Watcyn Wyn
Gwedd
Watcyn Wyn | |
---|---|
Ffugenw | Watcyn Wyn |
Ganwyd | 7 Mawrth 1844 Brynaman |
Bu farw | 19 Tachwedd 1905 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, glöwr, athro |
Pregethwr, bardd, nofelydd, emynydd ac ysgolfeistr enwog iawn yn ei ddydd oedd Watcyn Wyn, enw llawn Watkin Hezekiah Williams (1844 – 1905), a aned ger Brynaman yn Sir Gaerfyrddin.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Glowr oedd ar ôl gadael ysgol yn gynnar, ond fe aeth ati i addysgu ei hun. Sefydlodd ysgol, sef Ysgol y Gwynfryn, Rhydaman a roddodd gyfle i nifer fawr o fechgyn fedru mynd i'r weinidogaeth.
Roedd Watcyn Wyn yn eisteddfodwr brwd ac yn adnabod nifer o ffigyrau mawr yr oes. Er nad oes llawer o werth parhaol i'r rhan fwyaf o'i gerddi, ysgrifennodd hunangofiant - Adgofion Watcyn Wyn - sy'n cynnwys adrannau am ei blentyndod a llencyndod yn ardal Brynaman.
Ar y cyd ag Elwyn Thomas ysgrifennodd ddwy nofel ramantaidd yn ogystal.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Gwaith Watcyn Wyn
[golygu | golygu cod]- Caneuon (1871)
- Hwyr Ddifyrion (1883)
- Cân a Thelyn (1895)
- (gyda Elwyn Thomas) Nansi merch y pregethwr dall (1906)
- (gyda Elwyn Thomas) Irfon Meredydd (1907)
- Adgofion Watcyn Wyn, golygwyd gan Gwili (Y Cwmni Cyhoeddiadol Addysgol, Merthyr Tudful, 1907)
Astudiaethau
[golygu | golygu cod]- Bryan Martin Davies, Rwy'n gweld o bell (1980). Astudiaeth.
- Pennar Griffiths, Cofiant Watcyn Wyn (1915)