Menter Cwm Gwendraeth Elli

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Menter Cwm Gwendraeth)
Menter Cwm Gwendraeth Elli
Enghraifft o'r canlynolMenter Iaith Edit this on Wikidata

Ym 1991, Menter Cwm Gwendraeth Elli oedd y Fenter Iaith gyntaf i'w sefydlu yng Nghymru.[1]

Daeth i fodolaeth yn dilyn bwrlwm mawr Eisteddfod yr Urdd Cwm Gwendraeth yn Cross Hands, Sir Gaerfyrddin, ym 1989, pan benderfynodd grŵp o wirfoddolwyr lleol bod angen gweithredu ar lefel leol i atal dirywiad y Gymraeg mewn ardal a oedd â chyfran a nifer uchel iawn o siaradwyr Cymraeg.

Ym Mawrth 2002, agorwyd canolfan newydd y Fenter ym Mhontyberem, yng nghanol ardal y Gwendraeth gan yr AC Edwina Hart. Mae'r Ganolfan Adnoddau'n cynnwys caffi cymunedol, sef Caffi Cynnes a chanolfan hyfforddi ar wahân i swyddfeydd staff. Ychwanegwyd i hyn yn 2014 pan symudodd siop y Fenter 'Cwtsh Gloyn' i fod yn rhan o'r caffi. Mae Menter Cwm Gwendraeth Elli bellach yn gweithredu yn Llanelli yn ogystal â Chwm Gwendraeth ac maent yn parhau i weithredu ar brosiectau iaith yn benodol, yn ogystal ag ar ddatblygu cymunedol yn gyffredinol.

Ers lansiad Menter Cwm Gwendraeth Elli, mae 21 o fentrau iaith lleol wedi eu sefydlu, gan ddod yn elfen bwysig o strategaeth iaith Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae yna dair Menter Iaith yn gweithredu o fewn Sir Gaerfyrddin

Theatr Ieuenctid Menter Cwm Gwendraeth Elli.[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd Theatr Ieuenctid Menter Cwm Gwendraeth Elli yn 1991. Blwyddyn ar ôl sefydlu Menter Cwm Gwendraeth. Bwriad y theatr oedd i greu cyfleodd i blant y Cwm gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg, a chynnig cyfleoedd allgyrsiol. Dros y blynyddoedd mae’r theatr wedi llwyfannu amryw o sioeau gwahanol a wedi cystadlu ar lwyfannau Cenedlaethol. ‘Cau’r clwydi’ yw un o'r sioeau enwocaf, lle ceir hanes achub Cwm Llangyndeyrn rhag cael ei foddi er mwyn creu cronfa ddŵr i Abertawe. Bellach mae theatr plantos bach yn cael ei gynnig i blant 4-11 oed ddysgu sgiliau actio, canu, dawnsio a pherfformio. Mae Theatr y Plantos Bach yn cael ei gynnal ar Nos Fercher yn Neuadd Pontyberem rhwng 17.00 a 18.00, yn wythnosol yn ystod tymor yr ysgol. Mae Theatr y Plantos Bach yn cynnal dwy berfformiad yn ystod y flwyddyn. Mae’r Theatr hwn yn agored i bawb.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Menter Cwm Gwendraeth yn dathlu 18 Mlynedd!. Menter Cwm Gwendraeth. Adalwyd ar 5 Mai 2012.
  2. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-09-28. Cyrchwyd 2020-03-10.