Neidio i'r cynnwys

Wynne Evans

Oddi ar Wicipedia
Wynne Evans
Ganwyd27 Ionawr 1972 Edit this on Wikidata
Caerfyrddin Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcanwr opera, actor Edit this on Wikidata
Adnabyddus amStrictly Come Dancing, series 22 Edit this on Wikidata
Arddullopera Edit this on Wikidata
Math o laistenor Edit this on Wikidata
PriodTanwen Evans Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.wynneevans.co.uk/ Edit this on Wikidata

Canwr opera a darlledwr o Gymru yw Wynne Evans BEM (ganwyd 27 Ionawr 1972). Bu'n gyflwynydd radio ar BBC Radio Wales ac mae wedi cyflwyno rhaglenni teledu.

Cymerodd ran yng nghyfres Strictly Come Dancing yn 2025 wedi ei bartneru gyda Katya Jones.[1]

Bywyd cynnar

[golygu | golygu cod]

Ganwyd James Wynne Evans yng Nghaerfyrddin, yn fab i David ac Elizabeth Evans MBE (bu farw 2004). Roedd ei fam yn gyfarwyddwr Theatr y Lyric, Caerfyrddin am rhai blynyddoedd ac yn rhan blaenllaw yn y frwdr i achub y theatr. Hi oedd sylfaenydd Opera Ieuenctid Caerfyrddin. Mae ei frawd Mark hefyd yn ganwr.[2]

Astudiodd yn y Ysgol Gerdd a Drama y Guildhall ac yn y National Opera Studio. Mae ganddo berthynas agos ag Opera Cenedlaethol Cymru lle mae ei roliau yn cynnwys: Nemorino yn L'elisir d'amore, Cassio yn Otello (S4C), Y Dug yn Rigoletto, Rodolfo yn La Bohème, Pedrillo yn Die Entführung aus dem Serail, Tamino yn Die Zauberflöte, Alfredo yn La Traviata, Jaquino yn Leonore (BBC), y Schoolmaster yn The Cunning Little Vixen, y Chevalier yn Les Dialogues des Carmelites, y Tenor Eidalaidd yn Der Rosenkavalier, yr Iddew Cyntaf yn Salome (S4C a BBC), Liberto yn L'incoronazione di Poppea, Brighella yn Ariadne auf Naxos ac Alfred yn Die Fledermaus.

Yn 2011 canodd am y tro cyntaf yn y Tŷ Opera Brenhinol wrth ganu Vakula gan Cherevichki ac wedyn yr opera modern gan Mark-Anthony Turnage, Anna Nicole yng Covent Garden. Efo Opera de Lyon fe ganodd Gianni Schicchi, Il Tabarro yn The Cunning Little Vixen. Dros Opera Cenedlaethol Lloegr mae Evans wedi canu Alfredo yn La Traviata, Spoletta a Cavaradossi yn Tosca, ac yr Ail Iddew yn Salome. Am Opera North chwaraeodd rôl Fenton yn Falstaff, Prunier yn La Rondine a Paulino yn The Secret Marriage. I gwmni Opera yr Alban canodd Tamino yn Die Zauberflöte ac y the Italian Tenor yn Der Rosenkavalier. Am Grange Park Opera perfformiodd Trufaldino yn The Love for Three Oranges a'r Tenor Eidalaidd yn The Cunning Little Vixen ac Harry yn La Fanciulla del West. Ymhlith eraill canodd efo Classical Opera Company Fracasso yn La Finta Semplice; Orpheus yn Orpheus in the Underworld i Opera Holland Park ac y Paun yn opera Param Vir y Broken Strings.

Cymerodd rôl Ubaldo Piangi yn The Phantom of the Opera. Canodd ripost i Haka y Crysau Duon yn 2004, drwy ganu 'Cwm Rhondda'. Canodd mewn dros 30 o gemau rhyngwladol Cymru.

Daeth yn enwog iawn yn chwarae y cymeriad Gio Compario mewn hysbysebion teledu i gwmni Gocompare.com. Cychwynodd gyflwyno sioe ei hun ar BBC Radio Wales yn 2016.[3] Camodd yn ôl o'r sioe yn Ionawr 2025, yn dilyn adroddiad papur newydd am sylw a wnaeth yn ystod sioe daith Strictly. Yn dilyn ymchwiliad gan y BBC, ni adnewyddwyd ei gontract ar gyfer y sioe radio. Dywedodd Evans ei fod yn bwriadu lansio rhaglen newydd ar-lein.[4]

Teledu

[golygu | golygu cod]

Cymerodd Evans ran yng nghyfres S4C cariad@iaith yn 2012 lle'r oedd yn dysgu Cymraeg.[5] Cyflwynodd rhaglen deledu ar BBC Cymru, Wynne's Welsh 70s, yn dangos clipiau o'r archif.[6]

Yn 2025, darlledwyd rhaglen ar BBC One, Wynne & Joanna: All at Sea lle'r oedd Evans a'i ffrind Joanne Page yn hwylio o gwmpas arfordir Cymru.[7]

Anrhydeddau

[golygu | golygu cod]

Yn 2022 derbyniodd y BEM am "wasanaethau i Gydlyniant Cymunedol a Darlledu".[8]

Albymau

[golygu | golygu cod]
  • With a Song in My Heart (2011)
  • Wynne (2013)

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Wynne Evans wedi ei ollwng gan BBC Radio Wales ar ôl ei sylw amhriodol". newyddion.s4c.cymru. 2025-05-30. Cyrchwyd 2025-05-30.
  2. WalesOnline (2011-03-05). "Tenor Wynne's show for his late mother". Wales Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-05-30.
  3. "Wynne Evans to leave BBC radio show after Strictly controversy". BBC News (yn Saesneg). 2025-05-30. Cyrchwyd 2025-05-30.
  4. "Wynne Evans yn cadarnhau ei fod yn gadael BBC Cymru". BBC Cymru Fyw. 2025-05-30. Cyrchwyd 2025-05-30.
  5. Administrator, walesonline (2013-04-02). "Now & Then: Wynne Evans". Wales Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-05-30.
  6. "Wynne's Welsh 70s". www.bbc.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-05-30.
  7. "Wynne & Joanna: All at Sea". www.bbc.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-05-30.
  8. "Queen's Birthday Honours List 2021: All the Welsh people honoured". WalesOnline (yn Saesneg). 2 Mehefin 2022. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Mawrth 2022. Cyrchwyd 3 Mehefin 2022.
Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am un o Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.