Nigel Owens

Oddi ar Wicipedia
Nigel Owens
Ganwyd18 Mehefin 1971 Edit this on Wikidata
Llanelli Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethswyddog gêm rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Gwobr/auMBE Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Dyfarnwr rygbi yw Nigel Owens (ganed 18 Mehefin 1971). Cafodd ei eni ym Mynyddcerrig, ger Llanelli. Arferai weithio fel technegydd yn Ysgol Gyfun Maes-Yr-Yrfa, Cefneithin ac yna fel gweithiwr ieuenctid gyda Menter Cwm Gwendraeth.

Daeth yn ddyfarnwr rhyngwladol yn 2005. Y gêm ryngwladol gyntaf iddo ddyfarnu oedd yr un rhwng Iwerddon a Japan yn Osaka. Fe oedd yr unig Gymro a fu'n dyfarnu yng Nghwpan Rygbi'r Byd 2007 yn Ffrainc. Mae'n dyfarnu'n gyson yng Nghwpan Heineken. Ynghyd â Wayne Barnes o Lloegr a Marius Jonker o Dde Affrica, cafodd Owens ei gêm Cwpan y Byd cyntaf yn Lyon, Ffrainc ar yr 11 Medi, 2007 rhwng yr Ariannin a Georgia. Mae ef yn un o ddau ddyfarnwr yn unig sydd wedi dyfarnu dwy gêm yn rowndiau terfynol y Cwpan Heineken, sef Munster v Tolouse yn Stadiwm y Mileniwm 2008 a Tigrod Caerlyr v Leinster ym Murrayfield 2009.

Ar 28 Tachwedd 2020, dyfarnodd ei ganfed gêm ryngwladol, gêm rhwng Ffrainc a'r Eidal yng Nghwpan Cenhedloedd yr Hydref. Ar 17 Rhagfyr, cyhoeddod ei ymddeoliad o rygbi rhyngwladol ar ôl 17 mlynedd. Roedd yn gobeithio parhau i ddyfarnu yn y Pro 14 ac yn lleol yng Nghymru'r tymor 2020-2021 ac efallai’r tymor canlynol. Bydd hefyd yn dechrau rôl hyfforddi gydag Undeb Rygbi Cymru, gan helpu feithrin dyfarnwyr ifanc.[1]

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Ym mis Mai 2007, daeth Owens allan fel dyn hoyw mewn cyfweliad gyda "Wales on Sunday". Er bod ymateb pobl wedi bod yn gadarnhaol yn gyffredinol, dywedodd ei fod yn benderfyniad anodd iawn i'w wneud. Dywedodd iddo ystyried cyflawni hunanladdiad ar adegau.[2] Dywedodd

"It's such a big taboo to be gay in my line of work, I had to think very hard about it because I didn't want to jeopardise my career. Coming out was very difficult and I tried to live with who I really was for years. I knew I was 'different' from my late teens, but I was just living a lie."

Yn fuan wedi Cwpan Rygbi'r Byd yn 2007, enwyd Owens fel 'Personoliaeth chwaraeon y flwyddyn' gan y mudiad hawliau hoyw Stonewall. Cafwyd seremoni yn Llundain.[3]

Bellach mae ef yn nawdd i'r "LGBT Centre of Excellence Wales" a'r elusen rygbi, "Wooden Spoon".[4]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Nigel Owens yn rhoi’r gorau i ddyfarnu rygbi rhyngwladol , Golwg360, 11 Rhagfyr 2020.
  2. Ref's gay torment. Wales on Sunday. Adalwyd 28-07-2009
  3. World Cup rugby ref's gay award. Gwefan y BBC. Adalwyd 28-07-2009
  4. LGBT Excellence Centre Wales Archifwyd 2010-03-27 yn y Peiriant Wayback.. Adalwyd ar 28-07-2009
Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.