychu Coleg Meirion Dwyfor. Ymddangosodd y grŵp ar raglen Bandit ar y ffurf hwn.[1] Bu i'r grŵp ennill yng nghategori 'Band Newydd Gorau' yn noson wobrau'r Selar y flwyddyn hon.

Erbyn rhyddhau eu senglau cyntaf, Mynd a Dod ac Eira ar label Rasal yn 2012, bu i Tom Ayres gyfnewid â Lewis Williams (gynt o Helyntion Jôs y Ficar) ar y drymiau, a Huw Ynyr yn penderfynu peidio ymddangos â'r band ar lwyfan. Ymunodd Gruff Jones, a oedd eisoes â phrosiect cerddorol electronig o'r enw Crash.Disco!, â'r band, gan achosi iddynt ddatblygu elfennau electronig eu cerddoriaeth ymhellach. Rhyddhawyd EP arall, Du a Gwyn, ar y label hwn yn 2013, a oedd yn cynnwys un o'u caneuon mwyaf poblogaidd, 'Gwreiddiau'.

Ymddangosodd y grŵp fel prif fand Maes B yn Eisteddfod Llanelli, 2014, a hynny er gwaethaf y ffaith mai dim ond un EP a dwy sengl y bu iddynt ryddhau cyn hynny. Yn y flwyddyn honno, hefyd, y bu iddynt gyhoeddi eu cynnyrch cyntaf ar eu label presennol, I Ka Ching, gyda'r record fer Cynnydd / Gwenwyn.

Rhyddhaodd y grŵp eu halbwm cyntaf, Sŵnami, yn 2015. Bu i'r albwm hwnnw ennill gwobr yn Eisteddfod Sir Fynwy a'r Cyffiniau, 2016, am albwm gorau'r flwyddyn.[2] Bu i'r albwm gael ei enwebu ar gyfer Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2015-16.[3]

Gwobrau[golygu | golygu cod]

Gwobrau'r Selar[4][golygu | golygu cod]

  • 2011 - Band Newydd Gorau
  • 2013 - Record Fer Orau (Du a Gwyn), Fideo Gorau (Gwreiddiau)
  • 2014 - Record Fer Orau (Cynnydd/Gwenwyn), Fideo Gorau (Gwenwyn), Offerynnwr Gorau (Lewis Williams)
  • 2015 - Cân Orau (Trwmgwsg), Gwaith Celf Gorau (Sŵnami), Band Gorau, Record Hir Orau (Sŵnami)

Albwm Cymraeg y flwyddyn[golygu | golygu cod]

  • 2016 - Sŵnami

Disgyddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Mynd a Dod (Sengl, Rasal) (2012)
  • Eira (Sengl, Rasal) (2012)
  • Du a Gwyn (EP, Rasal) (2013)
  • Cynnydd / Gwenwyn (EP, I Ka Ching) (2014)
  • Sŵnami (Albwm, I Ka Ching) (2015)
  • Dihoeni (Sengl, Recordiau Tp) (2017)
  • Theatr (Sengl, Recordiau Cosh) (2021)
  • Uno, Cydio, Tanio (Sengl, Recordiau Cosh) (2021)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]